Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: 1) Y Cynghorydd S J Rice – eitem 11 - Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2023/24 – personol. 2) Y Cynghorydd C Anderson, M Baker, P Downing, N Furlong, T J
Hennegan & T M White – eitem 12 - Gosod
Rhenti CRT 2025/26. – personal. 3) Y Cynghorydd A M Day, S J Rice & R V Smith – eitem 13 - Adolygiad o Drefniadau Derbyn Ysgolion Cyngor
Abertawe. 4) Y Cynghorydd S J Rice – eitem 15 - Cwestiynau gan y Cynghorwyr. – personal. 5) Y Cynghorydd J W Jones & M H Jones - eitem
16 - Cwestiynau gan y
Cynghorwyr. – personal. 6) Y Cynghorydd C A Holley - eitem 16 - Cwestiynau gan y Cynghorwyr. – personol ac yn rhagfarnu. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a
rhagfarnus posib a all fod gan Gynghorwyr a/neu Swyddogion ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a
rhagfarnus" dim ond os oes gan y Cynghorydd/Swyddog gysylltiad i'w
ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan.
Hysbyswyd Cynghorwyr a Swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac
yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir
Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd S J Rice fuddiant personol yng
Nghofnod 69 "Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2023/24". 2)
Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, M Baker, P Downing, N
Furlong, T J Hennegan a T M White fuddiant personol yng Nghofnod 70 "Gosod
Rhenti'r Cyfrif Refeniw Tai (HRA) 2025/2026". 3)
Datganodd y Cynghorwyr A M Day, S J Rice ac R V Smith
fuddiant personol yng Nghofnod 71 "Adolygiad o Drefniadau Derbyniadau
Ysgolion Cyngor Abertawe". 4)
Datganodd y Cynghorydd S J Rice fuddiant personol yng
Nghofnod 73 "Cwestiynau Cynghorwyr". 5)
Datganodd y Cynghorwyr J W Jones ac M H Jones fuddiant
personol yng Nghofnod 74 "Cwestiynau Cynghorwyr". 6) Datganodd y Cynghorydd C A Holley fuddiant personol a
rhagfarnus yng Nghofnod 74 "Cwestiynau Cynghorwyr" a gadawodd cyn y
drafodaeth yn ei gylch. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd
cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 3 Hydref
2024. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion
ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng nghyfarfod cyffredin diwethaf y
Cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: i)
Cydymdeimladau - Y Cyn-Arglwydd Faer a'r
Cyn-Gynghorydd Ceinwen Thomas. Cyfeiriodd yr Aelod
Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar y Cyn-Arglwydd Faer a'r Cyn-gynghorydd
Ceinwen Thomas. Gwasanaethodd Ceinwen fel Arglwydd Faer yn 2014-2015 a bu'n
Gynghorydd am 27 mlynedd yn cynrychioli Ward Mynydd-bach. Gwasanaethodd Ceinwen
yn y canlynol:
ii)
Cydymdeimladau - Y Cyn-gynghorydd Hilary Sullivan. iii)
Gwobr Marc Ansawdd Efydd y Gwasanaeth Ieuenctid Llongyfarchodd
yr Aelod Llywyddol Dîm y Gwasanaeth Ieuenctid am ennill y Marc Ansawdd Efydd.
Mae'r Marc Ansawdd Efydd yn dangos safon darpariaeth ieuenctid ar draws y pum
clwb yn Abertawe. Mae'n tystio bod ein Tîm Gwasanaeth Ieuenctid yn darparu lle
diogel i bobl ifanc ffynnu. Dywedodd yr Aseswyr fod Tîm y Gwasanaeth Ieuenctid
wedi rhagori ar y dangosyddion perfformiad. Roedd yr
asesiad yn cynnwys Rheolwr y Gwasanaeth Ieuenctid, aelodau staff, partneriaid a
phobl ifanc sy'n cael mynediad i'r gwasanaeth, a chanmolodd bob un ohonynt y
gwasanaeth a'r effaith yr oedd gweithwyr allweddol yn ei chael ar eu bywydau.
Roedd cyfranogiad y bobl ifanc wrth lunio a dylunio'r ddarpariaeth yn amlwg ac
fe'i canmolwyd yn fawr gan yr aseswyr. Dylai'r Cyngor fod yn falch o'i staff
sy'n darparu mannau diogel a pherthnasoedd ag oedolion y gellir ymddiried
ynddynt i bobl ifanc. Ar ran y Cyngor, llongyfarchodd bawb a gymerodd ran a
gofynnodd am gymeradwyaeth i Dîm y Gwasanaeth Ieuenctid. iv)
Ymgyrch Defnyddia Dy
Gymraeg Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Comisiynydd y
Gymraeg yn annog pobl i ddefnyddio'u Cymraeg mewn bywyd bob dydd bob blwyddyn
yn ystod wythnos ymgyrch arbennig. Eleni mae'n digwydd rhwng 25 Tachwedd a 9
Rhagfyr. Nod yr ymgyrch yw codi hyder, a chynyddu'r defnydd o wasanaethau
cyfrwng Cymraeg, gan wireddu'r weledigaeth o Gymru lle gall pobl fyw yn
Gymraeg. Anogodd yr Aelod Llywyddol bawb i ddefnyddio eu Cymraeg. v)
Y
Cynghorydd Fiona Gordon - Dysgwr y Flwyddyn 2024 ar y cyd yn Sir Gaerfyrddin Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol y
Cynghorydd Fiona Gordon am gael ei henwi'n Ddysgwr y Flwyddyn 2024 ar y cyd yn
Sir Gaerfyrddin yn ddiweddar. vi)
Adolygiad
Cymunedol Abertawe - Argymhellion Terfynol Cyhoeddodd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru
(CDFfC) Argymhellion Terfynol Adolygiad Cymunedol Abertawe ar 5 Tachwedd 2024.
Gellir gweld yr argymhellion terfynol yn: https://www.cdffc.llyw.cymru/arolygon/11-24/swansea-community-review-final-recommendations Dylid cyfeirio unrhyw sylwadau pellach ynghylch y
materion yn yr adroddiad Argymhellion Terfynol at Lywodraeth Cymru yn LGPolicy.Correspondence@llyw.cymru Dylid eu gwneud cyn gynted â phosib a heb fod yn
hwyrach na 6 wythnos o'r dyddiad y cyflwynwyd argymhellion y Comisiwn i
Lywodraeth Cymru ar bob achlysur. Bydd Llywodraeth Cymru'n ystyried yr adroddiad ac
os yw'n credu ei fod yn briodol, bydd yn rhoi'r argymhellion ar waith naill ai
fel y'u cyflwynwyd, neu gydag addasiadau. Bydd y newidiadau'n dod i rym yn yr
Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2027. vii)
Diweddariad Uwch-staff Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Dave Howes,
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cael llawdriniaeth yn ddiweddar,
ac mae'n debygol y bydd yn absennol am gyfnod. Gwnaeth y Pwyllgor Penodiadau a
gynhaliwyd ar 30 Hydref 2024 benodi Amy Hawkins yn Gyfarwyddwr Dros Dro'r
Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae Lucy Friday wedi cael ei phenodi'n Bennaeth Dros
Dro'r Gwasanaethau Oedolion i ôl-lenwi rôl Amy. Anfonodd yr Aelod Llywyddol ei
dymuniadau gorau at Dave a llongyfarchodd y rheini a benodir. Bydd Tracey Meredith, y Prif Swyddog
Cyfreithiol/Swyddog Monitro'n ymddeol ar 15 Rhagfyr 2024. Ystyriodd y Pwyllgor
Penodiadau a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2024 opsiynau ar gyfer ymdrin â'r
ymddeoliad a phenododd Debbie Smith yn Brif Swyddog Cyfreithiol Dros
Dro/Swyddog Monitro Dros Dro am gyfnod o hyd at 12 mis er mwyn recriwtio rhywun
yn barhaol yn y swydd hon. Diolchodd yr Aelod Llywyddol ac Arweinydd y Cyngor i
Tracey am ei gwaith a'i chyfraniad dros y blynyddoedd a dymunodd y gorau iddi
am ei hymddeoliad. Gwnaethant hefyd longyfarch Debbie, sydd wedi bod yn
amhrisiadwy wrth gyflenwi ar gyfer Tracey yn ystod ei chyfnod absenoldeb tymor
hir. viii)
Ymddeoliad - Caroline
Miller, Swyddfa'r Cabinet Dywedodd yr Aelod Llywyddol y bydd Caroline Miller
yn ymddeol ar 12 Ionawr 2025 ar ôl 43 blynedd. Dechreuodd Caroline weithio yn
Oriel Gelf Glynn Vivian ym mis Medi 1981. Ers hynny, mae hi wedi gweithio mewn
amryw o rolau ar draws y Cyngor, gan gynnwys yr Amgueddfa Forol, Rheoli
Adeiladu, Ysgrifennydd y Peiriannydd Cynorthwyol, Tîm y Syrfewyr, fel
Ysgrifennydd Pennaeth Gwasanaeth ac yn Swyddfa'r Arglwydd Faer, cyn aros yn
Swyddfa'r Cabinet dros yr 20 mlynedd diwethaf. Anfonodd yr Aelod Llywyddol ei
dymuniadau gorau at Caroline am ymddeoliad iach a hapus. ix)
Gyda'n Gilydd dros y Nadolig Dywedodd yr
Aelod Llywyddol fod Cyngor Abertawe, mewn partneriaeth â JR Events &
Catering, wedi cynnal menter Gyda'n gilydd dros y Nadolig ar 3 Rhagfyr 2024.
Roedd y digwyddiad yn darparu cinio Nadolig am ddim i'r rheini sy'n ddigartref,
yn unig neu mewn angen. Diolchodd i bawb a wnaeth helpu. x)
Dillad
Nadolig yn y Cyngor Dywedodd yr Aelod Llywyddol ei bod yn
braf gweld cynifer o bobl yn gwisgo dillad Nadolig yn y Cyngor heno, er iddi
gwestiynu siwmper Nadolig y Scarlets. Gofynnodd i'r rheini sy'n gwisgo
siwmperi, teis Nadolig, etc., ystyried rhoi £5 a'r 'difethwyr hwyl' h.y., y
rheini nad ydynt yn gwisgo dillad Nadolig, ystyried rhoi £10. Bydd yr holl
roddion yn cael eu rhoi i elusen digartrefedd. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: i)
Gyda'n Gilydd dros y Nadolig Diolchodd
Arweinydd y Cyngor hefyd i bawb am eu cefnogaeth gyda'r fenter Gyda'n Gilydd
dros y Nadolig ar 3 Rhagfyr 2024. Roedd y digwyddiad yn darparu cinio Nadolig
am ddim i'r rheini sy'n ddigartref, yn unig neu mewn angen. Diolchodd i bawb a
wnaeth helpu. ii)
Rhaglen Yma i chi y gaeaf hwn Amlinellodd Arweinydd y Cyngor Raglen "Yma i
Chi y Gaeaf hwn" y Cyngor sydd â'r nod o gynorthwyo'r rheini sydd mewn
angen a'r gymuned ehangach yn Abertawe. Dywedodd fod y rhaglen yn cynnwys
darparu dros 1,000 o dalebau bwyd i'r rheini sydd mewn angen ac y byddai
cynllun teithio am ddim ar fysiau ar waith yn ystod cyfnod y Nadolig. iii)
Pêl-droed Cymru - Llwyddiant Llongyfarchodd Arweinydd y Cyngor Dîm Pêl-droed
Cymru am greu hanes trwy ennill lle mewn prif bencampwriaeth i fenywod am y tro
cyntaf. Mae Cymru wedi sicrhau lle ym Mhencampwriaeth Ewrop 2025. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r
Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn
cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n
uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod
yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn
cyfnod o 10 munud. Penderfyniad: Er Gwybodaeth Dim Cofnodion: Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad Cyllideb Tymor Canol 2024/25. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: For Information Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Adran 151 adroddiad gwybodaeth a oedd yn darparu asesiad o effaith
debygol cyhoeddiad Cyllideb y DU ar 30 Hydref 2024. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adolygiad o'r Polisi Gamblo. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn
gofyn am ystyried diwygiadau i'r Polisi Gamblo. Penderfynwyd cymeradwyo'r diwygiadau
arfaethedig i'r Polisi Gamblo a mabwysiadu'r Polisi diwygiedig atodedig a
amlinellir yn Atodiad C yr adroddiad. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor - 2025/2026. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi,
Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn manylu ar gyfrifo sylfaen Treth y Cyngor
ar gyfer Dinas a Sir Abertawe, ei Gynghorau Cymuned/Tref ac Awdurdod Iechyd
Porthladd Bae Abertawe ar gyfer 2025/2026. Mae'n ofynnol i'r cyngor bennu
Sylfeini Treth y Cyngor erbyn 31 Rhagfyr. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r Sylfeini Treth y Cyngor ar gyfer
2025/2026. 2)
Yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo
Sylfaen Treth y Cyngor) (Cymru) 1995, fel y'u diwygiwyd, dyma fydd cyfrifiad
Dinas a Sir Abertawe ar gyfer y flwyddyn 2025/2026:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2023/24. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn
cyflwyno drafft o Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2023/2024 y cyngor, sy'n bodloni'r
gofynion statudol i gyhoeddi adroddiad hunanasesu blynyddol ac adroddiad
blynyddol ar les o dan Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau
Llywodraeth Leol (Cymru) 2021 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)
2015 yn eu tro. Penderfynwyd cymeradwyo cyhoeddi
Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft 2023/2024. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gosod Rhenti CRT 2025/26. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn cynnig cynnydd mewn
rhenti a ffioedd yn y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) ar gyfer 2025/2026. Penderfynwyd: 1)
Cynyddu rhenti 2.7%, sydd o fewn yr uchafswm a
ganiateir dan bolisi Llywodraeth Cymru fel y manylir yn adran 3.1 yr adroddiad. 2)
Cywiro un ar ddeg (11) eiddo â rhenti anghyson yn
unol â pholisi Llywodraeth Cymru fel yr amlinellir yn adran 3.2 o'r adroddiad. 3)
Cymeradwyo
ffioedd, taliadau a lwfansau fel yr amlinellir yn Adran 3.3 yr adroddiad. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adolygiad o Drefniadau Derbyn Ysgolion Cyngor Abertawe. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn amlinellu canlyniad adolygiad
Trefniadau Derbyniadau Ysgolion 2026-2027 fel y cytunwyd gan y Cyngor ar 21
Mawrth 2024. Penderfynwyd derbyn canfyddiadau'r adolygiad Trefniadau
Derbyniadau gan Fforwm Derbyniadau Ysgolion a'i feini prawf fel yr amlinellwyd
yn yr adroddiad. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau
Democrataidd adroddiad a oedd yn ceisio diwygio Rheolau Gweithdrefnau'r Cyngor
sy'n ymwneud â Chwestiynau'r Cynghorwyr. Penderfynwyd diwygio Rheol 22 Gweithdrefnau'r
Cyngor i gynnwys: “Councillor
Questions & the Cancellation
of an Ordinary Meeting of
Council In the event of an Ordinary Meeting of Council being cancelled, the Council Procedure Rules relating to Councillors Questions
remain unaffected i.e.: 1)
The
deadline for submission of Councillors Questions
to the cancelled Ordinary
Meeting of Council remains. Councillors should submit their
allocation of Councillors Questions
to the Democratic Services (DS) Team accordingly. 2)
An additional Period of 30-Minutes shall be added to the next Ordinary Meeting of Council.” |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd naw (9)
'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar
ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Dangosir y cwestiynau atodol
hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arnynt isod: Cwestiwn 4
Gofynnodd y Cynghorydd P M Black y canlynol: Beth yw'r nifer sy'n
manteisio ar Gredydau Pensiwn yn Abertawe ar hyn o bryd ac a allwch chi
ddarparu amcangyfrif o'r rheini sydd â hawl iddo ond nad ydynt yn derbyn
Credydau Pensiwn? Beth arall y gall y Cyngor ei wneud i sicrhau bod y rheini
sydd i fod i'w derbyn yn eu derbyn mewn gwirionedd? Dywedodd Arweinydd y
Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig. Cwestiwn 5
Gofynnodd y Cynghorydd S J Rice: Faint y mae adeilad gwag
Debenhams wedi'i gostio i'r Cyngor ers iddo ei gymryd? Dywedodd Arweinydd y
Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig. Cwestiwn 8
Gofynnod y Cynghorydd P N May: Pryd
oedd y tro diwethaf i’r Cyngor geisio cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’i gamau
gorfodi llwyddiannus ynghylch tipio’n anghyfreithlon? Dywedodd Aelod y Cabinet
dros y Gymuned (Gwasanaethau) y darperir ymateb ysgrifenedig. 2) ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau
Atodol ar eu cyfer' Rhan B Cyflwynwyd Un (1)
'gwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol ar eu cyfer' Rhan B. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau
Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd pum (5) 'Cwestiwn Atodol' Rhan
A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a
gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Dangosir y cwestiynau atodol hynny yr oedd
angen ymateb ysgrifenedig arnynt isod: Cwestiwn 5 Gofynnodd y Cynghorydd
L James: Nid yw'r ymateb yn trafod yr holl bwyntiau
a godwyd yn fy nghwestiwn gwreiddiol. Hoffwn wybod am Tetra Packs yn enwedig, a
chyrchfannau lle mae'r deunyddiau ailgylchu'n cael eu hallforio. Dywedodd Aelod y Cabinet dros y Gymuned
(Gwasanaethau) y darperir ymateb ysgrifenedig. 2) ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau
Atodol ar eu cyfer' Rhan B Cyflwynwyd tri (3) 'chwestiwn nad oedd
angen cwestiynau atodol' ar eu cyfer Rhan B. |