Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P M Black, J E Burtonshaw, J P Curtice, R
Francis-Davies, T J Hennegan, P R Hood-Williams, M H Jones, E J King, D J
Lewis, C E Lloyd, I M Richard, P B Smith, R V Smith, R J Stanton, G J Tanner, C
Thomas a L G Thomas. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd Dirprwy Bennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd gyngor ynghylch y buddiannau personol a
rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael mewn eitemau ar yr
agenda. Roedd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd wedi
atgoffa cynghorwyr a swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau o
fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w
ddatgan. Nid oes angen dychwelyd
ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan.
Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar
lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: Cynghorwyr 1)
Datganodd y Cynghorydd J C Bayliss Fudd Personol a
Rhagfarnol yng Nghofnod 29 “Cynllun Datblygu Lleol – Drafft Adnau” a gadawodd y
cyfarfod cyn i'r eitem hon gael ei thrafod; 2)
Datganodd y Cynghorydd J A Raynor Fudd Personol yng
Nghofnod 29 “Cynllun Datblygu Lleol – Drafft Adnau Swyddogion 3)
Datganodd Huw Evans, Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd
Fudd Personol a Rhagfarnol yng Nghofnod 29 “Cynllun
Datblygu Lleol – Drafft Adnau” a gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem hon gael ei
thrafod. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel
cofnod cywir: 1) Cyfarfod blynyddol y cyngor a gynhaliwyd ar 19 Mai 2016; 2) Cyfarfod seremonïol y cyngor a gynhaliwyd ar 20 Mai 2016. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd adroddiad gwybodaeth yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor. |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1) Cydymdeimladau a)
Ymosodiad Dryll yng nghlwb nos Pulse, Orlando,
Fflorida Cyfeiriodd yr Aelod
Llywyddol yn llawn cydymdeimlad at yr ymosodiad dryll diweddar yng nghlwb nos
Pulse, Orlando, Fflorida lle lladdwyd 49 o bobl ac anafwyd 53. Dywedodd fod
Baner yr Enfys yn chwifio ar ei hanner yn Swyddfeydd y Cyngor fel arwydd o
barch ac undod ar gyfer y gymuned Lesbaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol
(LGBT), ac fel cofeb ac arwydd o barch i'r rhai a gollodd eu bywydau yn
nhrasiedi Orlando yr wythnos ddiwethaf. Mae gostwng y faner yn
symbol o'n hundod â'r gymuned LGBT, yn enwedig yn ystod y cyfnod trist hwn, a
bydd hefyd yn symboleiddio'n hymrwymiad parhaus i ddod â rhagfarn, casineb a
gwarthnod i ben. Safodd pawb a oedd yn bresennol ar eu traed fel arwydd
o gydymdeimlad a pharch. 2) Llongyfarchiadau a) Grŵp Diogelwch
Galwedigaethol Abertawe a Gorllewin Cymru Dywedodd yr Aelod
Llywyddol fod y Gwasanaeth Iechyd, Diogelwch a Lles Corfforaethol wedi cyrraedd
y rhestr fer i ennill gwobrau ym meysydd Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch
Blaengar, yn ogystal â'r darian gyffredinol ar gyfer holl ddarpariaeth
diogelwch a lles Grŵp Diogelwch Galwedigaethol Abertawe a Gorllewin Cymru. Cydnabyddwyd y
gwasanaeth, a derbyniodd wobrau am Berfformiad Diogelwch Rhagorol, ac am y tro
cyntaf enillodd y darian Sefydliad Mawr gan guro Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr,
Cyngor Ceredigion, 3Ms a Dŵr Cymru a oedd hefyd ar y rhestr fer. Roedd hyn
yn ogystal â'r gydnabyddiaeth ddiweddar o ennill Gwobr Aur Safon Iechyd Corfforaethol
Llywodraeth Cymru. Hefyd, enwebwyd David
Price Deer o Ddigwyddiadau Arbennig fel gweithiwr y flwyddyn, a ddaeth yn ail
oherwydd y gydnabyddiaeth o'i waith rhagorol a'i ymroddiad i wella diogelwch
digwyddiadau i staff a miloedd o ymwelwyr sy'n mynychu digwyddiadau a gynhelir
gan y Tîm yn flynyddol. Roedd Craig Gimblett,
Katja Davies a Tracy Williams yn bresennol i dderbyn y dyfarniad. b)
Dawns Anrhydeddau Haf yr Arglwydd Faer Roedd yr Aelod Llywyddol yn falch o gyhoeddi y byddai Dawns Anrhydeddau Haf
yr Arglwydd Faer yn cael ei chynnal yn Neuadd Brangwyn nos Wener, 29 Gorffennaf
2016. Bydd y Ddawns yn cefnogi Cronfa Elusen yr Arglwydd Faer gan godi arian ar
gyfer Canolfan Ganser Maggie, Cronfa Paul Popham ac elusen The Princes Gate. Bwriad y Ddawns Anrhydeddau yw cydnabod y bobl sydd wedi gwneud gwahaniaeth
sylweddol yn Abertawe drwy helpu i wneud Abertawe'n lle mor arbennig. Caiff
pobl o bob cefndir eu hanrhydeddu yn y digwyddiad mawreddog hwn, a bydd hefyd
yn cydnabod y rheini sy'n codi proffil Abertawe ar draws y byd. Bydd yr anrhydeddau agoriadol
hyn yn arddangos amrywiaeth eang o bobl eithriadol ym myd busnes, chwaraeon, y
celfyddydau, elusen ac adloniant. Mae'r tocynnau'n costio £45 yr un. c) Ymddiriedolaeth Penllergaer – Gwobr y
Frenhines ar gyfer Gwasanaethau Gwirfoddol
2016 Roedd yn bleser gan yr Aelod Llywyddol gyhoeddi
fod Ymddiriedolaeth Penllergaer wedi derbyn Gwobr y Frenhines ar gyfer
Gwasanaethau Gwirfoddol 2016 mewn cydnabyddiaeth o'i gwaith o atgyweirio a
chynnal a chadw hen-safle Ystâd Dillwyn Llewelyn, Penllergaer. ch) Anrhydeddau
Pen-blwydd y Frenhines 2016 Roedd
yr Aelod Llywyddol yn falch o longyfarch Dinasyddion Abertawe a dderbyniodd
ddyfarniadau yn ystod Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines. a)
Swyddog yr Ymerodraeth
Brydeinig (OBE) i)
Margaret Hilary Dawson, MBE. Prif Weithredwr ac
Ysgrifenyddes Gyffredinol, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (WEA Cymru). Ar gyfer gwasanaethau i addysg yng Nghymru
(Abertawe, Gorllewin Morgannwg). b)
Aelod o'r Ymerodraeth Brydeinig (MBE) i)
Sidney Frederick Hugh Kidwell. Hyrwyddwr dros Bobl Hŷn yn
Abertawe. Am wasanaethau i'r Gymuned yn
Abertawe. (Abertawe); ii)
Dr Susan Mary Mitchell. Pennaeth Ysgol Uwchradd
Yr Eglwys Yng Nghymru Ioan Fedyddiwr, Aberdâr. Am wasanaethau i Addysg yng
Nghymru. (Abertawe); iii)
Helen Murray. Cadeirydd, Ymddiriedolaeth Tŷ
Olwen, Ysbyty Treforys, Abertawe. Am
wasanaethau gwirfoddol i Ofal Lliniarol yn Abertawe a Chastell-nedd Port
Talbot. (Abertawe). c)
Medal Ymerodraeth Brydeinig (BEM) i)
Ruth Drusilla Janette Lewis. Swyddog â Gofal,
Adran Llwchwr, Ambiwlans Sant Ioan. Am
wasanaeth gwirfoddol i Gymorth Cyntaf. (Abertawe, Gorllewin Morgannwg); ii)
David James Edmond MacKen. Am wasanaethau i Eglwys San Pedr a'r gymuned
yn Abertawe. (Abertawe); iii)
Andrea Dawn Pridmore. Rheolwr Gwasanaethau Digidol, DVLA. Am wasanaethau i Weinyddu Cyhoeddus a
Cherddoriaeth Gymunedol drwy Fand Gorymdaith Silver Rythmaires Abertawe.
(Abertawe, Gorllewin Morgannwg). 3) Cywiriadau/Newidiadau
i wŷs y cyngor. i) Eitem 10 "Lwfansau a
Threuliau'r Cynghorwyr 2015-2016" "Nodiadau"
tudalen 51, ar waelod y dudalen. Hepgor y frawddeg mewn perthynas â'r
Cynghorydd R C Stewart a gêm Y Gweilch yn erbyn Toulouse. Ni fynychodd y Cyng.
Stewart, a gwrthododd y gwahoddiad. ii)
Eitem 11 "Aelodaeth Pwyllgorau” a)
Pwyllgor Cynghori'r Cabinet
ar Gymunedau Tynnu'r Cynghorydd H M
Morris oddi ar y panel. Ychwanegu'r Cynghorydd
M B Lewis. b)
Pwyllgor Cynghori'r
Cabinet ar Ataliaeth a Diwygio Gofal Cymdeithasol Tynnu'r Cynghorydd C
Anderson oddi ar y panel. Ychwanegu'r Cynghorydd H
M Morris. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Cydymdeimladau, Jo Cox, AS Llafur Batley a Spen Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor yn llawn
cydymdeimlad at farwolaeth Jo Cox, AS Llafur dros Batley a Spen yn gynharach y
diwrnod hwnnw. Cafodd Jo Cox ei gadael yn gwaedu ar y llawr ar ôl i rywun
ymosod arni yn Birstall, Gorllewin Swydd Efrog. Safodd pawb a oedd
yn bresennol ar eu traed fel arwydd o gydymdeimlad a pharch. 2)
Morlyn Llanw Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at gyfarfod diweddar
yr oedd ef wedi ei gael gyda Chadeirydd Adolygiad Annibynnol ar Forlynnoedd
Llanw, y Gwir Anrhydeddus Charles Hendry. Dywedodd fod yr adolygiad yn asesu a allai'r
morlynnoedd llanw chwarae rôl gwerth am arian fel rhan o gymysgedd ynni'r DU.
Pwysleisiodd bwysigrwydd prosiect y morlyn llanw o'i gymharu â manteision
amgylcheddol amlwg (lleihau allyriadau a thrydan carbon isel dibynadwy), i'r
effeithiau cadarnhaol ar yr economi leol a chynlluniau adfywio a thu hwnt i hyn
o ran cynhwysiad cymdeithasol a manteision iechyd. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r
cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â
hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Atgoffodd yr Aelod Llywyddol y rhai a oedd am ofyn
cwestiynau mewn perthynas ag Eitem 9 "Cynllun Datblygu Lleol Abertawe
(CDLl - Ymgynghoriad Cyhoeddus Adnau" y byddai cwestiynau ond yn cael eu
hateb os oeddynt yn ymwneud â'r broses ymgynghori. Doedd y cyfarfod ddim yn gyfle i ail ystyried y penderfyniad i gynnwys y
safleoedd tai ac ardaloedd datblygu arfaethedig y cytunwyd arnynt fis Medi'r
llynedd. Gofynnwyd sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd. Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet. Rhestrir y cwestiynau hynny nad oedd yn gofyn
am ymateb ysgrifenedig isod: 1)
ofynnodd
Lis Davies wrth Arweinydd y Cyngor gwestiynau mewn perthynas â Chofnod 30
"Lwfansau a Threuliau Cynghorwyr 2015-2016". "Lwfans TGCh. Gan ddilyn etholiad 2012 derbyniodd pob Cynghorydd
£1,008 i brynu cyfarpar TGCh a £800 yn ychwanegol dros weddill cyfnod y swydd,
os oedd angen. Mae hwn gwerth dros £130,000. A fydd y polisi hwn yn dal i gael ei weithredu ar ôl etholiad mis Mai
2017?" Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai ymateb ysgrifenedig
yn cael ei ddarparu. 2)
Gofynnodd Lis
Davies i Arweinydd y Cyngor gwestiynau mewn perthynas â Chofnod 32
"Cwestiynau Cynghorwyr". “Tudalen 58. Cwestiwn 7. Ers mis
Ebrill 2016 mae 128 o eiddo gwag yng nghanol y ddinas, gan gynnwys 33 mangre
manwerthu neu fwytai yn ardaloedd manwerthu pennaf ac eilaidd y ddinas (heb
gynnwys Ffordd y Brenin). Sawl eiddo manwerthu gwag a gafwyd yn ystod 2011-2012 a'r cyfnodau
dilyniannol rhwng 2012 a 2016?” Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai ymateb ysgrifenedig
yn cael ei ddarparu. |
|
Cyflwyniad Cyhoeddus - Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw Gyflwyniadau Cyhoeddus. |
|
Cynllun Datblygu Lleol - Drafft Adnau. PDF 153 KB Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu
ac Adfywio a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a'r ddogfennaeth
ategol. PENDERFYNWYD y dylid: 1) Cymeradwyo'r Cynllun Datblygu Lleol Adnau sy'n cynnwys
y datganiad ysgrifenedig a'r Map Cynigion er mwyn ymgynghori'n
gyhoeddus arno;
2) Llunio Cytundeb Cyflawni CDLl diwygiedig
er mwyn ymgynghori'n
gyhoeddus arno
gyda Llywodraeth Cymru er mwyn cadarnhau'r
amserlen ar gyfer cyflawni camau'r CDLl yn
y dyfodol sy'n arwain at fabwysiadu'r cynllun; 3) Cytuno ar ganfyddiadau'r
Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a'r Arfarniad Cynaladwyedd.; 4) Ehangu'r
cyfnod ymgynghori tan 5.00pm ar 12 Awst 2016. |
|
Lwfansau a Threuliau'r Cynghorwyr 2015-2016 PDF 63 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gwybodaeth gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn cyflwyno swm y lwfansau a threuliau a dalwyd i bob Cynghorydd ac Aelod Cyfetholedig yn ystod 2015-2016 yn ôl Cynllun Lwfansau Cynghorwyr. |
|
Aelodaeth Pwyllgorau. PDF 51 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet
dros Drawsnewid a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar
gyfer enwebiadau/diwygiadau i aelodaeth cyrff y cyngor. Cyfeiriodd at yr adroddiad
gan nodi nad oedd
Arweinydd y Cyngor wedi gwneud unrhyw newidiadau
i gyrff allanol
yr awdurdod. PENDERFYNWYD y dylid diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn: 1)
Pwyllgor
Cynghori'r Cabinet ar Gymunedau Tynnu'r Cynghorydd H M
Morris oddi ar y panel. Ychwanegu'r Cynghorydd
M B Lewis. 2)
Cyd-bwyllgor
Cydnerthu Ychwanegu'r Cynghorwyr D W Cole, T J Hennegan, M H Jones, C Richards a D
G Sullivan. 3) Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddiwygio Gofal Cymdeithasol
ac Ataliaeth Tynnu'r Cynghorydd C Anderson oddi ar y panel. Ychwanegu'r Cynghorydd H M Morris. 4)
Panel
Llywodraethwyr yr ALl Tynnu'r Cynghorydd L J Tyler-Lloyd oddi ar y panel. Ychwanegu'r Cynghorydd A C S Colburn. 5)
Panel
Ymddiriedolwyr Tynnu'r Cynghorydd M Lewis oddi ar y panel. Ychwanegu'r Cynghorydd K E Marsh |
|
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 79 KB Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan
A Cyflwynwyd pump (5) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar
ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Roedd ymateb ysgrifenedig yn ofynnol ar gyfer y cwestiwn/cwestiynau
atodol canlynol. a) Cwestiwn 2. Gofynnodd
y Cynghorydd J W Jones: "Pryd
bydd y broses blaenoriaethu symud arwyddion dangos cyflymder sydd wedi eu pweru
â solar i gyflenwad trydan yn cychwyn, ac a fydd Cynghorwyr yn rhan o'r
broses?" Nododd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth
y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. 2) ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan
B Cyflwynwyd tri (3) o 'Gwestiynau nad oes angen
Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' yn Rhan B. |