Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog cyfreithiol gyngor ar y
buddiannau personol a rhagfarnol posib y gall fod gan
y Cynghorwyr/Swyddogion ar yr agenda. Atgoffwyd cynghorwyr a swyddogion gan Bennaeth y
Gwasanaethau Democrataidd y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o
fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y
Cynghorydd/Swyddog gysylltiad i'w ddatgan yn unig. Nid oedd angen dychwelyd
ffurflenni gwag. Hysbyswyd Cynghorwyr a Swyddogion hefyd fod yn rhaid i unrhyw
fudd i'w ddatgan gael ei wneud ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Datganwyd y buddiannau canlynol, yn unol â ’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe: 1)
Datganodd y Cynghorwyr H M
Morris a B J Rowlands gysylltiad personol â Chofnod Rhif 117 “Mabwysiadu Cynllun
Gostyngiad Treth y Cyngor”. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a
llofnodi'r cofnodion canlynol fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod Cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd
2019. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad
gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y
cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor. |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Cydymdeimladau i)
Y Cynghorydd Sybil Crouch Cyfeiriodd Arweinydd y
Cyngor gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar y Cynghorydd Sybil Crouch. Bu'r
Cynghorydd Crouch yn gwasanaethu Ward Etholiadol y Castell am bron wyth
mlynedd. Roedd y Cynghorydd Crouch yn
Arglwydd Faeres pan roedd ei gŵr, y Cynghorydd David Phillips, yn Arglwydd
Faer 2018-2019. Roedd hi hefyd yn
gyn-aelod o'r Cabinet ac yn Gadeirydd Pwyllgor.
Bu'r Cynghorydd Crouch yn gwasanaethu: Ø Dinas a Sir Abertawe o 3 Mai 2012 i 5 Ionawr 2020. Roedd y Cynghorydd
Crouch yn adnabyddus ledled cymru am ei rôl fel cyn-Gadeirydd Cyngor Celfyddydau
Cymru yn ogystal â'i gwaith yng Nghanolfan Gelfyddydau Taliesin, sydd wedi dod
yn brif ganolfan perfformiad ar gyfer
cerddoriaeth, theatr a dawns. Yn 2008, cyrhaeddodd rownd derfynol cystadleuaeth Merch Gymreig y Flwyddyn
y Western Mail i ferched sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol wrth hyrwyddo
democratiaeth. ii)
Y
cyn-Gynghorydd Derek James Cyfeiriodd
yr Aelod Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar y cyn-Gynghorydd
Derek James. Bu'r Cynghorydd James yn gwasanaethu Ward Etholiadol Uplands am 5 mlynedd ac roedd yn dad i Julie James, AC.
Bu'r Cynghorydd James yn gwasanaethu Ø Dinas a Sir Abertawe o 6 Mai i 10 Mehefin 2004. iii)
Y cyn-Gynghorydd Ioan Stock Cyfeiriodd yr Aelod
Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar cyn-Gynghorydd Sirol Gorllewin
Morgannwg, Ioan Stock. Bu'r cyn-gynghorydd yn
gwasanaethu bro Gŵyr ac mae'n dad yn nghyfraith i'r Cynghorydd Mark
Thomas. iv)
Y cyn-Gynghorydd Tom
Hilton Cyfeiriodd yr Aelod
Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar cyn-Gynghorydd Dinas Abertawe,Tom Hilton. Bu'r Cynghorydd Hilton yn gwasanaethu
wardiau'r Castell a Glandŵr v)
Ann Evans, chwaer y
Cynghorydd Chris Holley Cyfeiriodd yr Aelod
Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar Ann Evans, chwaer y Cynghorydd
Chris Holley. Roedd Ann Evans hefyd yn swyddog y cyngor gyda'r Gwasanaethau
Cymdeithasol. vi)
Hazel Morgan, Gwraig y
cyn-Gynghorydd Keith Morgan Cyfeiriodd yr Aelod
Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar Hazel Morgan, gwraig y Cynghorydd
Keith Morgan. vii) Y cyn-Gynghorydd John Bushell Cyfeiriodd yr Aelod
Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar y cyn-Gynghorydd Dinas
Abertawe a chyn-Gynghorydd Dinas a Sir Abertawe, John Bushell.
Bu'r cyn-Gynghorydd yn gwasanaethu Ward Etholiadol Fairwood. viii) Margaret Hill, mam Sarah Lackenby Cyfeiriodd yr Aelod
Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar Margaret Hil, mam Sarah
Lackenby. Safodd pawb a oedd yn bresennol i ddangos eu cydymdeimlad a'u parch. 2)
Tîm Cyllid Cleientiaid y
Gwasanaethau Cymdeithasol Dywedodd yr Aelod
Llywyddol ei fod wrth ei fodd i ddatgan bod yr archwiliad gan Swyddfa'r
Gwarchodwr Cyhoeddus yn nodi bod 'Tîm Cyllid Cleientiaid y Gwasanaethau
Cymdeithasol' "yn dîm sy'n creu argraff; roedd y gwasanaeth a ddarparwyd
yn rhagorol; maen nhw'n rhoi lles pennaf eu cleientiaid yn gyntaf ac roedd
ganddynt systemau a gweithwyr achos gwych". Mae hwn yn
archwiliad rhagorol o'r modd y mae'r awdurdod yn ymdrin â chyfrifoldebau Gwarchodaeth
nad ydynt yn gallu gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain. 3)
Arwyr y Faner
Werdd Dywedodd yr
Aelod Llywyddol y cyflwynir cynllun Gwobr y Faner Werdd gan Cadwch Gymru'n Daclus gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae'r wobr yn ymwneud â chysylltu pobl â'i
gilydd gyda'r parciau a mannau gwyrdd gorau.
Mae'n feincnod ar gyfer parciau a mannau gwyrdd yn y DU a'r tu
hwnt. Lle bynnag y gwelwch chi Faner
Werdd, rydych chi'n gwybod eich bod yn ymweld â lle eithriadol â'r safonau
gorau. Gall amgylchedd o safon gael
effaith fawr ar ein cymunedau, ein hiechyd a'n lles a'r economi. Roedd wrth
ei fodd i gyhoeddi bod Jeff Walton o Ardd Fwyd Gymunedol Llyn Golchi Cyfeillion
Mayhill (a Hillside) yn un
o'r ddau a gyrhaeddodd y rownd derfynol ar gyfer gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn. 4)
50 mlwyddiant Abertawe fel dinas – Beiblau
Sefydliad The
Gideons International Diolchodd
yr Aelod Llywyddol i Jeff Bowen o sefydliad ‘The Gideons
Internationa’ am ddarparu copïau o'r Testament Newydd
a'r Salmau i bob Cynghorydd ac eraill yng nghyfarfod y cyngor i gofio am 50 mlwyddiant Abertawe fel dinas. 5) Santes
Dwynwen Dywedodd yr Aelod
Llywyddol ei bod hi'n Ddydd Santes Dwynwen ddydd Sadwrn (25-01-2019) Santes Dwynwen yw nawddsant Celtaidd
cyfeillgarwch a chariad Cymru. Mae poblogrwydd Dydd Santes Dwynwen a'r nifer
sy'n ei ddathlu wedi cynyddu'n sylweddol yn y blynyddoedd diweddar. Cofiwch
ddweud wrth eich partner eich bod yn ei garu/charu. 6) Anrhydeddau'r
Flwyddyn Newydd Dinasyddion Abertawe a
wobrwywyd yn rhestr anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd. a) Swyddog yn Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) i)
Andrew James Falvey. Cyfarwyddwr
Masnachol, Yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau Am wasanaethau i
drafnidiaeth (Gorllewin Morgannwg). b) Medal
yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) i)
Susan Ann Croall. Am
wasanaethau i gerddoriaeth yn Abertawe. c) Medal
Heddlu'r Frenhines (QPM) i)
Richard John Lewis.
Dirprwy Brif Gwnstabl, Heddlu De Cymru ii)
Cwnstable Bharat Kumar Narbad. Heddlu De Cymru. 7)
Cywiriadau/Diwygiadau i
Wŷs y Cyngor Dywedodd yr Aelod
Llywyddol fod adroddiad diwygiedig wedi'i ddosbarthu mewn perthynas â Chofnod
Rhif 118 "Aelodaeth o Bwyllgorau" a bod Atodiad A o Wŷs y Cyngor
a welir ar dudalennau 35 i 61, yn cyfeirio at Gwestiwn 2 Cwestiynau'r Cynghorwyr. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: i)
Cydymdeimladau Cyfeiriodd yr Aelod
Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar y Cynghorydd Sybil Crouch a
thalodd deyrnged i'w gwaith fel cynghorydd. Adleisiodd y teimladau
a rannwyd yn flaenorol gan yr Aelod Llywyddol mewn perthynas â'r holl
gydymdeimladau a dderbyniwyd yng nghyfarfod y cyngor. ii)
Etholiad Seneddol - 12
Rhagfyr 2019 Llongyfarchodd
Arweinydd y Cyngor Tonia Antoniazzi (Etholaeth
Gŵyr), Carolyn Harris (Etholaeth Dwyrain Abertawe) a Geraint Davies (Etholaeth
Gorllewin Abertawe) am lwydo i ddychwelyd fel Aelodau Seneddol yn dilyn yr
Etholiad Seneddol ar 12 Rhagfyr 2019. iii)
Dinas-ranbarth Bae
Abertawe Dywedodd Arweinydd y
Cyngor fod Cyfarwyddwr Rhaglen Dinas-ranbarth Bae Abertawe wedi cael ei benodi.
Dywedodd hefyd fod y £18miliwn cyntaf wedi cael ei dderbyn. iv)
Menter y Sied Dynion Cyfeiriodd Arweinydd y
Cyngor at ei gyhoeddiad yng nghyfarfod y cyngor a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd
2019 mewn perthynas â Menter y Sied Dynion a'r ffaith bod cronfa o £25,000 wedi'i
sefydlu â'r nod o gefnogi'r fenter. Dywedodd fod cais
wedi'i dderbyn oddi wrth Ward Etholiadol Penderi a'r gobaith oedd mai'r ward
hon fyddai'r cyntaf i elwa o grant o'r gronfa. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran
agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnodd David Davies gwestiwn mewn perthynas 6
Chofnod Rhif 119 "Cwestiynau Cynghorwyr" - Cwestiwn 5: i)
"A
fyddai cystadleuaeth ar draws Abertawe yn briodol lle gallai pob ysgol enwebu
ei Darllenwr y Flwyddyn, bachgen a
merch, ac ymddangos gerbron panel a drefnir gan y cyngor a fyddai'n beirniadu'r
enillwyr ac yn cyflwyno cwpan iddyn nhw a'r ysgol. Efallai gallai ein
Gweinidog Addysg ddewis llyfr arbennig i'r cystadleuwyr ei ddarllen ac yna
asesu eu gwerthfawrogiad beirniadol ohono a'u dychymyg. Cymru yw gwlad y beirdd ac efallai bydd y gystadleuaeth
hon yn ysbrydoli ysgrifenwyr posib y dyfodol. Mae gan Gaerdydd gystadleuaeth Canwr y Byd, gadewch i Abertawe gael
Darllenwr y Flwyddyn." Croesawyd yr awgrym gan
Aelod y Cabinet dros Wella, Dysgu a Sgiliau gan ddweud y darperir ymateb
ysgrifenedig. |
|
Cyflwyniad - Dim. Cofnodion: Ni dderbyniwyd cyflwyniadau. |
|
Mabwysiadu'r Cynllun Gostyngiad Treth Y Cyngor. PDF 347 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog
Adran 151 adroddiad a oedd yn esbonio'r gofyniad i ystyried yn flynyddol a
ddylid diwygio neu ddisodli Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor presennol y
cyngor a'r gofyniad naill ai i fabwysiadu cynllun newydd neu ailfabwysiadu'r cynllun presennol erbyn 31 Ionawr 2019. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Nodi Rheoliadau Cynlluniau
Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 ('Rheoliadau'r
Gofynion Rhagnodedig') a luniwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (CCC) ar 26
Tachwedd 2013, fel y'u diwygiwyd; 2)
Nodi'r diwygiadau i
"Reoliadau'r Gofynion Rhagnodedig" a gynhwysir yn Rheoliadau
Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun
Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2018, a ystyriwyd ac a gymeradwywyd gan CCC ar 7
Ionawr 2020; 3)
Nodi canlyniad yr ymarfer
ymgynghori a ymgymerwyd gan y cyngor ym mis Tachwedd 2018 ar feysydd disgresiynol y cynllun cyfredol; 4)
Y bydd y cynllun presennol
(2019/2020) mewn perthynas â'r meysydd disgresiynol
(fel y'u nodir yn Adran 3 yr adroddiad) yn aros yn ddigyfnewid 2020/2021; 5)
Y bydd y cynllun fel y'i nodir
yn Adran 3 yr adroddiad yn cael ei fabwysiadu ac yr adlewyrchir unrhyw
ddiwygiadau i'r rheoliadau a wnaed gan CCC yn y cynllun. |
|
Aelodaeth Pwyllgorau. PDF 112 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflwyno a
Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y cyngor ar gyfer yr
enwebiadau/diwygiadau i aelodaeth Cyrff y Cyngor. Dywedodd fod adroddiad diweddaredig wedi'i ddosbarthu. Dywedodd fod Arweinydd y Cyngor wedi gwneud y
newidiadau canlynol i Gyrff Allanol yr awdurdod: i)
Cyrff
Allanol - Cymdeithas Cominwyr Gŵyr Dywedodd Arweinydd y Cyngor nad oedd hawl gan y cyngor
mwyach i gael cynrychiolydd ar Gymdeithas Cominwyr
Gŵyr. Tynnwyd enw'r Cynghorydd A H Stevens felly a dileodd y Gymdeithas ei
enw o'r rhestr o gyrff allanol. Penderfynwyd diwygio aelodaeth o
Gyrff y Cyngor a restrir isod fel a ganlyn: 1)
Pwyllgor Datblygu
Polisi Lleihau Tlodi Tynnu enw'r Cynghorydd
H M Morris. Ychwanegu'r Cynghorydd L
V Walton. 2)
Panel Derbyniadau Lleihau maint y panel o
5 i 3 aelod. Yr aelodau newydd fydd y
Cynghorydd J P Curtice, A M Day ac R V Smith. |
|
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 386 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd deg (10) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd yr Aelod perthnasol
o'r Cabinet trwy gyfrwng ymatebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs yn
Cyngor. Rhestrir y cwestiwn/cwestiynau atodol hwnnw/hynny yr oedd angen ymateb
ysgrifenedig arno/arnynt isod: Cwestiwn 2 Gofynnodd y Cynghorydd A M Day i'r Aelod perthnasol o'r Cabinet; "Dangosir 574 o sefydliadau yn yr Atodiad sy'n gysylltiedig â'r
cwestiwn hwn. i)
A yw'r sefydliadau o
fewn Rhwydwaith Hysbysebu'r Cyngor yn rhannu'r wybodaeth a gesglir? ii)
Caiff £6,243.93 ei
gasglu oddi wrth Rhwydwaith Hysbysebu'r Cyngor ar gyfer 2019-2020. A yw Aelod y
Cabinet yn credu bod y cyngor yn cael gwerth ei arian ac yn derbyn ei gyfran
deg? Nododd Aelod y Cabinet dros Gyflwyno a Pherfformiad y byddai ymateb
ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. Cwestiwn 10 Dywedodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni y byddai yn y dyfodol yn dod
ag adroddiad ar ymgysylltu â'r sawl sy'n cysgu allan, ac effaith Tai'n Gyntaf. 2) ‘Cwestiynau
nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B Cyflwynwyd un (1) 'Cwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' ar ei gyfer'
Rhan B. |