Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democrataidd gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol
posib a allai fod gan gynghorwyr a swyddogion mewn perthynas ag eitemau ar yr
agenda. Gwnaeth Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
atgoffa cynghorwyr a swyddogion na ddylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o
fuddiannau personol a rhagfarnol" oni bai bod
gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan.
Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan.
Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac
yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r cyngor wahardd y cyhoedd rhag mynd i'r cyfarfod er mwyn iddo
ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn
argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod
yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd
Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn
Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas
ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y cyngor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y
cyhoedd rhag mynd i'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y
Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes
canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Penodi'r Prif Swyddog Addysg. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Weithredwr adroddiad i geisio cadarnhau penodiad Prif Swyddog Addysg. Dywedodd fod y Pwyllgor Penodiadau wedi
penderfynu yn ei gyfarfod ar 14 Chwefror 2017 y dylid argymell Nick Williams am
y penodiad i'r cyngor. PENDERFYNWYD y dylid cadarnhau penodiad Nick Williams
i swydd y Prif Swyddog Addysg ar ôl ymadawiad deiliad presennol y rôl, Lindsay
Harvey. |