Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd gyngor
ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a
swyddogion eu cael mewn eitemau ar yr agenda. Gwnaeth Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Democrataidd atgoffa cynghorwyr a
swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol
a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes
unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd
cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn
ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir
Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: Cynghorwyr 1)
Datganodd y Cynghorwyr A M
Day, A J Jones, J A Raynor a C Richards fudd personol yng Nghofnod 178 Cynllun
Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2017-2020"; 2)
Datganodd y Cynghorwyr P M Black,
C A Holley a L G Thomas fudd personol a rhagfarnol yng Nghofnod 179
"Protocol yr Arglwydd Faer a'r Dirprwy Arglwydd Faer" a gadawsant y
cyfarfod cyn ei ystyried; 3)
Datganodd y Cynghorwyr S E
Crouch, P M Meara a D Phillips fudd personol yng Nghofnod 181
"Cwestiynau'r Cynghorwyr". Swyddogion 1) Datganodd Martin Nicholls
fudd personol yng Nghofnod 177 “Trefniadau'r Prif Weithredwr”. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cofnodion
canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod
cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 23 Mawrth 2017. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd
adroddiad gwybodaeth yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd
yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Aelod Llywyddol, y
Cynghorydd D W W Thomas yn yr ysbyty Dywedodd y Dirprwy
Aelod Llywyddol fod yr aelod llywyddol, y Cynghorydd D W W
Thomas, yn yr ysbyty ar hyn o bryd yn gwella ar ôl torri ei bigwrn. Ar ran y cyngor, dymunodd bob dymuniad gorau
a gwellhad cyflym iddo. 2)
Cynghorwyr nad ydynt yn
sefyll am ailetholiad ar 4 Mai 2017 Dywedodd y Dirprwy Aelod Llywyddol fod y
cynghorwyr canlynol wedi dewis peidio ag ailsefyll am etholiad yn yr Etholiad
Llywodraeth Leol ar 4 Mai 2017. Talwyd
teyrnged i'r cynghorwyr hyn gan arweinwyr y pleidiau gwleidyddol a dirprwy aelodau
llywyddol a diolchwyd iddynt am wasanaethu eu cymunedau a phreswylwyr Abertawe
yn ystod cyfnod eu swyddi fel cynghorwyr.
Allwedd:
3)
Gwobr Genedlaethol Ffilm Animeddiedig “Go Forward” Llongyfarchwyd y bobl ifanc,
y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a Winding Snake
Productions gan y dirprwy aelod llywyddol am lwyddiant eu ffilm "Go Forward" a enillodd y categori Animeiddiad Gorau: 13
oed a'n hŷn yng ngwobrau ffilm Into eleni. Ysgrifennwyd a
chyfarwyddwyd "Go Forward" gan 15 o bobl
ifanc o Abertawe i fynegi profiadau troeon bywyd taith plant a phobl ifanc sy'n
derbyn gofal tuag at droi'n oedolion. Mae'r ffilm yn dangos tri pherson ifanc,
6, 12 ac 16 oed, sy'n ceisio dod o hyd i'w ffordd drwy fyd cymhleth ar ffurf
gêm fideo. Cyrhaeddodd y bobl
ifanc y rhestr fer o dros 300 o enwebiadau yn eu categori, a derbyniwyd y wobr
ganddynt mewn seremoni grand yn llawn sêr enwog yn Leicester
Square, Llundain ym mis Mawrth. Disgrifiwyd y ffilm gan
yr actor a'r beirniad Stephen Mangan fel "yn
ardderchog ac yn ddychmygus, yn fedrus iawn yn dechnegol. Mae ganddi sgript wych ac roeddech yn dod i
adnabod pob un o'r plant yn gyflym iawn. Mae'n gadarnhaol ac yn galonogol a
mwynheais i'r animeiddio symud ymlaen parhaol.
Mae'n amlwg bod llawer o feddwl a gofal wedi'u cymryd wrth ei
chreu. Roeddwn i'n dwlu ar goesau
sigledig Josh! Llwyddiant ysgubol". Mae'r ffilm wedi bod yn
gyfle ardderchog i gefnogi pobl ifanc wrth iddynt leisio eu barn a rhannu eu
profiadau gyda phobl ifanc eraill, ymarferwyr a'r cyhoedd. Llongyfarchodd yr holl
staff cysylltiedig ar ran y cyngor.
Rydym ni oll yn hynod falch ac edrychwn ymlaen at wylio'ch ffilm yn
ddiweddarach. 4)
Newidiadau/cywiriadau i
wŷs y cyngor Dywedodd y dirprwy
aelod llywyddol fod angen newid Gwŷs y Cyngor fel a ganlyn: Eitem 10 "Cynllun
Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2017-2020”. Tudalen 24, paragraff
1.4. Newid "2020" i
"2050". |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Bargen ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe Rhoddodd arweinydd y Cyngor
y diweddaraf am Fargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe. 2)
Y Cynghorydd Christine Richards – Ymddiswyddo fel Aelod y
Cabinet Diolchodd arweinydd y cyngor i Christine Richards,
dirprwy arweinydd y cyngor ac aelod y Cabinet dros blant a phobl ifanc, am ei
holl waith caled ac ymrwymiad i'r awdurdod dros y blynyddoedd. Dywedodd fod y Cynghorydd Richards wedi
penderfynu ymddiswyddo fel aelod o'r Cabinet a dychwelyd i wleidyddiaeth y
meinciau cefn. Dywedodd y byddai hi'n cael ei chofio
am ei dywediad "Mae angen i ni gydlynu o gwmpas plant". |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyniad Cyhoeddus - Dysgwyr sy'n Derbyn Gofal - Gwobrau Into Film 2017, "Go Forward" Cofnodion: Dangoswyd y ffilm
"Go Forward" gan y dirprwy aelod llywyddol
y cyfeiriwyd ati yn ei chyhoeddiadau blaenorol. Rhoddwyd diolch gan
y cynghorwyr C Richards a J A Raynor am y cyflwyniad. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Trefniadau'r Prif Weithredwr PDF 174 KB Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Adnoddau) a oedd yn
ceisio dilyniant mewn perthynas â swydd y Prif Weithredwr yn dilyn diwedd y
trefniadau dros dro ar 31 Mai 2017 a galluogi'r cyngor a etholir ym mis Mai
2017 i benderfynu ar benodiad Prif Weithredwr parhaol. PENDERFYNWYD ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo bod Phil Roberts yn
parhau fel Prif Weithredwr tan 31 Hydref 2017. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2017-2020. PDF 78 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan aelod y Cabinet dros addysg a oedd am fabwysiadu'r
Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) 2017-2020 terfynol a cheisio
caniatâd i gyflwyno'r CSGA 2017-2020 statudol terfynol i Lywodraeth Cymru ar
gyfer cymeradwyaeth. PENDERFYNWYD ar y canlynol: 1)
Mabwysiadu'r
Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) 2017-2020 terfynol; 2)
Cyflwyno
CSGA 2017-2020 statudol terfynol i Lywodraeth Cymru am ei chymeradwyaeth. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Protocol yr Arglwydd Faer a'r Dirprwy Arglwydd Faer. PDF 144 KB Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth
y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn mynd i'r afael â materion a
godwyd yng Ngweithgor y Cyfansoddiad a gynhaliwyd ar 6 Chwefror 2017. Roedd yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i
ychwanegu'r Cynghorydd P M Black yn ôl ar y rhestr o gynghorwyr sy'n debygol o
fod yn Arglwydd Faer yn y dyfodol a chytundeb i newid y cyfnodau gwahardd a
restrir yn y protocol. PENDERFYNWYD ar y canlynol: 1)
Rhoi'r
Cynghorydd P M Black yn ôl ar y rhestr o gynghorwyr sy'n debygol o fod yn
Arglwydd Faer a'i ystyried i fod yn ddirprwy Arglwydd Faer yn 2018-2019; 2) Mabwysiadu'r
protocol Arglwydd Faer a dirprwy Arglwydd Faer arfaethedig fel a amlinellir yn
Atodiad 2 yr adroddiad. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Newidiadau i'r Cyfansoddiad. PDF 79 KB Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad ar y cyd gan yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau
Democrataidd a oedd yn ceisio gwneud diwygiadau er mwyn symleiddio, gwella
a/neu ychwanegu at Gyfansoddiad y Cyngor. Roedd y newidiadau
arfaethedig mewn perthynas â'r meysydd canlynol o Gyfansoddiad y Cyngor: i)
Rhan
2 "Erthyglau'r Cyfansoddiad", "Swyddogion" Erthygl 12; ii)
Rhan
3 "Cyfrifoldeb dros Swyddogaethau", "Cynllun Dirprwyo". PENDERFYNWYD: 1)
Newid swyddogaethau'r
Swyddog Priodol y cyfeirir atynt yn Erthygl 12.5.2 a 12.5.3 o Gyfansoddiad y
Cyngor er mwyn caniatáu i naill ai'r Prif Weithredwr a/neu Bennaeth y
Gwasanaethau Democrataidd ymgymryd â'r swyddogaethau canlynol: i)
Tystio a derbyn
datganiadau'r swydd (Adran 83 Deddf Llywodraeth Leol 1972); ii)
Derbyn datganiadau o
ymddiswyddo o swydd (Adran 84 Deddf Llywodraeth Leol 1972); iii)
Cynnull cyfarfod y cyngor
i lenwi sedd wag achlysurol y cadeirydd (Adran 88 Deddf Llywodraeth Leol 1972); iv)
Derbyn hysbysiad o sedd
wag achlysurol gan ddau etholwr llywodraeth leol (Adran 89 Deddf Llywodraeth
Leol 1972); 2) Newid rhan 3 “Cyfrifoldeb dros Swyddogaethau",
"Cynllun Dirprwyo", "Swyddogaeth Dewis Lleol – J25" i
ddarllen fel a ganlyn:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 114 KB Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd (15)
'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd
Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion
ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar y cwestiynau
atodol. 2) ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan
B Ni chyflwynwyd unrhyw 'Gwestiynau Rhan B nad oes angen
Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'. |