Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd gyngor
ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a
swyddogion eu cael mewn eitemau ar yr agenda. Gwnaeth Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd atgoffa cynghorwyr a
swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol
a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes
unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd
cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn
ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir
Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: Cynghorwyr 1)
Datganodd y Cynghorwyr C
Anderson, J P Curtice, J A Hale, C A Holley, S M Jones, E J King, A S Lewis, R
D Lewis ac R C Stewart ddiddordeb personol yng nghofnod rhif 160 “Polisi
Cyflogau 2017-2018”; 2)
Datganodd y Cynghorwyr J E
Burtonshaw, C A Holley, A J Jones, K E Marsh, C Thomas, M Thomas a T M White
ddiddordeb personol yng nghofnod rhif 160 “Polisi Cyflogau 2017-2018” gan nodi
eu bod wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau; 3)
Datganodd y Cynghorwyr P
Downing, S M Jones, K E Marsh, P N May, R D Lewis ac C L Philpott ddiddordeb
personol yng Nghofnod 163 “Trefniadau Derbyn 2018-2019”; 4) Datganodd y Cynghorwyr M C Child, J P
Curtice, J E Harris, P R Hood-Williams, L James, J W Jones, M H Jones, R D
Lewis a K E Marsh ddiddordeb personol a rhagfarnol yng Nghofnod 165 “Cymeradwyo
Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol Gŵyr”; 5)
Datganodd y Cynghorydd C R
Doyle ddiddordeb personol a rhagfarnol yng Nghofnod 166 “Asesiad Poblogaeth
Bae'r Gorllewin” a gadawodd y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried; 6)
Datganodd y Cynghorwyr J W
Jones, M H Jones, S M Jones, C L Philpott, J A Raynor ac C Richards ddiddordeb
personol a rhagfarnol yng Nghofnod 169 “Cwestiynau Cynghorwyr.” Swyddogion 1)
Datganodd G Borsden, H Evans,
M Hawes, T Meredith, P Roberts a D Smith ddiddordeb personol a rhagfarnol yng
Nghofnod 160 “Polisi Cyflogau 2017-2018” a gadawsant y cyfarfod cyn iddo gael
ei ystyried. 2)
Datganodd T Meredith
ddiddordeb personol a rhagfarnol yng Nghofnod 161 “Ailstrwythuro'r Uwch-reolwyr
- y Gyfarwyddiaeth Adnoddau” a gadawodd y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1) Cyfarfod
cyffredin o'r cyngor a gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2017; 2)
Cyfarfod cyffredin o'r cyngor a gynhaliwyd ar 23 Chwefror 2017. |
|
Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. Cofnodion: Ni chafwyd ymatebion
ysgrifenedig. |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Ymosodiad San Steffan,
Llundain Cyfeiriodd y Llywydd at dristwch yr ymosodiad terfysgol ar San Steffan, Llundain ar 22 Mawrth 2017. Hyd yn hyn, roedd 4 person wedi marw a 40 o
bobl wedi'u hanafu, gyda 7 ohonynt yn dal i fod yn yr ysbyty mewn cyflwr
difrifol. Y rhai a fu farw oedd Aysha Frade, Kurt
Cochran, PC Keith Palmer a'r ymosodwr. Roedd y baneri y tu allan i adeiladau dinesig y
cyngor ar eu hanner a chafwyd munud o dawelwch gan y staff am 09.33 fel arwydd
o barch yn dilyn yr ymosodiad ar San Steffan.
Bu munud o dawelwch mewn mannau eraill hefyd ar draws y DU i nodi pryd
dechreuodd y sesiwn seneddol yn Llundain. Gwnaeth pawb a oedd yn bresennol godi fel arwydd o
gydymdeimlad a pharch. 2)
Gwobrau
Cyfleoedd Llywodraeth Genedlaethol (GO) 2017-2018 Cyhoeddodd y Llywydd fod Dinas a Sir Abertawe wedi
ennill yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Caffael Cyhoeddus Cyfleoedd Llywodraeth
Genedlaethol 2017-2018 a gynhaliwyd ym Manceinion ar 21 Mawrth 2017. Y seremoni oedd pinacl Gŵyl Gaffael
Gogledd Lloegr a mynychodd bron 600 o gynrychiolwyr o gymuned caffael cyhoeddus
y DU gan fynd ben ben i ennill y brif wobr GO. Enillodd tîm "Y Tu Hwnt i Frics a
Morter" yr awdurdod "Wobr Menter Gyflogaeth Orau GO" a noddwyd
gan Epson am ei waith rhagorol a'i bolisi manteision
cymunedol. Ar ran yr awdurdod, gwnaeth
longyfarch a diolch i bawb a gymerodd ran. Cyflwynwyd Helen Beddow a Lee Wyndham
o'r tîm Y Tu Hwnt i Frics a Morter â'r wobr. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Bargen Ddinesig
Dinas-ranbarth Bae Abertawe Dywedodd Arweinydd y
Cyngor fod Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe wedi'i llofnodi ar 20
Mawrth 2017. Y fargen hon yw'r
buddsoddiad mwyaf erioed yn yr ardal; gellid cyflwyno 10,000 o swyddi i'r
rhanbarth gan roi hwb gwerth £1.3 miliwn i'r economi. Talodd deyrnged i'r tîm o bobl a gynorthwyodd
i gyflawni hyn. 2)
Stadiwm Liberty Rhoddwyd yr wybodaeth
ddiweddaraf gan Arweinydd y Cyngor ar y trafodaethau ar gyfer cytundeb prydles
newydd ar gyfer Stadiwm Liberty. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r
cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â
hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd
sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd.
Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn briodol. Rhestrir y cwestiynau hynny a oedd yn gofyn
am ymateb ysgrifenedig isod: 1) Gofynnodd David Davies
gwestiynau am Gofnod 165 “Cymeradwyo Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol Gŵyr (AoHNE)”. a)
“Tudalen 199. Paragraff 3.38. Mae colli arian Ewropeaidd ar gyfer trafnidiaeth
o ganlyniad i Brexit yn creu problemau ariannol i'r awdurdod hwn, yn arbennig
ar adeg pan fo Llywodraeth Cymru'n cynllunio system drafnidiaeth integredig
genedlaethol. i)
A yw'n debygol yr effeithir ar
wasanaeth Gower Explorer y Sul? ii)
A fydd y bartneriaeth rhwng y
Cyngor a DANSA sy'n gwasanaethu Tregŵyr i Lanrhidian
yn parhau i dderbyn arian ac a oes gan y cyngor unrhyw gynlluniau i ehangu’r
gwasanaethau cludiant cymunedol, amwynder a gyflwynwyd gan y Cyngor Llafur hwn
sy'n stori o lwyddiant? Datganodd Aelod y
Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant y darperir ymateb ysgrifenedig. |
|
Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim Cofnodion: Ni
dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus. |
|
Polisi Cyflogau 2017/18. PDF 58 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar
gyfer Polisi Cyflogau 2017-2018. PENDERFYNWYD: 1)
Mabwysiadu Polisi Cyflogau 2017-2018. |
|
Strwythur Uwch-reoli - Cyfarwyddiaeth Adnoddau'r. PDF 278 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn cynnig strwythur
Uwch-reoli yn dilyn ymddeoliad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Adnoddau) ddiwedd
mis Mai 2017. Gwnaeth un newid i Atodiad
1 yr adroddiad drwy nodi y dylai "Etholiadau a Chofrestru ar gyfer Etholiadau"
sef "y Gwasanaethau Etholiadol" ddod o dan y pennawd Gwasanaethau
Democrataidd. PENDERFYNWYD: 1)
Y dylai'r strwythur, yn amodol
ar ymgynghoriad a nodwyd yn yr adroddiad, gael ei gymeradwyo; 2)
Rhoddir
caniatâd i'r Prif Weithredwr ymgynghori â phob un yr effeithir arno; 3) Bod hawl gan y Prif Weithredwr roi'r strwythur ar waith yn amodol ar newid 2) uchod i nodi nad oes newidiadau sylweddol. |
|
Ymateb i'r ymgynghoriad - Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad. PDF 155 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth mewn
egwyddor i'r ymatebion i'r Papur Gwyn "Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid
ac Adnewyddiad" a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru er mwyn
gallu llunio ymateb manwl erbyn y dyddiad cau, sef 11 Ebrill 2017.. PENDERFYNWYD: 1) Bod y cyngor yn ystyried y Papur Gwyn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, ‘Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad’, ac mae'n rhoi caniatád i'r Prif Weithredwr lunio ymateb mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor yn unol â'r ymatebion awgrymedig a amlygir mewn du yn yr adroddiad hwn. |
|
Trefniadau Derbyn 2018/2019. PDF 90 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg adroddiad a oedd am bennu trefniadau
derbyn ysgolion a gynhelir ar gyfer blwyddyn academaidd 2018-2019. PENDERFYNWYD: 1)
Cymeradwyo trefniadau derbyn arfaethedig y Meithrin ar
gyfer 2018-2019 fel a nodir yn Atodiad A yr adroddiad; 2)
Cymeradwyo trefniadau derbyn arfaethedig y dosbarth
Derbyn ar gyfer 2018-2019 fel a nodir yn Atodiad B yr adroddiad; 3)
Cymeradwyo trefniadau derbyn arfaethedig Blwyddyn 7
ar gyfer 2018-2019 fel a nodir yn Atodiad B yr adroddiad; 4)
Cymeradwyo trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer
trosglwyddo yng nghanol y flwyddyn ar gyfer 2018-2019 fel a nodir yn Atodiad B
yr adroddiad; 5)
Cymeradwyo trefniadau derbyn arfaethedig/meini
prawf derbyn ar gyfer chweched dosbarth ar gyfer 2018-2019 fel a nodir yn
Atodiad C yr adroddiad; 6)
Cymeradwyo'r Amserlen Ddigwyddiadau yn Atodiad Ch
yr adroddiad; 7) Nodir niferoedd derbyn ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd yn Atodiad D yr adroddiad. |
|
Datganiad Lles 2017/18. PDF 259 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad adroddiad a oedd
yn nodi amcanion lles a datganiad lles 2017/2018 i'r cyngor fel sy'n ofynnol yn
ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. PENDERFYNWYD: 1)
Bod 5
blaenoriaeth allweddol y cyngor a fynegwyd yn ei Gynllun Corfforaethol presennol
ar gyfer 2016/2017 yn parhau yn 2017/2018 fel amcanion lles y cyngor; 2)
Cymeradwyo
Datganiad Lles y cyngor ar gyfer 2017/2018; 3) Bod y gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd i adolygu amcanion lles y cyngor yn parhau ar ôl yr etholiadau llywodraeth leol gyda'r Weinyddiaeth newydd etholedig i 2017/2018, a bod Cynllun Corfforaethol newydd yn cael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol. |
|
Cymeradwyaeth Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gwyr (AoHNE). PDF 1 MB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio adroddiad a
oedd yn ceisio cymeradwyaeth i fabwysiadu Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch
Naturiol Eithriadol Gŵyr fel Polisi'r Cyngor ac fel Canllaw Cynllunio
Atodol. PENDERFYNWYD: 1)
Cymeradwyo a mabwysiadu Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol Gŵyr fel Polisi'r Cyngor ac fel Canllaw Cynllunio Atodol i'r
Cynllun Datblygu Unedol a'r Cynllun Datblygu Lleol sydd yn yr arfaeth. Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd E W Fitzgerald y cwestiwn
canlynol: “Tudalen 192, Paragraff 3.9. Ail frawddeg. A wnaiff yr Aelod Cabinet
egluro pa ganolfan y cyfeirir ati? Datganodd Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio y darperir
ymateb ysgrifenedig. |
|
Asesiad o Boblogaeth Bae'r Gorllewin. PDF 101 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn adroddiad a
oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Asesiad Poblogaeth Bae'r Gorllewin; er
mwyn awdurdodi Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol i gyhoeddi dolen i'r
Asesiad Poblogaeth ar wefan y cyngor ac awdurdodi'r Cyfarwyddwr Pobl i gyflwyno
Asesiad Poblogaeth i Weinidogion Cymru ar ran y tri awdurdod lleol a bwrdd
iechyd yn rhanbarth Bae'r Gorllewin. Rhoddwyd cyflwyniad gan Brif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol (Dave
Howes) a Chyfarwyddwr Rhaglen Bae'r Gorllewin (Sara Harvey) ar Asesiad
Poblogaeth Bae'r Gorllewin. PENDERFYNWYD: 1)
Y dylid cymeradwyo Asesiad Poblogaeth Bae'r Gorllewin; 2)
Rhoi caniatâd i Brif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol
gyhoeddi dolen i'r Asesiad Poblogaeth ar wefan y cyngor; 3)
Rhoi caniatâd i'r Cyfarwyddwr Pobl gyflwyno Asesiad
Poblogaeth i Weinidogion Cymru ar ran y tri awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd yn
rhanbarth Bae'r Gorllewin. |
|
Dyddiadur y cyngor 2017-2018. PDF 58 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Llywydd, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau
Democrataidd adroddiad a oedd yn amlinellu dyddiadur drafft y cyngor ar gyfer
2017-2018. PENDERFYNWYD: 1)
Cymeradwyo
Dyddiadur y Cyngor ar gyfer 2017-2018; 2)
Ailgyflwyno
dyddiadur y Cyngor ar gyfer 2017-2018 i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor
ar 25 Mai 2017 i'w ystyried ymhellach yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol
ar 4 Mai 2017; 3) Cynnal Arolwg Amserau Cyfarfodydd y Cyngor yn Hydref/Gaeaf 2017. |
|
Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol PDF 81 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol. |
|
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 178 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan
A Cyflwynwyd deg (10) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a
gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar y cwestiynau
atodol. 2) ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan
B Cyflwynwyd un (1) 'cwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' Rhan B. |