Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd
Busnes gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai
cynghorwyr a swyddogion eu cael mewn eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a
rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oedd angen dychwelyd ffurflenni os nad
oedd unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd
cynghorwyr a swyddogion hefyd fod yn rhaid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig
ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir
Abertawe, datganwyd y buddion canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr M
Durke, C A Holley ac A Pugh fudd personol yng Nghofnod 112 “Adroddiad Blynyddol
2016-2017 - Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol"; 2)
Datganodd y Cynghorwyr C
Anderson, J E Burtonshaw, R Francis-Davies, K M Griffiths, J A Hale, T J
Hennegan, P R Hood-Williams, E T Kirchner, R D Lewis, W G Lewis, P N May, R V Smith,
M Sykes, M Thomas, L J Tyler-Lloyd ac L V Walton fudd personol yng Nghofnod 113
“Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2017-2020”; 3)
Datganodd y Cynghorwyr J P
Curtice, W Evans, E W Fitzgerald, K M Griffiths, P R Hood-Williams, L James, J
W Jones, M A Langstone, C Richards, K M Roberts, B J Rowlands, R V Smith, A H
Stevens, M Thomas, L J Tyler-Lloyd, G D Walker a T M White fudd personol yng
Nghofnod 114 “Cyfrifiad Sylfaen Treth y Cyngor 2018/2019”; 4)
Datganodd y Cynghorwyr C
Anderson, P M Black, J E Burtonshaw, M Child, J P Curtice, N J Davies, C R
Doyle, M Durke, C R Evans, V M Evans, W Evans, E W Fitzgerald, R
Francis-Davies, S J Gallagher, L S Gibbard, K M Griffiths, J A Hale, T J
Hennegan, C A Holley, P R Hood-Williams, B Hopkins, O G James, L James, J W
Jones, L R Jones, E J King, E T Kirchner, M A Langstone, A S Lewis, M B Lewis,
R D Lewis, W S Lewis, C E Lloyd, I E Mann, P N May, H M Morris, C L Philpott, S
Pritchard, A Pugh, J A Raynor, C Richards, K M Roberts, B J Rowlands, M
Sherwood, R V Smith, A H Stevens, R C Stewart, M Sykes, G J Tanner, D W W
Thomas, L G Thomas, M Thomas, L J Tyler-Lloyd, G D Walker, L V Walton a T M
White fudd personol yng Nghofnod 115 “Adroddiad Drafft Blynyddol Panel
Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) 2018-2019 - Ymgynghoriad”; 5)
Datganodd y Cynghorwyr V M
Evans ac L S Gibbard fudd personol yng Nghofnod 118 "Cwestiynau
Cynghorwyr". |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd
cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod
cywir: 1)
Cyfarfod cyffredin o'r cyngor
a gynhaliwyd ar 26 Hydref 2017. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor - Dim. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol
Diwethaf y Cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Cydymdeimladau a)
Y Cyn-gynghorydd Grenville Phillips Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol gyda
thristwch at farwolaeth ddiweddar y Cyn-gynghorydd Grenville
Phillips. Roedd yn Henadur Anrhydeddus
ac yn Burgermeister
(Meistr Dinasyddion) Anrhydeddus Mannheim, ac yn
sylfaenydd Canolfan Gymunedol Portmead a Blaenymaes. Bu hefyd yn Arglwydd Faer
ym 1995-1996. Bu'n gwasanaethu Ward
Etholiadol Penderi ar hen Gyngor Dinas Abertawe o 3
Mai 1979 tan 31 Mawrth 1996 ac ar Gyngor Dinas a Sir Abertawe o 1 Ebrill 1996
tan 3 Mai 2012. Cynhelir dathliad o'i
fywyd am 10.30am ddydd Llun, 27 Tachwedd 2017 yn Amlosgfa Treforys. b)
Carl Sargeant
Aelod y Cynulliad Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol gyda thristwch
at farwolaeth drasig Carl Sargeant, Aelod y Cynulliad dros Alun a Glannau
Dyfrdwy. Safodd pawb a oedd yn bresennol fel arwydd o
gydymdeimlad a pharch. 2)
Adran
Ieithoedd Modern a Chyfieithu Croesawodd yr Aelod Llywyddol fyfyrwyr o Adran Ieithoedd
Modern a Chyfieithu Prifysgol Abertawe a oedd yn bresennol yn y cyfarfod fel
arsylwyr. 3)
Gwobr Rhagoriaeth ACES
2017 - Strategaeth Llety/Rhaglen Hyblyg Cyhoeddodd yr Aelod
Llywyddol fod yr awdurdod wedi derbyn Gwobr Rhagoriaeth Cymdeithas Prif Syrfëwyr Ystadau a
Rheolwyr Eiddo yn y Sector Cyhoeddus (ACES) 2017 am ei Strategaeth
Llety/Rhaglen Hyblyg. Bob blwyddyn mae
ACES yn cyflwyno gwobr am ragoriaeth ac eleni ar ôl iddynt dderbyn 40 o
enwebiadau o bob rhan o'r DU, roedd yr awdurdod hwn yn llwyddiannus. Dyma gyflawniad llwyddiannus gwaith a gafodd
ei wneud yn dda, gan alluogi'r awdurdod i gyflawni un o'i amcanion allweddol ac
i ddangos rhai o nodweddion y meini prawf allweddol neu bob un ohonynt. Llongyfarchodd Becky
Jones, y Tîm Cyfleusterau a phawb yn yr adran Eiddo Corfforaethol am eu
cyfraniadau i'r fenter rheoli asedau rhagorol hon a oedd yn ymwneud â llety yn
ogystal â phrydlesu a gwerthu. Roedd Geoff
Bacon, Becky Jones, Nerys Williams, Helen Davies, Paul Smith, Sian Davis, Tania
Pugh, Chris Legg, Karen Samuel, Ben Thomas a Richard Rowlands yn bresennol i
dderbyn y wobr. 4)
Siglen
ar gyfer cadeiriau olwyn gyntaf Abertawe wedi'i gosod mewn parc cyhoeddus Cyhoeddodd yr Aelod
Llywyddol fod siglen ar gyfer cadeiriau olwyn gyntaf Abertawe wedi'i gosod ym
Mharc Victoria ar 2 Tachwedd 2017.
Agorwyd y siglen yn ffurfiol gan Quentin
Hawkins, Cadeirydd Grŵp Mynediad i Chwarae Abertawe. Dyma anterth blynyddoedd lawer o ymdrech i
sicrhau hawl pob plentyn i chwarae. Fe'i
cychwynnwyd gan Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2016 a'i ariannu gan
yr adran Chwarae Plant yn y Gwasanaeth Tlodi a'i Atal. Dewiswyd Parc Victoria
gan rieni/gofalwyr, defnyddwyr ifanc cadeiriau olwyn a grwpiau cynrychiolwyr i
greu canolfan gynhwysol yn sgîl hygyrchedd
darpariaeth leol arall gan gynnwys y toiledau Changing
Places yng nghanolfan Chwaraeon Traeth a Dŵr
360. Ar yr un pryd, bydd sedd â chefn uchel a chanddi strapiau i'w llogi i
gynnal plant â chyfyngiadau corfforol yn cael ei gosod yn lle un o'r siglenni
arferol presennol. Mae'r awdurdod wedi
gweithio gyda Neuadd y Ddinas, Ciosg Parc Victoria a Chwaraeon Traeth a
Dŵr 360. 5)
Chwifio'r Lluman Coch ar
gyfer Diwrnod y Llynges Fasnachol 2017 - Tystysgrif Goffa Dywedodd yr Aelod Llywyddol
fod yr awdurdod wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch Chwifio'r Lluman Coch ar gyfer
Diwrnod y Llynges Fasnachol, gan helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o ddibyniaeth y
DU fel 'cenedl ynys' ar forwyr Llynges Fasnachol y
gorffennol, y presennol a'r dyfodol. Roedd yn falch o
gyhoeddi bod yr awdurdod wedi derbyn Tystysgrif Goffa i gydnabod ei
gyfranogiad. Gwellir gweld mwy o
wybodaeth am yr ymgyrch yn www.merchantnavyday.uk 6)
Dechrau'n Deg - Ardal
Townhill Cyfeiriodd yr Aelod
Llywyddol at adroddiad arolygu gwych arall gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau
Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ar gyfer Dechrau'n Deg, ond y tro yma ar gyfer ardal
Townhill. Bu'r arolygwyr yn edrych ar
bedair ardal ym mhrosiect ardal Townhill, a rhoesant y graddfeydd canlynol: ·
Rhagorol - Plant a lles; ·
Rhagorol - Arweinyddiaeth
a Rheolaeth ·
Da -
"Amgylchedd" (barnwyd bod hyn yn dda iawn - byddai wedi bod yn
rhagorol pe bai'r adeilad yn caniatáu i blant fynd i chwarae yn yr awyr agored
o'u gwirfodd); ·
Da - "Gofal a
Datblygiad". Dyma gyflawniad gwych
arall gan fod y ddwy ardal wedi derbyn arolygiadau di-rybudd gan AGGCC, a
gynhaliwyd yn wahanol gan ddau arolygydd gwahanol. Aeth ati i ddiolch i Tracy Harrison, Rheolwr
Dechrau'n Deg, sydd wedi gweithio'n hynod galed yn Sea
View a Townhill dros yr ychydig fisoedd diwethaf a hefyd i'r timau staff yn y
ddau leoliad sy'n parhau â'u harferion gweithio arferol sydd bob amser yn
rhagorol. 7)
Grŵp Cyfranogiad PDG
- Cyflwyno gwobr Diana Dywedodd yr Aelod
Llywyddol fod Gwobr Diana'n cael ei rhoi, yn enw
Diana, Tywysoges Cymru, i bobl ifanc ddewr, gofalgar, a thosturiol, sydd wedi
trawsnewid bywydau eraill. Daw deiliaid Gwobr
Diana o bob cefndir, ac mae gan lawer gefndiroedd heriol a difreintiedig, fodd
bynnag maent yn rhannu ymdeimlad dwfn o gyfrifoldeb cymdeithasol. Gallant fod yn rhoi
o'u hamser i fentora myfyrwyr eraill neu ofalwr ifanc, yn cymryd rhan mewn
mentrau gwrthfwlio, yn codi arian neu'n ymgyrchu dros
achos da sy'n agos at eu calon. Beth
bynnag maen nhw'n ei wneud, mae un peth bob amser yn gyffredin iddynt, sef
awydd i wneud gwahaniaeth a gwella bywydau eraill. Mae #Iamme yn grŵp eithriadol o bobl ifanc sydd wedi gwneud
cyfraniad sylweddol i sicrhau bod cymuned eu Plant sy'n Derbyn Gofal yn cael ei
chynrychioli, ei chlywed a'i hystyried; maent yn ddi-ildio yn eu dyhead i fod y
Llysgenhadon gorau ar gyfer PDG, gan gynrychioli'r boblogaeth sy'n derbyn gofal
yn Abertawe a Chymru, a phlant a phobl ifanc ym mhobman, gyda balchder. Mae'r grŵp, a
sefydlwyd yn 2008, yn cynnwys plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal o 7 i 18
oed. Mae ethos grŵp #iamme wedi'i wreiddio yn egwyddorion CCUHP, gyda phwyslais
ar yr erthyglau sy'n berthnasol i blant sy'n derbyn gofal. Roedd yr Aelod Llywyddol
yn falch iawn o ddweud bod y grŵp wedi cael ei enwebu ar gyfer Gwobr
arobryn Diana, ac wedi'i hennill. 8)
Diwygiadau/Cywiriadau i
Wŷs y Cyngor a)
Eitem 16 yr Agenda
"Aelodaeth Pwyllgorau". Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod yr adroddiad diwygiedig wedi cael ei
ddosbarthu. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Stadiwm Liberty Rhoddodd Arweinydd y
Cyngor y diweddaraf am y trefniadau prydlesu yn Stadiwm Liberty. 2)
Morlyn Llanw Bae Abertawe Dywedodd Arweinydd y
Cyngor fod Tîm Abertawe wedi ymweld â Llundain ar 20 Tachwedd 2017 er mwyn
parhau â'r lobïo er mwyn cael cymeradwyaeth ar gyfer Morlyn Llanw Bae Abertawe. 3)
Dinas Diwylliant y DU Dywedodd Arweinydd y
Cyngor fod Tîm Abertawe wedi ymweld â Llundain ar 20 Tachwedd 2017 er mwyn
parhau â'r gwaith i hybu'r cais i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2021. 4)
Ymweliad Economaidd â
Beijing a Wuhan, Tsieina Cyfeiriodd Arweinydd y
Cyngor at ei ymweliad economaidd diweddar â Beijing a Wuhan, Tsieina. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r
cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â
hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd nifer o gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd
ynghylch yr eitemau canlynol ar yr agenda: 1)
Eitem 9 "Adroddiad
Cynnydd Blynyddol Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc 2017"; 2)
Eitem 12 "Cynllun
Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2017-2020”. Ymatebodd yr Aelod Cabinet perthnasol yn unol â
hyn. Rhestrir y cwestiynau y mae angen ymateb
ysgrifenedig arnynt isod: 1)
Gofynnodd David Davies
gwestiwn i Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes ynghylch Cofnod
113 "Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2017-2020”. Tudalen 146.
“Cenedl Heb Iaith, Cenedl Heb Galon” . Mae'r Gymraeg yn ei hanfod yn iaith lafar, yn
iaith areithyddiaeth a barddoniaeth, ond mae'n ddatblygiad mawr fod gan Gynllun
Strategol y Gymraeg mewn Addysg her o'i flaen i'n hysgolion gan lawer sy'n
gwrthwynebu'r fath ganolbwyntio ar y Gymraeg. A ydwyf yn iawn i ddweud bod canlyniadau
arholiadau mewn Ysgolion Cymraeg a Saesneg yn well nag mewn sefydliadau uniaith
Saesneg? Oes gennych chi unrhyw ystadegau ar gyfer
hyn? Dywedodd Aelod y
Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael
ei ddarparu. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw gyflwyniadau cyhoeddus. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Cynnydd Blynyddol Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc 2017. PDF 67 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Blant,
Addysg a Dysgu Gydol Oes adroddiad a oedd yn amlinellu cynnydd o ran rhoi'r
Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc ar waith yn Abertawe. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r Adroddiad Cynnydd Blynyddol ar y Cynllun Hawliau
Plant a Phobl Ifanc. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru. 2016-17. PDF 1 MB Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad a oedd yn manylu ar Adroddiad Gwella Blynyddol Dinas
a Sir Abertawe 2016-2017 gan Sara-Jane Byrne a Samantha Clements,
Swyddfa Archwilio Cymru. Cywirwyd dau
wall yn eu hadroddiad ganddynt ar lafar a dywedwyd bod y fersiwn ddiwygiedig
wedi'i chyhoeddi ar eu gwefan. Diolchodd Arweinydd y Cyngor iddynt am ddod ac ateb cwestiynau. Penderfynwyd: 1)
Derbyn a nodi Adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa
Archwilio Cymru 2016-2017. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Blynyddol 2016/17- Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol. PDF 133 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol werthusiad Cyfarwyddwr
y Gwasanaethau Cymdeithasol o daith wella 2016-2017 a pha mor dda y mae'r
cyngor yn bodloni gofynion statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant 2014. Roedd yr adroddiad yn
adolygu meysydd ar gyfer gwella'r llynedd, ac yn gosod blaenoriaethau newydd ar
gyfer 2017-2018. Roedd yr adroddiad yn
nodi'r newidiadau sydd wedi digwydd yn y Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflawni
cynnydd tuag at ganlyniadau lles cenedlaethol. Penderfynwyd: 1)
Derbyn Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau
Cymdeithasol 2016/2017. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2017-2020. PDF 115 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a
Dysgu Gydol Oes adroddiad a oedd yn gofyn i'r Cabinet fabwysiadu Cynllun
Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2017-2020 a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w
gymeradwyo. Penderfynwyd: 1)
Mabwysiadu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg
2017-2020; 2)
Cyflwyno fersiwn ddiwygiedig Cynllun Strategol y Gymraeg
mewn Addysg 2017-2020 i Lywodraeth Cymru i'w chymeradwyo. Sylwer: Gofynnodd y Cyng. P M Black y cwestiwn canlynol: "Pa dystiolaeth sydd i ddangos bod Canlyniad 1 sef "Mae
mwy o blant saith oed yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg'" yn cael
ei gyflawni?" Dywedodd Aelod y Cabinet dros
Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei
ddarparu. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor 2018/19. PDF 46 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes adroddiad a oedd
yn manylu ar gyfrifo sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer Dinas a Sir Abertawe, ei
Gynghorau Cymuned/Tref ac Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe ar gyfer 2018-2019. Mae'n ofynnol i'r cyngor bennu Sylfeini Treth
y Cyngor ar gyfer 2018-2019 erbyn 31 Rhagfyr 2017. Penderfynwyd: 1) Cymeradwyo'r Sylfeini Treth y Cyngor ar
gyfer 2018-2019; 2) Yn unol
â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) 1995, fel
y'i diwygiwyd, dyma fydd cyfrifiad Dinas a Sir Abertawe ar gyfer y flwyddyn
2018-2019:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn
hysbysu'r cyngor o Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar
Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) 2017-2018 ac amlinellodd y penderfyniadau a gynigiwyd gan yr IRPW.
Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys ymateb drafft argymelledig
Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd i'r ymgynghoriad, a roddwyd ar 7 Tachwedd
2017. Penderfynwyd: 1)
Mabwysiadu'r sylwadau a amlinellwyd yn Atodiad A yr
adroddiad fel ymateb yr awdurdod i ymgynghoriad yr IRPW o ran ei Adroddiad
Blynyddol Drafft ar gyfer 2017-2018. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Newidiadau i'r Cyfansoddiad Cyngor. PDF 114 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro
Dros Dro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ar y cyd adroddiad a oedd yn
gofyn am ddiwygio gorchymyn er mwyn symleiddio, gwella a/neu ychwanegu at
Gyfansoddiad y Cyngor o ran y meysydd canlynol: 1)
Rhan 3 "Cyfrifoldeb ar
gyfer swyddogaethau - Cylch Gorchwyl". Cynigiodd Arweinydd y Cyngor y dylid diwygio'r
adroddiad, gan ddileu Paragraff 3.6 ac Atodiad B, Aelodaeth ac Amlder
cyfarfodydd (Brawddeg C) a'u hailysgrifennu fel a ganlyn: "Mae amlder cyfarfodydd yn fater i'r
cadeirydd, gan ddibynnu ar y llwyth gwaith; fodd
bynnag, rhagwelir y caiff cyfarfodydd pwyllgor ffurfiol eu cynnal yn fisol neu
yn ôl y cynllun gwaith. Yn ogystal
â chyfarfodydd pwyllgor ffurfiol, gellir cynnal gweithgorau anffurfiol, os yw'r
cynllun gwaith yn gofyn am hynny." Penderfynwyd: 1)
Mabwysiadu'r newidiadau i
Gyfansoddiad y Cyngor fel y'u hamlinellir yn Atodiad B yr adroddiad ynghyd â
diwygiad Arweinydd y Cyngor ac unrhyw newidiadau canlyniadol pellach: 2)
Lleihau aelodaeth pob Pwyllgor
Datblygu a Chyflwyno Polisi i 12 o gynghorwyr, ac y dylai'r aelodaeth gynnwys
yr enwau a gyflwynwyd gan y Grwpiau Gwleidyddol. Sylwer: Dywedodd Arweinydd y
Cyngor y byddai'n cynnal cyfarfod o Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol a'r Swyddog
Monitro er mwyn trafod y Pwyllgorau Datblygu a Chyflwyno Polisi. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Aelodaeth Pwyllgorau. PDF 95 KB Cofnodion: Dywedodd Aelod y
Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes fod adroddiad
diwygiedig wedi'i ddosbarthu. Dywedodd nad oedd
Arweinydd y Cyngor wedi gwneud unrhyw newidiadau i gyrff allanol yr awdurdod. Penderfynwyd: 1)
Diwygio aelodaeth cyrff y
cyngor a restrir isod fel a ganlyn: i)
Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno
Polisi Economaidd ac Isadeiledd Tynnu enw'r Cynghorydd
P Jones ii)
Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno
Polisi Addysg a Sgiliau Tynnu enwau'r
Cynghorwyr B Hopkins, M H Jones ac S Pritchard. Ychwanegu'r Cynghorydd
M Durke a swydd wag ar gyfer aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol/Grŵp
Gwleidyddol Annibynnol. iii)
Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno
Polisi Lleihau Tlodi Tynnu enwau'r
Cynghorwyr R D Lewis, LG Thomas a T M White. Ychwanegu'r Cynghorydd
L R Jones a swydd wag ar gyfer aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol/Grŵp
Gwleidyddol Annibynnol. iv)
Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno
Polisi Diogelu Tynnu enw'r Cynghorydd
M B Lewis. v)
Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno
Polisi Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol Tynnu enw'r Cynghorydd
M Durke. vi)
Pwyllgor y Rhaglen Graffu Tynnu enw'r Cynghorydd
C Anderson Ychwanegu enw'r Cynghorydd
M Durke. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 97 KB Cofnodion: 1)
‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd
wyth (8) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.
Ymatebodd Aelod(Aelodau) y Cabinet drwy atebion ysgrifenedig a
gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Dangosir
y cwestiwn(cwestiynau) atodol hwnnw(hynny) yr oedd angen ymateb ysgrifenedig
arno(arnynt) isod: Cwestiwn 2 Gofynnodd y Cynghorydd P M Black: "Yn ystod cyfarfod o Banel Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion,
datgelwyd bod nifer yr asesiadau gofal parhaus yn lleihau. Mae hyn yn ymddangos yn
wrthgynhyrchiol o gofio'r boblogaeth oedrannus
gynyddol ag anghenion cymhleth. A
fyddai Aelod y Cabinet yn dweud pa sylwadau a gyflwynwyd i'r BILl am y duedd hon ac a yw'n credu ei bod yn ymwneud â
goblygiadau ariannol barn y Goruchaf Lys?" Dywedodd
Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei
ddarparu. 2) ‘Cwestiynau
nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B Ni
chyflwynwyd unrhyw 'Gwestiynau Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu
cyfer'. |