Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Derbyniwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J E Burtonshaw, M C Child, R A
Clay, U C Clay, S E Crouch, N J Davies, C R Evans, F M Gordon, J E C Harris, Y
V Jardine, M H Jones, A J Jones, J W Jones, E J King, R D Lewis, D J Lewis, C E
Lloyd, P M Matthews, G Owens, D Phillips, C L Philpott, J A Raynor, R J
Stanton, L G Thomas ac N M Woollard. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â darpariaethau Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau
canlynol: 1) Datganodd y Cynghorwyr P M Black, R
Francis-Davies, C A Holley, P N May, D G Sullivan a C Thomas fudd personol yng nghofnod
199 “Cyflwyno Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Mel Nurse”. |
|
Cyflwyno Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Mel Nurse. Cofnodion: Croesawodd yr Arglwydd Faer, Arglwydd Raglaw, Uchel Siryf, Arweinwyr
Dinesig, Gwesteion Adnabyddus, Aelodau'r Cyngor a Mel Nurse
i Gyfarfod Seremonïol o'r Cyngor. Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at benderfyniad yng Nghyfarfod Arbennig o'r
Cyngor a gynhaliwyd ar 7 Ebrill 2016 (cofnod 193) lle gwnaeth y cyngor
bleidleisio i roi rhyddid er anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Mel Nurse i gydnabod ei gyfraniad at chwaraeon a'r ddinas, yn
benodol ei ran allweddol a'i arweinyddiaeth wrth achub Clwb Pêl-droed Dinas
Abertawe. Cefnogodd Arweinydd yr Wrthblaid fwyaf ac Arweinydd y Grŵp Gwleidyddol
arall y cynnig. PENDERFYNWYD rhoi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Mel Nurse i gydnabod ei gyfraniad at chwaraeon a'r ddinas, yn
arbennig ei ran allweddol a'i arweinyddiaeth wrth achub Clwb Pêl-droed Dinas
Abertawe. Yna cyflwynodd yr Arglwydd Faer y Sgrôl Rhyddid i Mel Nurse
gan roi Rhyddid Dinas a Sir Abertawe iddo. Ymatebodd Mel Nurse drwy
ddiolch i'r cyngor am yr anrhydedd. |