Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan yr Aelod Llywyddol, y Dirprwy Swyddog Monitro
a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn ceisio cytundeb mewn egwyddor
er mwyn cyflwyno'r teitl 'Henadur Anrhydeddus' i'r cyn-Gynghorydd Byron G Owen.
Bu'r cyn-Gynghorydd Owen yn gwasanaethu cymunedau Mynydd-bach a Phenderi, a bu’n Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe ar
gyfer blwyddyn ddinesig 1991-1992. Roedd ei gyfnodau o wasanaethu'n cynnwys: Ø Cyngor Dinas Abertawe - 10 Mai 1973 tan 5 Mai 1976; Ø Cyngor Dinas Abertawe - 3 Mai 1979 tan 31 Mawrth 1996; Ø Dinas a Sir Abertawe - 4 Mai 1995 tan 10 Mehefin
2004; Ø Dinas a Sir Abertawe - 1 Mai 2008 tan 18 Mawrth
2016. PENDERFYNWYD cyflwyno'r teitl
Henadur Anrhydeddus i'r cyn-Gynghorydd Byron G Owen i gydnabod ei wasanaeth
blaenllaw i Ddinas a Sir Abertawe a'i awdurdod blaenorol. |