Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â darpariaethau'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|
Ethol Arglwydd Faer ar gyfer y Flwyddyn Dinesig 2018-2019. Cofnodion: Penderfynwyd ar gynnig y Cynghorydd J E Burtonshow,
wedi'i eilio gan y Cynghorydd M Gordon, y dylid ethol y Cynghorydd David
Phillips yn Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe ar gyfer Blwyddyn Ddinesig
2018-2019. Arwisgwyd y Cynghorydd David Phillips â chadwyn swyddogol yr Arglwydd Faer. Arwisgwyd y Cynghorydd Sybil Crouch â chadwyn swyddogol yr Arglwydd Faeres. Yna llofnododd yr Arglwydd Faer ddatganiad yn derbyn y swydd. Bu'r Cynghorydd D Phillips (yr Arglwydd Faer) yn llywyddu |
|
Ethol Dirprwy Arglwydd Faer ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2018-2019. Cofnodion: Penderfynwyd ar gynnig y Cynghorydd C A Holley, wedi'i eilio gan y
Cynghorydd L G Thomas, y dylid ethol y Cynghorydd Peter Black yn Ddirprwy
Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2018-2019. Arwisgwyd y Cynghorydd Peter Black â chadwyn swyddogol y Dirprwy Arglwydd
Faer. Arwisgwyd Angela Black â chadwyn swyddogol y Dirprwy Arglwydd Faeres. Yna llofnododd y Dirprwy Arglwydd Faer ddatganiad yn derbyn y swydd. |
|
Anerchiad Agoriadol Yr Arglwydd Faer. Cofnodion: Diolchodd yr Arglwydd Faer i'r cyngor am ei ethol a llongyfarch y
Cynghorydd Phil Downing a Lilian Downing ar eu cyfnod
llwyddiannus yn swyddi'r Arglwydd Faer a'r Arglwydd Faeres. Yna anerchodd y cyngor a diolch iddynt am ei
benodi, gan gloi drwy gyhoeddi mai elusennau'r Arglwydd Faer ar gyfer ei
flwyddyn yn y swydd fyddai Canolfan Ganser Maggie's
Abertawe, Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg Abertawe, Banc Bwyd Eastside a Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc y YMCA. |
|
Arglwydd Faer Sy'n Ymddeol. Cofnodion: Penderfynwyd ar gynnig y Cynghorydd R C Stewart, wedi'i
eilio gan y Cynghorydd R V Smith, y dylai'r cyngor ddiolch i'r Cynghorydd Phil
Downing am ei gyfnod llwyddiannus fel Arglwydd Faer ac i Lilian
Downing fel Arglwydd Faeres. Cyflwynodd yr
Arglwydd Faer fedaliynau ar ran y cyngor i'r Arglwydd Faer a'r Arglwydd Faeres
sy'n ymddeol. Mewn ymateb i'r
diolchiadau, diolchodd y Cynghorydd Downing i'r cyngor am ei gefnogaeth yn
ystod ei gyfnod yn y swydd. Myfyriodd
hefyd ar ei ddyletswyddau niferus yn ystod ei gyfnod fel Arglwydd Faer. |