Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd
Busnes gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gall fod gan
gynghorwyr a swyddogion mewn eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a
rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes
unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd
cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn
ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir
Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr J P
Curtice, S J Gallagher, T J Hennegan, R D Lewis, G J Tanner, D W W Thomas a G D
Walker fudd personol yng nghofnod 126 "Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth
a Gorllewin Cymru - Cyflwyniad gan y Prif Swyddog Tân"; 2)
Datganodd y Cynghorwyr T J
Hennegan, P R Hood-Williams, L James, O G James, J W Jones, P Jones, M B Lewis,
D Phillips, S Pritchard, W G Thomas, L V Walton a T M White fudd personol yng
nghofnod 127 "Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2016/17". |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: PENDERFYNWYD
cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod
cywir: 1) Cyfarfod Cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 23
Tachwedd 2017. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes adroddiad
gwybodaeth yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng
nghyfarfod cyffredin diwethaf y cyngor. |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Cydymdeimladau a)
Yr Henadur
Anrhydeddus a'r cyn-gynghorydd, David I E Jones. Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol â thristwch at farwolaeth ddiweddar yr
Henadur Anrhydeddus a'r cyn-gynghorydd, D I E Jones. Dechreuodd yr Henadur Anrhydeddus Jones ei
wasanaeth llywodraeth leol gyda Chyngor Bwrdeistref Dacorum
ym mis Tachwedd 1980 cyn gwasanaethu yn ward etholiadol Penyrheol gyda hen
Gyngor Bwrdeistref Dyffryn Lliw rhwng mis Mai 1994 a 31 Mawrth 1996. Bu'n gwasanaethu ward etholiadol Penyrheol hefyd gyda Dinas a Sir Abertawe
rhwng 1 Ebrill 1996 a mis Mai 2012. Ef oedd yr Arglwydd Faer ar gyfer y cyfnod 1998-1999. Safodd pawb i ddangos cydymdeimlad a pharch. 2)
Gwobr Pluen Eira Cyfeiriodd yr Aelod
Llywyddol at lansiad Gwobr Pluen Eira'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD)
y llynedd lle bu'r awdurdod yn dathlu gwaith caled darparwyr gofal plant
cofrestredig a'r plant yn eu gofal drwy gyflwyno gwobrau mewn categorïau
amrywiol mewn perthynas â'r arddangosfeydd Nadolig roeddent wedi ymgymryd â
nhw. Nododd
ei fod yn bleser ganddo gyhoeddi bod y Wobr Pluen Eira wedi bod yn llwyddiant
eto eleni. 3)
Enillodd Ffordd Ddosbarthu'r Morfa wobr Prosiect Cynaladwyedd Amgylcheddol
y Flwyddyn yng Ngwobrau Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant Cymru 2017. Roedd yr Aelod
Llywyddol yn falch o gyhoeddi bod Ffordd Ddosbarthu'r Morfa wedi ennill gwobr
Prosiect Cynaladwyedd Amgylcheddol y Flwyddyn yng ngwobrau diweddar Sefydliad
Siartredig Priffyrdd a Chludiant Cymru 2017. Cefnogwyd y prosiect
gan Ddinas a Sir Abertawe, Llywodraeth Cymru a chyfraniadau gan ddatblygwyr
preifat. Cafodd y prosiect ei ddylunio a'i oruchwylio gan Ddinas a Sir Abertawe
gyda'r gwaith adeiladu fesul cam yn cael ei wneud gan Uned Adeiladu Priffyrdd
fewnol yr awdurdod, T. Richard Jones Ltd ac Alun Griffiths (Contractors) Ltd.
Mae'r mwyafrif o'r llwybrau yn olrhain hen gamlas Tawe, drwy'r ardal a
adnabyddir fel Gwaith Copr yr Hafod sy'n hanesyddol sensitif. Mae'r prosiect yn
dangos enghreifftiau o arfer gorau o ran dylunio mewn amgylchedd heriol ond, yn
ogystal â hynny, mae'r ffordd y cyflwynwyd y prosiect yn dangos y rôl allweddol
sydd gan awdurdodau lleol o ran defnyddio ymagwedd gyfannol at adfywio. Anaml y
gall prosiectau o'r fath ddangos tystiolaeth sy'n cefnogi fforymau trafnidiaeth
lleol a rhanbarthol, yn ogystal â datblygwyr preifat, ecolegwyr a grwpiau
cadwraeth hanesyddol. Cafodd yr her hon ei goresgyn gan gynllun Ffordd
Ddosbarthu'r Morfa. Roedd David Hughes ac
Alun Thomas yn bresennol i dderbyn y wobr. 4)
Gohebiaeth gan y Gweinidog
dros Blant a Gofal Cymdeithasol Nododd yr Aelod
Llywyddol fod y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol (AC Huw Irranca-Davies) wedi ysgrifennu i'r awdurdod yn ddiweddar
i'w longyfarch ar lwyddiant Partneriaeth y Tîm am y Teulu mewn Ysgolion yng
ngwobrau Gwasanaeth Cyhoeddus diweddar y Guardian. Nododd fod
"cydweithio a gweithio mewn partneriaeth yn effeithiol yn hanfodol i
gyflwyno cefnogaeth o safon i deuluoedd ac mae'r Tîm am y Teulu mewn Ysgolion
yn enghraifft dda iawn o sut gellir cyflawni hyn. Drwy weithio gydag ysgolion, mae'r prosiect
hwn yn galluogi mwy o deuluoedd i dderbyn y gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir a
fydd yn helpu i sicrhau lles cadarnhaol mwy o blant a'u galluogi i gyflawni eu
potensial." Llongyfarchiadau i bawb
sy'n rhan o'r cynllun. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Dathliadau'r
Nadolig a Mins-peis Diolchodd Arweinydd y
Cyngor i'r Aelod Llywyddol a'r Dirprwy Aelod Llywyddol am gynnal digwyddiad cyn
cyfarfod y cyngor (a thalu amdano eu hunain) i ddathlu'r Nadolig gyda mins-peis, rholiau selsig a phasteiod cartref. 2)
Digwyddiad 'Gyda'n Gilydd dros y Nadolig' - 12 Rhagfyr
2017 Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y digwyddiad
'Gyda'n Gilydd dros y Nadolig' a gynhaliwyd yn Neuadd Brangwyn
ar 12 Rhagfyr 2017. Nod y digwyddiad
oedd cynorthwyo pobl ddigartref, ddiamddiffyn ac unig yn y gymdeithas drwy
gynnal cinio a pharti Nadolig am ddim yn Abertawe. Aeth dros 200 o bobl i'r digwyddiad 'Gyda'n Gilydd
dros y Nadolig', a gynhaliwyd am yr ail flwyddyn yn olynol. Roedd y digwyddiad, a drefnwyd gan JR Events
and Catering gyda chefnogaeth gan yr awdurdod, yn
cynnwys cinio Nadolig dau gwrs am ddim, coeden Nadolig, clecars
Nadolig, cerddoriaeth fyw, cantorion, DJ a bwth tynnu lluniau. Yn ogystal, roedd mannau gwybodaeth gyda chyngor
ar dai, budd-daliadau a chynlluniau cyflogaeth.
Diolch i fusnesau lleol, roedd cyfle i bobl gael torri eu gwallt a chael
gwiriadau dannedd am ddim hefyd. Trefnodd tîm Safonau Masnach yr awdurdod i 120 o
siwmperi a hwdis ffug gael eu rhoi i bobl mewn angen
hefyd. Roedd y dillad ffug wedi cael eu hatafael yn flaenorol yn ystod
cyrchoedd a'u rhoi i'r elusen 'His Church'. Mae'r cyngor yn aml yn rhoi dillad
ffug i elusennau i'w hailddosbarthu i bobl mewn angen. Llongyfarchodd Arweinydd y Cyngor yr holl
gynghorwyr, swyddogion a gwirfoddolwyr a helpodd i wneud y digwyddiad yn
llwyddiant ysgubol. 3)
Dinas Diwylliant y DU Nododd Arweinydd y
Cyngor er nad enillodd Abertawe deitl Dinas Diwylliant y DU 2021 ei fod yn
falch iawn o hyd o'r cais ac ymdrechion arbennig pawb a oedd yn
gysylltiedig. Llongyfarchodd Cofentri ar ei llwyddiant a dywedodd ei fod wedi mynd at
Lywodraeth Cymru er mwyn gweld a allai Abertawe gadw'r £4,000,000 a addawyd
petai'n ennill teitl Dinas Diwylliant y DU 2021. 4) Live Verde – Llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth Nododd Arweinydd y Cyngor fod yr awdurdod wedi
llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth yn ddiweddar gyda Live
Verde. Lansiwyd llwyfan gweithredu Live Verde i fynd i'r afael â diffyg tai y DU drwy wneud y
mwyaf o gryfderau, methodoleg, datrysiadau ynni a chefnogaeth ariannol
partneriaid. 5) Her
Prifysgolion Santander Cycles
Nododd Aelod y Cabinet dros Dai, Ynni a Gwasanaethau
Adeiladau fod Awdurdod Prifysgol Abertawe wedi ennill Her Prifysgolion Santander Cycles yn ddiweddar gan
olygu y bydd yn derbyn gwerth £100,000 o gyfarpar ac isadeiledd i sefydlu
cynllun rhannu beiciau ar gyfer y gymuned. Nododd fod y cynllun ar agor i gynghorwyr a
swyddogion y cyngor gydag aelodaeth hanner pris. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac
ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r
cyhoedd. |
|
Cyflwyniad Cyhoeddus - Cofnodion: Ni dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus. |
|
Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru - Cyflwyniad gan y Prif Swyddog Tânr. Cofnodion: Rhoddodd Chris
Davies (Prif Swyddog Tân) gyflwyniad ar Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a
Gorllewin Cymru. Gofynnwyd llawer o
gwestiynau i'r Prif Swyddog Tân. Diolchodd y
Cynghorydd J P Curtice, y Dirprwy Aelod Llywyddol, am y cyflwyniad. |
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2016/17 PDF 2 MB Cofnodion: Cyflwynodd Is-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor
Archwilio ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016-2017 er gwybodaeth. |
|
Polisi Sipsiwn a Theithwyr 2017. PDF 107 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Gwasanaethau'r Amgylchedd a'r
Gwasanaethau Tai, Ynni ac Adeiladau adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer y Polisi Sipsiwn a Theithwyr newydd. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo a chyhoeddi'r
Polisi Sipsiwn a Theithwyr. |
|
Adolygiad o Lawlyfr y Cynghorwyr PDF 162 KB Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
adroddiad a oedd yn amlinellu'r adolygiad diweddar o Lawlyfr y Cynghorwyr gan
Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd ar 7 Tachwedd 2017. Argymhellodd y pwyllgor y dylid argymell
Atodiad A yr adroddiad i'r cyngor i'w fabwysiadu. Gofynnodd i'r diwygiadau canlynol gael eu gwneud i Atodiad A yr adroddiad: i)
Ychwanegu paragraff 8.4 "Caniateir lwfans teithwyr
pan fydd cynghorydd yn cludo teithiwr/wyr ar gyfer
busnes yr awdurdod. Mae'r gyfradd sy'n
daladwy yn unol â phenderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth
Ariannol"; ii)
Ychwanegu paragraff 14 newydd fel a ganlyn: 14. "Teithio ar feiciau modur 14.1 Mae
lwfans beic modur ar gael fel a amlinellir gan Banel Annibynnol Cymru ar
Gydnabyddiaeth Ariannol"; iii)
Ailrifo'r paragraffau
sy'n weddill yn unol â hynny. Penderfynwyd: 1)
Mabwysiadu Llawlyfr y Cynghorwyr wedi'i ddiwygio fel a
nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad ynghyd â'r diwygiadau uchod. |
|
Newidiadau i'r Cyfansoddiad Cyngor. PDF 122 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a
Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar y cyd yn ceisio diwygiad i
Gyfansoddiad y Cyngor er mwyn ei symleiddio, ei wella a/neu ychwanegu ato mewn
perthynas â'r meysydd canlynol: 1)
Rhan 3 "Cyfrifoldeb am
Swyddogaethau - Cynllun Dirprwyo”; 2)
Rhan 4 "Rheolau Gweithdrefnau
- Rheolau Gweithdrefnau Craffu". Cynigiodd yr adroddiad ddileu I14 "Pŵer i
glywed apeliadau gan swyddogion o ran cymeradwyo pobl i yrru cludiant
ysgol" o Gyfansoddiad y Cyngor gan fod y pŵer wedi'i gwmpasu yn J2
Swyddogaethau Dewis Lleol. Yn ogystal, cynigiodd yr adroddiad ddiwygio
paragraff 2.3 y Rheolau Gweithdrefnau Craffu. Penderfynwyd: 1)
Dileu paragraff I14
"Pŵer i glywed apeliadau gan swyddogion mewn perthynas â chymeradwyo
pobl i yrru cludiant ysgol" y Swyddogaethau Amrywiol o'r Cynllun Dirprwyo; 2)
Ailddrafftio paragraff 2.3 y
Rheolau Gweithdrefnau Craffu fel a ganlyn ac ychwanegu'r paragraffau
ychwanegol: “2.3 Fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith ac
arweiniad gan Lywodraeth Cymru, mae'n rhaid i bwyllgorau craffu sy'n ymdrin â
materion addysg gynnwys, yn eu haelodaeth sy'n gallu pleidleisio, gynrychiolwyr
o grefyddau ac o riant-lywodraethwyr.
Bydd aelodaeth Pwyllgor y Rhaglen Graffu felly'n cynnwys: 1 x Cynrychiolydd Rhiant-lywodraethwr o ysgol
gynradd; 1 x Cynrychiolydd Rhiant-lywodraethwr o ysgol
uwchradd; 1 x Cynrychiolydd o Eglwys Gatholig (Ysgolion Ffydd
a gynhelir gan yr ALl); 1 x Cynrychiolydd o'r Eglwys yng Nghymru (Ysgolion
Ffydd a gynhelir gan yr ALl). 2.4 Bydd gan yr aelodau cyfetholedig hyn bleidlais
yn y pwyllgor ac mewn paneli a gweithgorau craffu perthnasol ar eitemau sy'n
ymwneud ag arolygu a chraffu swyddogaethau addysg yn unig. Fodd bynnag, gallant
aros a siarad ar unrhyw fater arall. 2.5 Yn unol â Deddf Heddlu a Chyfiawnder
2006, gall pwyllgor troseddu ac anhrefn dynodedig yr awdurdod hefyd gyfethol
aelodau ychwanegol i wasanaethu ar y pwyllgor er mwyn ychwanegu gwerth ac
arbenigedd i waith y pwyllgor. Gellir penodi aelodau cyfetholedig gyda neu heb
hawliau pleidleisio yn ôl disgresiwn y pwyllgor. 3)
Mabwysiadu unrhyw newidiadau
canlyniadol eraill. |
|
Aelodaeth Pwyllgorau. PDF 94 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes adroddiad yn
amlinellu enwebiadau/diwygiadau i gyrff y cyngor. Dywedodd nad oedd
Arweinydd y Cyngor wedi gwneud unrhyw newidiadau i aelodaeth cyrff allanol yr
awdurdod. Penderfynwyd: 1)
Diwygio aelodaeth cyrff y
cyngor a restrir isod fel a ganlyn: i)
Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno
Polisi Addysg a Sgiliau Tynnu enw'r Cynghorydd
M B Lewis. Ychwanegu enw'r
Cynghorydd S Pritchard. ii)
Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno
Polisi Lleihau Tlodi Tynnu enw'r Cynghorydd
G J Tanner. Ychwanegu enw'r
Cynghorydd B Hopkins. iii)
Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno
Polisi Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol Tynnu enw'r Cynghorydd
C Anderson. Ychwanegu enw'r
Cynghorydd P Jones. |
|
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 67 KB Cofnodion: 1)
‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd
pump (5) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.
Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar
ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Dangosir
isod y cwestiynau atodol hynny sy'n gofyn am ymateb ysgrifenedig. Cwestiwn 1. Gofynnodd y Cynghorydd E W Fitzgerald: “Noda Aelod y Cabinet yn ei
ymateb y bwriedir creu cyfanswm o 8,700 o swyddi newydd rhwng 2015 a 2025. Yn y cyfamser, mae'r Atodlen o Ddiwygiadau
nad ydynt yn Sylweddol i'r Cynllun Adnau yn ategu, ym mharagraff 1.3.9, mai
14,700 fydd cyfanswm nifer y swyddi newydd yn ystod cyfnod y cynllun. Cadarnha ffigurau a gyflwynwyd gan y Centre for Cities ar gyfer 2004-2013 mai
dim ond 900 o swyddi a grëwyd yn ystod y cyfnod 9 mlynedd hwn, ffigur digalon
iawn. Felly, er mwyn gwireddu'r ffigur o 14,700,
mae'n ymddangos y dylai 5,100 o swyddi newydd fod wedi cael eu creu rhwng 2013
a 2015. Fodd bynnag, ni allaf ddod o hyd
i unrhyw dystiolaeth o hyn. All Aelod y Cabinet egluro os gwelwch yn dda?" Nododd
Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig. Cwestiwn 3. Gofynnodd y
Cynghorydd A M Day: "Allwch chi roi rhestr o finiau graean i gynghorwyr yn
ôl wardiau etholiadol ar draws Abertawe?" Nododd
Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig. 2) ‘Cwestiynau
Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Ni
chyflwynwyd unrhyw 'Gwestiynau Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'. |