Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y
cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai
cynghorwyr a swyddogion eu cael ag eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr
a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o gysylltiadau personol
a rhagfarnol" dim ond os oes gan y
cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni
os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y
dylid datgan unrhyw gysylltiad ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau
canlynol: Cynghorwyr: 1)
Datganodd
y Cynghorwyr P M Black, M C Child, J P Curtice, N J Davies, A M Day, M Durke, C
R Evans, R Francis-Davies, C A Holley, B Hopkins, O G James, Y V Jardine, S M
Jones, A S Lewis, M B Lewis, C E Lloyd, P Lloyd, P M Matthews, P N May, C L
Philpott, S Pritchard, A Pugh, K Roberts, B J Rowlands, M Sherwood, R V Smith,
R C Stewart, D G Sullivan, M Sykes, D W W Thomas, M
Thomas, W G Thomas, G D Walker, L V Walton a T M White gysylltiad personol â
Chofnod rhif 79, "Datganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe
2017-2018". 2)
Datganodd
y Cynghorwyr M A Langstone, P N May, B J Rowlands a W G Thomas gysylltiad
personol a rhagfarnol â Chofnod rhif 80,
"Canlyniad Archwiliad CDLl Abertawe a'r Gofynion
ar gyfer Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Ddiwygiadau Arfaethedig i'r Cynllun". 3)
Datganodd
y Cynghorwyr P M Black ac M C Child gysylltiad personol a rhagfarnol
â Chofnod rhif 81, "Enwebu'r Darpar Arglwydd Faer a'r Darpar Ddirprwy
Arglwydd Faer ar gyfer 2019-2020” ei drafod a gadawsant y cyfarfod cyn eu
trafod. 4)
Datganodd
y Cynghorwyr A M Day, C R Evans, C A Holley, J W Jones, M H Jones, P Lloyd, P N
May, J A Raynor, G J Tanner ac L G Thomas gysylltiad personol â Chofnod rhif
81, "Enwebu'r Darpar Arglwydd Faer a'r Darpar Ddirprwy Arglwydd Faer ar
gyfer 2019-2020". 5)
Datganodd
y Cynghorydd V M Evans gysylltiad personol a rhagfarnol
â Chofnod 84, "Rhybudd o Gynnig - Morlyn Llanw Abertawe" a gadawodd y
cyfarfod cyn ei drafod. Swyddogion: 6)
Datganodd
Huw Evans, Allison Lowe, Martin Nicholls, Phil Roberts, Ben Smith a Deb Smith gysylltiad personol â Chofnod rhif 79, "Datganiad
o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2017-2018". 7)
Datganodd
Huw Evans gysylltiad personol â Chofnod rhif 80, "Canlyniad Archwiliad CDLl Abertawe a'r Gofynion ar gyfer Ymgynghoriad Cyhoeddus
ar Ddiwygiadau Arfaethedig i'r Cynllun". |
|
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo'r
cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 20 Medi 2018. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r
ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf
y cyngor. |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Cydymdeimladau - Y
Cyn-gynghorydd Brian Ludlam Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth
gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y cyn-gynghorydd Brian Ludlam.
Bu'r cyn-gynghorydd Ludlam yn gwasanaethu Ward Etholiadol
y Castell. Roedd y cyn-gynghorydd Ludlam hefyd yn gyn-gadeirydd yng Nghyngor Sir Gorllewin
Morgannwg 1991-1992. Safodd pawb i ddangos cydymdeimlad a pharch. 2)
Gwobr
Cyfreithiwr/Tîm mewn perthynas â phobl y flwyddyn Cyfreithwyr mewn Llywodraeth
Leol Nododd yr Aelod Llywyddol fod Stephanie
Williams a Stephen Holland o Dîm Addysg Gyfreithiol yr awdurdod wedi cyrraedd y
rhestr fer ar gyfer Gwobr Cyfreithiwr/Tîm sy'n ymdrin â phobl y flwyddyn
Cyfreithwyr mewn Llywodraeth Leol. Mae
hyn yn cydnabod y gwasanaeth gwych y maent yn ei ddarparu i ysgolion. 3)
Gwobrau Arloesedd Lles Cenedlaethol Sefydliad
Siartredig Personél a Datblygu Nododd yr Aelod
Llywyddol fod y Tîm Rheoli Straen a Chwnsela a gwirfoddolwyr Help Llaw wedi
cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu Cymru
unwaith eto eleni. Cynhelir y seremoni
wobrwyo ar 22 Tachwedd 2018 yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd. 4)
Gwobrau Rhagoriaeth mewn
Caffael Cyhoeddus Cymru 2018-2019
Cyfleoedd y Llywodraeth (GO) Nododd yr Aelod Llywyddol fod y Tîm Cyfleusterau o
fewn y Gwasanaethau Eiddo Corfforaethol ynghyd â Ministry
of Furniture wedi'u dewis ar gyfer y rhestr fer yng
ngwobrau GO eleni ar gyfer y Prosiect Gweithio Ystwyth. Mae Gwobr Buddion
Cymdeithasol a Chymunedol mewn Caffael yn amlygu'r gwaith da a wnaed wrth
adnewyddu'r swyddfa ystwyth newydd. Mae'r wobr yn cydnabod y rôl hanfodol y gall
caffael cyhoeddus ei chwarae yng Nghymru wrth ddarparu cymdeithas fwy
cynaliadwy a theg. Mae'n amlygu'r
sefydliadau sydd wedi cynnwys gofynion buddion cymdeithasol a chymunedol wrth
wraidd eu gweithgareddau caffael a chyflenwi er mwyn gwella canlyniadau ar
gyfer dinasyddion Cymru. Cyhoeddir yr enillydd yng Nghaerdydd ar 8 Tachwedd
2018. 5)
Newidiadau/Cywiriadau i
Wŷs y Cyngor i)
Eitem 4 yr agenda,
"Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng nghyfarfod cyffredinol
diwethaf y cyngor” Tudalen 12. Cwestiwn 2.
Y Cynghorydd A M Day a ofynnodd y cwestiwn, nid y Cynghorydd W G Thomas
fel a nodwyd yn yr adroddiad. ii)
Eitem 19 yr agenda,
"Rhybudd o gynnig - Morlyn Llanw'r Bae" Tynnu enw'r Cynghorydd
R C Stewart oddi ar restr y sawl sy'n cyflwyno'r Rhybudd o Gynnig. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Grant y Gronfa Tai Nododd Arweinydd y Cyngor fod y cyngor wedi derbyn newyddion gwych am ei
fod wedi ennill Grant y Gronfa Tai. 2)
Llongyfarchiadau i Is-adran Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yr awdurdod Nododd Arweinydd y Cyngor fod Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yr awdurdod wedi'u
disgrifio fel gwasanaeth gwych.
Llongyfarchodd Arweinydd y Cyngor waith yr is-adran a'r Cynghorwyr W
Evans ac E J King. 3)
Geiriau annoeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau
Cyhoeddus Nododd Arweinydd y Cyngor y byddai'n codi mater y geiriau annoeth a
ddefnyddiwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau
Cyhoeddus. Nododd fod angen i Lywodraeth Leol gael cytundeb ariannu teg er mwyn mynd
i'r afael â'r pwysau sydd arni. 4)
Morlyn Llanw'r Bae Nododd Arweinydd y Cyngor fod hysbysiad gwybodaeth ymlaen llaw wedi'i
gyhoeddi sy'n gwahodd pobl i weld sut y gallant
gefnogi Cynllun 2.0 Morlyn Llanw'r Bae yn ariannol. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac
ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd nifer o
gwestiynau gan aelodau o'r cyhoedd mewn perthynas â Chofnod rhif 77,
"Adolygu'r refeniw wrth gefn", Cofnod rhif 78, "Datganiad
Cyllideb Canol Blwyddyn 2018-2019", Cofnod rhif 79, "Datganiad o
Gyfrifon Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2017-2018", a Chofnod rhif
80, "Canlyniad Archwiliad Cynllun Datblygu Lleol Abertawe a'r Gofynion ar
gyfer Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Ddiwygiadau Arfaethedig i'r Cynllun". Ymatebodd Aelod
perthnasol y Cabinet yn briodol. Nid
oedd unrhyw gwestiwn yr oedd angen ymateb ysgrifenedig ar ei gyfer. |
|
Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim. Cofnodion: Ni dderbyniwyd
cyflwyniadau cyhoeddus. |
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2017/18 PDF 561 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio, Paula O'Connor,
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2017-2018 er gwybodaeth. Mae'r adroddiad yn amlinellu gwaith y
Pwyllgor Archwilio yn ystod 2017-2018. |
|
Adolygiad Blynyddol o'r Amcanion Lles a Chynllun Corfforaethol 2018/22 PDF 139 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio
mabwysiadu a chyhoeddi Cynllun Corfforaethol newydd a oedd yn cynnwys amcanion
lles y cyngor ar gyfer 2018-2022 yn unol â'r gofynion a amlinellir yn Neddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r canllawiau statudol ynghylch cyrff
cyhoeddus. Penderfynwyd: 1)
Mabwysiadu Cynllun Corfforaethol 2018-2022. |
|
Adolygu'r refeniw wrth gefn. PDF 129 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog
Adran 151 adroddiad a oedd yn ceisio cynnal adolygiad canol blwyddyn o sefyllfa'r
refeniw wrth gefn a chytuno ar unrhyw ailddosbarthiad o'r cronfeydd wrth gefn a
awgrymir yn seiliedig ar ofynion presennol. Penderfynwyd: 1)
Ystyried a chymeradwyo'r argymhellion a wnaed yn yr
adroddiad yn Adrannau 3.11 i 3.13. |
|
Datganiad cyllideb ganol blwyddyn 2018/19. Cofnodion: Rhoddodd y Swyddog Adran 151 gyflwyniad
ar Ddatganiad Cyllideb Canol Blwyddyn 2018-2019. Amlinellodd berfformiad ariannol eleni ynghyd
â gofynion asesiad o arbedion a ddiweddarwyd dros gyfnod y Cynllun Ariannol
Tymor Canolig. Darparodd Arweinydd y Cyngor ddatganiad
hefyd. Penderfynwyd: 1)
Y dylid cofnodi'r cyflwyniad. |
|
Datganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2017/18. PDF 33 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Adran 151
adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Datganiad o Gyfrifon Cronfa
Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2017-2018. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo Datganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe
2017-2018 fel a atodir yn Atodiad 1 yr adroddiad; 2)
Nodi argymhellion a chanfyddiadau Adroddiad Safon
Ryngwladol ar Archwilio Rhif 260 Swyddfa Archwilio Cymru fel a atodir yn
Atodiad 2 yr adroddiad. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Cyflwyno'r Cabinet adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer y prif faterion a amlygwyd o Archwiliad Cynllun Datblygu
Lleol Abertawe (CDLl), yr angen i'r cyngor argymell
'Newidiadau Materion yn Codi' ar gyfer y Cynllun Adnau ac i gymeradwyo
gweithgaredd ymgynghoriad cyhoeddus ar y Newidiadau Materion yn Codi a'r
dogfennau cysylltiedig. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r
Newidiadau Materion yn Codi o ran y CDLl Adnau fel a
nodir yn Atodiad A yr adroddiad ar gyfer
ymgynghoriad cyhoeddus; 2)
Cymeradwyo'r
Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a'r Arfarniad Cynaladwyedd diweddaredig
fel y cyfeirir atynt yn Adran 5 yr adroddiad ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Sylwer: Gofynnodd y
Cynghorydd E W Fitzgerald: i)
Beth yw costau gor-redeg CDLl? ii)
Darparwch fanylion y costau trydydd parti sy'n
gysylltiedig â'r CDLl (Ymgynghorwyr etc)? iii)
Mae nifer y tai newydd a amlinellwyd yn yr
adroddiad yn ymddangos yn wahanol i'r niferoedd y cyfeirir atynt gan yr
Arolygiaeth Gynllunio. Faint o
dai newydd a ragwelir yn y CDLl? |
|
Enwebu'r Darpar Arglwydd Faer a'r Darpar Ddirprwy Arglwydd Faer ar gyfer 2019-2020. PDF 161 KB Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn ceisio
enwebu Darpar Arglwydd Faer a Darpar Ddirprwy Arglwydd Faer 2018-2019 er mwyn
caniatáu i drefniadau digwyddiad Urddo'r Arglwydd Faer a'r Dirprwy Arglwydd
Faer fynd yn eu blaen. Nododd fod y
Cynghorydd P Lloyd i'w ystyried ar gyfer rôl y Dirprwy Arglwydd Faer ar gyfer
2019-2020 yn unol â'r Rhestr Hynafedd; fodd bynnag, gofynnodd i'w gyfnod yn y
swydd gael ei ohirio am hyd amser amhenodol. Arweiniodd y
gohiriad hyn at sefyllfa lle'r oedd pedwar cynghorydd wedi cyflawni'r un hyd o
wasanaeth â'i gilydd. Yn unol â
phrotocol yr Arglwydd Faer a'r Dirprwy Arglwydd Faer, dewisodd Pennaeth y
Gwasanaethau Democrataidd ar hap ar 20 Medi 2018 er mwyn pennu trefn cyfnod yn
y swydd y pedwar cynghorydd. Dyma
ganlyniad yr hapddewis: y Cynghorwyr M C
Child, M H Jones, A M Day ac L G Thomas. Penderfynwyd: 1) Enwebu'r
Cynghorydd Peter M Black yn Ddarpar Arglwydd Faer ar gyfer 2019-2020; 2) Enwebu'r
Cynghorydd Mark C Child yn Ddarpar Ddirprwy Arglwydd Faer ar gyfer 2019-2020. |
|
Adroddiad Blynyddol Craffu 2017-18 PDF 103 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu, y Cynghorydd M H Jones, Adroddiad Craffu
Blynyddol 2017-2018 er gwybodaeth. Mae'r
adroddiad yn amlinellu gwaith Pwyllgor y Rhaglen Graffu yn ystod 2017-2018. |
|
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 132 KB Cofnodion: 1)
‘Cwestiynau
Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd dau (2) 'Gwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd
Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion
ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Nid
oedd angen ymateb ysgrifenedig ar gyfer y cwestiynau atodol. 2) ‘Cwestiynau Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu
cyfer' Cyflwynwyd 5 'Cwestiwn Rhan B nad oes angen Cwestiynau
Atodol ar eu cyfer'. |
|
Hysbysiad o gynnig - Councillors P K Jones, M Sherwood, R C Stewart, C E Lloyd, J P Curtice, D W W Thomas, A S Lewis, K M Roberts, M B Lewis, L V Walton, W G Lewis, M C Child, R Francis-Davies. Dyfarnwyd statws
Tref Masnach Deg i Abertawe gan y Sefydliad Masnach Deg ym mis Rhagfyr yn 2004.
Yn 2008, Cymru oedd y wlad gyntaf i ennill statws Cenedl Masnach Deg. Eleni, sef deng
mlynedd ers i Gymru ennill statws Cenedl Masnach Deg, mae'r cyngor hwn wedi
penderfynu atgyfnerthu'i ymroddiad i egwyddorion a chynnyrch Masnach Deg. Mae'r
cyngor yn ymroddedig i roi datblygiad cynaliadwy ar waith fel y mynegwyd yn y
saith nod llesiant a'r pum ffordd o weithio, fel a amlinellir yn Neddf Llesiant
Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru. Mae'r nod llesiant ar gyfer 'Cymru
sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang', sy'n ymroddedig i wneud 'cyfraniad cadarnhaol
at les rhyngwladol' o berthnasedd arbennig. Mae statws Masnach Deg yn mynegi
ymroddiad y cyngor at gefnogi ffermwyr, tyfwyr, cynhyrchwyr a'u teuluoedd, yn
ariannol ac yn foesegol, mewn gwledydd incwm isel sy'n datblygu ac yn sicrhau
dyfodol sy'n ddichonadwy, yn gynaliadwy sy'n rhydd o ecsbloetio. Ar lefel
ymarferol, mae'r cyngor yn ymroddedig i chwilio am gynnyrch Masnach Deg, eu
defnyddio a'u darparu, lle bynnag y bo modd, yn ei ffreuturiau, ei gaffis a'i
ysgolion. Rydym yn annog siopau manwerthu yn Abertawe i ddilyn esiampl y
cyngor. Bydd y cyngor
hefyd yn sicrhau bod ganddo gynrychiolydd ar Fforwm Masnach Deg Abertawe, sef y
grŵp cymunedol dynodedig sy'n rheoli statws Masnach Deg Abertawe. Bydd y cyngor yn
gwneud yr hyn y gall i wella bywydau a chyfleoedd pobl ar draws y blaned ac mae
Masnach Deg yn gwneud cyfraniad pwysig at gyrraedd yr amcan hwn. Cofnodion: Cynigiwyd gan y
Cynghorydd P K Jones a'i eilio gan y Cynghorydd M Sherwood. “Dyfarnwyd statws Tref Masnach Deg i Abertawe gan y Sefydliad
Masnach Deg ym mis Rhagfyr yn 2004; yn 2008, Cymru oedd y wlad gyntaf i ennill
statws Cenedl Masnach Deg. Eleni, sef deng mlynedd ers i Gymru ennill statws Cenedl
Masnach Deg, mae'r cyngor hwn wedi penderfynu atgyfnerthu'i ymroddiad i
egwyddorion a chynnyrch Masnach Deg. Mae'r cyngor yn ymroddedig i roi datblygu
cynaliadwy ar waith fel a fynegir yn y saith nod llesiant a'r pum ffordd
o weithio, a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth
Cymru. Mae'r nod llesiant ar gyfer 'Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang',
sy'n ymroddedig i wneud 'cyfraniad cadarnhaol at les rhyngwladol' o berthnasedd
arbennig. Mae statws Masnach Deg yn mynegi ymroddiad y cyngor i gefnogi
ffermwyr, tyfwyr, cynhyrchwyr a'u teuluoedd, yn ariannol ac yn foesegol, mewn
gwledydd incwm isel sy'n datblygu ac i sicrhau dyfodol sy'n ddichonadwy, yn
gynaliadwy ac yn rhydd o ecsbloetio. Ar lefel ymarferol, mae'r cyngor yn ymroddedig i chwilio
am gynnyrch Masnach Deg, ei defnyddio a'i ddarparu, lle bynnag y bo modd, yn ei
ffreuturiau, ei gaffis a'i ysgolion. Rydym yn annog siopau manwerthu yn
Abertawe i ddilyn esiampl y cyngor. Bydd y cyngor hefyd yn sicrhau bod ganddo gynrychiolydd
ar Fforwm Masnach Deg Abertawe, sef y grŵp cymunedol dynodedig sy'n rheoli
statws Sir Masnach Deg Abertawe. Bydd y cyngor yn gwneud yr hyn y gall i wella bywydau a
chyfleoedd pobl ar draws y blaned ac mae Masnach Deg yn gwneud cyfraniad pwysig
at gyflawni'r amcan hwn.” Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r Rhybudd o Gynnig. |
|
Hysbysiad o gynnig - Councillors M C Child, A S Lewis, J P Curtice, R Francis-Davies, M B Lewis, L V Walton, E J King, C E Lloyd & K M Roberts. Morlyn Llanw Abertawe Mae'r cyngor hwn
wedi'i gythruddo gan benderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â chefnogi Morlyn
Llanw Abertawe er gwaethaf cefnogaeth ysgubol yn Abertawe a Chymru ac
argymhelliad clir adroddiad Hendry y llywodraeth ei hun. Mae'r cysyniad yn parhau
i fod yn brosiect dibynadwy a dichonadwy ar gyfer cynhyrchu ynni gwyrdd. Mae'r
prosiect ynni hwn yn cynnig dros 125 o flynyddoedd o ynni dibynadwy glân, gan
gychwyn diwydiant newydd i'r DU, a galluogi Cymru i gymryd cam sylweddol tuag
at fod yn genedl sy'n cynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy a dangos ein
hymrwymiad i feddwl tymor hir ar ynni o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r
Dyfodol. Mae'r penderfyniad
enbyd hwn yn dilyn penderfyniad i beidio â buddsoddi mewn trydaneiddio'r
rheilffordd i'r gorllewin o Gaerdydd ac yn dangos diffyg tegwch i bobl ac
economi de a gorllewin Cymru ac ystyriaeth ohonynt gan Lywodraeth y Ceidwadwyr
yn Llundain. Yn anaml y mae prosiect isadeiledd mor greadigol a beiddgar wedi
cael cymaint o gefnogaeth gan y cyhoedd ac mae gwrthod y cynnig o ganlyniad i
ddadleuon gwerth am arian anghywir neu hynod gyfyng yn ergyd i economi Abertawe
a'r rhanbarth. Dyma arwydd dybryd o ymagwedd Llywodraeth y Ceidwadwyr at
fuddsoddi yng Nghymru a'i haddewidion i gyflwyno arian o Lywodraeth y DU yn lle
arian Ewropeaidd pan fyddwn yn gadael yr UE yn 2019.
Mae'r cyngor hwn yn nodi bod
Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi methu unwaith eto â gwasanaethu Abertawe a
de-orllewin Cymru ac yn galw arno i sicrhau bod Cymru'n cael cyfran decach o
gyllid a buddsoddiad. Cofnodion: Cynigiwyd gan y
Cynghorydd M C Child a'i eilio gan y Cynghorydd A S Lewis. Morlyn Llanw Abertawe Mae'r cyngor hwn wedi'i gythruddo gan benderfyniad Llywodraeth y DU i
beidio â chefnogi Morlyn Llanw Abertawe er gwaethaf cefnogaeth ysgubol yn
Abertawe a Chymru ac argymhelliad clir adroddiad Hendry
y llywodraeth ei hun. Mae'r cysyniad yn
parhau i fod yn brosiect dibynadwy a dichonadwy ar gyfer cynhyrchu ynni
gwyrdd. Mae'r prosiect ynni hwn yn
cynnig dros 125 o flynyddoedd o ynni dibynadwy glân, gan gychwyn diwydiant
newydd i'r DU, a galluogi Cymru i gymryd cam sylweddol tuag at fod yn genedl
sy'n cynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy a dangos ein hymrwymiad i feddwl tymor
hir ar ynni o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'r penderfyniad enbyd hwn yn dilyn penderfyniad i beidio â buddsoddi
mewn trydaneiddio'r rheilffordd i'r gorllewin o
Gaerdydd ac yn dangos diffyg tegwch i bobl ac economi de a gorllewin Cymru ac
ystyriaeth ohonynt gan Lywodraeth y Ceidwadwyr yn Llundain. Yn anaml y mae prosiect isadeiledd mor greadigol
a beiddgar wedi cael cymaint o gefnogaeth gan y cyhoedd ac mae gwrthod y cynnig
o ganlyniad i ddadleuon gwerth am arian anghywir neu hynod gyfyng yn ergyd i
economi Abertawe a'r rhanbarth. Dyma
arwydd dybryd o ymagwedd Llywodraeth y Ceidwadwyr at fuddsoddi yng Nghymru a'i
haddewidion i gyflwyno arian o Lywodraeth y DU yn lle arian Ewropeaidd pan
fyddwn yn gadael yr UE yn 2019. 1.
Mae'r cyngor hwn wedi
penderfynu parhau i gefnogi cyflwyno Cynllun Ynni Llanwol ym Mae Abertawe. 2.
Rydym yn diolch i Lywodraeth
Cymru ac yn benodol i Brif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
am eu cefnogaeth barhaus ar gyfer cynnig cefnogaeth mewn egwyddor i fodel
ariannu newydd, Dinas-ranbarth Bae Abertawe, sydd wedi cymeradwyo gweithgarwch
i greu model busnes newydd, a phobl Cymru am eu cefnogaeth barhaus ac ysgubol. 3.
Rydym yn cefnogi
penderfyniad yr Arweinydd i gynnull grŵp llywio sy'n dod â phartïon ynghyd
i archwilio modelau busnes amgen a allai alluogi Morlyn Llanw'r Bae i gael ei
gyflwyno'n wahanol a heb gyfranogaeth Llywodraeth y DU o bosib. Rydym yn galw ar bawb sydd â diddordeb mewn
buddsoddiad tymor hir mewn ynni heb garbon, technolegau newydd a ffyniant
Abertawe a rhanbarth de-orllewin Cymru yn y dyfodol i barhau i weithio i roi
cynllun ar waith. Mae'r cyngor hwn yn nodi bod
Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi methu unwaith eto â gwasanaethu Abertawe a
de-orllewin Cymru ac yn galw arno i sicrhau bod Cymru'n cael cyfran decach o
gyllid a buddsoddiad.” Penderfynwyd: 1) Cymeradwyo'r Rhybudd o Gynnig fel y'i diwygiwyd. |