Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol
a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a
swyddogion ag eitemau ar yr agenda. Atgoffwyd cynghorwyr a swyddogion gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o gysylltiadau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad
i'w ddatgan yn unig. Nid oedd angen dychwelyd ffurflenni os nad oedd unrhyw
beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd fod yn rhaid datgan
unrhyw gysylltiad ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr J E
Burtonshaw, P Downing, M Durke, S M Jones, H M Morris, C L Philpott, A Pugh, R
C Stewart ac M Sykes gysylltiad Personol â Chofnod 123 “Mabwysiadu Cynllun
Gostyngiadau Treth y Cyngor”; 2)
Datganodd y Cynghorydd R D
Lewis gysylltiad Personol â Chofnod 123 “Mabwysiadu Cynllun Gostyngiadau Treth
y Cyngor” a gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei thrafod; 3)
Datganodd y Cynghorydd T J Hennegan gysylltiad
Personol â Chofnod 124 “Penodi Cyfarwyddwr Addysg Statudol Dros Dro”. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion
canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1) Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr, yn amodol ar ddangos bod y Cynghorydd J A Hale wedi ymddiheuro am ei absenoldeb. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth
a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod
cyffredin diwethaf o'r cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Gweddarlledu Cyfarfod y Cyngor Dywedodd yr Aelod Llywyddol, fel rhan o'r gwaith cyfredol
i fynd ati i weddarlledu cyfarfodydd y cyngor, y
Cabinet, y Pwyllgor Cynllunio a Phwyllgor y Rhaglen Graffu, fod y cyfarfod y
cyngor yn cael ei recordio at ddibenion gweddarlledu.
Ni fydd y cyfarfod yn cael ei ffrydio'n fyw am ein bod yn dal yn y cyfnod
profi; fodd bynnag, caiff ei recordio. Os bydd y prawf yn llwyddiannus, caiff y
cyfarfod ei gyhoeddi ar-lein yn ddiweddarach fel podlediad. 2)
Anrhydeddau'r Flwyddyn
Newydd Dinasyddion Abertawe a dderbyniodd ddyfarniadau yn
Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd. a)
Urdd Fictoraidd Brenhinol
(RVO) i)
David Byron Lewis.
Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannw. b)
Swyddog Urdd yr
Ymerodraeth Brydeinig (OBE) i)
Henry
(Harry) Gregg, MBE. Am wasanaethau i bêl-droed. Bu'n
rheoli Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe o 1972 i 1975. (Dinas y Deri); ii)
William
James Barry Liles. Cyn-bennaeth a Phrif Swyddog
Gweithredol Coleg Sir Gâr a Phencampwr Sgiliau Cymru. Dirprwy Is-ganghellor
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant bellach. Am wasanaethau i sgiliau a phobl ifanc
yng Nghymru. (Casllwchwr, Abertawe); iii)
Dr Andrew
William Guest Rees. Pennaeth Strategaeth Gwastraff,
Llywodraeth Cymru. Am wasanaethau i'r amgylchedd ac ailgylchu yng Nghymru.
(Gŵyr, Abertawe); iv)
Pamela
Sutton. Arweinydd Gweithredol, Yr Adran Gwaith a Phensiynau. Am wasanaethau i
bobl dan anfantais ac sy'n ddi-waith yng Nghymru. (Abertawe). c)
Aelod o Urdd yr
Ymerodraeth Brydeinig (MBE) i)
Stephen Dennis Combe. Cyfarwyddwr, Llywodraethu Corfforaethol ac
ysgrifennydd y bwrdd. Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Am
wasanaethau i lywodraethu yng Nghymru. (Abertawe); ii)
Melanie Louise Davies. Prif Nyrs yn Ysbyty Treforys, Bwrdd Iechyd Prifysgol
Abertawe Bro Morgannwg. Am wasanaethau i gleifion ag anableddau dysgu.
(Castell-nedd, Castell-nedd Port Talbot) ch) Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) i)
Dr Heather Christine
Potter. Cyfarwyddwr Clinigol Ardal, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar
Ogwr ac Arweinydd Clinigol, Rhwydwaith Clwstwr Castell-nedd. Am wasanaethau i
ofal iechyd. (Abertawe). 3)
Dydd Santes Dwynwen Mae'n Ddydd Santes Dwynwen yfory, nawddsantes cyfeillgarwch a chariadon Cymru. Mae poblogrwydd a dathliadau Dydd Santes Dwynwen
wedi cynyddu'n sylweddol yn y blynyddoedd diweddar, gyda digwyddiadau arbennig
megis cyngherddau a phartïon yn cael eu cynnal yn aml, a chardiau Cymraeg yn
cael eu hargraffu. Mae Santes Dwynwen yn bendant yn dod yn fwy adnabyddus
ymhlith poblogaeth Cymru heddiw. 4)
Diwygiadau/Cywiriadau i
Wŷs y Cyngor i)
Eitem 14, “Hysbysiad o Gynnig”. Mae fersiwn ddiwygiedig wedi'i dosbarthu. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe Rhoddodd Arweinydd y Cyngor ddiweddariad ynghylch
Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe a dywedodd fod adolygiadau'n mynd
rhagddynt. 2)
Morlyn Llanw Bae Abertawe Rhoddodd Arweinydd y Cyngor y diweddaraf am Forlyn
Llanw Bae Abertawe. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac
ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw gyflwyniadau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
mabwysiadu'r cynllun gostyngiad treth y cyngor PDF 147 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn esbonio'r gofyniad i
ystyried yn flynyddol a ddylid diwygio neu ddisodli Cynllun Gostyngiadau Treth
y Cyngor presennol y cyngor a'r gofyniad naill ai i fabwysiadu cynllun newydd
neu ail-fabwysiadu’r cynllun presennol erbyn 31 Ionawr 2019. Penderfynwyd: 1)
Nodi Rheoliadau Cynlluniau
Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 ("y
Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig") gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (CCC)
ar 26 Tachwedd 2013, fel y'u diwygiwyd; 2)
Nodi'r diwygiadau i'r
"Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig" a gynhwysir yn Rheoliadau
Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun
Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2018 a ystyriwyd ac a gymeradwywyd gan CCC ar 8
Ionawr 2019. 3)
Nodi canlyniad yr ymarfer
ymgynghori a gynhaliwyd gan y cyngor ym mis Tachwedd 2018 ar feysydd dewisol y
cynllun presennol; 4)
Y bydd y cynllun presennol
(2018/2019), mewn perthynas â'r meysydd dewisol (fel y'u nodir yn Adran 3 yr
adroddiad) yn aros yr un peth o 2019/2020; 5)
Mabwysiadu'r cynllun fel y'i nodir
yn Adran 3 yr adroddiad ac adlewyrchu unrhyw ddiwygiadau i'r rheoliadau a wnaed
gan CCC yn y cynllun. Sylwer: Gofynnodd y Cyng. P M Black y cwestiwn canlynol: "Mae paragraff 5.2 yr adroddiad yn nodi mai'r diffyg a ragwelir rhwng cyllid
a'r gostyngiad Treth y Cyngor a delir i dderbynwyr yw £1,270k. Sut mae hyn yn
cymharu â blynyddoedd blaenorol?" Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid Dros Dro y byddai
ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dynodi Cyfarwyddwr Addysg Statudol Dros Dro. PDF 97 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad a oedd yn
gofyn i'r cyngor benodi Pennaeth y Gwasanaeth Dysgwyr Diamddiffyn yn
Gyfarwyddwr Addysg Statudol dros dro. Penderfynwyd: 1)
Penodi Mark Sheridan, Pennaeth y Gwasanaeth Dysgwyr Diamddiffyn
yn Gyfarwyddwr Addysg Statudol y cyngor dros dro. Bydd hyn am gyfnod o dri mis
i ddechrau tra bydd y Cyfarwyddwr Statudol ar absenoldeb salwch; 2)
Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Prif Weithredwr, mewn
ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau i estyn y
cyfnod o dri mis os oes angen. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Y Diweddaraf am gynnydd blaenoriaethau'r Adran Addysg ar gyfer 2017-2018. PDF 144 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu
a Sgiliau adroddiad a roddodd y diweddaraf am gynnydd o ran bodloni'r
blaenoriaethau a bennwyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2017-2018 a'r blaenoriaethau
amlinellol a bennwyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2018-2019. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r
cynnydd. Sylwer: A)
Gofynnodd y Cynghorydd A
M Day y cwestiynau canlynol: "Mae'r pwynt bwled
olaf o dan "Heriau" ar dudalen 27 yr adroddiad yn dweud bod yr awdurdod
mewn perygl o orfod talu costau sylweddol mewn perthynas â lleoliadau
hanesyddol mewn ysgolion annibynnol yn Abertawe. Mae dau gwestiwn: i)
A oes gan Aelod y
Cabinet unrhyw syniad o'r ffigurau posib o ran y costau hyn? ii)
A all Aelod y Cabinet
gadarnhau a delir y costau hyn yn ganolog neu o gyllidebau dirprwyedig
ysgolion. Dywedodd Aelod y Cabinet
dros Addysg, Dysgu a Sgiliau y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. B)
Gofynnodd y Cynghorydd C
L Philpott y cwestiwn canlynol: "Faint o bobl yr effeithiwyd arnynt gan gau Brondeg
a lle maen nhw'n mynd yn awr?" Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 167 KB Cofnodion: 1)
‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd
naw (9) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(Aelodau) y Cabinet drwy
atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Dangosir
y cwestiwn/cwestiynau atodol hwnnw/hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig
arno/arnynt isod: Cwestiwn 3 Gofynnodd
y Cynghorydd P M Black: "A ellir cylchredeg yr ymateb i breswylwyr Dynfant y cyfeiriwyd ato
gan y Cynghorydd L S Gibbard mewn perthynas â'r sgipiau
pren yng nghanolfannau Clun a Garngoch, a ddarparwyd gan Aelod y Cabinet dros
yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd i'r holl gynghorwyr?" Nododd
Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig. Cwestiwn 5. Gofynnodd y Cynghorydd E W Fitzgerald: "A ellir rhannu canlyniadau'r arolygon boddhad sy'n dangos lefelau
uchel o foddhad yng Ngarngoch?" Dywedodd
Arweinydd y Cyngor y byddai'n rhannu'r arolygon boddhad. Cwestiwn 7. Gofynnodd y Cynghorydd P M Black: “Ydy Cyngor Abertawe’n
cynnal Gwasanaeth Cewynnau Go Iawn neu ydyn ni’n
dibynnu ar y sector preifat i wneud
hyn drosom ni?” Nododd
Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig. 2) ‘Cwestiynau
nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B Cyflwynwyd
dau (2) 'gwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol ar eu cyfer' Rhan B ar eu
cyfer. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd M Sherwood a
ellid diwygio'r cynnig. Dywedodd fod y rhai a gyflwynodd y cynnig gwreiddiol yn
cefnogi'r cynnig diwygiedig. Y cynnig diwygiedig oedd y prif gynnig i'w drafod. Y diwygiad oedd ychwanegu paragraff 8,
fel a ganlyn: “8. Atal y mudo naturiol gan hawlwyr
budd-daliadau i Gredyd Cynhwysol nes ei fod yn addas at y diben a nes bod
problemau a phryderon wedi'u datrys." Cynigiwyd gan y
Cynghorydd M Sherwood a'i eilio gan y Cynghorydd J E Burtonshaw. Mae'r cynnig diwygiedig yn darllen fel
a ganlyn: "Yn dilyn ymweliad
diweddar yr Athro Alston â'r Deyrnas Unedig, mae'r
cyngor yn nodi gyda braw adroddiad Adroddwr Arbennig y CU ar Dlodi Eithafol a
Hawliau Dynol. Rydym yn adleisio
arsylwad yr Athro Alston sef er gwaethaf y ffaith mai
ni yw pumed economi fwyaf y byd, mae'n ymddangos yn gwbl anghyfiawn fod 14
miliwn o bobl, pumed o'r boblogaeth, yn byw mewn tlodi, ac mae 1.5 miliwn yn
anghenus ac ni allant fforddio i brynu'r hanfodion sylfaenol. Rydym yn
cytuno â'r datganiad canlynol: "Mae'r ffaith bod bron un o bob dau o blant
yn dlawd ym Mhrydain yr unfed ganrif ar hugain yn gwbl gywilyddus yn ogystal â
bod yn anffawd gymdeithasol ac yn drychineb economaidd." Croesawn
ffocws yr adroddiad ar y system nawdd cymdeithasol, ac effeithiau creulon
diwygio lles wrth esbonio sut digwyddodd y dirywiad dramatig hwn. Yn syml, mae newidiadau i fudd-daliadau wedi gorfodi pobl i sefyllfa o
argyfwng, ac mae anrheithio gwasanaethau'r cyngor a'r trydydd sector wedi
golygu bod yn rhaid iddynt droi at wasanaethau drutach. Rydym
yn cytuno ag arsylwadau niferus yr adroddiad am fethiannau llywodraeth
bresennol y DU yn enw cyni a'r ffaith eu bod yn "gwadu'n" ddigywilydd
y dirywiad dramatig yn ffyniant y rhai lleiaf cefnog yn y wlad. Felly, galwn ar y Prif Weinidog i ymateb i'r adroddiad drwy roi ei argymhellion ar waith ar frys: 1.
Gwrthdroi'r polisi rhewi budd-daliadau, y cyfyngiad dau
blentyn, y terfyn budd-dal a'r dreth ystafell wely. 2.
Sicrhau bod gan lywodraethau lleol yr arian angenrheidiol
i drechu tlodi yn y gymuned ac ystyried anghenion a sylfeini treth amrywiol yn
yr Adolygiad Ariannu Teg cyfredol. 3.
Cynnal adolygiad annibynnol o effeithiolrwydd cosbau a
chyfarwyddo staff yr Adran Gwaith a Phensiynau ar unwaith i archwilio ymagweddau
mwy adeiladol a llai cosbol at annog cydymffurfio. 4.
Dileu'r oedi pum wythnos wrth dderbyn budd-daliadau dan
Gredyd Cynhwysol, caniatáu taliadau ar wahân i aelodau gwahanol o'r aelwyd a
hwyluso taliadau wythnosol neu bythefnosol. ac, o'n profiad
lleol ni o Gredyd Cynhwysol, ychwanegwn y canlynol: 5.
Gwneud i'r Adran Gwaith a Phensiynau ymddwyn fel
benthyciwr cyfrifol a chynnal asesiadau fforddadwyedd
o hawlwyr CC cyn rhoi arian ymlaen llaw sy'n aml yn gwthio pobl i ddyled nad
oes modd ei rheoli. 6.
Adfer y lwfansau gwaith a gynhwyswyd yn wreiddiol mewn
CC. 7.
Hwyluso taliadau uniongyrchol i landlordiaid er mwyn
lleihau ôl-ddyledion rhent. 8.
Atal y mudo naturiol gan hawlwyr budd-daliadau i Gredyd Cynhwysol nes ei
fod yn addas at y diben a nes bod problemau a phryderon wedi'u datrys." Ein
penderfyniad yw y bydd Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at y Prif Weinidog, gan
nodi cynnwys y cynnig hwn." Yn unol â Rheol 30 Gweithdrefn y Cyngor, "Pleidlais", gofynnwyd
am bleidlais gofnodedig. Cofnodwyd y bleidlais ar y newid fel a ganlyn:
Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig diwygiedig a amlinellir uchod. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: Dywedodd y Cynghorydd P M Black fod
cynnig diwygiedig wedi'i gylchredeg.
Dywedodd y cefnogwyd y cynnig diwygiedig gan y rheiny a oedd wedi'i
gynnig yn wreiddiol, ynghyd â'r rheiny a ychwanegwyd yn ddiweddar at y cynnig.
Y cynnig diwygiedig oedd y prif gynnig i'w drafod. Cynigiwyd gan y Cynghorydd P M Black a'i eilio gan y Cynghorydd R C
Stewart. Mae'r cynnig diwygiedig yn darllen fel
a ganlyn: Hysbysiad o gynnig gan y Cynghorwyr P M Black, J W Jones,
M H Jones, C A Holley, E W Fitzgerald, D G Sullivan, R C Stewart, J E
Burtonshaw, M C Child, W Evans, R Francis-Davies, D H Hopkins, E J King, A S
Lewis, C E Lloyd, J A Raynor, M Sherwood ac M Thomas "Mae'r cyngor yn nodi bod Abertawe'n
adnabyddus fel dinas sy'n dwlu ar gŵn ac mae llawer o'n preswylwyr yn talu
symiau mawr o arian am gi bach o'u dewis, ac weithiau miloedd o bunnoedd. Manteisir ar y cariad hwn at gŵn gan berchnogion
ffermydd cŵn bach anghyfreithlon sy'n cadw cŵn bridio mewn amodau
gwael iawn. Maent hefyd yn cynhyrchu cŵn bach y mae eu
hiechyd yn wael, ac sy'n cael eu cymryd oddi wrth eu mamau'n rhy gynnar, gan
arwain yn aml at broblemau cymdeithasu ymysg y cŵn. Mae perchnogion newydd y cŵn hyn yn gorfod talu
symiau mawr o arian ar gyfer biliau milfeddyg, ond yn aml mae'r ci bach yn dal
i farw neu nid oes modd ei reoli. Derbynnir llawer o'r cŵn bach hyn gan
sefydliadau elusennol lleol i geisio'u hailgartrefu. Roedd Lucy'n un o'r cŵn
bridio a achubwyd o fferm cŵn bach, ac mae Cyfraith Lucy yn ymgyrch i
wahardd gwerthu cŵn bach gan drydydd partïon i helpu i atal hyn. Mae'r cyngor yn nodi ymhellach fod gan ardaloedd yng
ngorllewin Cymru nifer cynyddol o ffermydd cŵn bach anghyfreithlon sy'n
defnyddio trydydd partïon i werthu'r cŵn bach, a bod y cŵn bach hyn
yn cael eu gwerthu yn Abertawe neu i breswylwyr Abertawe. Mae Llywodraeth y DU wedi cytuno i wahardd gwerthiannau
cŵn bach gan drydydd partïon yn Lloegr ac mae nifer o Aelodau Cynulliad yn
gofyn i Lywodraeth Cymru wneud yr un peth. Mae'r cyngor yn credu,
heb Gyfraith Lucy, y bydd ffermydd cŵn bach anghyfreithlon sy’n bridio
cŵn a chŵn bach yn parhau i waelu y tu ôl i ddrysau cau yng Nghymru,
gan beri i'r anifeiliaid ddioddef dan ddwylo pobl sy'n meddwl bod elw'n
bwysicach na lles anifeiliaid. Mae'r cyngor hwn wedi penderfynu: 1)
Cefnogi Ymgyrch
Genedlaethol Cyfraith Lucy i wahardd gwerthiannau a ffermio cŵn bach trydydd parti. 2)
Ychwanegu ei enw at y
rhestr gynyddol o sefydliadau cefnogi a bydd yn mynd ati'n
rhagweithiol i dynnu sylw preswylwyr at yr ymgyrch ledled y sir. 3)
Gofyn i Arweinydd Cyngor
Abertawe ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a
Materion Gwledig ac i'r holl AC sy'n cynrychioli ardal Abertawe, gan fynegi
barn aelodau'r cyngor hwn y dylid gweithredu ar frys i wahardd gwerthiannau
cŵn bach trydydd parti." Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig diwygiedig a
amlinellir uchod. |