Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol
a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a
swyddogion ag eitemau ar yr agenda. Gwnaeth Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd atgoffa cynghorwyr a
swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau o gysylltiadau
personol a rhagfarnol" os oes gan y
cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid
oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y
dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir,
gofnodion y cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod cyffredin y cyngor a
gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2020; 2)
Cyfarfod cyffredin y cyngor a
gynhaliwyd ar 26 Mawrth 2020. |
|||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad
gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y
cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor. |
|||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Gwobr Genedlaethol StreetGames - Mai 2020 Nododd yr Aelod
Llywyddol fod ganddo bleser cyhoeddi bod y Tîm Chwaraeon ac Iechyd wedi
cyrraedd y rhestr fer yn ddiweddar ar gyfer dau gategori Gwobrau Cenedlaethol StreetGames y DU.
Mae StreetGames yn annog pobl ifanc o
gefndiroedd difreintiedig i gymryd rhan mewn chwaraeon a gwirfoddoli fel
arweinwyr a hyfforddwyr yn eu cymunedau lleol.
Mae StreetGames Cymru'n ystyried Cyngor
Abertawe fel un o'r awdurdodau arweiniol ar gyfer cyflwyno'r agenda hwn. Enillodd prosiect Us Girls y categori "Ennyn
diddordeb menywod a merched", gydag enillydd y Gemau Olympaidd, Beth Tweddle, yn cyhoeddi'r wobr yn fyw ar-lein. Daeth Prosiect Ieuenctid Trefanseol
yn ail yn y categori Hyrwyddo Cynaladwyedd. Crëwyd prosiect Us Girls i dargedu merched mewn
ardaloedd tlawd sy’n cymryd rhan mewn ychydig iawn o chwaraeon a gweithgarwch
corfforol yn draddodiadol.Fe’i datblygwyd fel
cysyniad gan StreetGames UK a’i gyflwyno'n lleol gan
y Tîm Chwaraeon ac Iechyd, ac mae bellach yn cael ei ystyried fel yr enghraifft
orau o frand Us Girls yn y
DU a'r prosiect cyffredinol gorau ar gyfer ennyn diddordeb menywod a merched
mewn gweithgareddau cadarnhaol drwy chwaraeon. Cyflwynir prosiect
Ieuenctid Trefansel mewn partneriaeth â gwirfoddolwyr
sydd bellach yn rhedeg y clwb yn annibynnol yn dilyn cefnogaeth gychwynnol y
cyngor, ac mae'n cynnwys paratoi a bwyta bwyd iach yn ogystal â chwaraeon a
gweithgarwch corfforol. Enillodd prosiect
Ieuenctid Trefansel yr ail safle yn y Gwobrau
Cenedlaethol. Diolchodd i Jenna
Thomas ac Yasmin Davies am eu gwaith gwych ar y
prosiectau hyn a arweiniodd at y gwobrau hyn. |
|||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Diwygiadau
i Bortffolios y Cabinet Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi
gwneud diwygiadau i Bortffolios y Cabinet a ddaeth i rym o 28 Mai 2020. Cylchredwyd taflen a oedd yn amlinellu'r newidiadau
a chaiff y Portffolios newydd eu gosod yng Nghyfansoddiad y Cyngor. Cylchredwyd y rhestr ddiwygiedig hon ar 2 Mehefin
2020 a chaiff Cyfansoddiad y Cyngor ei ddiweddaru'n unol â hyn. Mae'r rhestr wedi'i diwygio ychydig fel a
ganlyn: Cymunedau Gwell Ø Ychwanegu "Cyflogadwyedd"; Ø Ychwanegu "Abertawe'n Gweithio"; Ø Ychwanegu "Dysgu Gydol Oes". Gwella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd Ø Ychwanegu “Cymuned/Cludiant Cyhoeddus Ø Ychwanegu "Cynnal a chadw parciau". Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth Ø Ychwanegu "Parciau a Datblygu Chwarae". Mae Portffolios diwygiedig y Cabinet wedi'u
hamlinellu isod:
2)
Rhybudd o Gynnig ar gyfer Mentrau sy'n Seiliedig ar
Garbon Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y cyngor wedi
cytuno ar rybudd o gynnig mewn perthynas â Mentrau sy'n Seiliedig ar Garbon ar
24 Hydref 2019. Fel rhan o'r cynnig,
penderfynodd y cyngor y bydd adroddiad yn cael ei lunio o fewn 6 mis; fodd
bynnag, oherwydd pandemig COVID-19, nid yw hyn wedi
bod yn bosib. Nododd ei fod wedi codi'r mater gyda'r Cynghorydd C
E Lloyd a'r Dirprwy Brif Swyddog Cyllid a chytunwyd y byddai'r adroddiad yn
cael ei gyflwyno i'r cyngor ar 4 Medi 2020.
Ymddiheurodd am yr oedi. 3)
Gwaith yn ystod pandemig
COVID-19 Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y gwaith wedi
parhau yn ystod pandemig COVID-19. Amlinellodd nifer o enghreifftiau o weithio
gan gynnwys: Ø
Yr arena; Ø
Prosiectau adeiladu mawr yn datblygu; Ø Cannoedd o goed, llwyni a phlanhigion wedi'u plannu; 1)
Distyllfa wisgi Penderyn ar safle
Gwaith Copr yr Hafod; 2)
Penseiri'n dylunio dyluniad/cynllun adeilad Theatr y
Palas; 3)
Dod i gytundeb ar gyfer y gwaith o adfer Neuadd Albert; 4)
Mae'r gwaith ar Ffordd y Brenin bron wedi'i gwblhau a
bydd yn dychwelyd i draffig dwyffordd yn fuan; 5)
Cyhoeddir rhagor o fanylion am Gam 2 Abertawe Ganolog yn
fuan gyda chyhoeddiad mawr ynghylch miloedd o swyddi ar gyfer Abertawe; 6)
Cynllunio wedi'i gymeradwyo ar gyfer 71-72 Ffordd y
Brenin. 4)
Diolch i
staff/wirfoddolwyr am eu hymateb i COVID-19 Diolchodd Arweinydd y Cyngor i staff, gwirfoddolwyr
a gweithwyr Abertawe am eu gwaith diflino mewn ymateb i bandemig
COVID-19. Mae eu gwaith a'u hymrwymiad yn deyrnged i breswylwyr Abertawe. 5)
Ailddechrau ysgolion Amlinellodd Arweinydd y Cyngor y broses ar gyfer
ailddechrau ysgolion ar ddiwedd Mehefin 2020. 6)
Tracio ac olrhain Amlinellodd Arweinydd y Cyngor y gwaith a wnaed
eisoes mewn perthynas â thracio ac olrhain.
Llongyfarchodd bawb a fu'n rhan o hyn. 7)
George Floyd - Mewn
undod ag ymgyrch Mae Bywydau Du o Bwys (BLM) Mynegodd Arweinydd y Cyngor ei
gydymdeimladau ar ran yr awdurdod mewn perthynas â marwolaeth ddiweddar George
Floyd a mynegodd ein hundod ag ymgyrch Mae Bywydau Du o Bwys. Nododd fod Abertawe'n
Ddinas Noddfa ac y byddai Neuadd y Ddinas yn goleuo'n borffor nos Sadwrn i
ddangos cefnogaeth. |
|||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn
hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau
ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10
munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd
unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||||||
Penodi Cadetiaid yr Arglwydd Faer. PDF 227 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Gyflwyniad a Pherfformiad adroddiad gwybodaeth a oedd yn amlinellu'r
broses o benodi a manylion rôl Cadet yr Arglwydd Faer
a fydd yn dechrau yn mlwyddyn ddinesig 2020-2021. |
|||||||||||||||||||||||
Aelodaeth Pwyllgorau. PDF 116 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Gyflwyniad a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth
y cyngor ar gyfer yr enwebiadau/diwygiadau i aelodaeth cyrff y cyngor. Ychwanegodd hefyd ddiwygiad pellach. Dywedodd fod Arweinydd
y Cyngor wedi gwneud y newidiadau canlynol i aelodaeth cyrff allanol yr
awdurdod: i)
Panel
Heddlu a Throseddu De Cymru Tynnu enw'r Cynghorydd E T Kirchner. Ychwanegu'r Cynghorydd W Evans. ii)
Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg (Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol Bae'r Gorllewin gynt) Tynnu enw'r Cynghorydd M C Child. Ychwanegu'r Cynghorydd C E Lloyd. Penderfynwyd y dylid diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn: 1)
Pwyllgor Gwasanaethau
Democrataidd Tynnu enw'r Cynghorydd
P M Black. Ychwanegu'r Cynghorydd
L James. 2)
Pwyllgor y Gronfa
Bensiwn Tynnu enw'r Cynghorydd M B Lewis. Ychwanegu lle Llafur gwag. 3)
Pwyllgor y Rhaglen
Graffu Tynnu enwau'r
Cynghorwyr M Durke ac M H Jones. Ychwanegu enwau'r
Cynghorwyr P M Black a T M White. 4)
Bwrdd Pensiwn Lleol Tynnu enw'r Cynghorydd
T M White. Ychwanegu'r Cynghorydd
M B Lewis. Sylwer: yn dilyn y bleidlais, diolchodd Arweinydd y Cyngor ac Arweinwyr y Grwpiau
Gwleidyddol i'r Cynghorydd M H Jones am ei gwaith fel Cadeirydd Pwyllgor y
Rhaglen Graffu. Diolchodd y Cynghorydd M H Jones iddynt am eu geiriau caredig. Talodd deyrnged i'r gefnogaeth a gafwyd gan
swyddogion a chynghorwyr yn ystod ei chyfnod fel Cadeirydd. |
|||||||||||||||||||||||
Newidiadau i'r Cyfansoddiad. PDF 297 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a
Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar y cyd yn ceisio diwygiad i
Gyfansoddiad y Cyngor er mwyn ei symleiddio, ei wella a/neu ychwanegu ato mewn
perthynas â'r meysydd canlynol: a)
Rhan
3 "Cyfrifoldeb am Swyddogaethau" - "Cylch gorchwyl" -
"Panel Ariannu Allanol". Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Dileu a thynnu "Panel
Ariannu Allanol" o gylch gorchwyl Cyfansoddiad y Cyngor; 2)
Cymeradwyo unrhyw ddiwygiadau
canlyniadol. |
|||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 258 KB Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd dau (2) 'Gwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au)
perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs
y Cyngor. Dangosir y cwestiwn(cwestiynau) atodol hwnnw(hynny) yr oedd angen ymateb ysgrifenedig
arno(arnynt) isod: Cwestiwn 1 Gofynnodd y Cynghorydd A M Day i'r Aelod Cabinet perthnasol: "Oes
modd darparu nodyn briffio i Gynghorwyr sy'n amlinellu'r trefniadau presennol
ar gyfer edrych ar ôl y bobl ifanc hyn yn Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid a amlinellwyd yn yr ymateb i bandemig
COVID-19?" Nododd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Plant y byddai ymateb ysgrifenedig
yn cael ei ddarparu. 2) ‘Cwestiynau
nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B Cyflwynwyd tri (3) 'chwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' ar eu cyfer
Rhan B. |