Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol,
Democrataidd a Deallusrwydd Busnes gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael
mewn eitemau ar yr agenda. Gwnaeth Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
atgoffa cynghorwyr a swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau o
fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y
cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid
oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y
dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr T J
Hennegan a G J Tanner fudd personol yng Nghofnod 24 "Adnewyddu Tai'r
Sector Preifat ac Addasiadau i'r Anabl: Polisi i ddarparu cymorth 2017-22; 2)
Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, P M Black, J E Burtonshaw, M C Child, S E Crouch, J P
Curtice, N J Davies, A M Day, P Downing, V M Evans, W Evans, E W Fitzgerald, F
M Gordon, J A Hale, T J Hennegan, B Hopkins, L James, Y V Jardine, M H Jones, S
M Jones , E J King, E T Kirchner, A S Lewis, M B Lewis, C E Lloyd, P Lloyd, P N
May, D Phillips, C L Philpott, J A
Raynor, C Richards, P B Smith, R V Smith, R C Stewart, D G Sullivan, G J
Tanner, D W W Thomas, L G Thomas, M Thomas, L J
Tyler-Lloyd, G D Walker, L V Walton a T M White fudd personol yng Nghofnod 25
"Lwfansau a Threuliau Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig 2016-2017"; 3)
Datganodd y Cynghorwyr P M
Black, M C Child, N J Davies, M Day, P Downing, V M Evans, E W Fitzgerald, F M Gordon, B Hopkins, L James, O G James, Y
V Jardine, L R Jones, M H Jones, S M Jones, E T Kirchner, I E Mann, P N May, C
L Philpott, S Pritchard, C Richards, K M Roberts, B J Rowlands, P B Smith, R V
Smith, A H Stevens, R C Stewart, D G Sullivan, G J Tanner, L G Thomas, L J
Tyler-Lloyd a T M White fudd personol yng Nghofnod 26 "Lwfansau a
Threuliau Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig 2016-2017". |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cofnodion
canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod
Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2017 yn amodol ar dudalen 27,
aelodaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael ei diwygio a thynnu Jane Harries; 2)
Cyfarfod
seremonïol y cyngor a gynhaliwyd ar 26 Mai 2017. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. Cofnodion: Ni chafwyd ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng nghyfarfod
cyffredinol diwethaf y cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Cydymdeimladau a) Ymosodiadau
terfysgol a digwyddiadau trychinebus Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol â thristwch mawr at
yr ymosodiadau terfysgol ar Bont Llundain, Borough Market ar 3 Mehefin a
gerllaw Mosg Finsbury Park ar 18 Mehefin 2017, ynghyd â'r tân trychinebus a
difethol yn Nhŵr Grenfell, Llundain a'r Digwyddiad Tanc yng
Nghastellmartin, Sir Benfro ar 14 Mehefin 2017. Roedd baneri y tu allan i adeiladau Canolfan
Ddinesig y cyngor wedi eu hanner-ostwng a chynhaliwyd munud o dawelwch. Safodd pawb i ddangos cydymdeimlad a pharch. 2)
Chelbie Williams, Ysgol
Gyfun Pentrehafod - Ysgoloriaeth Virgin i'r India Dywedodd yr Aelod
Llywyddol mai Chelbie Williams o Ysgol Gyfun Pentrehafod yw'r ferch gyntaf o
Gymru i gael ei dewis am ysgoloriaeth nodedig a fydd yn ei gweld hi'n teithio
i'r India i helpu i adeiladu ysgolion i blant sy'n byw mewn tlodi. Mae'n un o 30 o fyfyrwyr ledled y DU a
ddewiswyd ar gyfer yr ysgoloriaeth i'r India. Yr hyn sy'n gwneud ei
llwyddiannau'n fwy arbennig byth yw'r ffaith y cafodd ei symud i gynllun
Cwricwlwm Amgen Pentrehafod (Pace) ar ôl dioddef o anawsterau emosiynol, gan
gynnwys hunan-barch isel, dair blynedd yn ôl.
Mae'r cynllun Pace yn helpu plant diamddiffyn sydd mewn perygl o gael eu
gwahardd ddychwelyd i'r llwybr cyffredin. Llongyfarchodd yr Aelod
Llywyddol Chelbie ar ei llwyddiant nodedig. 3)
Gwobr Perfformiad Rhagorol
Grŵp Diogelwch Galwedigaethol De-orllewin Cymru (SWWOSG) Gwnaeth yr Aelod
Llywyddol longyfarch y Gwasanaeth Iechyd, Diogelwch, Lles a Rheoli Argyfwng Corfforaethol am ennill gwobr Grŵp Diogelwch Galwedigaethol De-orllewin Cymru am
berfformiad rhagorol wrth leihau damweiniau, hyfforddiant iechyd a diogelwch
a'u gwaith ar drawsnewid diwylliannol a gwella iechyd a lles. Cyflwynwyd y wobr i
Craig Gimblett, Tracey Williams, Katja Davies a Sarah Owens. 4)
Gwobr Blatinwm y Safon
Iechyd Corfforaethol (CHS) Y cyngor yw ail awdurdod lleol yng Nghymru i
ennill Gwobr Blatinwm y Safon Iechyd Corfforaethol am ei ymroddiad at fynd y tu
hwnt i'w ddyletswyddau corfforaethol a chymdeithasol drwy wneud gwir wahaniaeth
wrth wella gwasanaethau a chefnogaeth i ein cymunedau a'n staff. Y Safon Iechyd Corfforaethol yw marc safon
Llywodraeth Cymru o ran hyrwyddo iechyd corfforaethol yng Nghymru ers
2005. Er bod safonau eraill yn
canolbwyntio ar staff yn unig, dim ond y sawl sy'n gallu dangos sut maent yn llwyddo
i gyflawni rhagoriaeth a mwy ar draws chwe maen prawf craidd wrth gefnogi
iechyd a lles preswylwyr, eu staff eu hunain a staff cyflogwyr eraill sy'n cael
eu gwobrwyo â'r safon blatinwm. Cafodd Gwasanaeth Datblygu Gwaith Cyngor
Abertawe, sy'n dathlu ei ddegfed pen-blwydd eleni, ei defnyddio fel ein
hastudiaeth achos, gan ddangos sut caiff oedolion ag anableddau dysgu eu
cefnogi i ddatblygu sgiliau gwaith y gallant yna eu defnyddio i gefnogi
cymunedau'r ddinas. Cafodd pob un o saith tîm project y gwasanaeth
eu cynnwys yn y dystiolaeth a gyflwynwyd, gan amrywio o'r timau NEAT adnabyddus
i wasanaethau arlwyo yng Nghiosg Parc Victoria, planhigfa ffrwythau a llysiau
Fforestfach a'r Tîm Cynnal a Chadw sy'n cefnogi gwaith rheoli bywyd gwyllt a
chynefinoedd amgylcheddol. Cafodd enghreifftiau o waith rhagorol eu
cyflwyno gan aelodau'r gweithgor lles ar draws y 6 maen prawf a oedd yn cynnwys
cludiant, caffael, cynaladwyedd, adeiladau corfforaethol a gwasanaethau eiddo,
cyfleusterau, cyfranogiad cymunedol, cyflogaeth a sgiliau, gan arwain i
gydnabyddiaeth o'n rôl arweiniol a blaengar. Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol Wasanaeth
Iechyd, Diogelwch, Lles a Rheoli Argyfwng Corfforaethol a fu'n arwain y cais am
wobr, a phob aelod o staff arall y mae ei gyfraniad yn gwneud gwahaniaeth yn
ein cymunedau bob dydd. Cyflwynwyd y wobr i
Craig Gimblett, Sue Reed, Katja Davies, Tracey Williams, Sarah Owens a Steve
Rees . 5)
Prentis y Flwyddyn Coleg
Gŵyr Abertawe Llongyfarchodd yr Aelod
Llywyddol Lyn Hovvels, prentis plymer gyda'r Gwasanaethau Adeiladau
Corfforaethol, a enillodd y wobr Prentis y Flwyddyn Coleg Gŵyr
Abertawe. Dywedodd fod hyn yn llwyddiant
arbennig i Lyn a'r Gwasanaethau Adeiladau Corfforaethol oherwydd dyma'r tro cyntaf
i un o brentisiaid yr awdurdod ennill y wobr.
Cafodd Lyn ei ddewis o blith y cannoedd o brentisiaid a fynychodd Coleg
Gŵyr fel y gorau o'u plith, ac i'r rheini ohonoch sy'n adnabod Lyn yn
bersonol, rydw i'n siŵr y byddwch i gyd yn cytuno nid oes yr un prentis
arall sy'n ei haeddu'n fwy. Da iawn Lyn, a dal ati. Cyflwynwyd y wobr i Lyn
Hovvels. 6)
Rhestr Anrhydeddau
Pen-blwydd y Frenhines 2017 Dinasyddion
Abertawe a/neu bobl â chysylltiadau ag Abertawe a dderbyniodd gwobrau yn Rhestr
Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines. a)
Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth
Brydeinig (CBE) i)
Peter Malcolm Black. Cynghorydd ward Cwmbwrla, Cyngor Dinas a Sir
Abertawe. Am wasanaethau i wleidyddiaeth
a bywyd cyhoeddus yng Nghymru. (Abertawe). b)
Aelod Urdd yr Ymerodraeth
Brydeinig (MBE) i)
Ms Sally Jane Hyman. Cadeirydd
Ymddiriedolwyr yr RSPCA. Cangen Llys Nini. Am wasanaethau i les anifeiliaid a'r
amgylchedd. (Baglan, Castell-nedd Port Talbot). c)
Medal yr Ymerodraeth
Brydeinig (BEM) i)
Capten David Cledlyn
Jones. Am wasanaethau i berthnasoedd Eingl-Almaenaidd ac Addysg yr Ail Ryfel
Byd. (Pennard, Abertawe); ii)
Mrs Ann Georgina Khoshbin.
Am wasanaethau i Addysg. (Blackpill, Abertawe). 7)
Diwygiadau i Wŷs y Cyngor
a)
Eitem 10 "Lwfansau a
Threuliau Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig 2016-2017". Tudalen 74. Newid y cofnodion mewn
perthynas â'r Cynghorydd Robert C Stewart fel a ganlyn: i)
Dylai'r golofn lwfans
teithio fod yn “£2,541.55”. ii)
Dylai colofn y cyfanswm
fod yn “£68,738.96” b)
Eitem 12 "Aelodaeth
Pwyllgorau”. Dosbarthwyd fersiwn wedi'i
diweddaru. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Aelodau Hyrwyddo Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei
fod wedi penodi'r aelodau hyrwyddo ychwanegol canlynol: a)
Aelod hyrwyddo dros
ddigartrefedd - y Cynghorydd M Sykes; b)
Aelod hyrwyddo dros blant
sy'n derbyn gofal - y Cynghorydd C R Evans. 2)
Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth
Bae Abertawe Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod trafodaethau eisoes wedi cychwyn ynghylch
sefydlu Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe. 3)
Sgwâr Digidol - Penodi
Gweithredwr Arena Rhoddwyd diweddariad am benodi Gweithredwr Arena'r Sgwâr Digidol gan
Arweinydd y Cyngor. 4)
Tonia Antoniazzi – AS Gŵyr Llongyfarchodd
Arweinydd y Cyngor, Tonia Antoniazzi, ar gael ei
hethol yn Aelod Seneddol Gŵyr yn ddiweddar. 5)
Tân yn Nhŵr Grenfell, Gogledd Kensington, Datganiad ar Lundain Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor â thristwch mawr at
y tân dinistriol yn Nhŵr Grenfell yn Llundain ar
14 Mehefin 2017. Galwodd ar yr Aelod
Cabinet dros Wasanaethau Tai, Ynni ac Adeiladau i roi gwybodaeth friffio i'r
cyngor. Rhoddwyd addewidion gan Aelod y Cabinet dros
Wasanaethau Tai, Ynni ac Adeiladau i'r cyngor ynghylch yr 11 o dyrau fflatiau
yn Abertawe, ac atebodd gwestiynau am eu diogelwch. Sylwer: 1)
Gofynnodd y Cynghorydd C L Philpott am ddiweddariad o ran pryd y byddai
allweddi'r balconïau i fflatiau Clyne Court yn cael eu dychwelyd i'r preswylwyr. 2)
Gofynnodd y Cynghorydd G D Walker am ganlyniadau'r ymarfer 'byw' diweddaf
yr ymgymerwyd ag ef gan y Gwasanaeth Tân ar dyrau o fflatiau'r cyngor. Dywedodd Aelod y
Cabinet dros Wasanaethau Tai, Ynni ac Adeiladau y byddai ymatebion ysgrifenedig
yn cael eu darparu. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r
cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â
hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd. Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn
briodol. Ni chafwyd cwestiynau a oedd yn
gofyn am ymateb ysgrifenedig. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim. Cofnodion: Rhoddwyd
cyflwyniad gan Sue Shannon-Jones am Symudiad Prifysgol y Drydedd Oes (U3A), sef
sefydliad unigryw a chyffrous sy'n darparu cyfleoedd i gyfoethogi a thrawsnewid
bywydau. Mae pobl sydd wedi ymddeol neu
sydd wedi hanner-ymddeol yn gallu dod ynghyd i ddysgu gyda'i gilydd, nid ar
gyfer ennill cymwysterau ond, yn hytrach, er pleser pur dysgu. Mae
aelodau'n rhannu eu sgiliau a'u profiad bywyd: mae dysgwyr yn addysgu ac mae'r addysgwyr
yn dysgu, ac nid oed unrhyw wahaniaeth rhyngddynt. Cefnogir y symudiad U3A gan y sefydliad
cenedlaethol, Ymddiriedolaeth Prifysgol y Drydedd Oes. Rhoddwyd
diolch am y cyflwyniad gan y cynghorydd R C Stewart, Arweinydd y Cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Tai, Ynni ac
Adeiladau a oedd yn amlinellu newidiadau arfaethedig Adnewyddu Tai'r Sector
Preifat ac Addasiadau i'r Anabl: Polisi i ddarparu cymorth 2012-2017 presennol,
ac i gyhoeddi polisi newydd ar gyfer 2017-2022. PENDERFYNWYD: 1)
Cymeradwyo'r newidiadau i'r adroddiad a amlinellwyd a
chyhoeddi polisi newydd ar gyfer 2017-2022. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Lwfansau a Gwariant Arian Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig 2016-2017. PDF 97 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gwybodaeth gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn
cyflwyno swm y lwfansau a'r treuliau a dalwyd i bob Cynghorydd ac Aelod
Cyfetholedig yn ystod 2015-2016 dan y Cynllun Lwfansau Cynghorwyr. Nodiadau: Tudalen 74. Newidiwyd y cofnodion mewn perthynas â'r
Cynghorydd Robert C Stewart ar dudalen 74 fel a ganlyn: i)
Dylai'r golofn lwfans teithio fod yn “£2,541.55”. ii)
Dylai colofn y cyfanswm fod yn “£68,738.96”. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyno teitl yr Henadur Anrhydeddus. PDF 161 KB Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan yr Aelod Llywyddol a Phennaeth y
Gwasanaethau Democrataidd a'r Swyddog Monitro a oedd yn cytuno mewn egwyddor i
roi teitl 'Henadur Anrhydeddus' i gyn-Gynghorwyr a nodir yn yr adroddiad, yn
unol â meini prawf y cyngor. PENDERFYNWYD: 1)
Cytunodd y cyngor mewn egwyddor i roi teitl Henadur
Anrhydeddus i gyn-Gynghorwyr R G (Bobby) Davies, John
Newbury, Ioan M Richard, R June Stanton a Ceinwen Thomas i gydnabod eu
gwasanaethau blaenllaw i Ddinas a Sir Abertawe a'i awdurdodau blaenorol. 2)
Trefnir Cyfarfod Seremonïol y Cyngor am 3.00pm ar 24 Awst
2017 er mwyn rhoi'r teitl i'r cyn-gynghorwyr a enwir uchod. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Aelodaeth Pwyllgorau. PDF 57 KB Cofnodion: Dywedodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes
fod adroddiad diwygiedig wedi'i ddosbarthu. Cyfeiriodd at yr adroddiad gan nodi bod Arweinydd y Cyngor hefyd wedi
gwneud y newidiadau canlynol i gyrff allanol yr awdurdod: 1)
Panel Mabwysiadu Tynnu enw'r Cynghorydd J P
Curtice. Ychwanegu'r Cynghorydd C
Richards. 2)
Grŵp Llywio EOTAS Ychwanegu'r Cynghorydd J A
Raynor. 3)
Gwerinwyr Gŵyr Tynnu enw'r Cynghorydd K M
Roberts. Ychwanegu'r Cynghorydd A H
Stevens. 4)
Coleg Gŵyr Tynnu enw'r Cynghorydd C
Richards. Ychwanegu'r Cynghorydd R V
Smith. 5)
Cytundeb rhwng Awdurdodau ar
gyfer Gwastraff Bwyd Tynnu enw'r Cynghorydd W G
Lewis. Ychwanegu'r Cynghorydd V M
Evans. 6)
Bwrdd Rheoli UCD Ychwanegu'r Cynghorydd J A
Raynor. 7)
Consortiwm Gwastraff
Rhanbarthol De-orllewin Cymru Tynnu enw'r Cynghorydd W G Lewis. Ychwanegu'r Cynghorydd V M
Evans. 8)
Pwyllgor Rheoli Gwastraff
Rhanbarthol De-orllewin Cymru Tynnu enw'r Cynghorydd W G
Lewis. Ychwanegu'r Cynghorydd V M
Evans. 9)
Partneriaeth Adfywio
Economaidd Abertawe Ychwanegu'r Cynghorydd D H
Hopkins. 10)
Llys Prifysgol Abertawe Tynnu enw'r Cynghorydd S
Pritchard. Ychwanegu'r Cynghorydd R
Francis-Davies. 11)
Pwll Cenedlaethol Cymru Tynnu enw'r Cynghorydd M B
Lewis. Ychwanegu'r Cynghorydd M C
Child. 12)
Cymdeithas Llywodraeth Leol
Cymru Tynnu enw'r Cynghorydd J P
Curtice. Ychwanegu'r Cynghorydd J A
Raynor. 13)
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
Bae'r Gorllewin Tynnu'r Cynghorydd P Jones. PENDERFYNWYD diwygio aelodaeth cyrff
y cyngor a restrir isod fel a ganlyn: 1)
Pwyllgor Disgyblu Prif
Swyddogion Ychwanegu'r Cynghorydd J A
Hale. 2)
Pwyllgor Gwasanaethau
Democrataidd Tynnu enw'r Cynghorydd J P
Curtice. Ychwanegu'r Cynghorydd M
Durke. 3)
Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol Ychwanegu'r Cynghorydd B J
Rowlands. 4)
Pwyllgor Cynllunio Tynnu enw'r Cynghorydd C
Richards. Ychwanegu'r Cynghorydd P B Smith. 5)
Pwyllgor Polisi a Datblygu 1
(Addysg a Sgiliau) Tynnu enwau'r Cynghorwyr M
Durke, L S Gibbard, J A Hale, Y V Jardine, W G Lewis a B J Rowlands. Ychwanegu'r Cynghorwyr M A
Langstone, M B Lewis, C L Philpott, S Pritchard, K M Roberts, M Sykes a D W W Thomas. 6)
Pwyllgor Polisi a Datblygu 2
(Economi ac Isadeiledd) Tynnu enwau'r Cynghorwyr M
Durke, Y V Jardine, M A Langstone, D Phillips, L J Tyler-Lloyd a T M White. Ychwanegu'r Cynghorwyr P R
Hood-Williams, J W Jones, P Jones, S M Jones, P M Matthews a W G Thomas. 7)
Pwyllgor Polisi a Datblygu 3
(Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol) Tynnu enwau'r Cynghorwyr J P
Curtice, D W Helliwell, P M Matthews, H M Morris, C Richards, G Tanner a W G
Thomas. Ychwanegu'r Cynghorwyr C Anderson,
M Durke, J A Hale, C A Holley, M B Lewis, B J Rowlands, A H Stevens a L J
Tyler-Lloyd. 8)
Pwyllgor Polisi a Datblygu 4
(Diogelu) Tynnu enwau'r Cynghorwyr T J
Hennegan, M B Lewis, R D Lewis, P M Matthews, S Pritchard a D W W Thomas. Ychwanegu'r Cynghorwyr J C
Curtice, P R Hood-Williams, Y V Jardine, L James, K M Roberts, M Sykes a G
Tanner. 9)
Pwyllgor Polisi a Datblygu 5
(Lleihau Tlodi) Tynnu enwau'r Cynghorwyr C
Anderson, P R Hood-Williams, M B Lewis, K M Roberts, B J Rowlands, M Sykes a T
M White. Ychwanegu'r Cynghorwyr P
Downing, D W Helliwell, O G James, R D Lewis, D Phillips, C Richards, G Tanner
a L G Thomas. 10)
Pwyllgor Safonau Ychwanegu'r Cynghorydd Cymuned
P Crayford. 11)
Pwyllgor Trwyddedu Statudol Ychwanegu'r Cynghorydd B J
Rowlands. 12)
Bwrdd Magu Plant Corfforaethol Tynnu enw'r Cynghorydd H M
Morris. 13)
Gweithgor y Cyfansoddiad Ychwanegu'r Cynghorydd W
Evans. 14)
Panel Llywodraethwyr yr ALl Tynnu enwau'r Cynghorwyr C R
Evans a V M Evans. Ychwanegu'r Cynghorwyr W G
Lewis ac S Pritchard. 15)
Bwrdd Pensiwn Lleol Tynnu enw'r Cynghorydd M B
Lewis. Ychwanegu'r Cynghorydd T M
White. 16)
Ymweliadau Rota'r
Gwasanaethau Cymdeithasol Tynnu enw'r Cynghorydd C R
Evans. Ychwanegu'r Cynghorydd W G Lewis. 17)
Fforwm Cyswllt Myfyrwyr Ychwanegu enwau'r Cynghorwyr R
Francis-Davies, A S Lewis ac M Thomas. 18)
Panel Ymddiriedolwyr Tynnu enw'r Cynghorydd V M
Evans. Ychwanegu'r Cynghorwyr W Lewis, A
Pugh ac L R Jones. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Newidiadau i'r Cyfansoddiad. PDF 76 KB Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan yr Aelod Llywyddol, Pennaeth y
Gwasanaethau Democrataidd a'r Swyddog Monitro a oedd yn ceisio diwygio er mwyn
symleiddio, gwella a/neu ychwanegu at Gyfansoddiad y Cyngor mewn perthynas â'r
meysydd canlynol: 1)
Rhan 3 – Cyfrifoldeb Dros
Swyddogaethau – Cylch Gorchwyl. Yn dilyn Cyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 25 Mai
2017, cyfarfu'r pum Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi ac etholwyd Cadeirydd
ac Is-Gadeirydd ar gyfer y pwyllgorau.
Mae'r Cadeiryddion a'r Is-Gadeiryddion yn trosglwyddo i'r pwyllgorau a
ail-enwyd. PENDERFYNWYD: 1)
Ail-enwi'r pum Pwyllgor
Datblygu a Chyflwyno Polisi fel a amlinellir isod:
2)
Amlinellir newidiadau i'r cylch
gorchwyl yng Nghyfansoddiad y Cyngor isod, ynghyd ag unrhyw newidiadau i'w
mabwysiadu o ganlyniad: Pwyllgor Datblygu a
Chyflwyno Polisi - Economi ac Isadeiledd 1)
Ysgogi
datblygu polisïau economi ac isadeiledd corfforaethol y cyngor, i'w hystyried
a'u mabwysiadu gan y Cabinet a/neu'r cyngor lle bo'n briodol. Sylwer: Gall Pwyllgorau
Datblygu a Chyflwyno Polisi gyfethol eraill i'r pwyllgor am bwnc penodol neu am
dymor os yw'r pwyllgor yn ystyried y gall hynny ei helpu yn ei rôl. Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi - Addysg a
Sgiliau 1)
Ysgogi
datblygu polisïau addysg a sgiliau corfforaethol y cyngor, i'w hystyried a'u
mabwysiadu gan y Cabinet a/neu'r cyngor lle bo'n briodol. Sylwer: Gall Pwyllgorau Datblygu a
Chyflwyno Polisi gyfethol eraill i'r pwyllgor am bwnc penodol neu am dymor os
yw'r pwyllgor yn ystyried y gall hynny ei helpu yn ei rôl. Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi - Lleihau
Tlodi 1)
Ysgogi
datblygu polisïau lleihau tlodi corfforaethol y cyngor, i'w hystyried a'u mabwysiadu
gan y Cabinet a/neu'r cyngor lle bo'n briodol. Sylwer: Gall Pwyllgorau Datblygu a
Chyflwyno Polisi gyfethol eraill i'r pwyllgor am bwnc penodol neu am dymor os
yw'r pwyllgor yn ystyried y gall hynny ei helpu yn ei rôl. Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi - Diogelu 1)
Ysgogi
datblygu polisïau diogelu corfforaethol y cyngor, i'w hystyried a'u mabwysiadu
gan y Cabinet a/neu'r cyngor lle bo'n briodol. Sylwer: Gall Pwyllgorau Datblygu a
Chyflwyno Polisi gyfethol eraill i'r pwyllgor am bwnc penodol neu am dymor os
yw'r pwyllgor yn ystyried y gall hynny ei helpu yn ei rôl. Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi - Trawsnewid a
Chyngor y Dyfodol 1)
Ysgogi
datblygu polisïau trawsnewid a chyngor y dyfodol corfforaethol y cyngor, i'w
hystyried a'u mabwysiadu gan y Cabinet a/neu'r cyngor lle bo'n briodol. Sylwer: Gall Pwyllgorau Datblygu a
Chyflwyno Polisi gyfethol eraill i'r pwyllgor am bwnc penodol neu am dymor os
yw'r pwyllgor yn ystyried y gall hynny ei helpu yn ei rôl. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Addewid Cynghorwyr ar Safonau. PDF 67 KB Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth i ail-fabwysiadu'r Addewid Cynghorwyr ar Safonau. Yn unol â Rheol 30 Gweithdrefn y Cyngor, "Pleidlais", gofynnwyd
am bleidlais gofnodedig. Cofnodwyd y
bleidlais ar y newid fel a ganlyn:
O ganlyniad i'r
bleidlais a gofnodwyd, mabwysiadwyd yr argymhellion gofnodedig: PENDERFYNWYD: 1)
Ail-fabwysiadu Addewid Cynghorwyr ar Safonau; 2)
Ei bod hi'n ofynnol i bob Cynghorydd lofnodi'r
"Addewid Cynghorwyr ar Safonau". |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dull Datrys Anghydfodau Lleol i Gynghorwyr. PDF 64 KB Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a'r
Swyddog Monitro a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ail-fabwysiadu'r Dull Datrys
Anghydfodau Lleol i Gynghorwyr. PENDERFYNWYD: 1)
Ail-fabwysiadu'r Dull Datrys Anghydfodau Lleol i Gynghorwyr
fel yr amlinellwyd yn Atodiad A; 2)
Y dylai cynghorwyr geisio datrys unrhyw gŵyn sydd
ganddynt am Gynghorwyr eraill drwy'r broses gyfryngu fewnol lle bynnag y bo
modd, cyn cyfeirio'r mater at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 103 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd saith (7) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au)
perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs
y Cyngor. Roedd
ymateb ysgrifenedig yn ofynnol ar gyfer y cwestiwn/cwestiynau atodol canlynol. Cwestiwn 3 a)
Gofynnod y Cynghorydd P N May: i)
"Mae awtomeiddio'r system
yn ddefnyddiol. Mae'n
hanfodol lansio ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus cyn ei chyflwyno. Pryd bydd yn cael ei chyflwyno'n llawn? A ellid defnyddio'r Cerbyd Gofodi Sifil?" Nododd
Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Amgylcheddol y byddai ymateb ysgrifenedig yn
cael ei ddarparu. Cwestiwn 4 b)
Y Cynghorydd P M Black: ii)
"Mae'r DVLA yn caniatáu mynediad
i'r cyhoedd i system cofrestru cerbydau ar-lein i wirio a yw cerbyd wedi'i
drethu neu beidio. A fyddai
modd cyflwyno system debyg yn achos Hawlenni Parcio Preswylwyr?" Nododd
Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Amgylcheddol y byddai ymateb ysgrifenedig yn
cael ei ddarparu. 2) ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan
B Cyflwynwyd un (1) 'cwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' Rhan B. |