Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

75.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Y Cynghorydd

 

1.  Y Cynghorydd K M Griffiths & A H Stevens - Personol – eitem 8 - Cynllun Cam Cyn-adnau (y Strategaeth a Ffefrir) Cynllun Datblygu Lleol Abertawe 2023-2038 (CDLl2) a Chytundeb Cyflawni Diwygiedig.

 

2. Y Cynghorydd A Davies, S M Jones, P Lloyd & R V Smith - Personol - eitem 9 - Mabwysiadu'r Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor.

 

3. Y Cynghorydd A Anthony, R A Fogarty, L S Gibbard, B Hopkins, L James, S M Jones, N L Matthews, A J O’Connor, C L Philpott & S J Rice - Personol – eitem 10 - Cynllun Cydlynu Trefniadau Derbyn Ysgolion.

 

4. Y Cynghorydd C Anderson, J P Curtice, L S Gibbard, C A Holley, D H Jenkins, E J King, A S Lewis, F D O’Brien, C L Philpott & T M White - Personol - eitem 11 - Polisi Tâl 2025-26.

 

5. Y Cynghorydd P M Matthews & C L Philpott - personol a rhagfarnol eitem 13 - Enwebu Dirprwy Arglwydd Faer ar gyfer 2024-2025 ac Arglwydd Faer Etholedig a Dirprwy Arglwydd Faer Etholedig ar gyfer 20252026 a'i adael cyn trafodaeth.

 

6.  Y Cynghorydd S J Rice – Personol – eitem 16 – Cwestiynau gan y Cynghorwyr. (C2)

 

7. Y Cynghorydd P N Bentu, A M Day, P Downing, R Francis-Davies, L S Gibbard, K M Griffiths, V A Holland,  B Hopkins, L James, D H Jenkins,  M H Jones, E J King, E T Kirchner, A S Lewis, W G Lewis, P Lloyd, N L Matthews, F D O’Brien, A J O’Connor, C L Philpott, R V Smith, L V Walton & T M White – Personol - eitem 17 - Cynnydd Yn Oedran Pensiwn Y Wladwriaeth I Fenywod - Lawndal.

 

8. Y Cynghorydd L James, S M Jones, E T Kirchner, P Lloyd & M W Locke – Personol – eitem 18 - Caledi Ariannol I Lawer O Breswylwyr Agored I Niwed.

 

9. Y Cynghorydd B J Rowlands & A H Stevens – personol a rhagfarnol eitem 18 - Caledi Ariannol I Lawer O Breswylwyr Agored I Niwed a'i adael cyn trafodaeth.

 

 

Swyddogion

 

1 H Evans and M Nicholls – personol a rhagfarnoleitem 8 - Cynllun Cam Cyn-adnau (y Strategaeth a Ffefrir) Cynllun Datblygu Lleol Abertawe 2023-2038 (CDLl2) a Chytundeb Cyflawni Diwygiedig a'i adael cyn trafodaeth.

 

2. G Borsden, H Evans, A Hawkins, H Morgan-Rees, M Nicholls & B Smith -personol a rhagfarnoleitem 11 - Polisi Tâl 2025-26 a'i adael cyn trafodaeth.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch buddiannau personol a rhagfarnus posib cynghorwyr a swyddogion mewn eitemau ar yr agenda.

 

Gwnaeth Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd atgoffa'r cynghorwyr a'r swyddogion na ddylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnus" oni bai fod gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Cynghorwyr

 

1)             Y Cynghorydd K M Griffiths & A H Stevens - Personoleitem 8 - Cynllun Cam Cyn-adnau (y Strategaeth a Ffefrir) Cynllun Datblygu Lleol Abertawe 2023-2038 (CDLl2) a Chytundeb Cyflawni Diwygiedig.

 

2)             Y Cynghorydd A Davies, S M Jones, P Lloyd & R V Smith - Personol - eitem 9 - Mabwysiadu'r Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor.

 

3)             Y Cynghorydd A Anthony, R A Fogarty, L S Gibbard, B Hopkins, L James, S M Jones, N L Matthews, A J O’Connor, C L Philpott & S J Rice - Personoleitem 10 - Cynllun Cydlynu Trefniadau Derbyn Ysgolion.

 

4)             Y Cynghorydd C Anderson, J P Curtice, L S Gibbard, C A Holley, D H Jenkins, E J King, A S Lewis, F D O’Brien, C L Philpott & T M White - Personol - eitem 11 - Polisi Tâl 2025-26.

 

5)             Y Cynghorydd P M Matthews & C L Philpott - personol a rhagfarnol eitem 13 - Enwebu Dirprwy Arglwydd Faer ar gyfer 2024-2025 ac Arglwydd Faer Etholedig a Dirprwy Arglwydd Faer Etholedig ar gyfer 20252026 a'i adael cyn trafodaeth.

 

6)             Y Cynghorydd S J Rice – Personoleitem 16 – Cwestiynau gan y Cynghorwyr. (C2).

 

7)             Y Cynghorydd P N Bentu, A M Day, P Downing, R Francis-Davies, L S Gibbard, K M Griffiths, V A Holland,  B Hopkins, L James, D H Jenkins,  M H Jones, E J King, E T Kirchner, A S Lewis, W G Lewis, P Lloyd, N L Matthews, F D O’Brien, A J O’Connor, C L Philpott, R V Smith, L V Walton & T M White – Personol - eitem 17 - Cynnydd Yn Oedran Pensiwn Y Wladwriaeth I Fenywod - Lawndal.

 

8)             Cynghorydd L James, S M Jones, E T Kirchner, P Lloyd & M W Locke – Personoleitem 18 - Caledi Ariannol I Lawer O Breswylwyr Agored I Niwed.

 

9)             Y Cynghorydd B J Rowlands & A H Stevens – personol a rhagfarnol eitem 18 - Caledi Ariannol I Lawer O Breswylwyr Agored I Niwed a'i adael cyn trafodaeth.

 

Swyddogion

 

1)             H Evans and M Nicholls – personol a rhagfarnoleitem 8 - Cynllun Cam Cyn-adnau (y Strategaeth a Ffefrir) Cynllun Datblygu Lleol Abertawe 2023-2038 (CDLl2) a Chytundeb Cyflawni Diwygiedig a'i adael cyn trafodaeth.

 

2)             G Borsden, H Evans, A Hawkins, H Morgan-Rees, M Nicholls & B Smith -personol a rhagfarnoleitem 11 - Polisi Tâl 2025-26 a'i adael cyn trafodaeth.

76.

Cofnodion. pdf eicon PDF 180 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)             Cyfarfod cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2024.

77.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng nghyfarfod cyffredin diwethaf y cyngor.

78.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

i)               Cydymdeimlad - Y Dirprwy Arglwydd Faer, y Cynghorydd Wendy Fitzgerald

Mynegodd yr Aelod Llywyddol dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y Dirprwy Arglwydd Faer, y Cynghorydd Wendy Fitzgerald. Roedd Wendy yn gwasanaethu fel Dirprwy Arglwydd Faer 2024-2025 a bu'n cynrychioli ward Penlle’r-gaer fel cynghorydd am bron 21 o flynyddoedd. Roedd Wendy hefyd yn aelod o'r Cabinet gynt. Bu Wendy yn gwasanaethu:

 

Dinas a Sir Abertawe

10/06/2004 i 01/01/2025

 

Talodd arweinwyr y pleidiau gwleidyddol deyrnged i'r Cynghorydd Wendy Fitzgerald.

 

ii)             Cydymdeimlad - Gerard Holley, brawd y Cynghorydd Chris Holley

Mynegodd yr Aelod Llywyddol dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar Gerard Holley, brawd y Cynghorydd Chris Holley.

 

Safodd pawb a oedd yn bresennol am funud o ddistawrwydd i ddangos cydymdeimlad a pharch.

 

iii)           Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd

Dinasyddion Abertawe a dderbyniodd ddyfarniadau yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.

 

a)       Cadlywyddion Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE)

i)        Janice Victoria Williams OBE. Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Am wasanaeth cyhoeddus. (Abertawe, Gorllewin Morgannwg).

 

b)       Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE)

i)        Wendy Ansell. Bydwraig arbenigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Am wasanaethau i bobl sy'n goroesi arferion niweidiol a menywod sy'n ceisio noddfa. (Abertawe, Gorllewin Morgannwg).

 

c)       Medalyddion Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM)

i)        Karen Pitt. Uwch-beiriannydd Telathrebu, yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau. Am wasanaethau i sgiliau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. (Abertawe, Gorllewin Morgannwg).

 

d)       Medal Heddlu'r Brenin (KPM)

i)        Jeremy Mark Vaughan. Prif Gwnstabl, Heddlu De Cymru. (De Cymru).

 

iv)           Seremoni Cymunedau Mwy Diogel 2024

Amlinellodd yr Aelod Llywyddol lwyddiant Cyngor Abertawe yn Seremoni Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel 2024. Enillodd y cyngor 27 o wobrau mewn 13 o gategorïau. Roedd y gwobrau'n cynnwys:

 

Ø    Enillydd. Prosiect Atal Troseddu Gorau. Digwyddiadau City Chill Cyngor Abertawe.

Ø    Enillydd. Prosiect Ymyrraeth Gynnar Gorau. Y Cwtsh Cydweithio.

Ø    Cymeradwyaeth Uchel. Cydraddoldeb, Cynhwysiad a Chydlyniant. Ysgolion cynradd y Clâs a Cadle.

Ø    Enillydd. Cydraddoldeb, Cynhwysiad a Chydlyniant. Afternoon Teens.

Ø    Enillydd Gwobr Gyffredinol Diogelwch Cymunedol Cymru. Digwyddiadau City Chill Cyngor Abertawe.

 

Cafodd aelodau o Dîm Partneriaeth a Chyfranogaeth y cyngor, y Gwasanaeth Ieuenctid, y Tîm Diogelwch Cymunedol, partneriaid a phobl a gymerodd ran yn y mentrau hyn eu llongyfarch am eu hymroddiad a'u cyflawniadau.

 

v)             Eglwys y Santes Fair yw'r eglwys gyntaf yng Nghymru i ennill statws minstr

Dywedodd yr Aelod Llywyddol mai Eglwys y Santes Fair yng nghanol dinas Abertawe fyddai'r eglwys gyntaf i dderbyn statws minstr yng Nghymru cyn bo hir, fel rhan o waith trawsnewid gwerth miliynau o bunnoedd. Bydd Eglwys y Santes Fair yn derbyn buddsoddiad gwerth £2.8m dros y pum mlynedd nesaf, gan helpu i greu swyddi a diogelu dyfodol y tirnod yn Abertawe. Rhoddir statws minstr i eglwys fawr neu bwysig, yn enwedig eglwys golegol neu gadeiriol. Mae'n adlewyrchu pwysigrwydd Eglwys y Santes Fair i'r ddinas.

 

Bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi aelodau staff newydd i gael eu cyflogi, sef clerigwyr a gweithwyr lleyg, gan gynyddu gallu’r eglwys i wasanaethu cymuned canol dinas Abertawe, boed yn breswylwyr, yn weithwyr, yn ymwelwyr, yn ffoaduriaid neu'n bobl ddigartref.

 

vi)           Oliver Treviso

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Oliver Treviso o Abertawe'n cerdded hyd mynyddoedd yr Andes, ar ei ben ei hun ac yn cludo popeth y mae ei angen arno yn ei sach deithio. Mae wedi bod yn cerdded ers mwy na blwyddyn, ar ôl dechrau ei daith yn Tierra del Fuego ar begwn deheuol yr Ariannin. Mae wedi cerdded drwy bedair gwlad eisoes ac wedi teithio dros 5,000 o filltiroedd. Ar ei daith, mae'n cynyddu ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer yr elusen iechyd meddwl MIND. Mae Oliver yn credu efallai mai ef yw'r person cyntaf i wneud y daith hon. Mae'n gobeithio dychwelyd i Abertawe ym mis Mawrth 2025.

 

Gwnaeth longyfarch Oliver, am ei gyflawniad a'i antur anhygoel.

 

vii)          Abertawe i dynnu sylw at ganser y gwaed drwy ddigwyddiad Walk of Light

Dywedodd yr Aelod Llywyddol y byddai Abertawe'n cynnal digwyddiad cerdded elusennol i gynyddu ymwybyddiaeth o ganser y gwaed a chodi arian ar gyfer gwaith ymchwil hollbwysig i'r canser hwn, y pumed mwyaf cyffredin yn y DU. Bydd Walk of Light, a gynhelir gyda'r hwyr ar 29 Mawrth 2025 ar hyd promenâd atyniadol Bae Abertawe, yn dod â'r gymuned ynghyd i gefnogi Blood Cancer UK a'r rhai hynny y mae canser y gwaed yn effeithio arnynt.

 

Mae Prif Weithredwr y cyngor, Martin Nicholls, sydd wedi dioddef o ganser y gwaed ei hun, yn trefnu'r digwyddiad ac mae'n awyddus i godi proffil canser y gwaed a chodi arian mawr ei angen ar gyfer ymchwil barhaus.

 

Gall Martin roi manylion y digwyddiad i unrhyw un sydd am ymuno yn y digwyddiad neu sydd am ei gefnogi.

 

viii)        Cywiriadau a Diwygiadau i Wys y Cyngor

Eitem 14 “Caniatâd i fod yn absennol - y Cynghorydd D Phillips”

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod yr eitem hon wedi'i thynnu yn ôl.

79.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

i)               Diwrnod Cofio'r Holocost – 27 Ionawr 2025

Diolchodd Arweinydd y Cyngor i'r rhai hynny a gyfranogodd yn Niwrnod Cofio'r Holocost yn ddiweddar. Diolchodd i Norma Glass MBE am ei geiriau cryf ac emosiynol yn ystod y seremoni.

 

ii)             71-72 Ffordd y Brenin

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod tenantiaid cyntaf 71-72 Ffordd y Brenin wedi cael eu cadarnhau.

80.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu.

Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser.

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Penderfyniad:

None

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

81.

Cynllun Cam Cyn-adnau (y Strategaeth a Ffefrir) Cynllun Datblygu Lleol Abertawe 2023-2038 (CDLl2) a Chytundeb Cyflawni Diwygiedig. pdf eicon PDF 309 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad a'r Rheolwr Creu Lleoedd a Chynllunio Strategol adroddiad a amlinellodd gynnydd CDLl2 ac a geisiodd gymeradwyaeth i ddechrau proses ymgynghori cyhoeddus statudol ar y Cynllun Cyn-adnau (sef y ‘Strategaeth a Ffefrir’) ac adroddiadau'r Arfarniad o Gynaliadwyedd Integredig a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd cysylltiedig. Hefyd, ceisiodd gymeradwyaeth am Cytundeb Cyflawni Diwygiedig o ran CDLl2 yn unol â Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) 2005 (fel y'u diwygiwyd).

 

Penderfynwyd:

 

1)             Nodi cynnwys yr adroddiad a'r ddogfennaeth gysylltiedig, gan gynnwys sylwadau'r ymgynghoriad anstatudol cychwynnol â rhanddeiliaid a'r gwaith ymgysylltu a wnaed ar gyfer cam cyn adneuo CDLl2 fel a amlinellir yn Atodiad A yr adroddiad.

 

2)       Cymeradwyo Cynllun Cyn-adnau (Strategaeth a Ffefrir) CDLl2 a amlinellir yn Atodiad B yr adroddiad sy'n galluogi proses gynhwysfawr i gael ei chynnal i ymgynghori â’r cyhoedd ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn unol â'r gofynion statudol.

 

3)             Y dylai'r Arfarniad o Gynaliadwyedd Integredig, yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a'r Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol, gan gynnwys dogfennau Asesu Cam 1 a amlinellir yn Atodiad C yr adroddiad, fod ar gael i gyflwyno sylwadau arnynt ochr yn ochr â Chynllun Cyn-adneuo (Strategaeth a Ffefrir) CDLl2 fel rhan o'r broses ymgynghori cyhoeddus, yn unol â gofynion statudol.

 

4)             Cymeradwyo’r Cytundeb Cyflawni Diwygiedig o ran CDLl2 a amlinellwyd yn Atodiad D yr adroddiad a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo.

 

5)             Awdurdodi Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, neu swyddog dirprwyedig priodol, i wneud unrhyw ddiwygiadau ffeithiol, cyflwyniadol, teipograffyddol, gramadegol neu ddiwygiadau mân eraill sy'n weddill i Gynllun Cyn-adneuo (Strategaeth a Ffefrir) CDLl2, yr Arfarniad o Gynaliadwyedd Integredig, yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, y Cytundeb Cyflawni diwygiedig o ran CDLl2 a'r Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol, cyn eu cyhoeddi at ddibenion ymgynghori.

82.

Mabwysiadu'r Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor. pdf eicon PDF 176 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn amlinellu'r gofyniad i ystyried yn flynyddol a ddylid diwygio neu ddisodli Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor presennol y cyngor a'r gofyniad naill ai i fabwysiadu cynllun newydd neu ailfabwysiadu’r cynllun presennol erbyn 31 Ionawr 2025. Argymhellodd yr adroddiad y dylid ailfabwysiadu'r cynllun presennol a nodir yn Adran 3 yr adroddiad ar gyfer cyfnod 2025/2026.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Nodi Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (y “Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig”) gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (Senedd Cymru erbyn hyn) ar 26 Tachwedd 2013, fel y'u diwygiwyd.

 

2)             Nodi'r diwygiadau i'r "Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig" a gynhwysir yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygiadau Amryiwiol) 2025 a ystyriwyd gan Senedd Cymru ar 21 Ionawr 2025.

 

3)              Nodi canlyniad yr ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd gan y Cyngor ym mis Tachwedd 2023 ar feysydd dewisol y cynllun presennol.

 

4)              Y bydd meysydd dewisol y cynllun presennol ar gyfer cyfnod 2024/25 (a nodir yn adran 3 yr adroddiad hwn) yn aros yn ddigyfnewid ar gyfer cyfnod 2025/26.

 

5)             Y bydd y Cyngor yn mabwysiadu'r cynllun fel y'i nodir yn adran 3 yr adroddiad hwn, i gynnwys unrhyw ddiwygiadau gorfodol a all fod yn angenrheidiol o ganlyniad i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025.

83.

Cynllun Cydlynu Trefniadau Derbyn Ysgolion. pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a geisiodd benderfyniad ar Gynllun Cydlynu Trefniadau Derbyn Ysgolion Abertawe. Mae'r cynllun yn ofyniad dan Reoliadau Addysg (Cydlynu Trefniadau Derbyn Ysgolion a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 a ddaeth i rym ar 28 Mehefin 2024.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cymeradwyo'r Cynllun Cydlynu Trefniadau Derbyn Ysgolion arfaethedig a nodir yn Atodiad A yr adroddiad.

84.

Polisi Tâl 2025-26. pdf eicon PDF 159 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a chanddo’r nod o gydymffurfio â Deddf Lleoliaeth 2011 drwy fabwysiadu Datganiad ar Bolisïau Tâl ar gyfer pob blwyddyn ariannol.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Datganiad ar Bolisïau Tâl 2025-2026 yn Atodiad A yr adroddiad, gan ddod i rym o 1 Ebrill 2025.

85.

Asesiad o Berfformiad Panel - Trefniadau. pdf eicon PDF 152 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad a wnaeth drefniadau ar gyfer asesiad statudol o berfformiad y panel.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Nodi gofynion yr asesiad o berfformiad y panel.

 

2)             Nodi terfyn amser arfaethedig o fis Mehefin 2025 ar gyfer ymgymryd â'r asesiad o berfformiad y panel.

 

3)             Dirprwyo'r awdurdod i Arweinydd y Cyngor a'r Prif Weithredwr i gadarnhau penodiad y panel a chylch gorchwyl yr asesiad.

86.

Enwebu Dirprwy Arglwydd Faer ar gyfer 2024-2025 ac Arglwydd Faer Etholedig a Dirprwy Arglwydd Faer Etholedig ar gyfer 2025-2026. pdf eicon PDF 228 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a chanddo’r nod o ethol Dirprwy Arglwydd Faer ar gyfer gweddill 2024-2025. Enwebwyd darpar Arglwydd Faer a darpar Ddirprwy Arglwydd Faer 2025-2026 hefyd i alluogi'r trefniadau ar gyfer digwyddiad urddo'r Arglwydd Faer a'r Dirprwy Arglwydd Faer i fynd rhagddynt.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Ethol y Cynghorydd Cheryl Philpott yn Ddirprwy Arglwydd Faer ar gyfer gweddill 2024-2025.

 

2)             Enwebu'r Cynghorydd Cheryl Philpott yn Arglwydd Faer 2025-2026.

 

3)             Enwebu'r Cynghorydd Penny Matthews yn Ddirprwy Arglwydd Faer 2025-2026.

 

4)       Diwygio Protocol yr Arglwydd Faer a'r Dirprwy Arglwydd Faer a amlinellir ym mharagraffau 15-18 yr adroddiad.

87.

Gollyngiad ar gyfer Seibiant o'r Gwaith i Gynghorydd - y Cynghorydd D Phillips. pdf eicon PDF 127 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Tynnwyd yr adroddiad hwn yn ôl.

88.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 97 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a chanddo’r nod o gymeradwyo'r enwebiadau/diwygiadau i wahanol gyrff y Cyngor.

 

Penderfynwyd diwygio aelodaeth cyrff y Cyngor a restrir isod fel a ganlyn:

 

Pwyllgor Trawsnewid Strategol Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer Natur

Dileu swydd wag.

Ychwanegu'r Cynghorydd C M J Evans.

 

Pwyllgor Trawsnewid Strategol Gofal Cymdeithasol a Threchu Tlodi

Dileu swydd wag.

Ychwanegu'r Cynghorydd B J Rowlands.

89.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 186 KB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

1)         ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd 11 Cwestiwn Atodol Rhan A.  Ymatebodd aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Amlinellir y cwestiynau atodol hynny yr oedd angen ymateb yn ysgrifenedig iddynt isod:

 

Cwestiwn 5. Gofynnodd y Cynghorydd M H Jones, “Pryd cyflwynwyd yr arweiniad newydd y cyfeirir ato ym mharagraff 2 yr ymateb? A oes cynlluniau i adolygu a chyflwyno arweiniad newydd yng Nghymru fel yr hyn sydd yn yr arfaeth yn Lloegr?

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

2)         ‘Cwestiynau Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer’

 

Cyflwynwyd saith (7) cwestiwn Rhan B nad oedd angen cwestiynau atodol ar eu cyfer.

90.

Cynnydd Yn Oedran Pensiwn Y Wladwriaeth I Fenywod - Lawndal. pdf eicon PDF 70 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cafodd ei gynnig gan y Cynghorydd C A Holley a'i eilio gan y Cynghorydd S M Jones.

 

“Mae'r Cyngor yn nodi

 

1)             Y Penderfyniad gan Lywodraeth Llafur y DU i beidio â chynnig iawndal i fenywod na roddwyd gwybod iddynt yn briodol am y cynnydd yn yr oedran pensiwn yn unol ag argymhelliad yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd, er bod aelodau blaenllaw o'r Cabinet ac aelodau seneddol Llafur lleol wedi ymgyrchu dros gyfiawnder ar y mater hwn.

 

2)             Bod llawer o fenywod wedi colli arian o ganlyniad i'r newid hwn ac yn haeddu cael eu digolledu.

 

Mae'r Cyngor yn mandadu Arweinydd y Cyngor i ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn iddo ailystyried y penderfyniad hwn a rhoi'r iawndal yr oedd ef ac aelodau eraill o'i lywodraeth wedi ymgyrchu drosto fel gwrthblaid.”

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod.

91.

Caledi Ariannol I Lawer O Breswylwyr Agored I Niwed. pdf eicon PDF 70 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cafodd ei gynnig gan y Cynghorydd L R Jones a'i eilio gan y Cynghorydd F D O'Brien.

 

“Erbyn mis Ionawr 2025, roedd llywodraeth Llafur newydd y DU wedi bod mewn grym ers chwe mis, ac mae wedi bod yn chwe mis trychinebus i bobl Cymru.

 

Er bod Llafur wedi addo y byddai llywodraethau ar ddau ben yr M4 yn cydweithio er pobl Cymru, mae'r gwrthwyneb wedi bod yn wir.

 

Rydym yn galw ar Arweinydd y Cyngor i ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru i alw arni i gefnogi a herio penderfyniadau Llywodraeth y DU, sydd wedi achosi caledi ariannol, ac a fydd yn achosi caledi ariannol, i lawer o breswylwyr agored i niwed oherwydd torri taliad tanwydd y gaeaf, treth ar ffermio a'r cynnydd yn Yswiriant Gwladol i'n busnesau gweithgar.”

 

Cyflwynodd y Grŵp Llafur gynnig diwygiedig. Cafodd ei gynnig gan y Cynghorydd R C Stewart a'i eilio gan y Cynghorydd A S Lewis.

 

Diwygiad Llafur

“Erbyn mis Ionawr 2025, roedd llywodraeth Llafur newydd y DU wedi bod mewn grym ers chwe mis, ac mae wedi bod yn chwe mis mawr i bobl Cymru. 

 

Gyda dwy lywodraeth Llafur bellach yn cydweithredu er lles pobl Cymru a'r DU, mae'r berthynas rhwng Cymru a San Steffan wedi newid er gwell.

 

Mae'r cyfnod wedi dod i ben pan oedd rheolau a phrosesau'r Trysorlys yn cael eu camddefnyddio gan lywodraeth Doriaidd y DU i ddifreinio pobl Cymru a'u hamddifadu o'r cyllid priodol yr oedd ganddynt hawl iddo. 

 

Mae llawer o enghreifftiau o'r math hwn o benderfyniadau, gan gynnwys ar addysg, iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol. Gwnaed penderfyniadau mewn ffordd nad oedd yn rhoi cyllid canlyniadol llawn fformiwla Barnet i Gymru.

 

Enghreifftiau mwyaf trawiadol y penderfyniadau hyn oedd trin  HS2 fel prosiect i Gymru a Lloegr, er na chynhaliwyd unrhyw elfen o'r cynllun hwnnw y tu mewn i ffiniau Cymru. Amcangyfrifwyd bod Cymru wedi colli hyd at £6bn. Fodd bynnag, aeth llywodraeth Doriaidd y DU ymhellach na hynny. Cafodd wared, a hynny'n fwriadol, ar ‘angen’ fel ffactor terfynol wrth ddyrannu cyllid ar ôl Brexit. Oherwydd hyn, collodd Abertawe a dinasoedd tebyg filiynau o bunnoedd wrth i faestrefi cyfoethog dan reolaeth y Toriaid elwa. Ni wnaethant hyd yn oed cuddio bod hyn yn cael ei wneud. Yn wir, ymffrostiodd Rishi Sunak, prif weinidog diwethaf y Toriaid, yn hyn mewn fideo a rannwyd yn helaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

Fodd bynnag, mae llywodraeth Llafur y DU wedi symud yn gyflym i ddod â'r anghyfiawnder hwn i ben a mynd i'r afael â'r argyfwng ariannol sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus ledled y DU.

 

Darparodd cyllideb yr hydref fuddsoddiad anferth yn ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Rhoddodd y setliad hwn £1.7bn yn ychwanegol i Gymru. Ni allai'r darlun ar gyfer Cymru fod yn fwy gwahanol ar ôl chwe mis. Dyfodol dan y Toriaid o doriadau parhaus a dinistrio sefydliadau llywodraeth neu fuddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus a chyflogau ac amodau tecach i nyrsys, meddygon a gweithwyr cyhoeddus eraill.

 

Fodd bynnag, o ystyried y ffaith bod yr economi wedi cael ei chamreoli'n sylweddol dros nifer o flynyddoedd a'r anrhefn lwyr a orfodwyd ar y DU gan sawl prif weinidog Toriaidd, yn bennaf oll Boris Johnson ac yna Liz Truss; rhyngddynt, gwnaethant niweidio sefyllfa fasnachu'r DU, gan ddod i gytundebau heb ystyriaeth briodol, a roddodd fusnesau Prydeinig dan anfantais sylweddol. Rhoddwyd ein diwydiannau ffermio a chynhyrchu bwyd mewn perygl a niweidiwyd ein gallu i fasnachu â gweddill y byd. Yna, wrth gwrs, gwnaethant chwalu economi'r DU, gan gynyddu chwyddiant a chyfraddau llog a gwneud bywyd yn eithriadol o anodd i bobl gyffredin.

 

Mae 14 o flynyddoedd o benderfyniadau trychinebus gan lywodraethau Toriaidd olynol wedi gorfodi llywodraeth Llafur newydd y DU i wneud penderfyniadau anodd iawn ar drethi a gwariant. Mae'r llywodraeth eisoes wedi cymryd penderfyniadau allweddol i atal ysgolion preifat rhag elwa ar ostyngiadau treth annheg, datrys unrhyw anghydfodau tymor hir am gyflogau, ac ailosod y system dreth i fod yn decach a darparu'r buddsoddiad y mae ei angen yn fawr ar ein gwasanaethau cyhoeddus.

 

O ystyried graddfa'r her, mae llywodraeth Llafur y DU wedi cael ei gorfodi i wneud penderfyniadau anodd iawn eraill hefyd.

 

Felly, rydym yn galw ar Arweinydd y Cyngor i ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru i alw arni i barhau i gefnogi ac os oes angen herio penderfyniadau llywodraeth y DU, fel y mae prif weinidogion Cymru wedi'i wneud ers blynyddoedd lawer, gan gynnwys ar benderfyniadau sydd wedi achosi caledi ariannol, ac a fydd yn achosi caledi ariannol, i lawer o breswylwyr agored i niwed oherwydd torri taliad tanwydd y gaeaf, treth ar ffermio a'r cynnydd yn Yswiriant Gwladol i'n busnesau gweithgar.”

 

Yn dilyn pleidlais, daeth diwygiad Llafur yn gynnig annibynnol.

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod.