Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch
y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai fod
gan gynghorwyr a swyddogion ar eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w
ddatgan yn unig. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w
ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar
lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr C
Anderson, P M Black, J E Burtonshaw, M C Child, , J P Curtice, N J Davies, A M
Day, P Downing, C R Doyle, M Durke, C R Evans, V M Evans, W Evans, E W
Fitzgerald, R Francis-Davies, L S Gibbard, F M Gordon, K M Griffiths, D W
Helliwell, T J Hennegan, C A Holley, P R Hood-Williams, B Hopkins, D H Hopkins,
O G James, L James, Y V Jardine, J W Jones, L R Jones, M H Jones, P K Jones, S
M Jones, E J King, E T Kirchner, A S Lewis, M B Lewis, R D Lewis, W G Lewis, C
E Lloyd, P Lloyd, I E Mann, P M Matthews, P N May, H M Morris, D Phillips, C L
Philpott, S Pritchard, A Pugh, J A Raynor, C Richards, K M Roberts, B J
Rowlands, M Sherwood, P B Smith, R V Smith, A H Stevens, R C Stewart, D G
Sullivan, M Sykes, G J Tanner, D W W Thomas, M
Thomas, W G Thomas, L Tyler-Lloyd, G D Walker a T M White gysylltiad personol â
Chofnod 21 "Adroddiad Drafft Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar
Gydnabyddiaeth Ariannol 2021-2022 - Ymgynghoriad". |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel
cofnod cywir: 1)
Cyfarfod blynyddol y cyngor a
gynhaliwyd ar 1 Hydref 2020. |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Cydymdeimladau a)
Spencer Davis Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth
gyfeirio at farwolaeth ddiweddar Spencer Davis. Ef oedd aelod sefydlol Spencer
Davis Group, y band a fwynhaodd lwyddiant yn y 1960au gyda chaneuon poblogaidd
megis Keep on Running a Somebody Help Me. Ganed Spencer Davis yn Abertawe a mynychodd Ysgol
Ramadeg Dinefwr. b)
Donald
Thomas, tad Karen Thomas (Y Gwasanaethau Democrataidd) Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth
gyfeirio at farwolaeth ddiweddar Donald Thomas. Roedd Donald yn dad i Karen
Thomas, neu Zippy yn y Tîm Gwasanaethau Democrataidd.
Roedd Donald hefyd yn gyn-weithiwr y cyngor. Eisteddodd pawb yn dawel i ddangos
cydymdeimlad a pharch. 2)
Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines Llongyfarchodd y
Llywydd Ddinasyddion Abertawe a dderbyniodd wobrau yn Anrhydeddau Pen-blwydd y
Frenhines. a)
Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) i)
Alun Wyn Jones. Gwasanaethau i
Undeb Rygbi Cymru ii)
Yr Athro Paul Meredith. Athro
Sêr Cymru mewn Deunyddiau Uwch Cynaliadwy, Prifysgol Abertawe. Gwasanaethau i
ymchwil ac arloesedd lled-ddargludyddion. b)
Aelod Urdd yr
Ymerodraeth Brydeinig (MBE) i)
Glenys Irene Court. Gwasanaethau i'r Celfyddydau Gweledol yng Nghymru. ii)
Ellen Kerry Davis.
Gwasanaethau i Addysg yr Holocost. iii)
David James Adams Hughes. Gwasanaethau
i'r GIG a’r sawl sy’n galaru yn ystod COVID-19. iv)
Colin Raymond Jones.
Hyfforddwr Cenedlaethol, Cymdeithas Bocsio Amatur Cymru. Gwasanaethau Bocsio
yng Nghymru. v)
Mark Thomas McKenna. Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Prosiect Down to Earth a Down to Earth
Construction. Gwasanaethau i Bobl Ifanc a'r Amgylchedd. vi)
Fiona Edwina Morgan.
Cynghorydd Cyflogaeth Anabledd, yr Adran Gwaith a Phensiynau. Gwasanaethau i
Iechyd Meddwl. vii)
Jean Saunders. Uwch Nyrs,
Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Gwasanaethau i Nyrsio. viii)
Carolyn Joy
Smith. Rheolwr Diogelwch Ffyrdd a Pherfformiad Busnes, Castell-nedd Port
Talbot. Gwasanaethau i Ddiogelwch Ffyrdd. c)
Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) i)
Margaret Ann Baker. Nyrs Glinigol,
Oncoleg y Fron Eilaidd Arbenigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Gwasanaethau i Gleifion â Chanser Eilaidd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. ii)
Dr. Mahaboob
Basha Rheolwr Cysylltiadau Allanol ac Ymgysylltu.
Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni, Prifysgol Abertawe. Gwasanaethau i gymuned
Sgeti yn ystod COVID-19. iii)
Rita Chohan.
Gwasanaethau i'r GIG yn ystod COVID-19. iv)
Stephen Robert Davies.
Gwasanaethau i pobl ag anableddau. v)
Mayameen Meftahi.
Gwasanaethau i ddioddefwyr Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant
yng Nghymru. vi)
Christopher
David Singletary. Gwasanaethau i Gyn-filwyr, eu
teuluoedd a'r Lluoedd Arfog. vii)
Geraint Andrew Thomas.
Gwasanaethau i'r Samariaid, Tîm Achub Mynydd a phobl ddifreintiedig yn
ne-orllewin Cymru. viii)
Nigel Williams. Gwasanaethau i
Lywodraeth Leol yn Abertawe yn ystod COVID-19. Cyngor Abertawe. 3)
Yr Arglwydd Faer -
Taith Gerdded Noddedig ar gyfer y Memory Choir Nododd yr Aelod
Llywyddol mai’r Memory Choir oedd un o elusennau'r
Arglwydd Faer eleni. Mae'n darparu cerddoriaeth a chanu i bobl sy'n byw â
dementia ac mae nhw a'u gofalwyr yn ei fwynhau'n fawr. Mae wedi parhau i
weithredu drwy gydol y pandemig drwy berfformio
ar-lein ac addasu rhywfaint. Mae’r Arglwydd
Faer, y Cynghorydd Mark Child, yn anelu at godi arian ar gyfer y Memory Choir drwy wneud taith gerdded noddedig o Rosili i'r Mwmbwls, tua 20 milltir, ddydd Gwener 13
Tachwedd 2020. Byddai wir yn gwerthfawrogi'ch cefnogaeth. Gallwch noddi'r
Arglwydd Faer ar wefan GoFundMe yn https://www.gofundme.com/f/walk-for-musical-memories-dementia-choir 4)
Alun Wyn Jones (OBE) –
y chwaraewr rygbi sydd â’r nifer mwyaf o gapiau yn y byd Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol Alun Wyn Jones ar
ennill y nifer mwyaf o gapiau rygbi yn y byd. Enillodd ei 149fed cap yn erbyn
yr Alban ar 30 Hydref 2020. Mae ganddo 140 o gapiau ar gyfer Cymru a 9 cap ar
gyfer y Llewod Prydeinig a Gwyddelig. 5)
Cyfeillion a Gardd Fwyd
Gymunedol Llyn Golchi Mayhill Cyhoeddodd yr Aelod Llywyddol fod Cadw Cymru’n
Daclus wedi datgelu enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni gyda Llyn Golchi a Gardd
Fwyd Gymunedol Cyfeillion Mayhill yn cael eu henwi
fel un o fannau gwyrdd gorau’r wlad. Marc rhyngwladol sy'n nodi parc neu fan gwyrdd
o safon yw Gwobr y Faner Werdd. Mae Llyn Golchi a Gardd Fwyd Gymunedol Cyfeillion Mayhill wedi ennill
Gwobr Gymunedol fawreddog y Faner Werdd i gydnabod cyfranogiad ei wirfoddolwyr ymroddgar,
safonau amgylcheddol uchel a'u hymrwymiad i ddarparu man gwyrdd o safon. Mae'r grŵp yn gyfrifol am ddau brosiect -
gofalu am ardal bicnic a pharhau i ddatblygu gardd fwyd. 6)
Gwasanaeth Dylan Thomas y cyngor yn ennill gwobr y DU Cyhoeddodd yr Aelod
Llywyddol fod y prosiect a gynhelir gan Wasanaeth Dylan Thomas wedi ennill un o
wobrau cenedlaethol y DU. Mae'r fenter Llenyddiaeth a Thrawma wedi ennill
gwobr yng ngwobrau Mae Amgueddfeydd yn Newid Bywydau y Sefydliad Amgueddfeydd.
Enwyd y cynllun ysgrifennu creadigol fel y prosiect amgueddfa fach orau sy'n
cyflawni effaith gymdeithasol. Mae'r gweithdai'n
galluogi'r rheini sy'n cymryd rhan i deimlo fel rhan o'r gymuned ehangach, er
mwyn manteisio ar leoliadau diwylliannol a chanfod eu ffordd mewn dinas newydd.
Mae'r gweithdai wedi dod yn ganolbwynt ac yn fan diogel i grŵp ymroddedig
a dawnus o'r gymuned hon sy'n aml yn cael ei hesgeuluso. 7)
Cywiriadau / Diwygiadau
i Wŷs y Cyngor Amlinellodd yr Aelod
Llywyddol ychwanegiad at Wŷs y Cyngor. a)
Eitem 13, "Aelodaeth
Pwyllgorau” - Pwyllgor y Rhaglen
Graffu Tynnu enw'r Cynghorydd
E T Kirchner. Ychwanegu enw'r Cynghorydd J E
Burtonshaw. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Y diweddaraf am
COVID-19 Rhoddodd Arweinydd y Cyngor y diweddaraf am bandemig COVID-19. Diolchodd i'r mwyafrif oedd yn dilyn rheolau
Llywodraeth Cymru a mynegodd ei bryderon o ran y rheini nad oeddent yn gwneud
hynny. 2)
Timau Ariannol yn
gwneud Taliadau Grant i fusnesau Abertawe Llongyfarchodd Arweinydd y Cyngor y Prif Swyddog
Cyllid, Ben Smith a'i swyddogion am eu gwaith gwych wrth ddyrannu grantiau
Llywodraeth Cymru i fusnesau Abertawe. 3)
Digwyddiadau Dydd y Cofio Amlinellodd Arweinydd y Cyngor holl ddigwyddiadau
Dydd y Cofio'r cyngor ac anogodd bawb i ddilyn
canllawiau COVID-19. 4)
Cyllid Llenwi Bwlch ar
gyfer Cyfleuster Pob Tywydd ym Mhontarddulais a
Chyfleusterau Chwarae Pellach ar draws Abertawe Dywedodd Arweinydd y
Cyngor, oherwydd gwaith caled y Cynghorydd Phil Downing, a'r defnydd o Grantiau
Cymunedol gan y Cynghorwyr Phil Downing a Kevin Griffiths, y byddai gan
Pontarddulais Gyfleuster Chwaraeon Pob Tywydd cyn bo hir. Amlinellodd hefyd
gyfleusterau chwarae pellach ar draws Abertawe. 5)
Croesewir ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i gefnogi prydau ysgol am ddim Croesawodd Arweinydd y
Cyngor ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu prydau ysgol am ddim hyd at a
chan gynnwys y Pasg 2021. 6)
Diwygiadau
i Bortffolios y Cabinet Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod
wedi diwygio Portffolio'r Cabinet fel a ganlyn. Gofynnodd i Bennaeth y
Gwasanaethau Democrataidd gylchredeg fersiwn gyflawn yn dilyn y cyfarfod. Bydd
y newidiadau’n dechrau ar unwaith. Cyflawni a
Gweithrediadau (Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y Cyngor) Ychwanegu Mynwentydd, Amlosgfeydd,
Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau Materion Niwsans Statudol (gan gynnwys sŵn,
anifeiliaid anwes, gerddi llawn tyfiant) Economi, Cyllid a
Strategaeth (Arweinydd y Cyngor) Ychwanegu Cynllunio ar gyfer argyfyngau Gwella'r
Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd Ychwanegu Ansawdd aer ac achosion o lygredd Cartrefi, Ynni a
Thrawsnewid Gwasanaethau (Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y Cyngor) Dileu Aelod o
Bartneriaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) - Cynrychiolydd yr Arweinydd Ychwanegu Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) - Cynrychiolydd yr Arweinydd |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran
agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Polisi Trwyddedu HMO 2020. PDF 279 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros
Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer y
polisi Trwyddedu HMO newydd arfaethedig
a oedd yn cynnwys Cynllun Trwyddedu HMO Gorfodol Abertawe gyfan a'r Cynllun
Trwyddedu HMO Ychwanegol newydd ar gyfer wardiau etholiadol Y Castell, Uplands a St Thomas. Penderfynwyd ar y canlynol: 1) Cymeradwyo cyhoeddi'r polisi. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau
adroddiad a oedd yn ceisio: i)
Ystyriaeth o ganlyniad yr ymgynghoriad mewn perthynas â
chynnig i gymeradwyo penderfyniad newydd i beidio â rhoi trwyddedau mangre casino; a diwygiadau
arfaethedig i Ddatganiad o Egwyddorion (Polisi Gamblo) Dinas a Sir Abertawe. ii)
Gwneud penderfyniad ynghylch cymeradwyo penderfyniad
newydd i beidio â rhoi trwyddedau mangre casino. Penderfynwyd ar y
canlynol: 1)
Ystyried a nodi canlyniad yr ymgynghoriad mewn perthynas
â chynnig i gymeradwyo penderfyniad newydd i beidio â rhoi trwyddedau mangre casino a diwygiadau
arfaethedig i Ddatganiad Egwyddorion Dinas a Sir Abertawe (Polisi Gamblo). 2)
Ystyried a nodi'r materion a nodwyd ym Mharagraff 4 yr
adroddiad a chytuno i gymeradwyo penderfyniad newydd i beidio â rhoi trwyddedau
mangre casino. 3)
Cymeradwyo'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Gamblo i'w
gyhoeddi a nodi 6 Rhagfyr 2020 fel y dyddiad y daw'r penderfyniad i rym. |
|
Adolygu'r refeniw wrth gefn. PDF 819 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn amlinellu adolygiad canol blwyddyn o sefyllfa'r Refeniw Wrth Gefn a chytuno ar unrhyw ailddosbarthiad o'r cronfeydd wrth gefn yn seiliedig ar ofynion presennol. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo'r
argymhellion a wnaed yn adrannau 3.11 a 3.12 yr adroddiad. |
|
Datganiad cyllideb canol blwyddyn 2020/21. (Llafur) Cofnodion: Rhoddodd y Swyddog Adran 151
ddiweddariad llafar ar Ddatganiad Cyllideb Canol Tymor 2020-2021. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Nodi'r diweddariad. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
adroddiad a oedd yn hysbysu'r cyngor o Adroddiad Blynyddol Drafft Panel
Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) 2021-2022 ac amlinellodd y
penderfyniadau a gynigiwyd gan yr IRPW. Roedd yr
adroddiad hefyd yn cynnwys ymateb drafft argymelledig
Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd i'r ymgynghoriad, a roddwyd ar 14 Hydref
2020. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Mabwysiadu'r sylwadau a nodwyd
yn Atodiad A yr adroddiad fel ymateb ffurfiol yr awdurdod i'r IRPW. |
|
Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor. PDF 222 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau
Democrataidd adroddiad gwybodaeth ar y cyd a oedd yn nodi'r diwygiadau a wnaed
gan y Swyddog Monitro i Gyfansoddiad y Cyngor yn dilyn y newidiadau dros dro
mewn perthynas â strwythur y Gyfarwyddiaeth Adnoddau. |
|
Aelodaeth Pwyllgorau. PDF 112 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd yn gofyn am
gymeradwyaeth y cyngor ar gyfer yr enwebiadau/diwygiadau i aelodaeth cyrff y
cyngor. Nododd fod ychwanegiad at yr adroddiad argraffedig. Penderfynwyd y dylid diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn: 1)
Pwyllgor Arfarnu a Chydnabyddiaeth Ariannol y Prif
Weithredwr Tynnu enw'r Cynghorydd C E Lloyd. Ychwanegu'r Cynghorydd D H Hopkins. 2)
Pwyllgor y Rhaglen
Graffu Tynnu enw'r Cynghorydd E T Kirchner. Ychwanegu enw'r Cynghorydd J E Burtonshaw. |
|
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 359 KB Cofnodion: 1)
‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd pum
(5) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd
Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion
ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Dangosir y cwestiwn(cwestiynau) atodol hwnnw(hynny) yr
oedd angen ymateb ysgrifenedig arno(arnynt) isod: Cwestiwn 1 i)
Gofynnodd y Cynghorydd A Day
gwestiwn: "A ellir darparu rhestr o’r 40,000 o gylïau yn
Abertawe i Gynghorwyr ynghyd ag amserlen o ba mor aml y cânt eu glanhau?” ii)
Gofynnodd y Cynghorydd P N May
y cwestiwn canlynol: “A ellir darparu rhestr
o’r 40,000 o gylïau yn Abertawe i Gynghorwyr, gan amlinellu eu lleoliad a’r moddau
o adnabod pob un, a thrwy hynny ei gwneud yn haws i Gynghorydd roi gwybod am ba
gyli y mae angen ei lanhau?” Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd ac
Isadeiledd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. 2) ‘Cwestiynau nad oes angen
Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B Cyflwynwyd saith (7) 'cwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' ar eu cyfer Rhan B. |
|
Rhybudd o Gynnig - Ymgyrch Hawlio Credyd Pensiwn. PDF 499 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Hysbysiad o Gynnig gan y Cynghorwyr A Pugh, M
Sherwood, L S Gibbard, R C Stewart, A Lewis, D H Hopkins, J P Curtice, D W W Thomas, S Pritchard, M B Lewis, W G Lewis, L V Walton, M
C Child a R Francis-Davies Cynigiwyd gan y Cynghorydd A Pugh a'i eilio gan y
Cynghorydd M Sherwood. “Mae
Trechu Tlodi yn flaenoriaeth gorfforaethol i Gyngor Abertawe, fel y gall pawb
yn Abertawe gyflawni ei botensial. Mae
Gweledigaeth y cyngor ar gyfer Abertawe yn datgan: “Mae'r
cyngor yn anelu at ... gyflawni Abertawe lle mae preswylwyr yn mwyafu eu hincwm ac yn cael y gorau o'r arian sydd ganddyn
nhw”. Nodwn
fod: 1.
Peidio â
hawlio budd-daliadau lles a chredydau treth yn cadw symiau enfawr o arian dan
glo, ac nid yw’r arian hyn yn cyrraedd pocedi pobl leol na'n heconomi leol. Adroddodd yr elusen EntitledTo
ym mis Chwefror eleni fod cyfanswm tybiedig o £16bn heb ei hawlio yn y DU bob
blwyddyn. (www.entitledto.co.uk). 2.
Y budd-dal
nas hawlir fwyaf yw cymorth Treth y Cyngor, gyda dros 2.7m o bobl ledled y DU
yn dewis peidio â hawlio, neu nad ydynt yn ymwybodol y ygallant
ei hawlio. Fel cyngor rydym eisoes yn
gweithio'n galed i hyrwyddo'r gefnogaeth hon. 3.
Y budd-dal
nas hawlir fwyaf nesaf yw Credyd Pensiwn, gyda 2 o bob 5 sy'n gymwys ddim yn ei
hawlio, sy'n golygu eu bod yn colli dros £2,000 y flwyddyn fesul aelwyd ar
gyfartaledd. 4.
Mae nifer y
pensiynwyr mewn tlodi yn cynyddu ledled y DU (Adroddiad Blynyddol Sefydliad
Joseph Rowntree 2019/20). 5. Mae'r
diffyg incwm sy'n deillio o dan-hawlio Credyd Pensiwn yn golygu bod pobl
hŷn yn aberthu bwyd iach, gwres a chyfleoedd i gysylltu â ffrindiau a
theulu. Yn aml, daw tan-hawlio Credyd Pensiwn i’r amlwg pan
ddaw person hŷn yn gymwys ar gyfer cymorth personol dwys, ar ôl bod â hawl
am nifer o flynyddoedd. 6. Ers
1 Awst, mae'n rhaid i bobl dros 75 oed wynebu tâl blynyddol o £157 am drwydded
deledu, oni bai eu bod yn derbyn credyd pensiwn. 7. Mae
argyfwng Coronafeirws yn rhoi straen ariannol ar
aelwydydd o bob math, ac mae sicrhau bod pobl hŷn yn derbyn yr holl incwm
y gallant yn strategaeth bwysig ar gyfer cefnogi’n
holl gymuned breswyl. Felly,
mae'r cyngor hwn yn cytuno i wneud y canlynol: 1.
Ymrwymo i
weithio gyda'n partneriaid allweddol i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar Gredyd
Pensiwn yn Abertawe, sef Cyngor ar Bopeth, Canolfannau Gofalwyr a Gofal ac
Atgyweirio. 2.
Ystyried
datblygu adnoddau i godi lefel y niferoedd sy'n hawlio Credyd Pensiwn drwy
ymgyrch gyda'n partneriaid allweddol dros gyfnod o 6-9 mis. 3.
Annog
gweithredu ar draws holl wasanaethau'r cyngor i gefnogi Ymgyrch Hawlio Credyd
Pensiwn a chynyddu ymwybyddiaeth ymhlith y rheini a fyddai'n elwa ohono. Gallai hyn gynnwys defnyddio post uniongyrchol i
garfannau y gellir eu hadnabod e.e. Refeniw a Budd -daliadau gellir
ailadrodd hyn trwy gydol yr ymgyrch. Byddwn yn ymgysylltu â gwasanaethau
ehangach y cyngor drwy Fforwm Tlodi Cyngor Abertawe i gynyddu effaith yr
ymgyrch i'r eithaf. Marchnata a Chyfathrebu gan gynnwys posteri,
taflenni, baneri pontydd a chyfathrebiadau marchnata digidol i gyrraedd
cynulleidfa eang.” Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod. |