Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

111.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

1)      Y Cynghorydd S Bennett, D H Hopkins, L R Jones, E T King, A S Lewis, M B Lewis, N L Matthews & R A Williams - Personol - Eitem 7 “Datagiad o Gyfrifion 2023/24”

 

2)     Y Cynghorydd B Hopkins, D H Hopkins, L James, N L Matthews - Personol – Eitem 8 “Trefniadau Derbyn Ysgolion 2026-2027”

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnus posib a all fod gan Gynghorwyr a/neu Swyddogion ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnus" dim ond os oes gan y Cynghorydd/Swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd Cynghorwyr a Swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)             Datganodd y Cynghorwyr S Bennett, D H Hopkins, L R Jones, A S Lewis, M B Lewis, N L Matthews, M S Tribe ac R A Williams gysylltiad personol â Chofnod 115 “Datganiad o Gyfrifon 2023/24”.

 

2)             Datganodd y Cynghorwyr B Hopkins, D H Hopkins, L James, J W Jones, N L Matthews gysylltiad personol â Chofnod 117 “Trefniadau Derbyn Ysgolion 2026-2027”.

112.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

1)             Cydymdeimladau - Y Cynghorydd Blaenorol Keith Roberts

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y Cyn-gynghorydd Keith Roberts. Roedd Keith yn gwasanaethu Ward Llandeilo Ferwallt fel rhan o gyngor blaenorol Sir Gorllewin Morgannwg.

 

Safodd pawb a oedd yn bresennol ar eu traed am funud o ddistawrwydd i ddangos cydymdeimlad a pharch.

 

2)             Gwobrau Prentisiaethau Adeiladu a Thai’r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE)

Gwnaeth yr Aelod Llywyddol longyfarch ag Isaac Fabb ar ennill y Categori 4edd Flwyddyn yng Ngwobrau'r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus 2025 yn ddiweddar.

113.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Penderfyniad:

Dim

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gyhoeddiadau.

114.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu.

Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser.

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

115.

Adroddiad Archwilio Cymru - Adroddiad Archwilio Cyfrifon Dinas a Sir Abertawe. pdf eicon PDF 1 MB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Gillian Gillett a Leanne Malough, Archwilio Cymru "Adroddiad Archwilio Cymru, Archwilio Cyfrifon 2023-2024 ar gyfer Dinas a Sir Abertawe".

 

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi'r Llythyr Sylwadau Terfynol.

116.

Datganiad o Gyfrifon 2023/24. pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cyfrifon 2023/2024 ar 31 Gorffennaf 2024 neu cyn hynny.

 

Esboniodd y Swyddog Adran 151 y rhesymau dros yr oedi a'r materion ehangach sydd wedi'u dogfennu sy'n effeithio ar archwiliad allanol gyfan llywodraeth leol o gyfrifon yn y DU.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Datganiad o Gyfrifon 2023/2024 fel y'i nodir yn Atodiad A yr adroddiad.

117.

Trefniadau Derbyn Ysgolion 2026-2027. pdf eicon PDF 182 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn gofyn am benderfyniad ar y trefniadau derbyn ar gyfer ysgolion a gynhelir ar gyfer y flwyddyn academaidd 2026-2027.

 

Penderfynwyd:

 

1)       Cymeradwyo'r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2026-2027 ar gyfer dosbarthiadau meithrin fel a nodir yn Atodiad A yr adroddiad.

 

2)       Cymeradwyo'r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2026-2027 ar gyfer dosbarthiadau derbyn fel a nodir yn Atodiad B yr adroddiad.

 

3)       Cymeradwyo'r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2026-2027 ar gyfer Blwyddyn 7 fel a nodir yn Atodiad C yr adroddiad.

 

4)       Cymeradwyo'r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2026-2027 ar gyfer trosglwyddiadau yn ystod y flwyddyn fel a nodir yn Atodiad Ch yr adroddiad.

 

5)       Cymeradwyo'r trefniadau derbyn/meini prawf derbyn arfaethedig ar gyfer 2026-2027 ar gyfer dosbarthiadau'r chweched yn Atodiad D yr adroddiad.

 

6)       Cymeradwyo'r Amserlen Ddigwyddiadau ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd fel a nodir yn Atodiad Dd yr adroddiad.

 

7)       Nodi'r niferoedd derbyn ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, fel a nodir yn Atodiad E yr adroddiad.