Lleoliad: Council Chamber, Guildhall, Swansea.
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Derbyniwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J C Bayliss, J Newbury, G Owens,
C L Philpott, C Richards, C Thomas, L Tyler-Lloyd ac L V Walton. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd gyngor am y buddiannau personol a rhagfarnol
a oedd efallai ar agenda Cynghorwyr a/neu Swyddogion. Roedd Pennaeth y Gwasanaethau
Democrataidd wedi atgoffa'r Cynghorwyr a Swyddogion y dylid cwblhau'r daflen
"Buddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y
Cynghorydd/Swyddog fuddiant gwirioneddol i'w ddatgan. Nid oedd angen dychwelyd ffurflenni. Hysbyswyd y Cynghorwyr a Swyddogion fod rhaid
datgan unrhyw fuddiant ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datgelwyd y buddiannau canlynol: Cynghorwyr 1) Datgelodd y Cynghorwyr P M
Black, R Francis-Davies, C A Holley, P N May, R C Stewart ac L G Thomas Fudd
Personol yng Nghofnod 193 "Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Mel
Nurse"; Swyddogion 2) Datganodd Mike Hawes a
Chris Sivers Fudd Personol a Rhagfarnol yng Nghofnod 194
"Strwythur Uwch-reolwyr", a gadawodd y cyfarfod cyn i'r mater gael ei
ystyried. 3) Datganodd Phil Roberts Fudd Personol a Rhagfarnol yng Nghofnod 196 "Prif Swyddog y
Gwasanaethau Cymdeithasol - Ymddeoliad Cynnar", a gadawodd y cyfarfod cyn
i'r mater gael ei ystyried. |
|
Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Mel Nurse. PDF 56 KB Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Arweinydd y Cyngor a oedd yn ceisio ystyriaeth
ynglŷn â chyflwyno Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Mel Nurse, i gydnabod ei gyfraniad at chwaraeon a'r Ddinas, yn
enwedig ei gyfranogaeth ac arweinyddiaeth allweddol wrth achub Clwb Pêl-droed
Dinas Abertawe. PENDERFYNWYD y dylid: 1) Cyflwyno Rhyddid er Anrhydedd Dinas a
Sir Abertawe i Mel Nurse i gydnabod ei gyfraniad i
chwaraeon a'r Ddinas, yn enwedig ei gyfranogaeth ac arweinyddiaeth allweddol
wrth achub Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe. |
|
Strwythur Uwch-reolwyr. PDF 162 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Lleoedd a oedd
yn cynnig Strwythur Uwch-reolwyr a oedd yn addas at y diben. PENDERFYNWYD y dylid: 1) Cymeradwyo'r strwythur yn amodol ar yr
ymgynghoriad, fel a fanylir yn yr adroddiad; 2) Awdurdodi'r Prif Weithredwr i ymgynghori â'r holl staff y bydd hyn yn effeithio; 3) Awdurdodi'r Prif Weithredwr i roi'r strwythur
ar waith yn amodol ar argymhelliad 2) heb nodi unrhyw newid sylweddol; 4) Nodi'r gostyngiad yn nifer yr uwch-swyddi a'r
arbediad blwyddyn lawn blynyddol canlynol o ychydig dros £300,000; 5) Bod y Prif Weithredwr yn adrodd nôl i'r
cyngor am unrhyw 'gostau newid' ac ynghylch dyrannu dyletswyddau ar ôl yr
ymgynghoriad. Sylwer: Roedd Arweinydd
y Cyngor wedi atgoffa'r Cynghorwyr y byddai Dean Taylor, Cyfarwyddwr y
Gwasanaethau Corfforaethol yn gadael yr awdurdod cyn bo hir. Ar ran yr holl
Cynghorwyr, diolchodd yntau, Arweinydd yr Wrthblaid Wleidyddol Fwyaf, a'r Aelod
Llywyddol i Mr Taylor am ei wasanaethau i Ddinas a Sir Abertawe. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r cyngor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth iddo ystyried yr
eitem(au) busnes a nodwyd yn yr argymhellion adroddiad(au) ar y sail eu bod yn
debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff cau allan
Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn
Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, sy'n
berthnasol i'r eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriwyd prawf budd y cyhoedd gan y cyngor wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd
yn berthnasol, fel a nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) busnes
canlynol. SESIWN DDIRGEL |
|
Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol - Ymddeoliad Cynnar. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer
cais am ymddeoliad cynnar gan Brif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol. CYTUNWYD y dylid: 1)
Cymeradwyo'r cais am ymddeoliad cynnar gan Brif Swyddog y Gwasanaethau
Cymdeithasol fel a amlinellwyd yn yr adroddiad.
|