Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol
a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr
agenda. Gwnaeth Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd atgoffa cynghorwyr a
swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau gysylltiadau personol
a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes
unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd
cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw gysylltiad ar lafar ac yn
ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir
Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd J A
Raynor gysylltiad personol â Chofnod 109 "Dadansoddiad o Effaith Diwygio
Lles". |
|
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo'r
cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd
2018. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad
gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y
cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor. |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1) David Rowlands, Tad y Cynghorydd Brigitte
Rowlands - Afiechyd Trosglwyddodd yr Aelod Llywyddol
ddymuniadau gorau'r cyngor i David Rowlands, tad y Cynghorydd Brigitte Rowlands,
yn dilyn ei afiechyd. 2)
Gwobrau Cenedlaethol Cerbydluoedd Roedd yr Aelod Llywyddol yn falch o
gyhoeddi bod yr awdurdod wedi cael ei ddewis i fod ar restrau byr dwy wobr
genedlaethol ar gyfer cerbydluoedd. Y gyntaf oedd gwobrau Green Fleet a
gynhaliwyd yn Leeds ar 22 Tachwedd 2018, lle'r
enillodd yr awdurdod y categori Cerbydlu Sector
Cyhoeddus y Flwyddyn (canolig i fawr). Yr ail oedd gwobrau What
Van a gynhaliwyd yn Llundain ar 13 Rhagfyr 2018, lle cyrhaedodd
yr awdurdod restr fer y categori Cerbydlu Gwyrdd y
Flwyddyn. Mae'r enwebiadau hyn yn seiliedig ar
gyflwyno 40 o faniau trydan, yr ymagwedd gyffredinol
y mae'r awdurdod wedi'i mabwysiadu at leihau effaith amgylcheddol ein cerbydlu a'r bwriad i fabwysiadu Polisi Cerbydlu
Gwyrdd. 3)
Pen-blwydd Priodas Diemwnt (60 o flynyddoedd) - Yr
Henadur Anrhydeddus Alan Lloyd a Lilian Lloyd Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol yr
Henadur Anrhydeddus, y Cyn-arglwydd Faer, y Cyn-faer a'r Cyn-gynghorydd Alan
Lloyd a Lilian Lloyd ar eu pen-blwydd priodas
diemwnt. 4)
Newidiadau/cywiriadau i wŷs y cyngor i)
Eitem 13 "Rhyddid er
Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Gatrawd 157 (Cymru) y Corfflu Logisteg
Brenhinol (CLB)” Ychwanegu enw 'Syr Karl Jenkins’ at y rhestr o'r rhai sydd wedi derbyn Rhyddid
er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe. ii)
Eitem 14 "Aelodaeth
Pwyllgorau” Bwrdd Magu Plant
Corfforaethol. Ychwanegu'r Cynghorydd W G Lewis. 5)
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda Dymunodd yr Aelod
Llywyddol Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Diwygiadau i Bortffolio'r Cabinet Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi diwygio
Portffolio'r Cabinet fel a ganlyn: i)
Portffolio'r Cabinet Cyflwyno a)
Ychwanegu "Tai Fforddiadwy (Cefnogaeth)"; b)
Ychwanegu "Trwyddedu". ii)
Portffolio Cabinet yr Economi a Strategaeth (Arweinydd y Cyngor) a)
Ychwanegu "Strategaeth Cyllid a'r Gyllideb a Goruchwylio'r
Gyllideb". iii)
Portffolio'r Cabinet Gwella Addysg, Dysgu a Sgiliau a)
Ychwanegu'r "Bwrdd Plant a Phobl Ifanc (PPI)”. iv)
Portffolio Cabinet yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd a)
Ychwanegu "Llwybrau Beicio"; b)
Ychwanegu "Adnewyddu a Chynnal a Chadw'r Cerbydlu"; c)
Ychwanegu "Mabwysiadu Cerbydau Gwyrdd - (Cefnogaeth); ch) Ychwanegu "Parciau (Cynnal a
Gweithrediadau) a Glanhau"; d)
Ychwanegu "Cludiant Cyhoeddus"; dd) Dileu "Rheoli Cynnal a Chadw Stadau
(nad ydynt yn ymwneud â'r Cyfrif Refeniw Tai)"; e)
Dileu "Trwyddedu". Dywedodd ei fod wedi gofyn i Bennaeth y
Gwasanaethau Democrataidd ddiweddaru
Cyfansoddiad a gwefan y cyngor i adlewyrchu'r diwygiadau hyn ac anfon rhestr
wedi'i diweddaru at yr holl Gynghorwyr. 2)
Y Nadolig Gyda'n Gilydd 2018 Llongyfarchodd Arweinydd y Cyngor JR Events & Catering am weithio gyda Dinas a Sir Abertawe i gyflwyno
digwyddiad Y Nadolig Gyda'n Gilydd 2018
ar 19 Rhagfyr 2018. Yn y digwyddiad hwn, darparwyd cinio Nadolig dau
gwrs am ddim i'r digartref, y diamddiffyn a'r rheiny mewn angen. Diolchodd i
bawb am gynorthwyo yn ystod y digwyddiad. 3)
Y Gochwydden Enfawr ar hen Ystad
Penllergaer, Penllergaer Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y digwyddiad
diweddar pan dorrwyd cochwydden enfawr 176 blwydd oed
ar hen Ystad Penllergaer, Penllergaer gan ddweud y
byddai'r awdurdod yn defnyddio'i holl bwerau yn erbyn y rhai a fu'n gyfrifol am
hyn. 4)
Morlyn Llanw Bae Abertawe Rhoddodd Arweinydd y Cyngor y diweddaraf am Forlyn
Llanw Bae Abertawe gan ddweud y derbyniwyd 11 o ymatebion i'r Hysbysiad o
Wybodaeth Flaenorol diweddar. 5)
Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe Rhoddodd Arweinydd y Cyngor y diweddaraf am Fargen
Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac
ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Cyflwyniad Cyhoeddus - Cofnodion: Ni dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus. |
|
Dadansoddiad o effaith diwygio lles. PDF 110 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Gymunedau Gwell adroddiad gwybodaeth a oedd yn manylu ar
gasgliadau'r "Asesiad Effaith Diwygio Lles - Diweddariad Medi 2018". Rhoddwyd cyflwyniad gan
Bennaeth Tlodi a'i Atal. Sylwer: Dywedodd y Cynghorydd M Sherwood y byddai'n cylchredeg
yr adroddiad llawn sy'n ymwneud â'r Dadansoddiad o Ddiwygio Lles i bob
cynghorydd. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog Adran
151 adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y Datganiad Polisi
Darparu Lleiafswm Refeniw ar gyfer 2019/2020 ac er mwyn diwygio polisi 2018 -
2019 a'i roi ar waith yn ystod y flwyddyn ar y sail yr amlygwyd bwriad clir i
ddiwygio'r polisi yn flaenorol i'r Cabinet a'r cyngor. Penderfynwyd: 1) Cymeradwyo'r
Datganiad Polisi Darparu Lleiafswm Refeniw (DLlR) fel
y'i hamlinellwyd yn Adran 3.3 yr adroddiad. |
|
Adroddiad Cynnydd Blynyddol Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc 2018. PDF 114 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros y Gwasanaethau Plant adroddiad a oedd yn ceisio rhoi'r diweddaraf
am y cynnydd o ran y Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc ac ynghylch ei roi ar
waith. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r Adroddiad
Cynnydd Blynyddol ar y Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc. |
|
Adolygiad o'r Polisi Gamblo PDF 114 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet
dros Gyflwyno adroddiad a oedd yn gofyn i aelodau ystyried y diwygiadau
arfaethedig i'r Polisi Gamblo. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r diwygiadau
arfaethedig i'r Polisi Gamblo a mabwysiadu'r polisi diwygiedig a atodwyd yn
Atodiad A. Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd A M Day i Aelod perthnasol y
Cabinet roi sicrwydd na fyddai'r awdurdod yn hybu gamblo drwy ei ddulliau
amrywiol. Dywedodd Aelod y Cabinet
dros Gyflwyno y byddai'n rhoi'r sicrwydd hwnnw ac y byddai hefyd yn darparu
sicrwydd ysgrifenedig. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd y
Cyngor adroddiad a oedd yn gofyn i aelodau ystyried rhoi Rhyddid er Anrhydedd
Dinas a Sir Abertawe i Gatrawd 157 (Cymru) y Corfflu Logisteg Brenhinol (CLB). Penderfynwyd: 1)
Rhoi rhyddid er
Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Gatrawd 157 (Cymru) y Corfflu Logisteg
Brenhinol (CLB); 2)
Cynnal Cyfarfod
Seremonïol y Cyngor ar 27 Gorffennaf 2019 i gyflwyno'r teitl Rhyddid er
Anrhydedd. |
|
Aelodaeth Pwyllgorau. PDF 94 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer enwebiadau/diwygiadau i gyrff y cyngor. Dywedodd nad oedd
Arweinydd y Cyngor wedi gwneud unrhyw newidiadau i aelodaeth cyrff allanol yr
awdurdod. Penderfynwyd y dylid diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn: 1)
Bwrdd Magu Plant
Corfforaethol Tynnu enw'r Cynghorydd
J P Curtice. Ychwanegu'r Cynghorydd
W G Lewis. 2)
Pwyllgor Datblygu
Polisi Lleihau Tlodi Tynnu enw'r Cynghorydd G J Tanner. Ychwanegu lle Llafur gwag 3)
Cyd-bwyllgor Craffu
Bargen Ddinesig Bae Abertawe Tynnu enw'r Cynghorydd M H Jones. Ychwanegu'r Cynghorydd J W Davies. 4)
Panel Ymddiriedolwyr Tynnu enw'r Cynghorydd
G J Tanner. Ychwanegu lle Llafur gwag. |
|
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 117 KB Cofnodion: 1)
‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd pump (5)
'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol
y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Dangosir
y cwestiwn/cwestiynau atodol hwnnw/hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig
arno/arnynt isod: Cwestiwn 2 Gofynnodd y
Cynghorydd J W Jones, "Pam y mae hi'n briodol i'r awdurdod ddyfarnu contract drwy ildiad
hawl i un cyflenwr er mwyn cyflwyno Gorymdaith y Nadolig?" Nododd
Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig. 2) ‘Cwestiynau
nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B Cyflwynwyd
dau (2) 'gwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol ar eu cyfer' Rhan B. |