Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 635757
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y cynghorwyr
canlynol R A Clay, U C Clay, S E Crouch,
J E C Harris, M H Jones, C E Lloyd, J Newbury, D Phillips, C L Philpott, R J Stanton
and L G Thomas. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd Dirprwy Bennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd gyngor ynghylch y buddiannau personol a
rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu
cael mewn eitemau ar yr agenda. Gwnaeth Pennaeth y Gwasanaethau
Democrataidd atgoffa cynghorwyr a swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen
"Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol"
os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes
unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd
cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn
ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Cynghorwyr 1)
Datganodd y Cynghorydd J A Hale fudd personol
yng Nghofnod 207 "Cyflwyniad Cyhoeddus - Disgyblion Ysgol St Thomas"; 2)
Datganodd y Cynghorydd C A Holley fudd personol
yng Nghofnod 209 "Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-2020" a nododd
ei fod wedi cael ei eithrio o'r Pwyllgor Safonau i aros a siarad a phleidleisio
ar unrhyw eitem sy'n ymwneud â materion gwasanaethau cymdeithasol, cyflogaeth
gyffredinol staff, materion cyllidebol a materion gwasanaethau cymdeithasol eraill
heblaw am faterion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar ei ferch gan gyfeirio'n
benodol at ei swydd; 3)
Datganodd y Cynghorydd M Thomas fudd personol
yng Nghofnod 209 "Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-2020" a nododd
ei fod wedi cael ei eithrio o'r Pwyllgor Safonau i aros a siarad a phleidleisio
ar unrhyw eitem sy'n ymwneud â chyflogaeth gyffredinol staff, materion
cyllidebol heblaw am faterion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar ei wraig gan
gyfeirio'n benodol at ei swydd; 4)
Datganodd y Cynghorwyr M C Child, V M Evans, R
Francis-Davies, A J Jones, E T Kirchner, A S Lewis, P M Meara, C Richards, R V
Smith ac R C Stewart fudd personol yng Nghofnod 211 “Adroddiad Blynyddol y
Partneriaethau Hamdden 2014/15”. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo'r
cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1) Cyfarfod cyffredin o'r cyngor a gynhaliwyd ar 25 Chwefror
2016; 2) Cyfarfod arbennig o'r cyngor a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2016; 3) Cyfarfod seremonïol o'r cyngor a gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2016
ar yr amod y nodir bod y Cynghorydd T H Rees yn bresennol; 4) Cyfarfod arbennig o'r cyngor a gynhaliwyd ar 7 Ebrill 2016. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd adroddiad
gwybodaeth yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y
cyfarfod cyffredin diwethaf o'r Cyngor. |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1) Newidiadau/diwygiadau
i wŷs y cyngor. a) Eitem 9 "Aelodaeth
Pwyllgorau". Dosbarthwyd adroddiad
diwygiedig. 2) Dyfarniad Safon Iechyd Corfforaethol Aur Nododd yr Aelod
Llywyddol y cyflwynwyd Dyfarniad Safon Iechyd Corfforaethol Aur Llywodraeth
Cymru yn swyddogol i'r Gwasanaeth Iechyd, Diogelwch a Lles Corfforaethol ar 11
Mawrth 2016 ar ran yr awdurdod. Mae'r
dyfarniad yn dilyn asesiad deuddydd gan Cymru Iach ar Waith a fu, yn ei
adroddiad, yn canmol diwylliant, safonau cefnogaeth, cyflwyniad a buddsoddiad
yr awdurdod mewn lles gweithwyr. Roedd hyn o
ganlyniad i ymrwymiad ac ymroddiad y gwasanaeth, lles y gweithgor,
gwirfoddolwyr, gweithwyr ac undebau llafur a fu'n rhan o hyrwyddo a gwella
diogelwch a lles ar draws y sefydliad. Rhoddwyd
cydnabyddiaeth arbennig i gefnogaeth y tîm Safonau Rheoli Straen, Iechyd
Galwedigaethol, Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch a chyflwyniad gwasanaeth Help
Llaw. Teimlai'r aseswyr fod yr awdurdod
wedi gwneud gwelliannau sylweddol o ran cynnwys, ymrwymiad, dull o'r brig i'r
gwaelod a diwylliant mewn perthynas ag ymgorffori lles fel rhan o'r ffordd
rydym yn gwneud busnes. Roedd Craig Gimblett, Gary Davies, Ray
Mitchell, Helen Lewis, Liz Thomas-Evans, Caroline Ford, Sarah Owens, Katja
Davies, Alison Cosker a Jackie Griffiths (Undeb
Llafur GMB) yn bresennol i dderbyn y dyfarniad. 3) Tanya Nash, Tîm Datblygu Cynaliadwy - Gwobrau Arwain Cymru Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol Tanya Nash, o'r Tîm
Datblygu Cynaliadwy, am gyrraedd rhestr fer o dri yn y categori Arweinydd y
Genhedlaeth Nesaf yng Ngwobrau Arwain Cymru 2016. Mae Tanya wedi helpu'r cyngor i gyflawni
llwyddiant sylweddol, a gydnabuwyd y llynedd fel enillydd gwobr Sefydliad
Sector Cyhoeddus Mwyaf Cynaliadwy'r DU. 4) Gwasanaethau Cyfreithiol - Lexcel Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol staff y Gwasanaethau
Cyfreithiol sydd wedi ymgymryd ag asesiad blynyddol llwyddiannus arall gan
Gymdeithas Gyfreithiol Lexcel yn ddiweddar. Dyma'r trydydd
asesiad yn olynol sydd wedi nodi nad oes unrhyw elfennau na chydymffurfir â
hwy; cyflawniad y dylid ei longyfarch. 5) Jazz Carlin Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol Jazz Carlin ar gyflawni'r amser
gofynnol ar gyfer y 400m dull rhydd yn Rio drwy ennill mewn 4:04:33 yn Glasgow
ac felly llwyddo deirgwaith ym Mhencampwriaethau Prydain. Enillodd y rasys 200m
a 400m hefyd. 6) Ras Enfys Tŷ Hafan Llongyfarchodd yr Aelod
Llywyddol bawb a gymerodd ran yn Ras Enfys Tŷ Hafan ar draeth Abertawe ar
23 Ebrill 2016. Cymerodd dros 2,000 o
bobl ran gan helpu i godi arian hanfodol ar gyfer plant a phobl ifanc â
chyflyrau sy'n cyfyngu ar eu bywydau yng Nghymru. Mae'r digwyddiad yn
annog cyfranogwyr i wisgo gwyn ac wrth iddynt redeg y 5km (3.1 milltir) cânt eu
gorchuddio â phaent powdr lliwiau gwahanol.
Nododd ei fod wedi clywed ei fod yn ddigwyddiad llawn hwyl a'i fod yn
gobeithio y byddai llawer o gynghorwyr yn cymryd rhan y flwyddyn nesaf. 7) Marathon Llundain Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol holl staff y
cyngor a phobl Abertawe a gymerodd ran ym Marathon Llundain ar 24 Ebrill 2016. 8) Gwobrau Rhedeg Cenedlaethol
2016 Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol ras 10k Bae
Abertawe Admiral y cyngor a ddaeth yn ail yng nghategori Ras 10k Orau Gwobrau
Rhedeg Cenedlaethol 2016. Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn Llundain ar
22 Ebrill 2016. Casglodd Nigel Jones,
o'r tîm Digwyddiadau Arbennig, y wobr ar ran yr awdurdod. Dyma gyflawniad arbennig gan
mai categori'r Ras 10k Orau oedd y categori mwyaf o holl gategorïau'r gwobrau
ac felly'r un a gafwyd y mwyaf o gystadleuaeth ynddo. Llongyfarchodd Hanner Marathon
JCP Abertawe hefyd a ddaeth yn 2il yn y categori Hanner Marathon gan
wneud Abertawe'r unig ddinas neu dref a oedd wedi
cyrraedd y rownd derfynol mewn dau gategori.
Nododd fod hyn yn newyddion gwych i'n dyheadau i fod yn Ddinas
Chwaraeon. 9) Cystadleuaeth Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth 2016 Nododd
yr Aelod Llywyddol mai elusen addysgol gwrth-hiliaeth yw Dangos y Cerdyn Coch i
Hiliaeth â'r nod o fynd i'r afael â hiliaeth drwy greu
modelau rôl (pêl-droedwyr yn bennaf ond ddim yn unig) i gyflwyno neges
wrth-hiliaeth i bobl ifanc ac eraill. Roedd y gystadleuaeth Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yng
Nghymru yn ffordd hygyrch a diddorol i annog disgyblion i feddwl am y materion
sy'n ymwneud â hiliaeth. Nododd fod yn bleser ganddo gyhoeddi bod Ysgol Gynradd
San Helen, Ysgol Gynradd Terrace Road ac Ysgol
Ffynone House wedi ennill gwobrau yn y seremoni
neithiwr yng Nghaerdydd. 10) Dean Taylor - Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol Diolchodd
yr Aelod Llywyddol ar ran y cyngor i Dean Taylor, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau
Corfforaethol, am ei ymroddiad a'i broffesiynoldeb wrth drawsnewid a
moderneiddio agweddau ar yr awdurdod dan raglen Abertawe - Yn Addas i'r
Dyfodol. Nododd fod Dean Taylor bellach ar wyliau ac ar ddiwedd ei
wyliau daw ei gyflogaeth â'r awdurdod i ben. Dymunodd yn dda iddo ar ei fentrau newydd. 11) Non Stanford, Gemau Olympaidd Rio Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol y dreiathletwraig Non Stanford am ei
llwyddiant diweddar yn Cape Town a chael ei chynnwys yn Nhîm Treiathlon PF ar gyfer Gemau Olympaidd Rio. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1) Dean
Taylor Ategodd Arweinydd y
Cyngor eiriau'r Aelod Llywyddol gan ddiolch i Dean Taylor am ei waith caled a'i
broffesiynoldeb wrth weithio gyda'r awdurdod. 2) Hillsborough Talodd Arweinydd y Cyngor deyrnged i'r 96 o
gefnogwyr Lerpwl a fu farw yn Hillsborough 27 o
flynyddoedd yn ôl. Fel arwydd o barch,
bydd bŵau'r Brangwyn yn cael eu goleuo'n goch -
lliwiau Clwb Pêl-droed Lerpwl - heno a byddant yn parhau i wneud hynny tan
ddydd Llun. Bydd baneri yn lleoliadau'r
cyngor hefyd yn chwifio ar eu hanner. Ni fyddwn byth yn anghofio'r hyn a ddigwyddodd yn Hillsborough 27 o flynyddoedd yn ôl. Ni all yr ymgyrch am gyfiawnder gan y
teuluoedd a dinas Lerpwl yn ei chyfanrwydd newid yr hyn a ddigwyddodd, ond
mae'r ymgyrch a'r canlyniadau terfynol a glywsom o'r cwest yr wythnos hon wedi
newid hanes. Bydd cefnogwyr Lerpwl yn Abertawe'r
penwythnos hwn ar gyfer y gêm ddydd Sul ac rydym am iddynt wybod, fel ein
gwesteion, ein bod yn sefyll ochr yn ochr â hwy yn ystod y cyfnod hwn i gofio yn ogystal â chydnabod y cyfiawnder a gafwyd o'r
diwedd. Ni all unrhyw un osgoi cael ei effeithio gan
ddigwyddiadau'r wythnos hon ac urddas parhaus teuluoedd, ffrindiau a chefnogwyr
y 96. Diolchodd Arweinydd y Cyngor i'r Arglwydd Faer
am gytuno i ysgrifennu at bobl Lerpwl gan ddangos cefnogaeth yr awdurdod. Gofynnodd yr Aelod Llywyddol i bawb a oedd yn
bresennol sefyll am funud o dawelwch fel arwydd o gydymdeimlad a pharch. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r
cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â
hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd. Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet. A) Rhestrir meysydd y cwestiynau nad oes angen ymateb
ysgrifenedig ar eu cyfer isod: a) Eitem 12 “Adroddiad Blynyddol
y Partneriaethau Hamdden 2014-2015”; b) Eitem 11 “Arolygiad Estyn o
Wasanaethau Addysg yr Awdurdod Lleol i Blant a Phobl Ifanc 2013 - Y
Diweddaraf”. B) Nid oedd unrhyw gwestiwn yn gofyn am ymateb ysgrifenedig. |
|
Cyflwyniad Cyhoeddus - Disgyblion Ysgol St Thomas. Cofnodion: Cafwyd cyflwyniad ar
Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) gan Mrs Blyth, Mr Dwyer (Pennaeth Ysgol Gynradd St Thomas), Katie
Spendiff, Helen Dale (Y Ddraig Ffynci) a Lewi Cook, Tegan Tweed, Syeda Ahmed, Jackson Williams (disgyblion o Ysgol Gynradd
St Thomas) a Chloe-Marie Richards a Ffion Morgan (disgyblion o Ysgol Gyfun Cefn
Hengoed). Cytundeb hawliau dynol yw'r CCUHP sy'n pennu
hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, iechyd a diwylliannol
plant. Diolchodd
y Cynghorydd C Richards (Aelod y Cabinet dros Wasanaethau i Blant a Phobl
Ifanc) am y cyflwyniad. |
|
Aelodaeth Pwyllgorau. PDF 50 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet
dros Drawsnewid a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar
gyfer enwebiadau/diwygiadau i aelodaeth cyrff y cyngor. Hefyd amlinellodd unrhyw ddiwygiadau
ychwanegol a oedd wedi cael eu cyflwyno. Cyfeiriodd at yr adroddiad gan nodi bod Arweinydd y Cyngor wedi gwneud y
newidiadau canlynol i gyrff allanol yr awdurdod: 1) Bay
Leisure Tynnu'r Cynghorydd A S Lewis. Ychwanegu'r Cynghorydd A J Jones. 2) Cyngor
Iechyd Cymunedol (CHC) - Bwrdd Abertawe Bro Morgannwg Ychwanegu'r Cynghorwyr J E C Harris, E J King ac E T Kirchner. 3) Cyngor Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
(CLlLC) Ychwanegu Arweinydd y Cyngor, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a'r Cynghorwyr J P
Curtice, C E Lloyd ac M Thomas. 4) Pwyllgor
Cydlynu Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) Ychwanegu Arweinydd y Cyngor neu unrhyw un o'r cynrychiolwyr enwebedig o
Gyngor Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). PENDERFYNWYD y dylid diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir
isod fel a ganlyn: 1) Pwyllgor Disgyblu Prif Swyddogion Tynnu'r Cynghorwyr J E Burtonshaw, J P Curtice a D W W
Thomas. Ychwanegu'r Cynghorwyr A M Cook, Y V Jardine, A J Jones ac E J King. 2) Pwyllgor Apeliadau Disgyblu Prif
Swyddogion Tynnu'r Cynghorwyr J A Hale a D G Sullivan. Ychwanegu'r Cynghorwyr D J Lewis a D G Walker. 3) Pwyllgor
Cynghori'r Cabinet ar Gymunedau Tynnu'r Cynghorwyr J P Curtice a B Hopkins. Ychwanegu'r Cynghorwyr J E Burtonshaw ac U C Clay. 4) Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu Tynnu'r Cynghorydd J C Bayliss. Ychwanegu'r Cynghorydd C R Doyle. 5) Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddiwygio
Gofal Cymdeithasol ac Ataliaeth Tynnu'r Cynghorydd P Lloyd. Ychwanegu'r Cynghorydd J A Hale. 6) Pwyllgor y Rhaglen Graffu Tynnu'r Cynghorwyr A M Cook, J P Curtice a R V Smith. Ychwanegu'r Cynghorwyr C Anderson, C R Evans ac E J King. |
|
Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016 - 2020. PDF 64 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad adroddiad a oedd
yn rhoi manylion Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-2020. PENDERFYNWYD: 1) Y
dylid cymeradwyo Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-2020. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg adroddiad a oedd yn rhoi'r
diweddaraf am y cynnydd o ran bodloni'r pum argymhelliad a gafwyd yn Adroddiad
Arolygiad Estyn. PENDERFYNWYD: 1) Y
dylid nodi'r diweddaraf am y cynnydd o ran bodloni'r pum argymhelliad a gafwyd
yn Adroddiad Arolygiad Estyn. |
|
Adroddiad Partneriaeth Blynyddol. PDF 104 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelodau'r Cabinet dros Les a Dinas Iach a Menter, Datblygu ac
Adfywio adroddiad ar y cyd a oedd yn cynnwys gwybodaeth am weithrediadau
partner cyfleusterau allweddol o fewn portffolio'r Gwasanaethau Diwylliannol. PENDERFYNWYD: 1) Y
dylid nodi'r adroddiad. |
|
Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol. PDF 72 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu adroddiad gwybodaeth a oedd
yn nodi'r Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol. |
|
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 70 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd saith (7) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au)
perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs
y Cyngor. Roedd ymateb ysgrifenedig yn ofynnol ar gyfer y
cwestiwn/cwestiynau atodol canlynol. a) Cwestiwn
2. Y Cynghorydd P M Meara: “Faint o'r Gweithwyr Masnach
hyn oedd wedi bod dan ofal yr awdurdod yn flaenorol?" Nododd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Genhedlaeth
Nesaf y darperir ymateb ysgrifenedig. 2) ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan
B Ni
chyflwynwyd unrhyw 'Gwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'
Rhan B. |