Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd Dirprwy Bennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd gyngor ynghylch y buddiannau personol a
rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael mewn eitemau ar yr
agenda. Gwnaeth Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
atgoffa cynghorwyr a swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau o
fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w
ddatgan. Nid oes angen dychwelyd
ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan.
Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar
lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr R Francis Davies, C
Richards ac R C Stewart fudd personol yng Nghofnod 56, "Cwestiynau gan y
Cyhoedd"; 2)
Datganodd y Cynghorydd T J Hennegan fudd
personol yng Nghofnod 58, "Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru - Adroddiad
Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol - Dinas a Sir Abertawe"; 3)
Datganodd y Cynghorydd T J Hennegan fudd
personol yng Nghofnod 59, "Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru - Adroddiad
Archwiliad o Ddatganiadau - Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe"; 4)
Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, R A Clay, T J
Hennegan, P R Hood-Williams, L James, J W Jones, P M Meara, D Phillips, R V
Smith, C Thomas, L V Walton a T M White fudd personol yng Nghofnod 60,
"Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2015/16"; 5)
Datganodd y Cynghorwyr P M Black, C A Holley ac
L G Thomas fudd personol yng Nghofnod 68, "Cwestiynau gan y
Cynghorwyr". |
|
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo'r
cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1) Cynhaliwyd cyfarfod seremonïol o'r cyngor ar 28 Gorffennaf
2016, yn amodol ar ychwanegu'r Cynghorydd N M Woollard at y cynghorwyr a oedd
yn bresennol; 2) Cynhaliwyd
cyfarfod cyffredinol o'r cyngor ar 28 Gorffennaf 2016, yn amodol ar ddiwygio
cofnod 38, “Cyhoeddiadau'r Aelod
Llywyddol”, “3) Cyfarfodydd y Cyngor” i ddarllen: “Datganodd yr Aelod Llywyddol fod cyfarfod arfaethedig y cyngor ar 25 Awst
2016 wedi'i ganslo. Datganodd hefyd fod cyfarfod seremonïol y cyngor (urddo'r Arglwydd Faer) a
drefnwyd ar gyfer 19 Mai 2017 wedi'i aildrefnu.
Cynhelir y cyfarfod bellach am 2.00pm ddydd Gwener, 26 Mai 2017.” |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd
adroddiad gwybodaeth yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd
yng nghyfarfod cyffredinol diwethaf y cyngor. |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1) Cydymdeimlad a)
Jeremy Thomas, a fu gynt yn gyfreithiwr
cyfarwyddiaeth, Pennaeth Craffu ac Ysgrifennydd Cabinet Mynegodd yr Aelod
Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar Jeremy Thomas. Bu
Jeremy gynt yn gyfreithiwr cyfarwyddiaeth, Pennaeth Craffu ac Ysgrifennydd
Cabinet gyda'r awdurdod cyn gadael yn 2005 i dderbyn rôl Pennaeth Cyfraith a
Llywodraethu gyda Chyngor Dinas Rhydychen. Yn drist, oedd yn sâl Jeremy ar ôl cymryd rhan mewn
digwyddiad beicio 50 milltir Bike Oxford,
yn 47 oed. Safodd pawb a oedd yn bresennol fel arwydd o
gydymdeimlad a pharch. 2) Llongyfarchiadau a) Tîm
PF – Gemau Olympaidd Rio 2016 Llongyfarchodd yr Aelod
Llywyddol Dîm PF ar eu llwyddiant diweddar yng Ngemau Olympaidd Rio 2016. Daeth
Tîm PF yn 2il yn y tabl medalau gyda 67, gan gynnwys 27 medal aur. b) Nofiwr
Paralympaidd PF – Aaron Moore – Rio 2016 Llongyfarchodd yr Aelod
Llywyddol y nofiwr Paralympaidd Aaron Moore am ennill
medal aur yn rownd derfynol y gystadleuaeth nofio
dull broga SB14 dros 100m. c) Tîm
PF – Gemau Paralympaidd Rio 2016 Llongyfarchodd yr Aelod
Llywyddol Dîm PF ar eu llwyddiant diweddar yng Ngemau Paralympaidd
Rio 2016. Daeth Tîm PF yn 2il yn y tabl medalau gyda 147, gan
gynnwys 64 medal aur. ch) Ymddiriedolaeth Addysg Carcharorion –
Enillwyr Gwobr y Gynghrair Dysgu Carcharorion Datganodd yr Aelod
Llywyddol fod yr Ymddiriedolaeth Addysg Carcharorion wedi sefydlu'r Gynghrair
Dysgu Carcharorion (PLA) ym mis Tachwedd 2012 gyda'r nod o ddarparu arbenigedd
a gweledigaeth strategol i lywio blaenoriaethau, polisïau ac arferion y dyfodol
o ran addysg, dysgu a sgiliau yn y carchar. Roedd y PLA am gydnabod
a gwobrwyo'r bobl hynny sy'n mynd gam ymhellach i hyrwyddo ac annog pobl i ddysgu
yn y carchar; felly, sefydlwyd seremoni wobrwyo'r Gynghrair Dysgu Carcharorion.
Llongyfarchodd Vicky Dickeson a Valerie Samuel (o Wasanaeth Llyfrgelloedd
Abertawe) ar ennill gwobrau yn y categori "unigolion rhagorol" yn
seremoni wobrwyo'r Gynghrair Dysgu Carcharorion. Roedd y ddwy'n
bresennol i dderbyn y wobr. d)
Cystadleuaeth Poster Presenoldeb yn yr Ysgol Llongyfarchodd yr Aelod
Llywyddol Cora Ellacott ar
ennill y gystadleuaeth poster ddiweddar i dynnu sylw at bwysigrwydd presenoldeb
da mewn ysgolion ar draws yr awdurdod. Roedd dyluniad buddugol
Cora'n un o gannoedd o gynigion gan ddisgyblion ar
gyfer ein cystadleuaeth poster presenoldeb ddiweddar. Y dyluniad a'r archarwr "Mighty Attender" fydd canolbwynt Rhaglen Ysgogi Presenoldeb
yr awdurdod. Caiff y Rhaglen Ysgogi Presenoldeb ei lansio cyn bo hir gyda'r nod
o hybu a hyrwyddo presenoldeb ar draws holl ysgolion Abertawe. Roedd Cora Ellacott yn bresennol i
dderbyn y wobr. dd) Enillydd Abertawe yn ei Blodau 2016 Datganodd yr Aelod Llywyddol fod Pwyllgor
Abertawe yn ei Blodau'n grŵp gwirfoddol a gefnogir gan yr awdurdod. Mae'n
cynnal cystadleuaeth flynyddol i annog busnesau, ysgolion a phreswylwyr i
addurno eu heiddo gydag arddangosfeydd blodeuol hardd, gan wneud eu cymuned
leol, ac Abertawe'n gyffredinol, yn lle mwy atyniadol
i fyw a gweithio ynddo ac ymweld ag ef. Cyhoeddodd fod Dinas a Sir Abertawe wedi derbyn
gwobr arbennig gan y pwyllgor am yr arddangosfeydd o flodau gwyllt sydd wedi
lledu ar draws y ddinas a gwella'r amgylchedd yn sylweddol ar gyfer preswylwyr
ac ymwelwyr. Mae'r awdurdod wedi cynnal y cynllun blodau
gwyllt ers oddeutu 5 mlynedd ac mae bellach yn cynnwys bron 200 safle ar draws
y ddinas. Ariennir cost deunyddiau a gwaith gosod yn rhannol gan gynghorwyr
lleol a chynghorau cymuned/tref ac fel y sylwch o nifer y safleoedd mae’r
cynllun wedi bod yn llwyddiant mawr. Roedd Peter Lewis, David Smith a Dave Stares yn bresennol i dderbyn y wobr. e) Gwasanaeth
Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD) Abertawe Dywedodd yr Aelod Llywyddol
y dyfarnwyd Gwobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf i Wasanaeth Gwybodaeth i
Deuluoedd (GGiD) Abertawe am helpu teuluoedd lleol i
gael yr wybodaeth angenrheidiol i wneud yn fawr o'u bywydau. Mae Gwobr Ansawdd
Teuluoedd yn Gyntaf yn broses sicrhau ansawdd genedlaethol ac yn ddull o wella
ansawdd a lunnir i helpu i gadw teuluoedd wrth wraidd ein gwaith a helpu'r GGiD i roi gwybodaeth safon aur. Datblygwyd y wobr gan y
Gymdeithas Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd Genedlaethol (NAFIS) ar y cyd â'r Adran Addysg a Chyngor Sir Suffolk
fel dull o fesur effeithiolrwydd Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd awdurdod
lleol a dengys sut mae'n bodloni gofynion statudol Deddf Gofal Plant 2006
(Dyletswydd Gwybodaeth, Adran 27) a Chôd Ymarfer
Anghenion Addysg Ychwanegol ac Anabledd (SEND) 2014. Mae Llywodraeth Cymru
hefyd wedi cydnabod pwysigrwydd y ddyletswydd gwybodaeth fel rhan o'i Deddf
Gofal Plant ei hun ac mae'n cefnogi NAFIS wrth iddi weithio gyda'r 22 GGiD yng Nghymru i sicrhau bod y safonau'n hwyluso rôl asesu
ddeublyg yn erbyn gofynion Adran 27 (y ddyletswydd gwybodaeth) Deddf Gofal
Plant Cymru. Roedd Allison Williams,
Claire Bevan, Gary Mahoney, Christopher Jones, Sian Fennell a Finley'r Arth yn
bresennol i dderbyn y wobr. 3) Cyfarfod Seremonïol o'r
Cyngor Atgoffodd yr Aelod Llywyddol y cyngor fod
cyfarfod seremonïol o'r cyngor wedi'i drefnu ar gyfer 5.00pm nos Iau, 20 Hydref
2016. Bydd y cyfarfod yn seremoni i gyflwyno Rhyddid er Anrhydedd y Ddinas i
Chris Coleman. 4) Dymuniadau
Gorau am Wellhad Cyflym Estynnodd yr Aelod
Llywyddol ddymuniadau gorau am wellhad cyflym o'u clefydau gwahanol i'r
Cynghorwyr V M Evans a P M Matthews. 5) LC,
Gwobr Aur Abertawe Rhoddodd Arweiniodd yr
Wrthblaid fwyaf wybod i'r Aelod Llywyddol a'r cyngor am Wobr Aur ddiweddar yr
LC. Dyfarnwyd Gwobr Aur
arbennig i LC Abertawe dan Gynllun Sicrhau Ansawdd Atyniadau i Ymwelwyr Croeso
Cymru (VAQAS). Mae'r cynllun yn sicrhau yr asesir atyniadau yng Nghymru'n annibynnol yn erbyn safonau cenedlaethol, yn ôl
profiad cwsmeriaid, ac mae gwobr VAQAS gan 11 lleoliad ar draws Abertawe ar hyn
o bryd. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1) Y Diweddaraf am y Fargen Ddinesig Rhoddodd Arweinydd y Cyngor y newyddion diweddaraf
i'r cyngor am gynnydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe. 2) Ymweliad gan gynrychiolwyr
o Wuhan, Tsieina Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at ymweliad diweddar
gan gynrychiolwyr o Wuhan, Tsieina. Dywedodd fod yr ymweliad yn un pwysig ac roedd
llawer o fanteision posib i'r awdurdod. Roedd trafodaethau wedi dechrau o ran
creu cytundeb cyfeillgarwch. 3) Cinio Rhyddid er Anrhydedd
ar gyfer Chris Coleman Atgoffodd Arweinydd y Cyngor gynghorwyr fod
tocynnau ar gael o hyd ar gyfer Cinio Rhyddid er Anrhydedd ar gyfer Chris
Coleman yn Neuadd Brangwyn ar 20 Hydref 2016. Dywedodd hefyd y byddai'r Manic
Street Preachers yn canu eu cerddoriaeth yn ystod y digwyddiad. 4) Cabinet – 20 Hydref 2016 Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai cyfarfod y
Cabinet a drefnir ar gyfer dydd Iau, 20 Hydref 2016 yn dechrau am 3.00pm. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r
cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â
hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd. Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn
briodol. Rhestrir y cwestiynau hynny a
oedd yn gofyn am ymateb ysgrifenedig isod: 1) Gofynnodd
Tony Beddow gwestiwn i Arweinydd y Cyngor o ran cofnod 58, “Adroddiad Swyddfa
Archwilio Cymru – Adroddiad Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol – Dinas a Sir
Abertawe”: i)
"Beth
yw gwerth presennol Stadiwm Liberty, Abertawe?" Dywedodd Arweinydd
y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig. |
|
Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim. Cofnodion: Ni
dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd
John Herniman, Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) "Adroddiad Archwiliad o
Ddatganiadau Ariannol 2015-2016 ar gyfer Dinas a Sir Abertawe, gan Swyddfa
Archwilio Cymru". Ymatebodd John Herniman (SAC) i gwestiynau technegol ac ymatebodd Mike Hawes (Swyddog Adran 151) i gwestiynau am sefyllfa Dinas a Sir Abertawe. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd
John Herniman, Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) "Adroddiad Archwiliad o
Ddatganiadau Ariannol 2015-2016 ar gyfer Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe,
gan Swyddfa Archwilio Cymru". Ymatebodd John Herniman (SAC) i gwestiynau technegol ac ymatebodd Mike Hawes (Swyddog Adran 151) i gwestiynau am sefyllfa Dinas a Sir Abertawe. |
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2015/16. PDF 104 KB Cofnodion: Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, Meirion Howells, Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2015/2016, er gwybodaeth. Nododd yr adroddiad waith y Pwyllgor Archwilio yn ystod y cyfnod. |
|
Datganiad Cyfrifon 2015/16. PDF 9 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn amlinellu’r amserlen berthnasol i
gwblhau ac archwilio Datganiad o Gyfrifon y cyngor ar gyfer 2015-2016. Yn unol
â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014, dywedodd y byddai'n rhaid i'r
cyngor gymeradwyo Datganiad o Gyfrifon 2015-2016 erbyn 30 Medi 2016. PENDERFYNWYD cymeradwyo Datganiad
o Gyfrifon 2015-2016. |
|
Adroddiad Blynyddol Rheolaeth y Drysorlys 2015/16 PDF 244 KB Cofnodion: Cyflwynodd
y Swyddog Adran 151 adroddiad gwybodaeth a oedd yn amlinellu gweithgareddau
rheoli Trysorfa'r cyngor yn ystod 2015-2016 ac a gymharai’r perfformiad go iawn
yn erbyn y strategaeth a bennwyd ar ddechrau'r flwyddyn. Sylwer: Cyfeiriodd y Cynghorydd J W
Jones at Atodiad 1 ar dudalen 79 yr adroddiad a gofynnodd beth oedd ffigur
gwreiddiol y terfyn awdurdodedig ar gyfer dyledion allanol cyn iddo gael ei
newid i "606,216,000." Dywedodd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig. |
|
Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2015/16. PDF 183 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn amlinellu’r adolygiad
blynyddol o drefniadau llywodraethu ar gyfer 2015-2016. PENDERFYNWYD: 1) Cymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2015-2016. |
|
Adroddiad Datblygu Cynaliadwy 2015/16. PDF 89 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad adroddiad a oedd
yn amlinellu Adroddiad Datblygu Cynaliadwy 2015-2016. PENDERFYNWYD: 1) Cymeradwyo cynnwys yr adroddiad i'w gyhoeddi ar y cyd â'r Datganiad Blynyddol o Gyfrifon. |
|
Penodi Prif Swyddog Trawsnewid. PDF 53 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn ceisio cadarnhad o
argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau o ran penodi Prif Swyddog Trawsnewid ar ôl
i'r broses recriwtio a dethol gael ei chynnal. PENDERFYNWYD: 1) Cadarnhau Sarah Caulkin yn ei swydd fel Prif Swyddog Trawsnewid fel y'i hargymhellwyd gan y Pwyllgor Penodiadau yn ei gyfarfod ar 25 Awst 2016. |
|
Aelodaeth Pwyllgorau. PDF 48 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a
Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer
enwebiadau/diwygiadau i aelodaeth cyrff y cyngor. Cyfeiriodd at yr
adroddiad gan nodi nad oedd Arweinydd y Cyngor wedi gwneud unrhyw newidiadau i
aelodaeth cyrff allanol yr awdurdod. PENDERFYNWYD y dylid diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn: i)
Ymweliadau
Rota'r Gwasanaethau Cymdeithasol Tynnu enw'r Cynghorydd R D Lewis. |
|
Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol. PDF 82 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r
Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol. |
|
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 136 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd un ar ddeg (11) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar
ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Nid oedd ymateb ysgrifenedig yn ofynnol ar gyfer y cwestiwn/cwestiynau
atodol canlynol. 2) ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan
B Cyflwynwyd
un (1) 'cwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' Rhan B. |