Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a
rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a
swyddogion ar eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol"
os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan yn unig. Nid oes angen
dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a
swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y
daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd M C
Child gysylltiad personol â Chofnod 154 "Newidiadau Dros Dro i Drefniadau
Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion";
2)
Datganodd y Cynghorydd L James
gysylltiad personol â Chofnod Rhif 156 "Cadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau
Democrataidd ". |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel
cofnod cywir: 1) Cyfarfod
cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 4 Mis Mehefin 2020. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad
gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y
cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor. |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Sefydliad Roots Cymru Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Sefydliad Roots Cymru'n elusen dan arweiniad gwirfoddolwyr yn y Cocyd. Ei nod yw cefnogi pobl ifanc mewn gofal, y rheini sy'n gadael gofal, plant mewn angen ac oedolion sydd wedi gadael gofal gyda'r trawsnewidiad i fyw'n annibynnol. Roedd yn falch iawn o gyhoeddi bod y Sefydliad Roots wedi derbyn Gwobr y Frenhines am Wasanaethau Gwirfoddol yn ddiweddar. 2)
Cymdeithas Camlas Tawe'n derbyn Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol Nododd
yr Aelod Llywyddol mai grŵp o wirfoddolwyr o amgylch Camlas Tawe yng Nghwm
Tawe isaf yw Cymdeithas Camlas Tawe.
Maent yn ymroddedig i adfywio Camlas Tawe fel ased cymunedol ar gyfer
chwaraeon actif ac fel cyrchfan treftadaeth i ymwelwyr.Maent
yn gymdeithas actif sy'n gweithio tuag at y nod hwnnw bob dydd Mawrth. Mae'r
gwaith adfywio a gweithgareddau amrywiol yn cynnwys: Ø Atgyweirio
glan y camlas mewn sawl safle rhwng Clydach a Threbannws; Ø Casglu
Sbwriel; Ø Gweithredu
rhaglen fywiog o wasanaeth llogi canwôd a chaiacau er
budd y gymuned ehangach; a Ø cheisio
arian grant i gefnogi ei waith. Ni
fyddai unrhyw un o weithgareddau'r gymdeithas yn bosib heb gydweithrediad agos
â Glandŵr Cymru. - "Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd
Cymru". Mae'r ymddiriedolaeth yn
rhoi caniatâd i waith gael ei wneud ar y gamlas, mae'n helpu i ddylunio a
goruchwylio prosiectau, yn darparu llawer o'r deunyddiau a ddefnyddir wrth
adfer ac yn cynnig cyngor a chefnogaeth arbenigol barhaus. Roedd
yn falch iawn o nodi bod Cymdeithas Camlas Tawe wedi'i hanrhydeddu â Gwobr y
Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol, y wobr uchaf y gall grŵp gwirfoddol ei
derbyn yn y DU. Nod Gwobr y Frenhines am
Wasanaeth Gwirfoddol yw cydnabod gwaith rhagorol grwpiau gwirfoddol er budd eu
cymunedau lleol. Bydd
cynrychiolwyr o Gymdeithas Camlas Tawe'n derbyn gwobr
gan Louise Fleet, Arglwydd Raglaw EM Gorllewin Morgannwg yn ddiweddarach yr haf
hwn, a bydd dau wirfoddolwr o'r gymdeithas yn mynd i arddwest ym Mhalas Buckingham ym mis Mai 2021, gydag eraill sydd wedi derbyn
gwobr eleni. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Cynghorydd Gordon Walker (Cadeirydd Cymdeithas Camlas Tawe) neu e-bostiwch funding.swanseacanalsociety@talktalk.net |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Cefnogi busnes Diolchodd Arweinydd y Cyngor i swyddogion a phawb a oedd
yn rhan o'r gwaith i gynorthwyo busnesau drwy eu helpu i ailagor, a hefyd am y
grantiau a gynigiwyd. 2)
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Diolchodd Arweinydd y Cyngor i'r Heddlu a
Swyddogion y cyngor am eu gwaith wrth fynd i'r afael â'r ymddygiad
gwrthgymdeithasol a welwyd yn ddiweddar ym Mae Langland
a SA1. 3) Prosiect Morol Doc Penfro -
Prosiect y Fargen Ddinesig Nododd Arweinydd y Cyngor fod Prosiect Morol Doc
Penfro - Prosiect y Fargen Ddinesig wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a
Llywodraeth y DU. Byddai hyn yn
ychwanegu at ryddhau rhagor o arian maes o law. 4)
Morlyn Llanw Bae Abertawe Cynigiodd Arweinydd y Cyngor sicrwydd i bawb y
bydd yr awdurdod yn gwneud popeth o fewn ei allu i ddarparu morlyn llanw ym Mae
Abertawe a thechnoleg llanw ledled Cymru. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn
hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau
ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10
munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Newidiadau Dros Dro i Drefniadau Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion. PDF 230 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol adroddiad gwybodaeth a oedd yn
amlinellu'r trefniadau dros dro ar gyfer cryfhau uwch arweinyddiaeth y
Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion. Dywedodd y byddai
swydd Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion yn cael ei rhannu rhwng dwy rôl uwch
arweinyddiaeth hyd at fis Tachwedd 2020, gan greu dau Bennaeth Gwasanaeth dros
dro: i)
Pennaeth y Gwasanaethau Integredig; ii)
Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion (Anabledd Dysgu/Iechyd
Meddwl/Darpariaeth Gwasanaethau a Diogelu). Swydd ar y cyd
rhwng y cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yw swydd Pennaeth y
Gwasanaethau Integredig ac mae'n atebol i'r ddau sefydliad. Bydd y rôl yn
gyfrifol am yr holl swyddogaethau a gyflawnir drwy'r canolfannau integredig
presennol ar gyfer pobl hŷn ac oedolion ag anabledd corfforol neu'r
swyddogaethau sy'n gysylltiedig â nhw. Bydd Pennaeth y
Gwasanaethau i Oedolion (Anabledd Dysgu/Iechyd Meddwl/Darpariaeth Gwasanaethau
a Diogelu) yn gyfrifol am ddiogelu, iechyd meddwl ac anableddau dysgu, darparu
gwasanaethau mewnol a chomisiynu rhai allanol. |
|
Newidiadau i'r Cyfansoddiad. PDF 219 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
adroddiad gwybodaeth ar y cyd a oedd yn nodi'r diwygiadau a wnaed gan y Swyddog
Monitro i Gyfansoddiad y Cyngor yn dilyn y newidiadau dros dro i strwythur y
Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion. |
|
Cadeirydd Gwasanaethau Democrataidd. PDF 29 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a'r Swyddog Monitro adroddiad a oedd yn
ceisio ethol Cadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd. Mae Mesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn datgan bod rhaid i'r cyngor benodi Pwyllgor y
Gwasanaethau Democrataidd a Chadeirydd.
Rhaid i Gadeirydd y Pwyllgor fod yn aelod o'r wrthblaid. Ni ddylai Arweinydd y Cyngor fod yn y
pwyllgor hwn. Ni ddylai mwy nag un Aelod
y Cabinet fod yn y pwyllgor hwn. Ni
chaniateir aelodau cyfetholedig i fod yn y pwyllgor hwn. Penderfynwyd ethol y Cynghorydd L James fel Cadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd. |
|
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 331 KB Cofnodion: Cyflwynwyd (9) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd
yng Ngwŷs y Cyngor. Dangosir y
cwestiwn(cwestiynau) atodol hwnnw(hynny) yr oedd angen ymateb ysgrifenedig
arno(arnynt) isod: Cwestiwn 1 i)
Gofynnodd y Cynghorydd J W Jones gwestiwn ar ran y
Cynghorydd K M Griffiths: "Faint o arian a
wariwyd gan Gyngor Abertawe ar dipio'n anghyfreithlon eleni? A fyddai'n rhatach caniatáu i fusnesau
gael gwared ar sbwriel am ddim? ii)
Gofynnodd y Cynghorydd J W Jones gwestiwn: "Rwy'n tybio bod
'mannau o bryder' o ran tipio anghyfreithlon. Beth rydyn ni’n ei wneud i atal tipio anghyfreithlon
yn yr ardaloedd hyn, a beth yw'r ardaloedd hyn? Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd ac
Isadeiledd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. Cwestiwn 4 Gofynnodd y
Cynghorydd P M Black gwestiwn: "Oes modd darparu cynllun gwariant ar gyfer y cyllid
gwerth £95,000 a £112,000?" Dywedodd Aelod
y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau y byddai ymateb ysgrifenedig yn
cael ei ddarparu. Cwestiwn 5 Gofynnodd y
Cynghorydd J W Jones gwestiwn: "Faint mae'r awdurdod yn ei dderbyn i ddarparu
darpariaeth lleoliad brys mewn Cartrefi Seibiant?" Nododd Aelod y
Cabinet dros Wasanaethau Gofal i Oedolion ac Iechyd Cymunedol y byddai ymateb
ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. 'Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'
Rhan B Cyflwynwyd tri (3) 'chwestiwn nad oedd
angen cwestiynau atodol' ar eu cyfer Rhan B. |
|
Rhybudd o Gynnig: Mae Bywydau Du o Bwys. PDF 276 KB Cofnodion: Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorwyr L S Gibbard, R C Stewart, A S Lewis, D
H Hopkins, C E Lloyd, J P Curtice, D W W Thomas, S
Pritchard, M B Lewis, L V Walton, W G Lewis, M C Child, R Francis-Davies, A
Pugh, E J King, E T Kirchner ac Y V Jardine Cynigiwyd gan y Cynghorydd L S Gibbard ac fe'i eiliwyd gan y Cynghorydd R C
Stewart. "Mae
Cyngor Abertawe’n sefyll mewn undod â chymunedau Du,
Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Abertawe a gweddill y byd yn eu brwydr dros
gyfiawnder yn wyneb hiliaeth yn ei holl ffurfiau. Rydym yn
cydnabod bod symbolau o orffennol trefedigol Prydain yn parhau i fod o'n
cwmpas, ar ffurf cerfluniau, enwau strydoedd, adeiladau a'r celfyddydau. Mae gan rai
o'r rhain gysylltiadau clir ag unigolion
a oedd yn ymwneud â masnach caethweision ac ecsbloetio pobl o liw, ac
maent yn atgof poenus i bobl BAME o'u gorchfygiad hanesyddol a'u
hanghydraddoldeb parhaus. Drwy weithio
gyda'n cymunedau BAME, rydym yn ymrwymedig i archwilio daearyddiaeth a
sefydliadau Abertawe i asesu a oes angen tynnu, diwygio neu newid y ffordd
rydym yn arddangos unrhyw enwau neu ddelweddau. Nid er mwyn dileu
ein hanes, ond i'r gwrthwyneb. Mae hyn yn ymwneud â dysgu o hanes a'i gyfleu
mewn modd sensitif a pharchus. Rhaid gwneud gwaith i gyd-fynd â’r
ymdrechion hyn i addysgu dinasyddion yn well ar hanes Abertawe, gan gynnwys ei
rôl yn y fasnach caethweision, a’i le o fewn chwyldro diwydiannol y DU a
gorffennol ymerodrol. Rydym hefyd yn
cydnabod bod caethwasiaeth fodern a mathau eraill o ecsbloetio yn dal i fod
ledled y byd heddiw ac ar garreg ein drws ac mae angen i ni atgyfnerthu'n
hymdrechion i fynd i'r afael â'r broblem ffiaidd hon sy'n effeithio ar bobl o bob
cymuned. Rydym hefyd yn
ymrwymo ymhellach i ddathlu a nodi ystod ehangach o ddinasyddion Abertawe o'r
gorffennol ar ffurf placiau glas, cerfluniau neu gofebau
parhaol eraill, i gynnwys rhagor o fenywod, BAME, pobl anabl, LGBT a phobl
dosbarth gweithiol. Rydym yn falch
o'n statws fel Dinas Noddfa ac yn cydnabod bod hon yn broses barhaus i sicrhau
bod pawb, ni waeth beth yw eu cefndir, yn teimlo fel eu bod yn cael eu
croesawu, eu parchu a'u cynnwys yn Abertawe. Byddwn yn parhau i
ymgysylltu â chymunedau BAME i fynd i'r afael â'r materion ehangach sy'n
ymwneud â chydraddoldeb, tegwch a chydlyniad cymdeithasol, a herio hiliaeth,
ecsbloetio ac anoddefgarwch. Felly, gofynnwn
i'r cyngor gytuno i wneud y canlynol: i)
Gweithredu, lle y bo'n bosib, i gael gwared ar
enwau neu eitemau cyhoeddus sydd â chysylltiadau â chaethwasiaeth neu
ecsploetiaeth; ii)
Comisiynu adolygiad dyfnach o enwau lleoedd ac
eitemau cyhoeddus a allai fod â chysylltiadau â chaethwasiaeth neu ecsploetiaeth;
iii)
Datblygu adnoddau a gwybodaeth gywir am ein
cysylltiadau â'r fasnach caethwasiaeth ac ecsbloetio fel rhan o stori hanes
Abertawe i hysbysu ac addysgu preswylwyr ac ymwelwyr y ddinas yn well." Cynigiodd y Cynghorydd P M Black ddiwygiad i'r cynnig a chafodd ei dderbyn
gan y Cynghorwyr L S Gibbard a R C Stewart.
Daeth y cynnig diwygiedig canlynol yn gynnig annibynnol "Mae
Cyngor Abertawe’n sefyll mewn undod â chymunedau Du,
Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Abertawe a gweddill y byd yn eu brwydr dros gyfiawnder
yn wyneb hiliaeth yn ei holl ffurfiau. Rydym yn
cydnabod bod symbolau o orffennol trefedigol Prydain yn parhau i fod o'n
cwmpas, ar ffurf cerfluniau, enwau strydoedd, adeiladau a'r celfyddydau. Mae gan rai
o'r rhain gysylltiadau clir ag unigolion
a oedd yn ymwneud â masnach caethweision ac ecsbloetio pobl o liw, ac
maent yn atgof poenus i bobl BAME o'u gorchfygiad hanesyddol a'u
hanghydraddoldeb parhaus. Drwy weithio
gyda'n cymunedau BAME, rydym yn ymrwymedig i archwilio daearyddiaeth a
sefydliadau Abertawe i asesu a oes angen tynnu, diwygio neu newid y ffordd
rydym yn arddangos unrhyw enwau neu ddelweddau. Nid er mwyn dileu
ein hanes, ond i'r gwrthwyneb. Mae hyn yn ymwneud â dysgu o hanes a'i gyfleu
mewn modd sensitif a pharchus. Rhaid gwneud gwaith i gyd-fynd â’r
ymdrechion hyn i addysgu dinasyddion yn well ar hanes Abertawe, gan gynnwys ei
rôl yn y fasnach caethweision, a’i le o fewn chwyldro diwydiannol y DU a
gorffennol ymerodrol. Rydym hefyd yn
cydnabod bod caethwasiaeth fodern a mathau eraill o ecsbloetio yn dal i fod
ledled y byd heddiw ac ar ein carreg ein drws ac mae angen i ni atgyfnerthu'n
hymdrechion i fynd i'r afael â'r broblem ffiaidd hon sy'n effeithio ar bobl o
bob cymuned. Rydym hefyd yn
ymrwymo ymhellach i ddathlu a nodi ystod ehangach o ddinasyddion Abertawe o'r
gorffennol ar ffurf placiau glas, cerfluniau neu gofebau
parhaol eraill, i gynnwys rhagor o fenywod, BAME, pobl anabl, LGBT a phobl
dosbarth gweithiol. Rydym yn falch
o'n statws fel Dinas Noddfa ac yn cydnabod bod hon yn broses barhaus i sicrhau
bod pawb, ni waeth beth yw eu cefndir, yn teimlo fel eu bod yn cael eu
croesawu, eu parchu a'u cynnwys yn Abertawe. Byddwn yn parhau i
ymgysylltu â chymunedau BAME i fynd i'r afael â'r materion ehangach sy'n
ymwneud â chydraddoldeb, tegwch a chydlyniad cymdeithasol, a herio hiliaeth,
ecsbloetio ac anoddefgarwch. Felly, gofynnwn
i'r cyngor gytuno i wneud y canlynol: i)
Comisiynu adolygiad dyfnach o enwau lleoedd ac
eitemau cyhoeddus a allai fod â chysylltiadau â chaethwasiaeth neu
ecsploetiaeth; ii)
Datblygu adnoddau a gwybodaeth gywir am ein
cysylltiadau â'r fasnach caethwasiaeth ac ecsbloetio fel rhan o stori hanes
Abertawe i hysbysu ac addysgu preswylwyr ac ymwelwyr y ddinas yn well;” iii)
Yn amodol ar yr adolygiad y cyfeirir ato yn y cynnig hwn,
gweithredu, lle y bo'n bosib, i gael gwared ar enwau neu eitemau cyhoeddus
sydd â chysylltiadau â chaethwasiaeth neu ecsploetiaeth;" Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod. |
|
Rhybudd o Gynnig:Masnachu ar y Sul. PDF 106 KB Cofnodion: Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorwyr C A Holley, S M Jones, M H Jones, E W Fitzgerald, P M Black, J W Jones, D G Sullivan, A
M Day, L James, C L Philpott, K M Griffiths, L G Thomas, G D Walker, P N May ac
I E Mann "Mae'r
Llywodraeth ar hyn o bryd yn edrych ar ddadreoleiddio Cyfreithiau Masnachu ar y
Sul ymhellach i ganiatáu i siopau mwy agor yn hirach ar ddydd Sul. Rydym yn
galw ar y cyngor i gefnogi gweithwyr y sector manwerthu yn eu gwrthwynebiad i'r
syniad hwn am y bydd yn effeithio ar eu hamser rhydd ac yn effeithio ar eu
hiechyd a'u lles." Cynigiodd y Cynghorydd M H Jones dynnu'r cynnig yn ôl am fod Llywodraeth y
Ceidwadwyr wedi rhoi'r gorau i'w chynlluniau i orfodi newid
deddfwriaethol. Eiliwyd y cynnig i
dynnu'r cynnig yn ôl gan y Cynghorydd C A Holley. Penderfynwyd tynnu'r Rhybudd o Gynnig yn ôl. |