Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Rhif | Eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd
Busnes gyngor ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai fod
gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Deallusrwydd Busnes
gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datganiadau o
gysylltiadau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y
cynghorydd/swyddog gyswllt i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os
nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y
dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir
Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol: (1) Datganodd y
Cynghorwyr M Durke, R Francis-Davies, K M Griffiths, T J Hennegan, L James, J W
Jones, M H Jones, W G Lewis, R D Lewis, D G Sullivan, W G Thomas a T M White
gysylltiad personol â Chofnod 179 “trefniadau derbyn 2019/2020”; (2) Datganodd y Cynghorwyr J P
Curtice, C R Doyle, M Durke, D H Helliwell, C A Holley, S J Gallagher, J A Hale, R D Lewis, H M
Morris, A Pugh a T M White gysylltiad personol â Chofnod 180, “Polisi Tâl
2018/2019”; (3) Datganodd S Caulkin, T Meredith,
M Nichols, P Roberts ac S Woon gysylltiad personol a rhagfarnol yng Nghofnod
180, “Polisi Tâl 2018/2019”, gan adael cyn y drafodaeth. (4) Datganodd G Borsden a D Yeates
gysylltiad personol a rhagfarnol yng Nghofnod 180, “Polisi Tâl 2018/2019” ond
roeddent wedi aros i gofnodi'r penderfyniad/cyflwyno'r adroddiad. |
|||||||
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd
cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod
cywir: 1) Cyfarfod cyffredin y cyngor
a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2018. 2) Cyfarfod cyffredin y cyngor
a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2018. |
|||||||
Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor - Dim. Cofnodion: Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd
Busnes nad oedd unrhyw gwestiynau a oedd yn gofyn am ymatebion o gyfarfod
cyffredin diwethaf y cyngor. |
|||||||
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Cydymdeimladau a)
Ieuan Jones, gŵr y Cynghorydd Susan M Jones Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth
gyfeirio at farwolaeth ddiweddar Ieuan Jones, gŵr y Cynghorydd Susan M
Jones. Datganodd fod y Cynghorydd Susan Jones wedi diolch
i'r holl gynghorwyr am eu cefnogaeth, eu cardiau a'u blodau yn ystod y cyfnod
anodd hwn. b)
Y cyn-gynghorydd Nick J Tregoning Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth
gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y cyn-gynghorydd Nick Tregoning. Bu'r
cyn-gynghorydd Tregoning yn gwasanaethu Ward Etholiadol Dynfant o 6 Mai 1999 i
3 Mai 2012. Roedd y cyn-gynghorydd Tregoning yn gyn-aelod y Cabinet dros y
Gwasanaethau Cymdeithasol ac yn gyn-aelod llywyddol. Talodd P M Black, C A Holly, M C Child a P R
Hood-Williams i gyd deyrnged i waith Nick a'i ymrwymiad i'w rôl fel cynghorydd
ac eiriolwr dros y cyhoedd. c)
Cyn-brif weithredwr a Chyfarwyddwr Cyllid
Cyngor Bwrdeistref Dyffryn Lliw - George Sambrook Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at
farwolaeth ddiweddar cyn-brif weithredwr a Chyfarwyddwr Cyllid Cyngor
Bwrdeistref Dyffryn Lliw, George Sambrook. Safodd pawb a oedd yn bresennol mewn distawrwydd fel arwydd o
gydymdeimlad a pharch. 2)
Gwobrau'r
Frenhines Roedd yr Aelod Llywyddol yn falch o gyhoeddi bod
Dinas Noddfa Abertawe wedi ennill Gwobr y Frenhines am Wasanaethau Gwirfoddol.
Cyflwynwyd y wobr gan Iarlles Wessex ar 19 Mawrth
2018. 3)
Gwobr yr Uchel-siryf,
Matthew McLaughlin (Dinky)
o Ward y Cocyd Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Matthew McLaughlin (Dinky) o Ward y Cocyd wedi bod yn gwirfoddoli ers ei fod yn 9 oed ac mae'n
dal i wneud hynny ac yntau'n 21 oed. Mae ef wedi
gwirfoddoli yn y Fferm Gymunedol, Tŷ Cymunedol Fforest-fach a The Roots Foundation, lle mae'n
gwneud cyfraniad anferth gyda'i ymagwedd anfarnol at
y bobl ifanc. Roedd y Cynghorydd Wendy Lewis wedi enwebu Matthew
McLaughlin ar gyfer Gwobr yr Uchel-siryf ac roedd yn
ddigon ffodus i'w hennill am ei waith gwirfoddoli. Ar ran y cyngor, diolchodd
yr Aelod Llywyddol i Matthew am ei waith gwirfoddol a'i longyfarch am ennill
Gwobr yr Uchel-siryf. 4)
Newidiadau/cywiriadau i
wŷs y cyngor a)
Eitem 9: "trefniadau derbyn 2019/2020" Diwygiad i'r frawddeg olaf ym Mharagraff 5 ar
dudalen 23 i ddarllen, "Roedd Fforwm
Derbyniadau wedi'i drefnu ond nis cynhaliwyd gan nad oedd gan y cyfarfod
gworwm, felly ni wnaed unrhyw argymhellion ar drefniadau derbyn
2019-2020." b)
Eitem 10: "Polisi Tâl 2018/2019" Roedd fersiwn ddiwygiedig o'r adroddiad a
diweddariad o baragraff 4.6.3 wedi'u dosbarthu. Gyda golwg ar gyflwyno'r adroddiad a chofnodi'r
penderfyniad, bydd Deb Yeates, Adnoddau Dynol, a
Gareth Borsden, Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd, yn aros yn ystod y
drafodaeth. |
|||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1) Gwe-ddarlledu ac e-bleidleisio Cyfeiriodd yr Arweinydd at y cynigion gan Lywodraeth Cymru sy'n ymwneud â'r
uchod, gan nodi bod swyddogion eisoes yn ymdrin â'r mater yn fewnol gyda golwg
ar dreialu'r system newydd mewn cyfarfodydd pwyllgorau a'r Cabinet yn y misoedd
i dod cyn eu cyflwyno yng nghyfarfodydd y cyngor. 2) Y Fargen Ddinesig Cyfeiriodd yr Arweinydd at y ffaith bod blwyddyn wedi mynd heibio ers
llofnodi'r Fargen Ddinesig. |
|||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac
ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd cwestiwn gan aelod o'r cyhoedd. Ymatebodd yr arweinydd yn unol â
hyn. Nid oedd y cwestiwn yn gofyn am ymateb ysgrifenedig. |
|||||||
Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim. Cofnodion: Ni dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus. |
|||||||
Trefniadau Derbyn 2019/2020. PDF 124 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad
gan Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes a oedd yn ceisio
penderfynu ar y trefniadau derbyn ar gyfer ysgolion a gynhelir yn ystod
blwyddyn academaidd 2019-2020. Amlinellwyd y
diwygiad i baragraff 5, tudalen 23. Penderfynwyd y dylid:
|
|||||||
Polisi Tâl 2018/2019. PDF 96 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan Arweinydd y Tîm Gweithrediadau AD a oedd yn ceisio cymeradwyaeth
am Bolisi Tâl 2018-19. Roedd fersiwn
ddiwygiedig o'r polisi a diweddariad o baragraff 4.6.3, "Cyflog Byw",
wedi'u dosbarthu. Penderfynwyd y dylid: 1) Cymeradwyo a mabwysiadu Polisi Tâl
2018-2019. |
|||||||
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 68 KB Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd saith (7) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar
ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Rhestrir y cwestiynau hynny a oedd yn gofyn am ymateb ysgrifenedig isod: Cwestiwn 4 – gofynnodd y Cynghorydd C A Holley: 1.
Roedd yr eitemau canlynol yn
yr adolygiad comisiynu a gyflwynwyd i'r Cabinet ar 15 Chwefror 2018: Mangreoedd
£1,090,718, cyflenwadau a gwasanaethau £1,042,846 a gorbenion gwerth £291,416 -
a allech esbonio'r hyn roedd yr eitemau hyn yn ei gynnwys? 2.
Y gwarged ar gyfer blwyddyn 2014/2015 oedd
£830,367 - a allech esbonio pam ail-fuddsoddwyd £68,000 yn unig yn y gwasanaeth
a ble aeth y gweddill? 3.
Niferoedd y staff ar gyfer y gwasanaethau
parcio a gorfodi oedd 51 ac mae hynny'n dal i fod yn wir; 4.
Yn y gyllideb bresennol, mae angen egluro dwy
eitem. Nodwyd £100,000 ar gyfer cynnydd o ran parcio ceir, er bod ffigur o
ychydig dan £700,000 ar gyfer gwarged y flwyddyn yng nghyllideb refeniw
2018/2019 y Gyfarwyddiaeth Lleoedd. A allech esbonio'r ffigur hwn? 5.
Mae'r gostyngiad o ran gwerthu tocynnau ar
gyfer meysydd parcio'r blaendraeth ar gyfer y blynyddoedd canlynol: 2014/15 –
169,201; 2015/16 - 148,115; 2016/17 - 125,423 er bod yr incwm wedi cynyddu o
£221,627 yn 2014/15; £222,546 yn 2015/16; £275,721 yn 2016/17. Felly, dros y tair blynedd, mae'r incwm wedi
cynyddu £54,094 ac mae'r tocynnau a werthir wedi gostwng 43,778 - a allech
ddweud wrthyf pa gamau gweithredu y byddwch yn eu cymryd i sicrhau y gwerthir
mwy o docynnau er mwyn i ni allu profi gwerth am arian i breswylwyr ac
ymwelwyr? (Sylwer: Rwy'n
deall bod y ffigurau yng nghwestiynau 1, 2 a 3 ar gyfer blwyddyn 2014/15) Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd y darperir ymateb
ysgrifenedig. Cwestiwn 5 – gofynnodd y Cynghorydd C A Holley: A ellir rhoi gwybod i'r aelodau lle mae'r 41 o safleoedd a grybwyllwyd yn
yr ymateb? Datganodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Gweithrediadau Busnes y
darperir ymateb ysgrifenedig, yn amodol ar ganiatâd cyfreithiol. 2) Ni
chyflwynwyd unrhyw 'Gwestiynau Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu
cyfer'. |