Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Demoratic Services - 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd gyngor ynghylch
y diddordebau personol a rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu
cael mewn eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o ddiddordebau personol a rhagfarnol" os oes gan y
cynghorydd/swyddog ddiddordeb i'w ddatgan yn unig. Nid oedd angen dychwelyd
ffurflenni os nad oedd unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a
swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw gysylltiad ar lafar ac yn ysgrifenedig
ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir
Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd y Cyhoedd. PDF 113 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r cyngor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei
bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff
gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn
Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas
â'r eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y cyngor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y
cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes
canlynol. (Sesiwn Gaeedig) |
|
Penodi Dirprwy Brif Weithredwr / Cyfarwyddwr Adnoddau. Cofnodion: Cyfwelwyd ag un ymgeisydd ar gyfer swydd y Dirprwy Brif Weithredwr / Cyfarwyddwr Adnoddau. Rhoddodd yr ymgeisydd gyflwyniad 10 munud ac atebodd nifer o gwestiynau a baratowyd ymlaen llaw. Penderfynwyd penodi AH (ymgeisydd 3) ar gyfer y swydd Dirprwy Brif Weithredwr / Cyfarwyddwr Adnoddau. |