Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a
rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr
agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y
cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan yn unig. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni
os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd fod
yn rhaid datgan unrhyw gysylltiad ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir
Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: 1)
Mynegodd y Cynghorydd M C
Child fudd personol a rhagfarnol â chofnod 91 "Premiymau Treth y Cyngor yng
Nghymru" a gadawodd y cyfarfod cyn ei ystyried; 2)
Datganodd y Cynghorydd M Durke
fudd personol yng nghofnod 92 "Cwestiynau'r Cynghorwyr - Cwestiwn 3”. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod cyffredin o'r cyngor
a gynhaliwyd ar 26 Medi 2019. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth
a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng nghyfarfod
cyffredin diwethaf y cyngor. |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Cydymdeimladau i)
Yr Henadur Anrhydeddus Alan Lloyd Gyda thristwch,
cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol at farwolaeth ddiweddar yr Henadur Anrhydeddus, y
cyn-Gynghorydd, y cyn-Arglwydd Faer a'r cyn-Faer, Alan Lloyd. Roedd Alan yn dad
i'r Cynghorydd Clive Lloyd. Bu Alan yn gwasanaethu cymunedau'r Castell a
Townhill am bron i 45 mlynedd. Bu'n gwasanaethu: Ø
Cyngor Dinas Abertawe 12 Mai 1967 tan 31 Mawrth 1974; Ø
Cyngor Dinas Abertawe 1 Ebrill 1974 tan 23 Chwefror 1984; Ø
Cyngor Dinas Abertawe 22 Mawrth 1984 tan 31 Mawrth 1996; Ø
Dinas a Sir Abertawe 4 Mai 1995 tan 3 Mai 2012. Bu'n gwasanaethu fel
Maer Abertawe yn 1980-1981 ac fel Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe yn
2009-2010. Bu hefyd yn Ddirprwy Arweinydd Cyngor Dinas Abertawe. Cynhelir angladd yr
Henadur Anrhydeddus Alan Lloyd yn Amlosgfa Abertawe am 12.30pm ar 1 Tachwedd
2019. Gwahoddir pawb i Stadiwm Liberty am luniaeth wedi'r angladd. ii)
Cydymdeimladau - Debbie Hale, Gwraig y Cynghorydd Joe
Hale Gyda thristwch, cyfeiriodd yr Aelod
Llywyddol at farwolaeth ddiweddar Debbie Hale, sef gwraig y Cynghorydd Joe
Hale. Cynhelir angladd Debbie Hale yn Amlosgfa Abertawe am 10.00am ar 4
Tachwedd 2019. Gwahoddir pawb i Glwb y Docwyr Abertawe, St Thomas am luniaeth
wedi'r angladd. iii)
Stephen Richards, Mab y cyn-Gynghorydd Alan Richards Gyda thristwch,
cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol at farwolaeth ddiweddar Stephen Richards, mab y
cyn-Gynghorydd Alan Richards. Cynrychiolodd Alan Richards wardiau etholiadol St
Thomas yn Ninas a Sir Abertawe a hen Gyngor Sir Abertawe. iv)
Doreen Morris, Gwraig y cyn-Gynghorydd Arthur Morris Gyda thristwch,
cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol at farwolaeth ddiweddar Doreen Morris, gwraig y
cyn-Gynghorydd Arthur Morris. Cynrychiolodd Arthur Morris hen ward etholiadol
St John’s ar Gyngor Sir Gorllewin Morgannwg. v)
Brian Walters, cyn-Ohebydd Gwleidyddol gyda South Wales
Evening Post (SWEP) Gyda thristwch, cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol at farwolaeth ddiweddar Brian
Walters, cyn-Ohebydd Gwleidyddol gyda'r South Wales Evening Post (SWEP). Safodd pawb i ddangos cydymdeimlad a pharch. 2)
Rheoli Gwastraff - Enillydd Gwobr Cenedlaethol Y Gymdeithas
Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE) Cyhoeddodd yr Aelod
Llywyddol fod y Gwasanaeth Rheoli Gwastraff wedi ennill gwobr genedlaethol gan
Y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus. Enillodd y gwasanaeth y
wobr "Rhaglen Gweithlu Gorau". Mae hyn yn ymwneud â Phartneriaeth
Hyfforddiant Rheoli Gwastraff y cyngor sydd yn ei hail flwyddyn. Llwyddodd pob
un o'r deg o hyfforddeion Blwyddyn 1 i basio'r hyfforddeiaeth drwy ennill
Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Lefel 2 a chawsant swyddi parhaol amser
llawn. Ar hyn o bryd mae 13 o hyfforddeion Blwyddyn 2 bellach yn treulio amser
yn gweithio mewn amrywiaeth o agweddau sy’n ymwneud â Rheoli Gwastraff i
ddatblygu gwybodaeth eang o'r gwasanaeth er mwyn cynnig gweithlu â
dealltwriaeth eang a manwl o'u rolau. Roedd Fran Williams o
Wasanaeth Rheoli Gwastraff yn bresennol i dderbyn y wobr. 3)
Cyngor Hil Cymru - Gwobr 'Diversity Mover, Shaker &
Legacy Maker' 2019 Cyhoeddodd yr Aelod Llywyddol fod Chris Mellor o’r
Gwasanaethau Hamdden wedi derbyn Gwobr 'Diversity Mover, Shaker & Legacy
Maker' 2019 - Cyngor Hil Cymru ar ddiwrnod dathlu Mis Hanes Pobl Dduon i'r
teulu. Mae'r wobr ar gyfer pobl sy'n gwneud gwahaniaeth mawr yn ein cymunedau
amrywiol a derbyniodd Chris gydnabyddiaeth am ddatblygu Hwb Diwylliant a
Digidol yn y theatr; gan ddod ag 17 partner at ei gilydd i gyflwyno ein
Haddewid Amrywiaeth; sy'n caniatáu i gymunedau ddatblygu eu sgiliau creadigol a
digidol, gan greu cyfleoedd a lle diogel i'w mynegi. Roedd Chris Mellor yn
bresennol i dderbyn y wobr. 4)
Y Cynghorydd Will Thomas - Marathon Berlin 2019 Gwnaeth yr Aelod
Llywyddol longyfarch y Cynghorydd Will Thomas am gwblhau Marathon Berlin yn
ddiweddar mewn amser gwych o 3 awr, 41 munud a 54 eiliad. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Cochwydden Enfawr wedi'i
thorri i lawr gan Ddatblygwr ym Mhenllergaer Gwnaeth Arweinydd y
Cyngor longyfarch y Prif Swyddog Cyfreithiol, ei Thîm Cyfreithiol a phawb oedd
wedi bod yn rhan o'r erlyniad llwyddiannus yn erbyn y datblygwr a dorrodd y
gochwydden enfawr 200 mlwydd oed i lawr ym Mhenllergaer. 2)
Ysgol Gynradd Parc y Werin Gwnaeth Arweinydd y
Cyngor longyfarch y Prif Swyddog Cyfreithiol, ei Thîm Cyfreithiol a phawb a
oedd wedi ymwneud â'r gwrthwynebiadau i Ysgol Gynradd Parc y Werin gael ei
hadeiladu. 3)
Llifogydd Ledled Abertawe Diolchodd Arweinydd y
Cyngor i'r holl swyddogion am eu gwaith rhagorol wrth fynd i'r afael â'r
llifogydd a gafwyd yn ystod y cyfnod diweddar o dywydd gwael. 4)
Bargen Ddinesig
Dinas-ranbarth Bae Abertawe Dywedodd Arweinydd y
Cyngor fod Cylch Gorchwyl y Fargen Ddinesig wedi ei gyhoeddi'n ddiweddar, ac y
dylai arwain at ryddhau arian y Fargen Ddinesig maes o law. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran
agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd: Ø Cofnod 91 " Premiymau Treth y Cyngor yng Nghymru"; Ø Cofnod 92 Cwestiynau "Cynghorwyr" (Cwestiwn 1, Home Farm); Ø Cofnod 93 "Hysbysiad o Gynnig ar Fuddsoddiadau'n Seiliedig ar
Garbon". Ymatebodd aelod(au)
perthnasol y Cabinet. Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar unrhyw
gwestiynau. |
|
Cyflwyniad - Dim. Cofnodion: Ni dderbyniwyd cyflwyniad. |
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2018/19. PDF 606 KB Cofnodion: Cyflwynodd Paula O’Connor,
Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio, Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio
2018-2019 er gwybodaeth. Amlinellodd yr adroddiad ar waith y Pwyllgor Archwilio
yn ystod y cyfnod hwnnw. Cyflwynodd
Is-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio, y Cynghorydd P R Hood-Williams, yr adroddiad. |
|
Adroddiad Blynyddol Craffu 2018/19. PDF 224 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu, y Cynghorydd M H Jones, Adroddiad
Blynyddol yr Adran Graffu 2018-2019 er gwybodaeth. Roedd yr adroddiad yn nodi
gwaith Pwyllgor y Rhaglen Graffu yn ystod y cyfnod hwnnw. |
|
Adolygu'r refeniw wrth gefn. PDF 810 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog
Adran 151 adroddiad a oedd yn amlinellu adolygiad canol blwyddyn o sefyllfa'r
Refeniw Wrth Gefn a chytuno ar unrhyw ailddosbarthiad o'r cronfeydd wrth gefn
yn seiliedig ar ofynion presennol. Penderfynwyd: 1)
Ystyried a chymeradwyo'r argymhellion a wnaed o fewn
Adrannau 3.11 a 3.12 yr adroddiad. |
|
Premiymau'r Treth Cyngor yng Nghymru PDF 235 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid a Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn
darparu gwybodaeth ac yn gofyn i aelodau ystyried a ddylid parhau i ganiatáu
gostyngiadau Treth y Cyngor 50% ar eiddo gwag a heb eu dodrefnu ar ôl i unrhyw gyfnod
eithrio statudol ddod i ben. Roedd yr adroddiad hefyd yn darparu gwybodaeth ac yn ceisio ystyriaeth o'r
pwerau disgresiynol i godi symiau premiymau Treth y
Cyngor ar fathau penodol o eiddo y darperir ar eu cyfer gan Ddeddf Tai (Cymru)
2014. Penderfynwyd: 1)
Nodi manylion y pwerau disgresiwn sy'n gysylltiedig â
phremiymau Treth y Cyngor, gostyngiadau dewisol ar gyfer anheddau gwag a heb eu
dodrefnu a'r materion cysylltiedig a amlinellir yn yr adroddiad hwn; 2)
Dylid nodi canlyniad yr ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd
gan y cyngor ym mis Gorffennaf ac Awst 2019; 3)
Yn unol ag Adran 11 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
bydd y cyngor yn rhoi'r gorau i ganiatáu gostyngiad Treth y Cyngor o 50% ar
anheddau sy'n aros yn wag a heb eu dodrefnu wedi i unrhyw gyfnod eithrio
statudol ddod i ben ac o 1 Ebrill 2020 ni chaniateir gostyngiadau o'r fath; 4)
Yn unol â Deddf Tai S139 (Cymru) 2014 (a ddiwygiodd
Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992) bod y cyngor yn ystyried arfer ei ddisgresiwn
ynghylch a ddylid codi premiymau Treth y Cyngor o hyd at 100% o gyfradd safonol
Treth y Cyngor ar anheddau gwag tymor hir ac ail gartrefi ac: i)
O 1 Ebrill 2020 ar gyfer anheddau yn ei ardal sydd wedi
bod yn wag ac heb eu dodrefnu am fwy na 12 mis (eiddo gwag tymor hir) o dan
Adran 12A Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, mae'n codi premiwm o 100% ar ben
cyfradd safonol Treth y Cyngor; ii)
O 1 Ebrill 2021 ar gyfer anheddau yn ei ardal y mae pobl
yn byw ynddynt bob hyn a hyn (a gyfeirir atynt fel arfer fel "ail
gartrefi") o dan Adran 12B Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, mae'n codi
premiwm o 100% ar ben cyfradd safonol Treth y Cyngor. 5)
Pe bai'r Cyngor yn penderfynu codi premiymau Treth y
Cyngor, dylid cyflogi Arolygydd Eiddo Treth y Cyngor llawn amser yn barhaol i
gefnogi mesurau cydymffurfio a chreu swydd newydd sef Swyddog Premiymau Treth y
Cyngor amser llawn am gyfnod dros dro (hyd at 2 flynedd) i reoli gweithredu'r
premiymau. Y ddwy swydd i'w hariannu o'r refeniw ychwanegol a ddaw o godi
premiymau Treth y Cyngor. |
|
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 322 KB Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd chwe (6) 'Chwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a
gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Dangosir y cwestiwn(cwestiynau) atodol hwnnw(hynny) yr oedd angen ymateb
ysgrifenedig arno(arnynt) isod: Cwestiwn 1 Gofynnodd y Cynghorydd CA Holley i Aelod perthnasol y Cabinet: "A allwch chi rannu Cylch Gorchwyl y Grant ar gyfer Theatr y Palace ac a yw'r grant sy'n ymwneud â Theatr y Palace yn cynnwys y tir o gwmpas Theatr y Palace neu'r Theatr y Palace yn
unig?" Nododd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig. Cwestiwn 2 Gofynnodd y Cynghorydd J W Jones i Aelod perthnasol y Cabinet: "Mae'r ymateb yn dangos bod 2 gyflenwr wedi mynd i ddwylo'r
gweinyddwyr ers mis Ebrill 2018. Pa gost ariannol fu
i'r awdurdod?" Nododd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig. Cwestiwn 2 Gofynnodd y Cynghorydd C L Philpott i Aelod perthnasol y Cabinet: "Rwy’n pryderu am y gwaith diweddar yn Clyne
Court . A all yr Aelod Cabinet perthnasol amlinellu'r
camau gweithredu a gymerwyd i fynd i'r afael â'r problemau a'r gwersi a
ddysgwyd o'r gwaith?" Dywedodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau y
byddai'n trefnu cyfarfod gyda'r Cynghorydd C L Philpott i drafod y problemau. 2) ‘Cwestiynau
Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Cyflwynwyd pedwar (4) cwestiwn Rhan B nad oedd angen cwestiynau atodol ar
eu cyfer. |
|
Hysbysiad o Gynnig ar Fuddsoddiadau sy'n Seiliedig ar Garbon. PDF 104 KB Cofnodion: Cynigiwyd gan y Cynghorydd C A Holley a'i eilio gan y Cynghorydd R C
Stewart. "Rydym yn deall y camau mawr y mae ein cronfa
bensiwn wedi'u cymryd i roi'r gorau i fuddsoddiadau sy'n seiliedig ar garbon. Mae angen llongyfarch y swyddogion a'r aelodau am y
gwaith a wnaed ar y gronfa gan ac am y wobr a enillwyd ganddynt ac a gyhoeddwyd
yn yr Evening Post ddydd Llun 23 Medi 2019. Felly gofynnwn i'r Aelod Cabinet adrodd ar ba gamau yr
ydym yn eu cymryd i dynnu ein hunain o fuddsoddiadau sy'n seiliedig ar garbon
yn ystod y 6 mis nesaf.” Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r Rhybudd o Gynnig. |