Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd Bennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democrataidd gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael
mewn eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
gynghorwyr a swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau o
fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y
cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oedd angen dychwelyd ffurflenni os nad
oedd unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid
datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau
canlynol: Cynghorwyr 1)
Datganwyd buddiannau personol
a rhagfarnol yng nghofnod rhif 125 "Mabwysiadu
Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor" gan y Cynghorwyr J E Burtonshaw, N J
Davies, A M Day, P M Downing, E T Kirchner, C E Lloyd, P Lloyd, P M Matthews, P
M Meara, C L Philpott, C Richards, C Thomas, T M White ac N M Woollard gan dynnu'n
ôl o'r cyfarfod cyn y drafodaeth; 2)
Datganwyd budd personol a rhagfarnol yng nghofnod rhif 128 "Adroddiad Blynyddol
y Gwasanaethau Democrataidd 19 Mai 2015 ac 18 Mai 2016" gan y Cynghorwyr P
M Black, A C S Colburn, J P Curtice, N J Davies, J W Jones, E T Kirchner ac L V
Walton. 3)
Datganodd y Cynghorydd R V
Smith fudd personol a rhagfarnol yng Nghofnod 129
"Cwestiynau Cynghorwyr - Cwestiwn 4" a gadawodd y cyfarfod cyn y
drafodaeth. 4)
Datganodd y Cynghorydd G J
Tanner fudd personol yng Nghofnod 129 "Cwestiynau'r Cynghorwyr - Cwestiwn
9”. |
|
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod cyffredin y cyngor a
gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2016. |
|
Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor - Dim. Cofnodion: Ni chafwyd ymatebion
ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng nghyfarfod cyffredinol diwethaf y
cyngor. |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Salwch Cynghorwyr Estynnwyd dymuniadau
gorau ac adferiad cyflym gan yr Aelod Llywyddol i'r Cynghorwyr Bob Clay, Uta
Clay a Hazel Morris 2) Anrhydeddau
Blwyddyn Newydd 2017 Llongyfarchodd
yr Aelod Llywyddol ddinasyddion Abertawe a dderbyniodd anrhydeddau Blwyddyn
Newydd. a) Swyddog
Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) i) Chris Coleman. Rheolwr. Tîm Pêl-droed Cenedlaethol
Cymru. Am wasanaethau i bêl-droed; ii) Thomas Stephen Potokar.
Sefydlydd. Interburns. Am wasanaethau i Ofal Llosgiadau ac Atal
Dramor. (Abertawe); iii) John Andrew Straw. Cyn Brif Weithredwr. Cyngor Dinas a Sir Abertawe. Am wasanaethau i
lywodraeth leol. (Abertawe); iv) Paul Harold
Valerio.
Llywydd. Ceidwadwyr Gorllewin Abertawe.
Am wasanaethau i ddatganoli Cymru.
(Abertawe); v) Yr Athro Michael Alan Hewlett Williams.
Prif Weithredwr. Grŵp Gwalia Cyf.
Am wasanaethau i iechyd, tai a phobl ddigartref yng Nghymru. (Abertawe). b) Aelod
o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) i) Thomas Michael
Hughes. Sefydlwr Rhaglen Astudio Preswyl
Silicon Valley. Am wasanaethau i
raddedigion Prydeinig yn Silicon Valley a San Francisco. (Abertawe); ii) Richard Craig Owen. Swyddog Carchar. Carchar EM Abertawe. Am wasanaethau i
garcharorion a'r gwasanaeth gwirfoddol i gyn-weithwyr y gwasanaeth. (Rhydaman, Sir Gâr); iii) Aaron
Moores. Am wasanaethau
i nofio. (Sgeti, Abertawe); iv) Anthony John Parfitt. Gwyliwr y
Glannau Gwirfoddol. Gwylwyr y Glannau EM
y Mwmbwls, Abertawe. Am wasanaethau i
ddiogelwch morol. (Abertawe). c) Medal
yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) i)
Karen Ann Hughes. Am wasanaethau gwirfoddol i bobl ifanc yn
Abertawe. (Tŷ Coch, Abertawe); ii)
Joyce Monica
Jenkins. Am wasanaethau i'r gymuned yn
Abertawe. (Gŵyr, Abertawe). ch) Medal Gwasanaeth Tân y
Frenhines (QFSM) i)
Christopher Davies. Prif Swyddog Tân. Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a
Gorllewin Cymru. 3) Llongyfarchiadau a)
Safon Iechyd Gorfforaethol – Gwobr Blatinwm Dywedodd yr Aelod Llywyddol ar 12 Ionawr 2017, cafodd yr awdurdod ei asesu
gan Lywodraeth Cymru a Iechyd Cyhoeddus Cymru yn erbyn Safon Iechyd Corfforaethol
Blatinwm Llywodraeth Cymru. Dywedodd ei fod yn falch bod yr awdurdod yn llwyddiannus ac wedi ennill y
Wobr Blatinwm. Yn ogystal, canmolwyd yr
awdurdod am ei flaengaredd, ei gynhwysiad, ei arweinyddiaeth, ei fentrau lles a
chynaladwyedd ar draws y saith 6 maen prawf craidd, sef: Teithio, Adeiladu
Cyfalaf , Rheoli Cyfleusterau, Cyflogaeth a Sgiliau, Caffael; a Chynnwys y Gymuned . Dinas a Sir Abertawe yw'r ail awdurdod lleol yn unig i gyflawni'r lefel hon
ers iddi ddechrau yn 2005, hefyd dyma'r awdurdod dinesig mawr cyntaf erioed i
dderbyn y fath gydnabyddiaeth. Cafodd y gwaith ar gyfer y wobr ei gydlynu gan y Gwasanaeth Iechyd,
Diogelwch, Rheolaeth a Lles Brys Corfforaethol, a greodd adroddiadau,
cyflwyniadau ac astudiaethau achos y gwobrau wrth arwain grŵp lles a oedd
yn cynrychioli'r holl gyfarwyddiaethau a rhanddeiliaid allweddol yr awdurdod. Dewiswyd y gwasanaeth datblygu gwaith, sy'n dathlu ei 10fed blwyddyn eleni,
fel yr astudiaeth achos olaf, gan roi cyfle i'r aseswyr gwrdd â'r 15 o aelodau
staff a'r defnyddwyr gwasanaeth a chlywed yn uniongyrchol am yr hyn a wnaeth y
tîm i helpu rhai o'r bobl fwyaf difreintiedig yn ein cymuned i ganfod
cyflogaeth, datblygu sgiliau a chyflawni llwyddiannau mawr. Disgwylir adroddiad llawn gan Lywodraeth Cymru ddiwedd mis Chwefror, a
disgwylir iddo ganmol yr awdurdod fel enghraifft o arfer gorau a chydnabod ei
fod yn mynd y tu hwnt i'w gyfrifoldebau cymdeithasol corfforaethol i gyflwyno'r
gorau ac gyfer ei gymunedau a'i staff. b)
Cleddyf Dacre – Sgwadron Cadetiaid Awyr 215
(Dinas Abertawe) Atgoffodd yr Aelod
Llywyddol y cyngor fod yr awdurdod wedi dyfarnu rhyddid y ddinas i Sgwadron
Cadetiaid Awyr 215 (Dinas Abertawe).
Dywedodd ei fod yn falch o longyfarch Kathryn Rhiannon Flower am gael ei gwobrwyo â Chleddyf Dacre yn
ddiweddar. Rhoddir Cleddyf Dacre unwaith
y flwyddyn i'r cadlanc gorau yn y DU. Dyma bedwerydd tro'r
sgwadron i dderbyn y wobr sy'n rhywbeth newydd ar gyfer sgwadronau yng Nghymru,
ac unwaith yn unig y mae hyn wedi digwydd yn rhywle arall yn y DU. c)
Tanya Nash – Arweinydd Tîm
Datblygu Cynaliadwy Dywedodd yr Aelod
Llywyddol fod Tanya Nash (Arweinydd Tîm Datblygu Cynaliadwy) yn gadael yr
awdurdod yfory ar ôl 17 mlynedd o wasanaeth.
Yn ystod yr 17 o flynyddoedd hynny, mae wedi helpu i godi proffil yr
awdurdod fel yr awdurdod cyhoeddus arweiniol ar gynaladwyedd. Ar ran yr awdurdod,
diolchodd i Tanya am ei holl ymdrechion dros y blynyddoedd gan ddymuno'n dda
iddi ar gyfer y dyfodol yn ei rôl newydd fel Pennaeth Perfformiad yn swyddfa
Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1) Morlyn Llanw - y
diweddaraf Rhoddwyd y diweddaraf
gan Arweinydd y cyngor ar statws presennol y Morlyn Llanw. 2) Caffael
Gweithredwr Arena Rhoddwyd y diweddaraf gan
Arweinydd y cyngor ar gaffael gweithredwr arena. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r
cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â
hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd. Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn
briodol. Rhestrir y cwestiynau hynny a
oedd yn gofyn am ymateb ysgrifenedig isod: 1)
Gofynnodd Lis
Davies i Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf gwestiynau mewn
perthynas â Chofnod 129, Cwestiynau 'Cynghorwyr' - Cwestiwn 9". Nid oes
unrhyw sôn yn yr adroddiad am Glôs Edgemoor, Cilâ
Uchaf. Nid yw preswylwyr sydd wedi byw
yn yr eiddo am dros 45 mlynedd erioed wedi cael ceginau neu ystafelloedd
ymolchi newydd. Maent hefyd yn gorfod
defnyddio hen systemau gwres canolog nwy nad ydynt yn rhoi dŵr twym iddynt
yn syth ac nid ydynt yn addas at y diben. a)
Pam mae preswylwyr
Clôs Edgemoor yn cael eu diystyru dros denantiaid
eraill mewn ardaloedd eraill yn Abertawe sydd eisoes wedi elwa o welliannau
cartref sylfaenol iawn? b)
Fyddai Aelod y
Cabinet yn fodlon cwrdd â dau denant y cyngor er mwyn trafod y mater hwn
ymhellach? Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Dyfodol
y byddai'n llunio ymateb ysgrifenedig ac y byddai'n fodlon cwrdd â dau
breswylydd o Gilâ Uchaf |
|
Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim. Cofnodion: Ni dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus. |
|
Mabwysiadu Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor. PDF 120 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn esbonio'r gofyniad i
ystyried yn flynyddol p'un ai i ddiwygio neu newid Cynllun Gostyngiad Treth y
Cyngor presennol y cyngor a'r gofyniad i naill ai fabwysiadu cynllun newydd neu
ail-fabwysiadu'r cynllun presennol erbyn 31 Ionawr 2017. Gofynnwyd hefyd iddo ail-fabwysiadu'r cynllun
presennol fel a nodir yn Adran 3 yr adroddiad ar gyfer 2017-2018. PENDERFYNWYD ar y canlynol 1)
Dylid nodi Rheoliadau
Cynlluniau Gostyngiadau Treth y Cyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013
("y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig") gan Gynulliad Cenedlaethol
Cymru ar 26 Tachwedd 2013, fel y'u diwygiwyd; 2)
Dylid nodi'r newidiadau
arfaethedig i'r "Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig" sydd wedi'u cynnwys
yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau Treth y Cyngor drafft (Gofynion
Rhagnodedig a'r Cynllun Diffygiadau) (Cymru) 2017, i'w hystyried a'u cymeradwyo
gan CCC ar 17 Ionawr 2017; 3)
Dylid nodi canlyniad yr ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd
gan y cyngor ym mis Rhagfyr 2014 ar feysydd disgresiwn y cynllun presennol; 4)
Sicrhau bod y cynllun presennol (2016-2017) o ran y
meysydd disgresiwn (fel a nodwyd yn adran 3 yr adroddiad) yn aros yn
ddigyfnewid ar gyfer 2017-2018. 5) Bydd y cyngor yn mabwysiadu'r cynllun
fel a nodwyd yn adran 3 yr adroddiad a bod unrhyw newidiadau i'r rheoliadau gan
CCC yn cael eu hadlewyrchu yn y cynllun. |
|
Adolygu Polisi Effaith Gronnol Canol y Ddinas. PDF 108 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fenter, Adfywio a Datblygu adroddiad a oedd
yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar yr adolygiad o'r Polisi Effaith
Gynyddol/Polisi Arbennig sydd yn Natganiad Polisi Trwyddedu'r cyngor. PENDERFYNWYD y dylid 1)
Ystyried yr ymgynghoriad ar y
newidiadau arfaethedig i'r Polisi Effaith Gronnol/Polisi Arbennig a bod y newidiadau
arfaethedig yn cael eu cymeradwyo a bod y polisi diwygiedig yn Atodiad A yr
adroddiad yn cael ei fabwysiadu. |
|
Aelodaeth Pwyllgorau. PDF 48 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a
Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer
enwebiadau/diwygiadau i aelodaeth cyrff y cyngor. Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaethau
Democrataidd ar lafar rai newidiadau ychwanegol hwyr i aelodaeth pwyllgorau. Dywedodd nad oedd
Arweinydd y Cyngor wedi gwneud unrhyw newidiadau i aelodaeth cyrff allanol yr
awdurdod. PENDERFYNWYD diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn: 1)
Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar
Ddatblygu Tynnu
enw’r Cynghorydd N M Woollard. Ychwanegu
enw’r Cynghorydd M B Lewis. 2)
Pwyllgor y Rhaglen Graffu Tynnu
enw’r Cynghorydd P M Meara. Ychwanegu
enw’r Cynghorydd C A Holley. |
|
Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Democrataidd 19 Mai 2015 - 18 Mai 2016. PDF 124 KB Cofnodion: Cyflwynodd Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
adroddiad er gwybodaeth a oedd yn amlinellu Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau
Democrataidd ar gyfer y cyfnod 19 Mai 2015 i 18 Mai 2016. Amlinellodd yr adroddiad waith craffu'r
cyfnod hwnnw. |
|
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 93 KB Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd
(11) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd
Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion
ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Mae'r
cwestiynau atodol sy'n gofyn am ymateb ysgrifenedig yn cael eu rhestru isod: Cwestiwn 4 Gofynnodd
y Cynghorydd P M Black y canlynol: "A wnaiff yr Aelod Cabinet dros Addysg rannu canlyniadau PISA a
wahanwyd ar gyfer Abertawe y cyfeiriodd atynt yn awr?" Dywedodd
Aelod y Cabinet dros Addysg y byddai'n dosbarthu'r canlyniadau PISA a wahanwyd
ar gyfer Abertawe. Cwestiwn 9 Y
Cynghorydd E W Fitzgerald: A wnaiff Aelod y Cabinet ddarparu rhestr o'r gwaith
arfaethedig i foderneiddio stoc tai'r cyngor ym Mhenllergaer
oherwydd bod preswylwyr y cyngor yno'n credu eu bod
yn mynd i gael ystafelloedd ymolchi newydd eleni? Dywedodd Aelod y
Cabinet dros Wasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf y byddai'n llunio ymateb
ysgrifenedig. 2) ‘Cwestiynau
nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B Ni chyflwynwyd unrhyw 'Gwestiynau
Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'. |