Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol,
Democrataidd a Deallusrwydd Busnes gyngor ynghylch y buddiannau personol a
rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael mewn eitemau ar yr
agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
gynghorwyr a swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau o
fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w
ddatgan. Nid oes angen dychwelyd
ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan.
Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar
lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cyflwyno Teitl Henadur Anrhydeddus Yn Unol ag Adran 249 Deddf Llywodraeth Leol 1972 - Cyn-gynghorwyr R G Davies, J Newbury, I M Richard, R J Stanton & C Thomas. Cofnodion: Datganodd yr Arglwydd
Faer fod y Cyngor wedi penderfynu mewn egwyddor i roi teitl Henadur Anrhydeddus
i'r cyn-gynghorwyr canlynol, R G Davies, J Newbury, I M Richard, R J Stanton a
C Thomas er mwyn cydnabod eu gwasanaeth hir ac amlwg i Ddinas a Sir Abertawe
a'r awdurdodau blaenorol. Daw'r teitl o'r hen deitl Saesnig "Henadur", sy'n golygu
"dyn hŷn" yn llythrennol, ac fe'i defnyddiwyd gan y Prif
Foneddigion a oedd yn llywyddu'r siroedd.
Nid yw teitl Henadur Anrhydeddus yn wleidyddol. Defnyddir y teitl yn Ninas a Sir Abertawe fel gwobr i unigolion er mwyn
cydnabod eu gwasanaethau hir ac amlwg i'r Cyngor, ar yr amod bod y meini prawf
wedi'u cyflawni. R G Davies Roedd y
cyn-gynghorydd R G Davies yn gwasanaethu cymuned Glandŵr ac roedd yn
Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe o 1994 i 1995. Roedd ei gyfnodau o wasanaeth
yn cynnwys: Ø Cyngor
Dinas Abertawe. 12 Rhagfyr 1974 i 31
Mawrth 1996. J. Newbury Roedd y cyn-gynghorydd J Newbury'n arfer gwasanaethu cymuned Dynfant. Roedd yn Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe o
2015 i 2016. Roedd ei gyfnodau o
wasanaethu'n cynnwys: Ø Cyngor Dinas Abertawe.
7 Mai 1987 i 31 Mawrth 1996; Ø Dinas a
Sir Abertawe. 4 Mai 1995 i 4 Mai 2017. I M Richard Roedd y cyn-gynghorydd I M Richards yn gwasanaethu cymuned Mawr. Roedd yn Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe o
2011 i 2012. Roedd ei gyfnodau o wasanaethu'n cynnwys: Ø Cyngor Bwrdeistref Dyffryn Lliw. 14 Tachwedd 1985 i 31 Mawrth 1996; Ø Dinas a
Sir Abertawe. 4 Mai 1995 i 4 Mai 2017. R J Stanton Roedd y cyn-gynghorydd R J Stanton yn gwasanaethu cymuned Sgeti. Hi oedd Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe o
2013 i 2014. Roedd ei chyfnodau o
wasanaethu'n cynnwys: Ø Cyngor Dinas Abertawe.
5 Mai 1988 i 31 Mawrth 1996; Ø Cyngor
Sir Gorllewin Morgannwg. 4 Mai 1989 i 31
Mawrth 1996. Ø Dinas a
Sir Abertawe. 4 Mai 1995 i 4 Mai 2017. C. Thomas Roedd y cyn-gynghorydd C Thomas yn gwasanaethu cymuned Mynydd-bach. Hi oedd Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe o
2014 i 2015. Roedd ei chyfnodau o
wasanaethu'n cynnwys: Ø Cyngor Dinas Abertawe.
23 Mai 1990 i 31 Mawrth 1996; Ø Dinas a
Sir Abertawe. 4 Mai 1995 i 4 Mai 2017. Talodd arweinwyr pob un o'r Grwpiau Gwleidyddol a rhai o'r Cynghorwyr
eraill deyrnged i wasanaeth hir ac amlwg y cyn-gynghorwyr hyn, gan ddatgan eu
bod wedi gwasanaethu am dros 136 o flynyddoedd. PENDERFYNWYD yn unol
ag Adran 249 Deddf Llywodraeth Leol 1972, roi teitl Henadur Anrhydeddus i'r
cyn-gynghorwyr R G Davies, J Newbury, I M Richard, R J Stanton a C Thomas er
mwyn cydnabod eu gwasanaeth hir ac amlwg i Ddinas a Sir Abertawe a'r awdurdodau
blaenorol. |