Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth Dros Dro’r Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democrataidd gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol
posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael mewn eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau
personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w
ddatgan. Nid oedd angen dychwelyd ffurflenni os nad oedd unrhyw beth i'w
ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar
lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau’r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: Cynghorwyr 1)
Datganodd C Anderson, J A
Hale, T J Hennegan a G D Walker fudd personol yng nghofnod 93 "Gwasanaeth
Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru – Cyflwyniad gan y Prif Swyddog
Tân"; 2)
Datganodd y cynghorwyr C
Anderson, J C Bayliss, P M Black, J E Burtonshaw, R A Clay, U C Clay, A C S
Colburn, D W Cole, A M Cook, S E Crouch, N J Davies, P Downing, C R Doyle, W
Evans, E W Fitzgerald, F M Gordon, J A Hale, T J Hennegan, C A Holley, P R
Hood-Williams, B Hopkins, D H Hopkins, L James, Y V Jardine, A J Jones, J W Jones,
M H Jones, E J King, E T Kirchner, A S Lewis, D J Lewis, M B Lewis, R D Lewis,
C E Lloyd, K E Marsh, P M Matthews, P N May, P M Meara, H M Morris, G Owens, D
Phillips, C L Philpott, J A Raynor, T H Rees, I M Richard, C Richards, P B
Smith, R V Smith, R J Stanton, R C Stewart, D G Sullivan, C Thomas, C M R W D
Thomas, D W W Thomas, L G Thomas, M Thomas, L J Tyler-Lloyd, G D Walker, L V
Walker a T M White fudd personol yng nghofnod 97 "Adroddiad Blynyddol
Drafft 2017-2018, Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol – 2017-2018
Ymgynghoriad"; 3)
Datganodd y cynghorwyr C
Anderson, J C Bayliss, P M Black, J E Burtonshaw, R A Clay, U C Clay, A C S
Colburn, D W Cole, A M Cook, S E Crouch, N J Davies, P Downing, C R Doyle, W
Evans, E W Fitzgerald, F M Gordon, J A Hale, T J Hennegan, C A Holley, P R
Hood-Williams, B Hopkins, D H Hopkins, L James, Y V Jardine, A J Jones, J W
Jones, M H Jones, E J King, E T Kirchner, A S Lewis, D J Lewis, M B Lewis, R D
Lewis, C E Lloyd, K E Marsh, P M Matthews, P N May, P M Meara, H M Morris, G
Owens, D Phillips, C L Philpott, J A Raynor, T H Rees, I M Richard, C Richards,
P B Smith, R V Smith, R J Stanton, R C Stewart, D G Sullivan, C Thomas, C M R W
D Thomas, D W W Thomas, L G Thomas, M Thomas, L J Tyler-Lloyd, G D Walker, L V
Walker a T M White fudd personol yng nghofnod 98 "Lwfansau band eang a
ffôn, TGCh a ffonau symudol Cynghorwyr - mis Mai 2017 a'r tu hwnt". 4)
Datganodd y cynghorwyr J W
Jones, M H Jones, R D Lewis, K E Marsh, P M Meara, J A Raynor a C Thomas fudd
personol yng nghofnod 101 "Cwestiynau'r Cynghorwyr". |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir yn amodol ar
ychwanegu'r cynghorydd L V Walton at restr yr ymddiheuriadau am absenoldeb: 1) Cyfarfod Cyffredin y cyngor
a gynhaliwyd ar 1 Tachwedd 2016. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd
adroddiad gwybodaeth yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd
yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1) Cydymdeimladau a)
Y
cyn-gynghorydd David Raymond (Ray) Beech Cyfeiriodd yr aelod llywyddu at farwolaeth
ddiweddar y cyn-gynghorydd Ray Beech. Datganodd fod y cyn-gynghorydd Beech wedi
gwasanaethu ward etholiadol Canol Gorseinon yr hen Gyngor Bwrdeistref Dyffryn
Lliw. Cododd pawb a oedd yn bresennol i nodi eu
cydymdeimlad a'u parch. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1) Cefnogaeth ar gyfer y Fargen Ddinesig Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y gefnogaeth a
dderbyniwyd ar gyfer y Fargen Ddinesig gan Ganghellor y Trysorlys yn ystod
datganiad y Gyllideb ym mis Tachwedd.
Dywedodd yr oedd hyn yn cyd-fynd â'r gefnogaeth a roddwyd eisoes gan
Lywodraeth Cymru. Amcangyfrifir y
gallai'r Fargen Ddinesig fod yn werth £1.3 biliwn i'r economi ranbarthol. 2) Siop dan yr Unto ar gyfer
Cam-drin yn y Cartref Atgoffwyd cynghorwyr gan Arweinydd
y Cyngor fod Siop dan yr Unto ar gyfer Cam-drin yn y Cartref Abertawe wedi
trefnu diwrnod agored ddydd Gwener, 25 Tachwedd 2016. Dywedodd fod y siop ar Stryd Singleton. Ceir rhagor o wybodaeth am y siop yn http://swanseawomenscentre.co.uk/2015/blog/domestic-abuse-one-stop-shop 3) Sefydliad Addysgiadol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd
Unedig (UNESCO) – Rhwydwaith Byd-eang o Ddinasoedd Dysgu Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y Cynghorydd C E
Lloyd wedi dychwelyd yn ddiweddar o Tsieina ar ôl bod i gynhadledd Rhwydwaith
Byd-eang o Ddinasoedd Dysgu UNESCO.
Dywedodd fod Dinas a Sir Abertawe wedi arwain yn y fenter Dinas
Ddeallus. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd. Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn
briodol. Nid oedd unrhyw gwestiwn yn gofyn
am ymateb ysgrifenedig. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim. Cofnodion: Ni
dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru - cyflwyniad gan y Prif Swyddog Tân Cofnodion: Rhoddwyd cyflwyniad
gan Chris Davies (Prif Swyddog Tân) ar waith Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth
a Gorllewin Cymru. Gofynnwyd sawl
cwestiwn i'r Prif Swyddog Tân. Rhoddwyd diolch am y
cyflwyniad gan y cynghorydd R C Stewart, Arweinydd y Cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru. PDF 254 KB Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Steve Barry, Swyddfa Archwilio Cymru, yn amlinellu
Adroddiad Gwella Blynyddol Abertawe 2015-2016 gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Diolchwyd i Steve Barry am ddod i'r cyfarfod ac am ateb cwestiynau gan
Aelod y Cabinet dros Gyllid a Strategaeth. PENDERFYNWYD: 1)
Derbyn a nodi Adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa
Archwilio Cymru 2015-2016; 2) Nodi’r
camau gweithredu a gymerwyd eisoes a’r rhai arfaethedig er mwyn mynd i'r afael
â’r meysydd gwelliant fel rhan o broses gwella perfformiad y cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Strategaeth Mwy o Dai'r Cyngor PDF 208 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r
Genhedlaeth Nesaf adroddiad a oedd yn ceisio sefydlu strategaeth ar gyfer
darparu mwy o dai cyngor. PENDERFYNWYD cymeradwyo'r strategaeth ddrafft a'r cynllun gweithredu i’w rhoi ar waith. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor - 2017/18 PDF 23 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Gyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn manylu ar gyfrifiad Sylfaen
Treth y Cyngor ar gyfer Dinas a Sir Abertawe, ei Chynghorau Cymuned/Tref ac
Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe ar gyfer 2017-2018. Mae'n ofynnol i'r cyngor bennu Sylfaen Treth
y Cyngor ar gyfer 2017/2018 erbyn 31 Rhagfyr 2016. PENDERFYNWYD y dylid: 1) Cymeradwyo cyfrifo Sylfeini Treth y Cyngor
ar gyfer 2017/2018; 2) Yn unol
â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru), fel y'u
diwygiwyd, mae Dinas a Sir Abertawe wedi cyfrifo'r canlynol ar gyfer y flwyddyn
2017-2018:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth
y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn hysbysu'r cyngor o Drafft Adroddiad Blynyddol
Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) 2017-2018 ac
amlinellodd benderfyniadau arfaethedig yr IRPW.
Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys ymateb drafft i'r ymgynghoriad. PENDERFYNWYD: 1) Mabwysiadu’r
sylwadau a amlinellwyd yn Atodiad A yr adroddiad fel ymateb yr awdurdod i
ymgynghoriad yr IRPW mewn perthynas â'i Drafft Adroddiad Blynyddol Drafft ar
gyfer 2017-2018. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Lwfansau Band Eang, Ffonau, TGCh a Ffonau Symudol i Gynghorwyr - Mai 2017 a'r Tu Hwnt. PDF 173 KB Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a'r Prif Swyddog Trawsnewid
adroddiad a oedd yn adolygu'r polisi "TGCh Cynghorwyr - mis Mai 2012 a'r
tu hwnt", gan sicrhau felly fod pob cynghorydd yn derbyn darpariaeth TGCh
sy'n addas ar gyfer ei anghenion, ac sy'n cydymffurfio â phenderfyniadau Panel
Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW). Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd at baragraff 3.1 yr
adroddiad a dywedodd fod yr IRPW wedi cadarnhau ei fod yn briodol i gynnig tâl
cefnogi i gynrychiolydd cyngor cymuned/tref y pwyllgor safonau. Yn dilyn trafodaeth, newidiwyd sawl paragraff yn Atodiad A yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid: 1)
Parhau â'r trefniadau presennol o ran cynghorwyr yn prynu
eu hoffer TGCh eu hunain; 2)
Nodi bod angen mynediad i Office 365 er mwyn galluogi
technoleg y cwmwl i gael system rhannu gwybodaeth fwy diogel a chadarn, yn
amodol ar gyfnod prawf llwyddiannus; 3)
Nodi lwfans TGCh y cynghorwyr fel yr amlinellwyd yn yr
adroddiad; 4)
Nodi lwfans band eang a ffôn y cynghorwyr fel yr
amlinellwyd yn yr adroddiad; 5)
Nodi lwfans ffôn symudol y cynghorwyr fel y nodwyd yn yr
adroddiad; 6)
Nodi cynnwys yr adran sy'n ymwneud â hunanwasanaeth i
gynghorwyr; 7)
Cymeradwyo'r lwfans TGCh a'r lwfans band eang a ffôn
arfaethedig i aelodau cyfetholedig 8)
Nodi penderfyniad y cyngor y dylai holl agendâu ac
adroddiadau craffu etc. ddefnyddio meddalwedd Modern.gov erbyn mis Mai 2017; 9)
Anfon adroddiad diwygiedig i'r Cabinet gydag argymhellion
y cyngor. Sylwer: Gofynnodd y
cynghorydd D Phillips y cwestiwn canlynol: "Awgrymodd yr IRPW fod angen cefnogaeth ddigonol ar
gynghorwyr gan yr awdurdod er mwyn iddynt ymgymryd â'u dyletswyddau sy'n
cynnwys cyfleusterau ffôn ac e-byst a mynediad electronig. Yn unol â'r egwyddor hon, dylai'r awdurdod geisio trafod trefniad â
CThEM lle byddai aelodau'n talu treth ar sail lefel defnydd personol y cytunwyd
arni yn hytrach nag ar y lwfans llawn." Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y byddai ymateb ysgrifenedig
yn cael ei ddarparu yn dilyn trafodaethau â CThEM. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Aelodaeth Pwyllgorau. PDF 49 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a
Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer
enwebiadau/diwygiadau i aelodaeth cyrff y cyngor. PENDERFYNWYD diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn: 1)
Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar
Ddatblygu Tynnu
enw'r cynghorydd J C Bayliss. Ychwanegu'r
cynghorydd P M Matthews. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Newidiadau i'r Cyfansoddiad. PDF 57 KB Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan yr Aelod Llywyddol, y
Swyddog Monitro Dros Dro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn
ceisio diwygio Cyfansoddiad y Cyngor at ddiben ei symleiddio, ei wella a/neu
ychwanegu ato mewn perthynas â'r meysydd canlynol: 1)
Rhan 4 – Rheolau Gweithdrefnau
Ariannol; Yn dilyn trafodaeth, newidiwyd y diwygiad a restrwyd yn
yr adroddiad ychydig er mwyn egluro y byddai'n rhaid i’r tri a restrir
awdurdodi dileu dyledion dros £10,000. PENDERFYNWYD y
dylid dileu Rheol Gweithdrefn Ariannol 11.6 a rhoi’r canlynol yn ei lle: “Mae'n
rhaid dileu dyledion na ellir eu hadennill.
Mae'n rhaid i'r Prif Swyddog Cyllid gymeradwyo pob dyled i’w ddileu hyd at £10,000. Gall
dyledion dros £10,000 gael eu dileu gyda chymeradwyaeth y Prif Swyddog Cyllid,
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd a'r Aelod Cabinet â
chyfrifoldeb dros y gwasanaeth perthnasol”. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 131 KB Cofnodion: Cyflwynwyd deg (10) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar
ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Nid
oedd unrhyw gwestiynau atodol a oedd yn gofyn am ymateb ysgrifenedig. 2) ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan
B Cyflwynwyd un (1) 'cwestiwn nad oedd angen cwestiynau
atodol' Rhan B. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol PDF 82 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r
Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol. |