Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd
gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
TRYCHINEB ABERFAN - HANNER CANMLWYDDIANT Cofnodion: Cyfeiriodd yr
Arglwydd Faer at hanner canmlwyddiant y drychineb yn Aberfan a laddodd 144 o
blant ac oedolion, yn bennaf yn Ysgol Iau Pantglas. Bydd yr hanner
canmlwyddiant ddydd Gwener 21 Hydref 2016. Safodd pawb a oedd
yn bresennol am funud o ddistawrwydd i ddangos cydymdeimlad a pharch. |
|
FFILMIO CYFARFODYDD Y CYNGOR Cofnodion: Cynigiodd yr
Arglwydd Faer y dylid caniatáu i'r cyfryngau a oedd yn bresennol ffilmio'r
trafodion a chytunwyd i hyn. |
|
Cyflwyno Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Chris Coleman. Cofnodion: Croesawodd yr Arglwydd Faer, Arglwydd Raglaw, Uchel Siryf, arweinwyr dinesig,
gwesteion nodedig, aelodau'r cyngor a Chris Coleman i gyfarfod seremonïol o'r
cyngor. Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at benderfyniad yng nghyfarfod y Cyngor a
gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2016 (cofnod 46) lle gwnaeth y cyngor bleidleisio i
roi rhyddid er anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Chris Coleman i gydnabod ei
gyfraniad at chwaraeon ac Abertawe, yn benodol ei arweinyddiaeth a'i lwyddiant
gyda thîm pêl-droed Cymru. Siaradodd arweinydd yr wrthblaid fwyaf ac arweinwyr y grwpiau gwleidyddol
eraill o blaid y cynnig. PENDERFYNWYD rhoi rhyddid er anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Chris
Coleman i gydnabod ei gyfraniad at chwaraeon ac Abertawe, yn benodol ei
arweinyddiaeth a'i lwyddiant gyda thîm pêl-droed Cymru. Yna cyflwynodd yr Arglwydd Faer y Sgrôl Rhyddid er Anrhydedd i Chris
Coleman, gan roi rhyddid Dinas a Sir Abertawe iddo. Ymatebodd Chris Coleman trwy ddiolch i'r cyngor am
yr anrhydedd. |