Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Eitemau
Rhif Eitem

10.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol.

 

 

11.

Ethol Arglwydd Faer ar gyfer y Flwyddyn Dinesig 2019-2020.

Cofnodion:

 

Penderfynwyd, o ran cynnig y Cynghorydd Chris Holley, a eiliwyd gan y Cynghorydd Graham Thomas, y dylid ethol Peter Black i swydd Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe ar gyfer blwyddyn ddinesig 2019-2020.

 

Cafodd Peter Black ei arwisgo â mantell a Chadwyn Swyddogol yr Arglwydd Faer.

 

Cafodd Mrs Angela Black ei harwisgo â mantell a Chadwyn Swyddogol yr Arglwydd Faeres.

 

Gwnaeth yr Arglwydd Faer y Datganiad Derbyn Swydd a’i lofnodi.

 

Y Cynghorydd P M Black (yr Arglwydd Faer) fu'n llywyddu

 

12.

Ethol Dirprwy Arglwydd Faer ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2019-2020.

Cofnodion:

Penderfynwyd, o ran cynnig y Cynghorydd Des Thomas, a eiliwyd gan y Cynghorydd Christine Richards, y dylid ethol Mark Child i swydd Dirprwy Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2019-2020.

 

Cafodd Mark Child ei arwisgo â mantell a Chadwyn Swyddogol y Dirprwy Arglwydd Faer.

 

Cafodd Mrs Marion Child ei harwisgo â mantell a Chadwyn Swyddogol y Dirprwy Arglwydd Faeres.

 

Gwnaeth y Dirprwy Arglwydd Faer y Datganiad Derbyn Swydd a'i lofnodi.

 

13.

Anerchiad Agoriadol Yr Arglwydd Faer.

Cofnodion:

Diolchodd yr Arglwydd Faer i’r cyngor am ei ethol a llongyfarchodd y Cynghorwyr David Phillips a Sybil Crouch am eu tymhorau llwyddiannus fel Arglwydd Faer ac Arglwydd Faeres.

 

Anerchodd y cyngor a diolchodd i'r aelodau am ei ethol. Dywedodd ei fod wedi penodi'r Parchedig Ian Drew Jones fel ei Gaplan a chyhoeddodd mai elusennau'r Arglwydd Faer ar gyfer ei dymor fydd Unity in Diversity, Crisis a'r RSPCA (Llys Nini).

 

14.

Arglwydd Faer Sy'n Ymddeol.

Cofnodion:

Penderfynwyd o ran cynnig y Cynghorydd June Burtonshaw, a eiliwyd gan y Cynghorydd Fiona Gordon, y dylid diolch i'r Cynghorydd David Phillips am dymor llwyddiannus fel yr Arglwydd Faer a'r Cynghorydd Sybil Crouch fel yr Arglwydd Faeres.

 

Cyflwynodd yr Arglwydd Faer fedaliynau ar ran y cyngor i'r Arglwydd Faer a'r Arglwydd Faeres sy'n ymddeol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Phillips i'r cyngor am ei gefnogi yn ystod ei dymor mewn ymateb i'r cynnig o ddiolch.  Myfyriodd hefyd am ei holl ddyletswyddau yn ystod ei dymor fel Arglwydd Faer.