Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democrataidd gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol
posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael mewn eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
gynghorwyr a swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau o
fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w
ddatgan. Nid oedd angen dychwelyd ffurflenni os nad oedd unrhyw beth i'w
ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar
lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: Cynghorwyr 1)
Datganodd y Cynghorydd J E Burtonshaw
fudd personol yng Nghofnod 80 “Datganiad Cyllideb Canol Tymor 2016/17”; 2)
Datganodd y Cynghorwyr C
Anderson, M C Child, C A Holley, P M Meara a M Thomas fudd personol yng
Nghofnod 82 “Adroddiad Blynyddol 2015/16 -Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol”; 3)
Datganodd y Cynghorydd A S
Lewis fudd personol yng Nghofnod 83 "Aelodaeth Pwyllgorau"; 4)
Datganodd M Thomas fudd personol a rhagfarnol
yng Nghofnod 83 "Cwestiynau Cynghorwyr - Cwestiwn 8" a gadawodd y cyfarfod cyn ei ystyried. 5)
Datganodd y Cynghorydd C L Philpott fudd
personol yng Nghofnod 85 "Hysbysiad o Gynnig". Swyddogion 1)
Datganodd Phil Roberts (Prif
Weithredwr) fudd personol yng nghofnod 82 “Adroddiad Blynyddol 2015/16 -
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol”. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cofnodion
canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod
cyffredin o'r cyngor a gynhaliwyd ar 22 Medi 2016. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd
adroddiad gwybodaeth yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd
yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: Llongyfarchiadau a)
Gwobrau Gwaith Cymdeithasol Cymdeithas Brydeinig y
Gweithwyr Cymdeithasol (BASW) Cymru 2016 Roedd yr aelod llywyddu'n falch iawn o gyhoeddi y
bu nifer o swyddogion y cyngor yn llwyddiannus yng Ngwobrau Gwaith Cymdeithasol
BASW Cymru 2016. Mae'r gwobrau poblogaidd
hyn sydd bellach yn eu 7fed blwyddyn yn agored i weithwyr
cymdeithasol yng Nghymru; p'un ai ydynt yn aelodau BASW neu beidio. Mae Gwobrau Gwaith Cymdeithasol BASW Cymru'n
ceisio hyrwyddo agweddau cadarnhaol ar y proffesiwn Gwaith Cymdeithasol, arfer gwaith
cymdeithasol a sefydliadau cefnogol. Enillodd Vanessa Chambers y Wobr Ysbryd Gwaith
Cymdeithasol ar gyfer yr arweiniad "I am me" a ddatblygwyd ganddi
sy'n ymwneud ag arwain plant i ddeall eu taith drwy fywyd. Derbyniodd Dîm Maethu Abertawe Dystysgrif
Cyflawniad ar gyfer y Wobr Tîm Gwaith Cymdeithasol. Roedd Vanessa Chambers, Amanda Etherington, Martin
Chapman a Thîm Maethu Abertawe'n bresennol i dderbyn eu gwobrau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Ymweliad Masnach â Tsieina Nododd arweinydd y cyngor fod yntau, yr Arglwydd Faer
a'r Arglwydd Faeres wedi bod ar ymweliad masnach ddiweddar â Tsieina. Roedd y daith yn cynnwys ymweliadau â
Shanghai, Nantong a Wuhan. Nododd fod yr
ymweliadau masnach wedi bod yn werth chweil ac y byddai ymweliadau gan
gynrychiolwyr o Tsieina'n digwydd yn y flwyddyn newydd. 2)
Tân yng Nghampws Tŷ Coch, Coleg Gŵyr Abertawe Diolchodd arweinydd y cyngor i swyddogion y cyngor
am eu gwaith gwych wrth gynorthwyo Coleg Gŵyr Abertawe yn dilyn y tân
diweddar ar eu campws yn Nhŷ Coch. 3)
Bargen Ddinesig Rhoddodd arweinydd y Cyngor y diweddaraf am y
Fargen Ddinesig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd. Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn
briodol. Rhestrir y cwestiynau hynny a
oedd yn gofyn am ymateb ysgrifenedig isod: 1) Gofynnodd
David Davies gwestiwn i Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau i Blant a Phobl
Ifanc yn ymwneud â Chofnod 82 “Adroddiad Blynyddol 2015/16 – Cyfarwyddwr y
Gwasanaethau Cymdeithasol”: i)
Tudalen
69 "Dinas sy'n Gofalu", Paragraff 2. "Mae'n arbennig o bleserus i ddarllen y
geiriau bod ein dinas yn cael ei chydnabod fel rhywle llawn gobaith, sy'n
noddfa o gasineb neu erledigaeth. Ers Prydael, mae troseddau casineb wedi cynyddu, wedi'u hannog gan
iaith gwleidyddion sy'n hyrwyddo eu hideoleg ddiegwyddor eu hunain. Rwyf wedi bod yn dyst i ddau achos o
hiliaeth eithafol yr wyf yn mynd ar eu trywydd. Mae'r teimladau a ddaw o Stori Abertawe yn
ysbrydoliaeth. A allai'r Uwch-swyddogion a'r Aelodau Cabinet sy'n
gyfrifol, gael eu cydnabod fel enghreifftiau o'r hyn sy'n dda yn ein cymdeithas
heddiw, ac a fydd modd datgelu pwy ydyn nhw yn ein cyfarfod nesaf?" Nododd
Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc y byddai datganiad
ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyniad Cyhoeddus - CREST. Cofnodion: Tynnwyd yr eitem yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad Cyllideb Tymor Canolig 2016/17. PDF 277 KB Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad
a oedd yn amlinellu perfformiad ariannol y flwyddyn gyfredol ynghyd ag
asesiad wedi'i ddiweddaru o'r gofynion arbedion sy'n debygol dros gyfnod y
Cynllun Ariannol Tymor Canolig. Rhoddodd Arweinydd y cyngor ei ymateb i'r datganiad ar ffurf cyflwyniad i'r
cyngor. PENDERFYNWYD y dylid: 1)
odi'r sylwadau a wnaed yn yr adroddiad a mabwysiadu'r
rhagolwg adnoddau diwygiedig a'r rhagolwg o bwysau gwario o ran cynllunio'r
gyllideb yn y dyfodol; 2)
Nodi'r rhagolwg ariannol o ran y flwyddyn gyfredol a'r
camau gweithredu y bydd eu hangen er mwyn symud tuag at gymeradwyo alldro
refeniw mwy cytbwys ar gyfer 2015-2016. 3)
Nodi'r sylwadau am y cyllid ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf a
amlinellir yn yr adroddiad, a pharhau i fynd i'r afael â'r diffyg ariannol drwy
bolisi sy'n cwmpasu'r holl asedau sy'n cael eu gwerthu. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adolygiad o'r Cronfeydd Cyllid Wrth Gefn a'r Polisi Cronfeydd Wrh Gefn. PDF 80 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn amlinellu adolygiad canol blwyddyn
o sefyllfa'r Refeniw Wrth Gefn a chytuno ar unrhyw ailddosbarthiad o'r
cronfeydd wrth gefn yn seiliedig ar ofynion presennol. PENDERFYNWYD: 1)
Cymeradwyo ailddosbarthu'r cronfeydd wrth gefn a
glustnodwyd:
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Blynyddol 2015/16 - Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol. PDF 1 MB Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ei Adroddiad Blynyddol ar
gyfer 2015-2016 er gwybodaeth. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Aelodaeth Pwyllgorau. PDF 52 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a
Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer
enwebiadau/diwygiadau i aelodaeth cyrff y cyngor. Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaethau
Democrataidd ar lafar rai newidiadau ychwanegol hwyr i aelodaeth pwyllgorau. Cyfeiriodd at yr
adroddiad gan nodi bod Arweinydd y Cyngor hefyd wedi gwneud y newidiadau
canlynol i aelodaeth cyrff allanol yr awdurdod: 1)
Cytundeb rhwng Awdurdodau ar
gyfer Gwastraff Bwyd Tynnu enw'r Cynghorydd
M C Child; Ychwanegu'r Cynghorydd
A S Lewis. PENDERFYNWYD diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn: 1)
Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar
Ddatblygu Tynnu
enwau'r Cynghorwyr P M Matthews a G J Tanner. Ychwanegu'r
Cynghorwyr J C Bayliss ac N M Woollard. 2)
Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar
Ataliaeth a Gofal Cymdeithasol Tynnu
enwau'r Cynghorwyr C R Doyle a J A Hale. Ychwanegu'r
Cynghorwyr J C Bayliss ac E T Kirchner. 3)
Ymweliadau Rota'r Gwasanaethau
Cymdeithasol Tynnu enwau'r
Cynghorwyr V M Evans, B Hopkins a P B Smith. Ychwanegu'r Cynghorwyr
J C Bayliss, N M Woollard a Swydd Wag Grŵp Annibynnol. 4)
Panel
Ymddiriedolwyr Tynnu enw'r Cynghorydd D J Lewis. Ychwanegu Swydd Wag Grŵp Annibynnol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 119 KB Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd
wyth (8) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar
ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Roedd
ymateb ysgrifenedig yn ofynnol ar gyfer y cwestiwn/cwestiynau atodol canlynol. Cwestiwn 1 a)
Gofynnodd y Cynghorydd M. H.
Jones y canlynol: i)
"Gŵyl Gerdd a
Chelfyddydau Ryngwladol Abertawe. A yw'r toriadau ariannol wedi cael unrhyw
effaith andwyol?" ii)
"Allwch chi esbonio pam
rydym yn talu £31,500 ar gyfer Arddangosfa Dylan Thomas, sy'n rhaglen a ariennir
gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, a £143,000 ar gyfer Canolfan Dylan
Thomas?" iii)
"Mae Abertawe'n aelod o
Rwydwaith Dinasoedd Iach Ewrop. Beth yw'r costau sy'n gysylltiedig â hyn a
pha fudd a ddaw ohono i Abertawe?" Nododd
Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio y darperir ymateb
ysgrifenedig. b)
Gofynnodd y Cynghorydd P M
Black y canlynol: i)
"Pam y mae naid fawr yn y
cyllid ar gyfer Neuadd Brangwyn pan fo'r rhaglen gerddoriaeth wedi'i
therfynu?" ii)
Pam y bu cynnydd yn y cyllid
ar gyfer Canolfan Dylan Thomas pan ariennir yr arddangosfa ar wahân gan Gronfa
Dreftadaeth y Loteri?" Nododd
Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio y darperir ymateb
ysgrifenedig. Cwestiwn 6 Gofynnodd
y Cynghorydd J W Jones, "A yw'r arian a fenthycir yn cael ei gronni er mwyn ei ddefnyddio yn y
dyfodol? Ar gyfer
beth y defnyddir y benthyciad hwn?” Nododd
Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf y darperir ymateb
ysgrifenedig. Cwestiwn 7 Gofynnodd
y Cynghorydd I M Richards: "Mewn cyfarfod â'r
gymuned yn ddiweddar iawn, nododd pedwar o uwch-reolwyr prosiect INNOGY y
byddai'r prosiect (os caiff ei gyflawni o gwbl) yn 33.6 MW ac nid fel yr
oeddent bob amser wedi dweud yn flaenorol sef 48MW (er ei fod yn dweud 32MW i 48MW
ym mhrint mân cudd y Cais Cynllunio). Gofynnaf am
eglurhad a'r ffigurau gwirioneddol; nid hen
ffigurau: Dylai'r ffigur manwl
gywir terfynol yn yr ateb i'r cyngor adlewyrchu'r ffigur gallu gwirioneddol a
bennwyd yn awr sef 33.6MW. Yn y cyfarfod cymunedol
diweddar hwn, derbyniodd INNOGY hefyd, heb anghytuno, y byddai allbwn
cyfartalog Mynydd y Gwair bellach yn 8MW yn unig. Cadarnhaodd INNOGY
hefyd y byddai gostwng y gallu cynhyrchu o 48MW i 33.6MW yn lleihau'r Gronfa
Gymunedol o £240,000 i £168,000 y flwyddyn. (£72,000
yn llai!). Nawr ceir y darn cymhleth, sy'n cael ei 'newid' gan yr holl gynhyrchwyr
Ynni Adnewyddadwy, sef y ffaith fod ganddynt Gontractau Tystysgrif Rhwymo i
Ynni Adnewyddadwy. Mae hyn yn
golygu bod y Grid Cenedlaethol Pŵer Trydan yn gorfod derbyn y cyfan maent
yn ei gynhyrchu. Mae eu hallbynnau'n amrywio drwy'r amser oherwydd
amodau gwynt a haul anwadal ac nid oes modd eu rhagweld yn union. Felly, yn syml, mae'r rhaid i ffynonellau
pŵer eraill "ildio", a pho fwyaf y ffynonellau ynni adnewyddadwy
y cawn, mwyaf cymhleth yw'r sefyllfa. Mae gweithrediad pŵer glo yn
rhy araf i ildio. Mae ynni niwclear yn rhy anniogel i'w drin yn ddi-hid,
felly ni all ildio. Felly,
pŵer nwy sy'n ildio am ei fod yn gallu ymateb yn gyflym i alw ac ymateb yn
gyflym wrth gynyddu neu leihau pŵer. Mae'r grid
yn gynhwysor cymhleth iawn. Yn y chwe
degau pan fûm yn gweithio yng Nghwmni Dur Cymru (SCOW), byddem o bryd i'w
gilydd yn cael galwadau ffôn brys gan y Grid Cenedlaethol i atal ein melin oeri
a rholio dur i ganiatáu i'r Grid gynnal
llif yn ystod argyfwng pŵer. Yr enw ar hyn oedd colli llwyth. Roedd yr un felin hon yn defnyddio'r un
faint o ynni a thref ddomestig maint Castell-nedd, a byddai SCOW yn derbyn iawndal. Nawr mae ganddynt "ynni troelli wrth
gefn”, cronfa wrth gefn wastraffus a chostus. Felly beth
gaiff ei wneud; maen nhw'n arafu'r mewnbwn hawsaf
ei reoli - pŵer nwy i ganiatáu derbyn y rhai adnewyddiadau dan eu
contractau rhwymo. Y darn
cymhleth yw bod y Datblygwyr Adnewyddadwy ar lefelau presennol eu hallbynnau yn
rhoi ystadegau arbedion carbon fel pe baent yn disodli pŵer carbon pur glo
(neu'r cymysgedd o bŵer). Mae'r arbedion carbon wedyn yn cael eu chwyddo
fel ffigurau camarweiniol. Y gwirionedd yw eu bod yn dadleoli NWY sy'n
cynnwys hydrogen yn bennaf a llawer llai o garbon, ac yn cynhyrchu ager yn
bennaf ac nid carbon. Felly roedd
fy nghwestiwn yn gofyn am y ffigurau dadleoli carbon gwirioneddol yn ôl gwir
sefyllfa'r Grid "sigledig". Mae hyn yn
rhywbeth y mae angen ei ddeall. Dyna pam
dewisais y "balŵn" fel enghraifft. Dyna pam maen nhw'n
nawr yn gobeithio adeiladu Gorsaf Bŵer Nwy rhwng Ward Mawr a Llangyfelach
i losgi nwy o Iran a Rwsia drwy Aberdaugleddau i sefydlogi'r grid sigledig fel
y daw mwyfwy o dyrbinau gwynt a phaneli solar a llanwau adnewyddadwy i mewn i'r
Grid. Ac eithrio ynni'r llanw
mae'r ddau arall yn anwadal ac yn anrhagweladwy - yn y tymor byr neu'r tymor
hir. Hefyd wrth
roi ystadegau dadleoli carbon, maent bob amser yn eu cymharu â gallu neu
uchafswm ynni adnewyddadwy a byth â realiti'r allbynnau cyfartalog gwirioneddol
- 25% ar gyfer gwynt a 10% ar gyfer solar ac nid yr anwiredd o 100% ar gyfer y
ddau! Gor-ddweud neu anwiredd enfawr!" Nododd
Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio y darperir ymateb
ysgrifenedig. Cwestiwn 8 Gofynnodd
y Cynghorydd M. H. Jones y canlynol: "A all Aelod y Cabinet roi diffiniad syml o "Drefniadau Diogelu
rhag Colli Rhyddid?" Nododd
Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau i Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn y darperir
ymateb ysgrifenedig. Nid
oedd angen ymateb ysgrifenedig ar y cwestiynau atodol. 2) ‘Cwestiynau
nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B Ni
chyflwynwyd unrhyw 'Gwestiynau Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu
cyfer'. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybudd o gynnig - Cynghorwyr R C Stewart, J E Burtonshaw, C Richards, J P Curtice, D W W Thomas, A S Lewis, J E C Harris, J A Hale, M Thomas, C Anderson, M C Child & R Francis-Davies. Gwneud y cyfrifiad nesaf ar gyfer ein cymuned Lluoedd
Arfog Cynnig Drafft i gefnogi Count Them In Mae'r cyngor hwn yn nodi: 1.
Y rhwymedigaethau sy'n ddyledus
ganddo i gymuned y Lluoedd Arfog yn Ninas a Sir Abertawe fel a nodwyd yng
Nghyfamod y Lluoedd Arfog; sef ni ddylai cymuned y Lluoedd Arfog wynebu
anfantais wrth ddarparu gwasanaethau a bod ystyriaeth arbennig yn briodol mewn
rhai achosion, yn enwedig rheiny sydd wedi rhoi fwyaf. 2.
Diffyg ystadegau
swyddogol a chynhwysfawr ar faint, neu ddemograffeg cymuned y Lluoedd Arfog yn
Ninas a Sir Abertawe. Mae hyn yn cynnwys personél rheolaidd a'r rhai wrth gefn,
cyn-filwyr, a'u teuluoedd. 3.
Bydd argaeledd data o'r
fath yn cynorthwyo'r cyngor, asiantaethau partner lleol, y sector gwirfoddol, a
Llywodraeth genedlaethol wrth gynllunio a darparu gwasanaethau i ddiwallu
anghenion unigryw cymuned y Lluoedd Arfog yn Ninas a Sir Abertawe. Yn sgîl yr uchod, mae'r cyngor hwn yn symud i
gefnogi a hyrwyddo galwad Y Lleng Brydeinig Frenhinol i gynnwys pwnc newydd yng
nghyfrifiad 2021 sy'n ymwneud â'r gwasanaeth milwrol ac aelodaeth gymuned y
Lluoedd Arfog. Rydym ni hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU, a fydd yn cymeradwyo holiadur
terfynol cyfrifiad drwy ddeddfwriaeth yn 2019, i sicrhau bod cyfrifiad 2021 yn
cynnwys cwestiynau ynglŷn â chymuned y Lluoedd Arfog. Cofnodion: Cynigiwyd y cynnig canlynol gan y
Cynghorwyr J E Burtonshaw ac R C Stewart. "Sicrhau bod y cyfrifiad nesaf yn cyfrif ar gyfer
cymuned y lluoedd arfog yma Cynnig i gefnogi ''Count Them In' (Cyfrifwch Nhw) Noda'r cyngor: 1.
Ei rwymedigaethau i
gymuned y Lluoedd Arfog yn Ninas a Sir Abertawe fel y'u corfforir yng Nghyfamod
y Lluoedd Arfog; na ddylai cymuned y Lluoedd
Arfog wynebu anfantais o ran y gwasanaethau a ddarperir a bod ystyriaeth arbennig
yn briodol mewn rhai achosion, yn enwedig i'r rhai sydd wedi rhoi'r mwyaf. 2.
Absenoldeb ystadegau
penodol a chynhwysfawr am faint neu ddemograffig cymuned y Lluoedd Arfog yn
Ninas a Sir Abertawe. Mae hyn yn cynnwys personél
rheolaidd ac wrth gefn, cyn filwyr a'u teuluoedd. 3.
Byddai argaeledd data
o'r fath yn cynorthwyo'r cyngor, asiantaethau partner lleol, y sector
gwirfoddol a'r Llywodraeth genedlaethol yn fawr wrth gynllunio a darparu gwasanaethau
i fynd i'r afael ag anghenion unigryw cymuned y Lluoedd Arfog yn Ninas a Sir
Abertawe. O ystyried yr uchod, mae'r cyngor yn cynnig cefnogi a hyrwyddo galwad y
Lleng Brydeinig Frenhinol i gynnwys maes newydd yng nghyfrifiad 2012 sy'n
ymwneud â gwasanaeth milwrol ac aelodaeth cymuned y Lluoedd Arfog. Rydym hefyd
yn galw ar Senedd y DU, a fydd yn cymeradwyo holiadur terfynol y cyfrifiad drwy
ddeddfwriaeth yn 2019, i sicrhau bod cyfrifiad 2012 yn cynnwys cwestiynau sy'n
ymwneud â chymuned y Lluoedd Arfog." PENDERFYNWYD cymeradwyo'r
cynnig fel yr amlinellir uchod. |