Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem | |||
---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd Dirprwy Bennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd gyngor ynghylch y buddiannau personol a
rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu
cael mewn eitemau ar yr agenda. Gwnaeth Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
atgoffa cynghorwyr a swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau o
fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y
cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid
oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y
dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau
canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr J A Hale a C E Lloyd fudd personol
yng Nghofnod 42, "Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer
2015-2016"; 2)
Datganodd y Cynghorwyr A C S Colburn, S E Crouch, E W
Fitzgerald, P R Hood-Williams, M H Jones, E J King, D J Lewis a P M Meara fudd
personol yng Nghofnod 43, "Adroddiad Blynyddol Craffu 2015-2016”; 3)
Datganodd y Cynghorwyr C A Holley ac M Thomas fudd
personol yng Nghofnod 45, "Penodi Prif Swyddog Gwasanaethau
Cymdeithasol", gan nodi bod ganddynt oddefebau
gan y Pwyllgor Safonau. |
||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo'r
cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1) Cyfarfod cyffredin o'r cyngor a
gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2016. |
||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd adroddiad
gwybodaeth yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y
cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor. |
||||
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1) Cydymdeimlad a)
Michael
Cura, Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan Mynegodd yr Aelod
Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar Michael Cura, a
oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan. Bu farw Michael ar daith
feicio 560 milltir yr ysgol wrth fynd ar bererindod i Santiago de Compostela yn rhanbarth Galicia
yn Sbaen. Sefwch fel arwydd o gydymdeimlad a pharch. 2) Llongyfarchiadau a) Tîm
Pêl-droed Cymru Roedd yr Aelod Llywyddol
yn falch o longyfarch tîm pêl-droed Cymru ar ôl eu perfformiad diweddar yn Ewro
2016. Dan reolaeth Chris Coleman o Abertawe, cyrhaeddodd y tîm y rownd
gynderfynol ar ôl gorffen ar frig eu grŵp. Yn dilyn Ewro 2016,
dringodd Cymru uwchben Lloegr i'r 11fed safle yn rhestr detholion y
byd Fifa. Gobeithio y bydd ymgyrch Ewro 2016 Cymru'n
eu paratoi'n dda at y gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2018, a fydd yn
dechrau ym mis Medi 2016. 3) Cyfarfodydd y cyngor Datganodd yr Aelod Llywyddol fod cyfarfod
arfaethedig y cyngor ar 25 Awst 2016 wedi'i ganslo. Datganodd hefyd fod cyfarfod seremonïol y cyngor
(urddo'r Arglwydd Faer) a drefnwyd ar gyfer 19 Mai 2017 wedi'i aildrefnu.
Cynhelir y cyfarfod bellach am 2.00pm ddydd Gwener, 26 Mai 2017. 4) Meirion
Howells, “Cadeirydd y Pwyllgor Safonau” Diolchodd yr Aelod
Llywyddol i Gadeirydd y Pwyllgor Safonau, Meirion Howells, am ei wasanaeth o
ran gwella moesau a safonau'r awdurdod hwn. Penodwyd Meirion Howells i'r
Pwyllgor Safonau ar 1 Awst 2008. Ar ôl gwasanaethu am 2 gyfnod, daw ei gyfnod
yn y swydd i ben ar 31 Gorffennaf 2016. Yn ystod ei 8 mlynedd
ar y Pwyllgor Safonau, ymdriniodd Meirion Howells â nifer o gwynion Côd Ymddygiad; fodd bynnag, roedd yn braf nodi bod gwaith y
pwyllgor wedi lleihau'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ... gobeithio o
ganlyniad i ymddygiad gwell gan gynghorwyr. 5) Newidiadau/diwygiadau
i wŷs y cyngor 1) Eitem
14 yr Agenda, “Aelodaeth Pwyllgorau” Datganodd yr Aelod Llywyddol fod adroddiad
diwygiedig wedi'i ddosbarthu. 2) Eitem
15 yr Agenda, “Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor” Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol at y newidiadau
canlynol y mae eu hangen i'r adroddiad Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor. i) Tudalen 65, Paragraff 4.2, Tabl Portffolio'r Cabinet dros Drawsnewid
a Pherfformiad Datblygu Cynaliadwy. Dylid dangos hyn fel
"Ychwanegwch" yn hytrach na "Dilëer"
yng ngholofn 2. ii) Tudalen 69, Tabl Gwasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf. Eitem 1) “Gwasanaethau Masnachol: Nodi Modelau Masnachol
Newydd a'u Rhoi ar Waith”. Ychwanegwch y canlynol at y golofn "Ymgynghorai
Aelodau'r Cabinet": “Pob Aelod perthnasol y Cabinet”. iii) Tudalen 69, Tabl Gwasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf. Dilëer Eitem 15) "Datblygu
Cynaliadwy" ac ychwanegwch hi at Dabl Trawsnewid a Pherfformiad, a
ddangosir ar dudalen 70. Hefyd, ychwanegwch y canlynol at y golofn
"Ymgynghorai Aelodau'r Cabinet: “Pob Aelod perthnasol y Cabinet”. 3) Eitem
17 yr Agenda, “Rhybudd o Gynnig” Datganodd yr Aelod Llywyddol fod Rhybudd o Gynnig
diwygiedig wedi'i ddosbarthu. |
||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1) Brexit – Llythyr at y Prif Weinidog Datganodd Arweinydd y
Cyngor ei fod eisoes wedi dosbarthu i bob cynghorydd ei lythyr at y Prif
Weinidog. Yn y llythyr, ceisiodd sicrwydd y byddai Llywodraeth y DU yn darparu'r
un swm o arian, neu fwy, ag a geir gan yr UE ar hyn o bryd. 2) Clwb
Pêl-droed Dinas Abertawe – Bwriadau'r Dyfodol ar gyfer Stadiwm Liberty Datganodd Arweinydd y
Cyngor ei fod yn y broses o drafod bwriad y cyngor ar gyfer Stadiwm Liberty â'r clwb pêl-droed ac a fyddai'n cynnwys ei ehangu,
ei werthu neu'r ddau. 3) Anrhydeddau
Haf yr Arglwydd Faer Roedd Arweinydd y Cyngor
yn falch o ddatgan bod 45 o fyrddau wedi'u gwerthu ar
gyfer Dawns Anrhydeddau Haf yr Arglwydd Faer, yr un gyntaf o'i bath. Diolchodd
i J R Events am eu cefnogaeth i hyrwyddo'r digwyddiad. |
||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r
cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â
hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd. Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn
briodol. Rhestrir y cwestiynau hynny a oedd yn gofyn am ymateb ysgrifenedig
isod: 1) Gofynnodd
Tony Beddow gwestiynau i Aelod y Cabinet dros Fenter,
Datblygu ac Adfywio am Gofnod 44, "Polisi Budd Cymunedol Dinas a Sir
Abertawe". "O ran cytundebau Adran 106, a yw'n gyfreithlon i'r awdurdod
atgyfnerthu'r gofyniad drwy osod gofyniad bond wedi'i adneuo ar ddatblygwyr er
mwyn sicrhau y gwarentir yr elfen budd cynllunio?" Datganodd Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio y darperir
ymateb ysgrifenedig. 2) Gofynnodd
Lis Davies gwestiwn i Aelod y Cabinet dros Les a
Dinas Iach am Gofnod 49, “Cwestiynau'r Cynghorwyr – Cwestiwn 11”. "Beth yw enw'r chwynladdwr a ddefnyddir gan yr awdurdod ar briffyrdd a
llwybrau cerdded?" Datganodd Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach y darperir ymateb
ysgrifenedig. |
||||
Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim. Cofnodion: Ni
dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus. |
||||
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2015/2016. PDF 107 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, Meirion Howells, Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor
Safonau ar gyfer 2015/2016, er gwybodaeth. Disgrifia'r adroddiad y gwaith a
wnaed gan y Pwyllgor Safonau ac Is-bwyllgor Safonau'r Cynghorau Cymuned/Tref o
fis Mehefin 2015 i fis Mai 2016. |
||||
Adroddiad Craffu Blynyddol 2015/16. PDF 60 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu
Adroddiad Blynyddol Craffu 2015/16, er gwybodaeth. Amlinellodd yr adroddiad
waith craffu'r cyfnod hwnnw. |
||||
Dinas a Sir Abertawe Polisi Budd Cymunedol. PDF 96 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio adroddiad a
ddiweddarodd y fenter Y Tu Hwnt i Frics a Morter i fod yn bolisi budd cymunedol
sy'n cynnwys holl weithgareddau'r awdurdod lle gall budd cymunedol ychwanegu
gwerth. Mae hyn yn cynnwys ceisiadau cynllunio, contractau gwaith, gwasanaethau
a chyflenwi, gwerthu tir ar gyfer datblygu, yn ogystal â phrosiectau adeiladu
ac adfywio. PENDERFYNWYD ar y canlynol: 1) Ehangu
cwmpas gwreiddiol y fenter Y Tu Hwnt i Frics a Morter i gynnwys yr holl
weithgareddau lle gall budd cymunedol ychwanegu gwerth fel a bennir ym mharagraff
4.1 yr adroddiad; 2) Cymeradwyo
dogfen Polisi Budd Cymunedol Dinas a Sir Abertawe a atodir i'r adroddiad. |
||||
Penodi Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol. PDF 54 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Weithredwr adroddiad a geisiodd gadarnhau penodiad Prif Swyddog y Gwasanaethau
Cymdeithasol. PENDERFYNWYD cadarnhau David Howes
yn ei swydd, sef Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol. |
||||
Rhyddid Anrhydeddus Dinas a Sir Abertawe i Chris Coleman. PDF 64 KB Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn ceisio ystyried a ddylid
rhoi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Chris Coleman i gydnabod ei
gyfraniad i chwaraeon a'r ddinas, yn benodol ei arweinyddiaeth a'i lwyddiant
gyda thîm pêl-droed Cymru. PENDERFYNWYD ar y canlynol: 1) Rhoi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir
Abertawe i Chris Coleman i gydnabod ei gyfraniad at chwaraeon a'r ddinas, yn
benodol ei arweinyddiaeth a'i lwyddiant gyda thîm pêl-droed Cymru. |
||||
Aelodaeth Pwyllgorau. PDF 52 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet
dros Drawsnewid a Pherfformiad adroddiad diwygiedig a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer enwebiadau/diwygiadau i aelodaeth cyrff y cyngor. Cyfeiriodd at yr adroddiad gan nodi nad oedd Arweinydd y Cyngor wedi gwneud
unrhyw newidiadau i aelodaeth cyrff allanol yr awdurdod. PENDERFYNWYD y dylid diwygio
aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn: i)
Pwyllgor
Apeliadau a Dyfarniadau Tynnu'r Cynghorydd R D Lewis Ychwanegu'r Cynghorydd J W Davies ii)
Pwyllgor
Penodiadau Tynnu'r Cynghorydd D W Cole Ychwanegu'r Cynghorydd M Thomas iii)
Pwyllgor
Disgyblu Prif Swyddogion Tynnu'r Cynghorydd D G Sullivan Ychwanegu'r Cynghorydd R D Lewis iv)
Pwyllgor
Apeliadau Disgyblu Prif Swyddogion Tynnu'r Cynghorydd D J Lewis Ychwanegu'r Cynghorydd P N May v)
Pwyllgor
Cynghori'r Cabinet (PCC) ar Gymunedau Tynnu'r Cynghorydd D W Cole a swydd wag y Grŵp Ceidwadol Ychwanegu'r Cynghorwyr R D Lewis ac Y V Jardine vi)
PCC
ar Wasanaethau Corfforaethol Tynnu'r Cynghorydd J E Burtonshaw a swydd wag y Ceidwadwyr Ychwanegu'r Cynghorwyr R D Lewis a H M Morris vii)
Pwyllgor
Cynghori'r Cabinet (PCC) ar Ddatblygu Tynnu'r Cynghorydd D W Cole a swydd wag y Grŵp Ceidwadol Ychwanegu'r Cynghorwyr R D Lewis a G J Tanner viii)
Cydbwyllgor
Cydnerthu Tynnu'r Cynghorydd D W Cole Ychwanegu'r Cynghorydd C E Lloyd ix)
Pwyllgor
Trwyddedu Cyffredinol ac Is-bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol Tynnu'r Cynghorydd D W Cole Ychwanegu'r Cynghorydd C Anderson x)
Pwyllgor
Trwyddedu Statudol ac Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol Tynnu'r Cynghorydd D W Cole Ychwanegu'r Cynghorydd C Anderson xi)
Pwyllgor
Cynllunio Tynnu'r Cynghorydd I M Richard Ychwanegu'r Cynghorydd H M Morris xii)
Pwyllgor
y Rhaglen Graffu Tynnu'r Cynghorydd D W Cole Ychwanegu'r Cynghorydd F M Gordon xiii)
Panel
Herio Ychwanegu'r Cynghorydd P N May xiv)
Panel
Llywodraethwyr yr ALl Tynnu D W Cole Ychwanegu'r Cynghorydd U C Clay xv)
Panel
Ymddiriedolwyr Tynnu'r Cynghorydd M B Lewis xvi)
Grŵp
Ymweliadau Rota'r Gwasanaethau Cymdeithasol Ychwanegu'r Cynghorwyr R D Lewis a P N May xvii)
Grŵp
Partneriaeth AoHNE Gŵyr Tynnu'r Cynghorydd R D Lewis Ychwanegu'r Cynghorydd L James |
||||
Newidiadau i'r Cyfansoddiad. PDF 79 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Dirprwy Swyddog Monitro a
Phennaeth Gwasanaethau Democrataidd adroddiad gwybodaeth ar y cyd a amlinellodd
nifer o newidiadau a wnaed gan Arweinydd y Cyngor i bortffolios y Cabinet o
fewn Cyfansoddiad y Cyngor. Datganodd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod yr
adroddiad wedi'i ddiwygio fel a amlinellir yng nghyhoeddiadau'r Aelod
Llywyddol. Gofynnodd y Cynghorydd P M Black am i restr ddiweddaraf o
bortffolios a meysydd cyfrifoldeb y Cabinet gael eu dosbarthu i bob cynghorydd.
Datganodd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y byddai'n
dosbarthu'r wybodaeth. |
||||
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 99 KB Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd deg (10) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd
Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion
ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Roedd ymateb ysgrifenedig yn ofynnol ar gyfer y
cwestiwn/cwestiynau atodol canlynol. a)
Cwestiwn
1. Gofynnodd y Cynghorydd P M Black y canlynol: "A ystumiwyd y broses dendro gan y gost ychwanegol o
gael gwared ar asbestos o hen adeilad Oceana?" Nododd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig.
b) Cwestiwn
3. i)
Gofynnodd
y Cynghorydd M. H. Jones y canlynol: "Beth fydd yn digwydd i'r pafiliynau a'r gwaith o
gynnal a chadw pafiliynau os bydd clwb bowls yn gwrthod cymryd cyfrifoldeb am
gynnal a chadw lawntiau neu os nad oes clwb bowls lleol ar gael i wneud
hynny?" Nododd Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach y darperir
ymateb ysgrifenedig. ii)
Gofynnodd
y Cynghorydd J Newbury am ddadansoddiad llawn a'r diweddaraf am sefyllfa pob
lawnt fowlio yn yr awdurdod. Nododd Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach y darperir
ymateb ysgrifenedig. c) Cwestiwn
6. Gofynnodd y Cynghorydd P M Black y canlynol: "Faint o dai cyngor Dinas a Sir Abertawe a oedd
wedi'u gwella i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru?" Nododd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Genhedlaeth
Nesaf y darperir ymateb ysgrifenedig. ch) Cwestiwn
7. Gofynnodd y Cynghorydd C A Holley y canlynol:
"Mae'n ymddangos bod rhaid i staff y cyngor sy'n parcio
yn y Ganolfan Ddinesig brynu trwydded barcio, ond nid oes angen i staff sy'n
gweithio i'r GIG yn y Ganolfan Ddinesig dalu am drwydded barcio. Pam?” Nododd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad y
darperir ymateb ysgrifenedig. 2) ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'
Rhan B Cyflwynwyd
un (1) 'cwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' Rhan B. |
||||
Rhybudd o gynnig - Cynghorwyr R C Stewart, C A Holley, C Richards, J P Curtice, A S Lewis, J A Hale, M C Child, J E C Harris, M Thomas, C Anderson, R Francis-Davies, M H Jones, J W Jones, PM Black, L G Thomas, T H Rees, AM Day, P M Meara, C L Philpott, R J Stanton a J Newbury.
Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd R C Stewart fod cynnig diwygiedig
wedi'i ddosbarthu. Datganodd fod y rhan fwyaf o'r rhai a gyflwynodd y cynnig
gwreiddiol yn cefnogi'r cynnig diwygiedig. Y cynnig diwygiedig oedd y prif
gynnig i'w drafod. Cynigiwyd y cynnig diwygiedig gan y Cynghorydd R C
Stewart ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd C A Holley.
Ar ôl y refferendwm diweddar,
mae'r cyngor yn datgan eto ei fod yn cefnogi pob aelod o'r gymdeithas, heb
ystyried ei oedran, ei hil, ei ryw, ei grefydd na'i dueddfryd rhywiol. Mae Abertawe'n parhau i fod yn Ddinas Noddfa. Rydym i gyd
wedi'n brawychu gan adroddiadau am wahaniaethu a chasineb yn erbyn aelodau'r
cyhoedd, staff a phlant ysgol. Rydym yn falch o fyw mewn cymdeithas amrywiol a
goddefgar. Nid oes unrhyw le i hiliaeth, senoffobia a chasineb yn ein dinas a'n
gwlad. Fel cyngor, rydym yn condemnio gweithredoedd o'r fath yn ddiamwys. Ni
fyddwn yn caniatáu i fynegi casineb fod yn dderbyniol. Byddwn ni, gynghorwyr Dinas a
Sir Abertawe, yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid, cyrff lleol a'r
cyhoedd i herio hiliaeth, senoffobia, gwahaniaethu a chasineb o unrhyw fath. Byddwn yn sefyll gydag
unigolion a sefydliadau sy'n gweithio i hyrwyddo cydfodoli heddychlon rhwng pob
grŵp yn ein cymunedau, ac yn rhoi'r gefnogaeth a'r adnoddau angenrheidiol,
lle bo'n bosib. Fel
cyflogwr, byddwn yn arwain drwy esiampl. Rydym yn hyrwyddo amrywiaeth ac mae'n
polisi'n datgan bod gwahaniaethu oherwydd hil (sy'n cynnwys lliw, cenedligrwydd
a tharddiad ethnig) yn gamymddwyn difrifol. Mae'n rhaid i bob gweithiwr drin ei
gydweithwyr ac aelodau'r cyhoedd yn barchus. Rydym yn annog cyflogwyr eraill yn
Abertawe i osod safonau tebyg i'w gweithwyr. Rydym yn sicrhau pawb sy'n byw
yn Ninas a Sir Abertawe ei fod yn aelod gwerthfawr o'n cymuned. PENDERFYNWYD cymeradwyo'r
cynnig fel a amlinellir uchod: |