Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol
a rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion
eu cael ag eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o gysylltiadau
personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y
cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan. Nid oedd angen dychwelyd ffurflenni
os nad oedd unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y
dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol: 1) Datganodd y
Cynghorwyr M Durke, C R Evans, V M Evans, R Francis-Davies, L S Gibbard, T J
Hennegan, C A Holley, O G James, E T Kirchner, A S
Lewis, M B Lewis, R D Lewis, P Lloyd, R C Stewart, M Sherwood, D G Sullivan, D
W W Thomas, M Thomas ac T M White gysylltiad personol
â Chofnod Rhif 59 “Datganiad o Gyfrifon 2017-2018”. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfynwyd
cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod
cywir: 1)
Cyfarfod Cyffredin o'r Cyngor
a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2018; 2)
Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor a
gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2018; 3)
Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor a
gynhaliwyd ar 21 Awst 2018. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion
ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r
cyngor. |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Cydymdeimladau a)
Yr Henadur Anrhydeddus, y
Cyn-Arglwydd Faer a'r Cyn-gynghorydd
Charles Thomas Mynegodd yr Aelod
Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar yr Henadur
Anrhydeddus, y Cyn-Arglwydd Faer a'r Cyn-gynghorydd Charles Thomas. Bu'r
Cyn-gynghorydd Thomas yn gwasanaethu Ward Etholiadol St Thomas o 1965 i 1989.
Roedd y Cyn-gynghorydd Thomas hefyd yn Gyn-Arglwydd Faer o 1983 i 1984 ac yn
Ddirprwy Arweinydd y Cyngor. Sefwch fel arwydd o
gydymdeimlad a pharch. 2)
Llongyfarchiadau i David
Smith Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol yr athletwr o Abertawe, David Smith, a
enillodd fedal aur BC1 unigol ym Mhencampwriaethau Boccia'r Byd yn Lerpwl yn ddiweddar. Mae'r teitl hwn wedi
ychwanegu at ei lwyddiannau eraill sef medal aur tîm yn y gemau Paralympaidd yn
Beijing, medal arian unigol a medal tîm efydd yn Llundain yn 2012 a medal aur
unigol yn Rio yn 2016. Mae David
wedi sefydlu clwb Boccia lleol yn yr LC. 3)
Y Lluoedd Arfog - Gwobr
Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn Dywedodd yr Aelod
Llywyddol ei fod yn dda gweld bod ymdrechion y cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog
wedi'u cydnabod gyda Dyfarniad Aur dan Gynllun Cydnabod Cyflogwyr y
Weinyddiaeth Amddiffyn. Abertawe yw'r unig gyngor yng Nghymru sydd wedi derbyn
y wobr hon a drefnir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Llongyfarchodd bawb a fu'n
rhan o hyn. 4)
Gwobr Ffordd Ddosbarthu'r
Morfa Roedd yr Aelod
Llywyddol yn falch iawn o gyhoeddi y dyfarnwyd y wobr 'Gwerth' nodedig i'r
awdurdod ym mis Gorffennaf 2018 gan Ragoriaeth Adeiladu Cymru ar gyfer prosiect Ffordd Ddosbarthu'r
Morfa. Caiff y gwobrau hyn eu cydnabod
ar draws amgylchedd adeiledig Cymru fel y safon bennaf ar gyfer arfer gorau yng
Nghymru. Cyflwynir y wobr hon
i'r prosiect sy'n darparu tystiolaeth ei fod o'r gwerth mwyaf i berchnogion a
defnyddwyr fel prif ysgogydd drwy gydol y prosiect. Gwnaeth y panel beirniadu sylwadau ar y model
cyflwyno cymhleth a wnaeth y defnydd gorau o gyllid o'r sectorau preifat a
chyhoeddus i gyflwyno prosiect sy'n parhau i weithredu fel catalydd ar gyfer
adfywio yn yr ardal. Roeddent hefyd wedi
cyfeirio at y ffordd yr oedd y prosiect wedi parchu cyd-destun hanesyddol
pwysig y safle, wrth annog datblygu cynaliadwy ac isadeiledd teithio llesol.
Roedd y prosiect yn dystiolaeth o'r rôl hanfodol y mae awdurdodau lleol yn
parhau i'w chwarae wrth gefnogi datblygu ac adfywio. Penodwyd nifer o
gontractwyr lleol i adeiladu'r cynllun dros raglen gyllid fesul cam. Roedd y rhain yn cefnogi cyfleoedd
hyfforddiant drwy gydol y broses dylunio ac adeiladu, yn rhoi cefnogaeth
addysgol i ysgolion lleol ac yn rhoi cyfraniadau ffisegol ac ariannol i'r
gymuned leol a grwpiau hanesyddol. Dywedodd y beirniaid,
“anaml y gall prosiectau o'r fath ddangos tystiolaeth sy'n cefnogi fforymau
trafnidiaeth lleol a rhanbarthol, yn ogystal â datblygwyr preifat, ecolegwyr a
grwpiau cadwraeth hanesyddol. Cafodd yr
her hon ei goresgyn gan gynllun Ffordd Ddosbarthu'r Morfa”. Mae'r prosiect yn un o
chwe phrosiect rhanbarthol sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y Gwobrau
Rhagoriaeth Adeiladu cenedlaethol a gynhelir ym mis Tachwedd, lle caiff yr
enillydd ei wahodd i dderbyniad arbennig yn y Senedd yn Llundain i ddangos eu
cyflawniad ac i gynrychioli arfer gorau ar gyfer y diwydiant adeiladu. Y
prosiect yw'r unig gynllun dan arweiniad awdurdod lleol i gael ei wahodd i'r
gwobrau cenedlaethol ac mae'n amlygu'r sgiliau arbenigol a'r ymrwymiad i
gefnogi'r gymuned leol o staff yn y cyngor. Bydd Mark Thomas, Arweinydd Grŵp Rheoli'r Rhwydwaith Traffig a
Phriffyrdd yn bresennol i dderbyn y wobr. 5) Gwobrau
APSE (Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus) Dywedodd yr Aelod
Llywyddol fod yr awdurdod wedi cael cryn lwyddiant yng ngwobrau APSE eleni,
gyda'r Gwasanaeth Adeiladau Corfforaethol yn ennill gwobr Menter Orau'r
Gweithlu. Mae rhaglen hyfforddiant a
datblygiad sylweddol wedi'i chynnal yn y gwasanaeth i sicrhau bod digon o staff
â sgiliau ar gyfer y tîm yn y dyfodol.
Mae ennill y wobr hon mewn cystadleuaeth mor nodedig sy'n agored i'r
holl DU yn gyflawniad gwych ac yn un y dylai'r cyngor fod yn falch ohono. Yn ogystal, cyrhaeddodd
yr awdurdod y rhestr fer mewn tri chategori arall sef Gwasanaethau Adeiladu ac
Adeiladau; Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach a Gwasanaethau Rheoli a'r
Fenter Arloesedd a Rheoli Galw Orau. Aeth ati i longyfarch a diolch i'r holl staff
a fu'n rhan o hyn. 6)
Gwobrau Estyn Llongyfarchodd yr Aelod
Llywyddol ysgolion cynradd Craigfelen a Chwmrhydyceirw ac ysgolion cyfun Llandeilo Ferwallt a'r
Olchfa am gael eu gwahodd i fynd i noson wobrwyo flynyddol Estyn oherwydd eu
harolygiadau ysgol rhagorol. Bydd
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, yn cyflwyno tystysgrif
wedi'i fframio i'r ysgolion i gydnabod y gwaith caled a'r ymroddiad sydd wrth
wraidd eu llwyddiant. Estyn yw Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. 7) Cyfarfod Seremonïol o'r Cyngor - 4 Hydref
2018 Atgoffodd yr Aelod
Llywyddol yr holl gynghorwyr am y cyfarfod seremonïol o'r cyngor a drefnwyd ar
gyfer 4 Hydref 21018 am 16:00 i gyflwyno Rhyddid er Anrhydedd i Syr Karl Jenkins CBE B.Mus FRAM LRAM
yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas.
Fe'i dilynir gan de prynhawn yn Ystafell Dderbyn yr Arglwydd Faer. Anfonwch eich ymatebion
at Joanne Jones, fel y gellir gorffen y trefniadau arlwyo erbyn 28 Medi 2018
fan bellaf. 8)
Newidiadau/cywiriadau i
wŷs y cyngor a)
Eitem 15 Adroddiad
Blynyddol Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd 2017-2018 (25 Mai 2017 - 23 Mai
2018) Tudalen 148. Dylid diwygio'r
dyddiadau y cyfeiriwyd atynt yn y rhan Diben o'r blwch crynodeb i ddarllen
"25 Mai 2017 i 23 Mai 2018”. 9)
Llongyfarchiadau i'r
Cynghorydd S Pritchard Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol y Cynghorydd S Pritchard yn dilyn ei briodas
yn ddiweddar. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Cyd-bwyllgor
Dinas-ranbarth Bae Abertawe wedi cynnal ei gyfarfod cyntaf. 2) Bwrdd Strategaeth Economaidd Bargen Ddinesig Bae Abertawe Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Bwrdd Strategaeth
Economaidd Bargen Ddinesig Bae Abertawe, wedi'i gadeirio gan Ed Tomp, wedi cynnal ei gyfarfod cyntaf. 3) Tasglu'r Morlyn Llanw Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Tasglu'r Morlyn
Llanw wedi cwrdd ac yn trafod cynlluniau newydd Pwerau'r Morlyn Llanw. Y nod oedd mynd yn ôl i Lywodraeth Cymru
erbyn mis Mawrth 2019. 4) Cyrff Llywodraethu Ysgolion a
Pholisïau Gwisg Ysgol Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi cymryd y
cam anghyffredin yn ddiweddar mewn perthynas â Chorff Llywodraethu Ysgol a'i
Bolisi Gwisg Ysgol. Dywedodd er ei fod yn parchu penderfyniad y Corff hwnnw, ei
fod yn pryderu ynghylch yr amserlenni sy'n
gysylltiedig â'r contract a faint o wisgoedd sydd ar gael. Dywedodd eto ei fod yn cefnogi ysgolion ond
gofynnodd eu bod yn ystyried effaith y fath bolisi ar deuluoedd. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran
agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd cwestiwn gan aelod o'r cyhoedd ynghylch
Cofnod 48, "Adroddiad Blynyddol 2017-2018 – Cyfarwyddwr y Gwasanaethau
Cymdeithasol". Ymatebodd Aelod perthnasol
y Cabinet yn briodol. Nid oedd unrhyw
gwestiwn yr oedd angen ymateb ysgrifenedig ar ei gyfer. |
|
Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim. Cofnodion: Ni dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus. |
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2017-2018. PDF 141 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, Jill Burgess, Adroddiad
Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2017/2018, er gwybodaeth. Roedd yr
adroddiad yn nodi gwaith y Pwyllgor Safonau o 25 Mai 2017 i 23 Mai 2018. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd
Geraint Norman, Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) "Adroddiad Archwiliad o
Ddatganiadau Ariannol 2017-2018 Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer Dinas a Sir
Abertawe". Ymatebodd Geraint Norman (SAC) i gwestiynau technegol eu
natur ac ymatebodd Ben Smith (Swyddog Adran 151) i gwestiynau'n ymwneud â
sefyllfa Dinas a Sir Abertawe. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo a llofnodi'r Llythyr Sylwadau Terfynol; 2)
Cymeradwyo'r datganiad. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd
Geraint Norman, Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) "Adroddiad Archwiliad o
Ddatganiadau Ariannol 2017-2018 Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer Dinas a Sir
Abertawe". Ymatebodd Geraint Norman (SAC) i gwestiynau technegol eu
natur ac ymatebodd Ben Smith (Swyddog Adran 151) i gwestiynau'n ymwneud â
sefyllfa Dinas a Sir Abertawe. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo a llofnodi'r Llythyr Sylwadau Terfynol; 2)
Cymeradwyo'r datganiad. |
|
Adroddiad Blynyddol 2017/18- Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol. PDF 36 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol werthusiad Cyfarwyddwr
y Gwasanaethau Cymdeithasol o daith wella 2017-2018 a pha mor dda y mae'r
cyngor yn bodloni gofynion statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant 2018 a'r blaenoriaethau gwella ar gyfer 2018-2019. Mae'r adroddiad hefyd yn ystyried
perfformiad yn erbyn canlyniadau cenedlaethol a bennwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r
Dyfodol (Cymru) 2015. Penderfynwyd: 1)
Derbyn Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau
Cymdeithasol 2017/2018. |
|
Datganiad o Gyfrifon 2017/18. PDF 99 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog 151 a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Datganiad o Gyfrifon 2017-2018
ar 30 Medi 2018 neu cyn hynny. Penderfynwyd cymeradwyo Datganiad o
Gyfrifon 2017-2018 fel y'i nodir yn Atodiad A yr adroddiad. |
|
Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2017/18. PDF 285 KB Cofnodion: Cyflwynodd
y Swyddog 151 adroddiad gwybodaeth a oedd yn manylu ar weithgareddau Rheoli
Trysorlys y cyngor yn ystod 2017-2018 ac yn cymharu perfformiad gwirioneddol yn
erbyn y strategaeth a luniwyd ar ddechrau'r flwyddyn. Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd P M
Black "Beth yw natur y benthyciad gan Lywodraeth Cymru y cyfeiriwyd ato ar
dudalen 132 dan y Portffolio Dyled?" Dywedodd
y Swyddog Adran 151 y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. |
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd 25 Mai 2017 - 23 Mai 2018. PDF 151 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Cadeirydd y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad gwybodaeth a oedd yn darparu
Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer y cyfnod o 25 Mai 2017
i 23 Mai 2018. Mae'r adroddiad yn
amlinellu gwaith y pwyllgor yn ystod y cyfnod hwnnw. Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Estyn cyfnod swydd ar gyfer Aelod Annibynnol (Cyfetholedig) y Pwyllgor Safonau. PDF 97 KB Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth
y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn ceisio cytundeb i ailbenodi Jill Burgess yn aelod annibynnol (cyfetholedig) o'r
Pwyllgor Safonau am gyfnod o 4 blynedd arall. Penderfynwyd: 1)
Ailbenodi Jill Burgess yn aelod
annibynnol (cyfetholedig) o'r Pwyllgor Safonau am un cyfnod olynol arall yn y
swydd; 2)
Bydd ei chyfnod yn y swydd yn dod i ben ar 18 Hydref
2022. |
|
Aelodaeth Pwyllgorau. PDF 96 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth y cyngor ar gyfer yr enwebiadau/diwygiadau i aelodaeth cyrff y
cyngor. Cyfeiriodd at yr
adroddiad gan nodi bod Arweinydd y Cyngor hefyd wedi gwneud y newidiadau
canlynol i gyrff allanol yr awdurdod: 1)
Panel Mabwysiadu Bae'r
Gorllewin Tynnu enw'r Cynghorydd M C
Child. Ychwanegu enw'r Cynghorydd E J
King. Penderfynwyd y dylid diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn: 1)
Pwyllgor Archwilio Dileu'r lle llafur gwag Ychwanegu enw'r
Cynghorydd E T Kirchner. 2)
Pwyllgor y Rhaglen Graffu Tynnu enw'r Cynghorydd B
Hopkins. Ychwanegu enw'r Cynghorydd S
Pritchard. |
|
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 137 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 1)
‘Cwestiynau
Atodol’ Rhan A” Cyflwynwyd saith (7) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au)
perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs
y Cyngor. Dangosir
y cwestiwn(cwestiynau) atodol hwnnw(hynny) yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arno(arnynt)
isod: Cwestiwn 2 Gofynnodd
y Cynghorydd A M Day i'r Aelod perthnasol o'r Cabinet am restr o aelodaeth
bresennol y bwrdd NEET. Dywedodd
Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, gan fod nifer o swyddogion
wedi gadael yr awdurdod, ei bod yn y broses o fynd i'r afael â'i aelodaeth ac y
byddai'n cylchredeg yr aelodaeth newydd unwaith y byddai ar gael. Cwestiwn 5 Gofynnodd
y Cynghorydd Holley i'r aelod perthnasol o'r Cabinet
dan ba sail oedd Freedom Leisure yn masnachu h.y.
oedd e'n Ymddiriedolaeth Elusennol, yn
Ymddiriedolaeth neu'n Gwmni Masnachu. Nododd
Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth y byddai ymateb
ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. 2)
‘Cwestiynau nad oes angen
Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B Cyflwynwyd 5 'Cwestiwn Rhan B nad oes angen Cwestiynau
Atodol ar eu cyfer'. |