Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Y Cynghorydd F D O’Brien – Eitem 13 - cwestiynau gan y cynghorwyr - 12 –
Personol Y Cynghorydd S J Rice – Eitem 13 –
cwestiynau gan y cynghorwyr – 5 & 9 – Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol 1)
Councillors x and xx declared a Personal Interest in Item xx “xxx”. 2)
Councillors x and xx declared a Personal Interest in Item xx “xxx”. 3)
Councillors x and xx declared a Personal Interest in Item xx “xxx”. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a
rhagfarnus posib a all fod gan Gynghorwyr a/neu Swyddogion ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd Gynghorwyr a Swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a
rhagfarnus" dim ond os oes gan y Cynghorydd/Swyddog fudd i'w ddatgan. Nid
oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd
Cynghorwyr a Swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn
ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir
Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd F D O'Brien gysylltiad personol â
Chofnod 24, "Cwestiynau Cynghorwyr" - Cwestiwn 12”. 2)
Datganodd y Cynghorydd S J
Rice fuddiant Personol a Rhagfarnus yng Nghofnod 42 "Cwestiynau Cynghorwyr
- Cwestiwn 5 a Chwestiwn 9". |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd
cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod Cyffredin o'r Cyngor a gynhaliwyd ar 11
Gorffennaf 2024. |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad
gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng
nghyfarfod cyffredin diwethaf y Cyngor. |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: a)
Y Cyn-gynghorydd Peter Davies Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol gyda thristwch at
farwolaeth ddiweddar y Cyn-gynghorydd Peter Davies. Bu Peter yn cynrychioli
Tregŵyr ar hen Gyngor Bwrdeistref Dyffryn Lliw. b)
Marwolaeth Alexander Zurawski Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth drasig y crwt 6
oed, Alexander Zuraski. Dywedodd ei fod yn ddigwyddiad torcalonnus a thrasig
iawn. Safodd pawb a oedd yn bresennol mewn distawrwydd fel arwydd o
gydymdeimlad a pharch. c)
Gwobrau Cymunedol y Faner Werdd Dywedodd yr Aelod Llywyddol y
dyfarnwyd Statws Baner Werdd i chwech o brif barciau Abertawe, gan gydnabod y
rôl hanfodol y maen nhw'n ei chwarae wrth hybu lles preswylwyr a gwella'r
amgylchedd naturiol. Mae Gerddi Clun, Gerddi Botaneg Singleton, Mae tair ar ddeg o "Wobrau
Cymunedol" wedi'u dyfarnu hefyd i Erddi Cymunedol llai a Mannau Gwyrdd yn
Abertawe, gan gynnwys Cyfeillion Parc Coed Gwilym, Parc Pontlliw, Camlas
Abertawe, Fferm Gymunedol Abertawe, Gardd Gymunedol Mynwent St Samlet, Parc Coedbach a Llyn Golchi a Gardd Fwyd Gymunedol
Mayhill. Dyma'r chweched flwyddyn yn olynol i
Gyfeillion Llyn Golchi a Gardd Fwyd Gymunedol Mayhill dderbyn Gwobr Gymunedol y
Faner Werdd. Talodd deyrnged a diolchodd i'r holl
wirfoddolwyr sy'n ymwneud â'r parciau/mannau gwyrdd a’r gerddi cymunedol llai
yn Abertawe. Dywedodd fod gwaith y gwirfoddolwyr hyn yn amhrisiadwy i Abertawe
a'i dinasyddion. ch) Clwb Criced Ynystawe Llongyfarchodd
yr Aelod Llywyddol Dîm 1af Clwb Criced Ynystawe. Enillon nhw Adran 2il Adran
Uwch Gynghrair Criced De Cymru gan fynd â nhw yn ôl i'r Adran Gyntaf y flwyddyn
nesaf. Dyma'r haen uchaf yng Nghriced De Cymru. d)
Antur Feicio Ewropeaidd Cader Man ar gyfer Blood
Cancer UK Rhoddodd yr Aelod Llywyddol ei ddymuniadau gorau ar ran y Cyngor i Huw
Evans, Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, ar gyfer ei Antur Feicio
Ewropeaidd sydd ar ddod. Bydd Huw a'i gydweithwyr yn beicio o Gothenburg i
Amsterdam. 700 milltir dros 8 niwrnod. Byddant yn beicio drwy Sweden, Denmarc,
yr Almaen a'r Iseldiroedd. Ni fydd unrhyw gefnogaeth ganddynt a bydd angen
iddynt gario'u holl gyfarpar am barhad y daith. Bydd eu diwrnod beicio hiraf yn
137 o filltiroedd blinderus. Pwrpas y daith yw codi arian ar gyfer Blood Cancer UK, elusen sy'n
ymroddedig i ariannu ymchwil a darparu cymorth i wella bywydau cleifion canser
y gwaed. www.bloodcancer.org.uk Gellir cyfrannu arian drwy dudalen 'Just Giving' Cader Man https://www.justgiving.com/page/caderman2024 dd) Adolygiad o Ffiniau
Etholaethau'r Senedd Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi
cyhoeddi ei Gynigion Cychwynnol ar gyfer yr Adolygiad o Ffiniau Etholaethau'r
Senedd ar 3 Medi 2024. Mae Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 yn
golygu y bydd yn rhaid i'r Comisiwn ddychwelyd 16 o etholaethau’r Senedd, a
ffurfir drwy gyfuno 2 o etholaethau seneddol y DU sy’n gyffiniol. Bydd pob
etholaeth yn cael ei chynrychioli gan 6 Aelod o'r Senedd. Gellir gweld cynigion cychwynnol y Comisiwn yn https://www.cdffc.llyw.cymru/arolygon/09-24/2026-review-initial-proposals Daw'r Cyfnod Ymgynghori i ben ar 30 Medi 2024 a dylid anfon ymatebion i https://senedd2026.arolygoncymru.cymru |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: a)
Diolch i staff a gwirfoddolwyr y Cyngor am helpu
teuluoedd dros yr haf Diolchodd Arweinydd y Cyngor i staff y Cyngor, y Tîm Digwyddiadau Arbennig
a'r Gwirfoddolwyr hynny a helpodd deuluoedd dros gyfnod yr haf. Roeddent wedi
helpu teuluoedd i gael gafael ar fwyd, teithio ar fysus, ymweld â'r sioe awyr a
gwneud gweithgareddau ehangach. b)
Cwtch Mawr, Abertawe Llongyfarchodd Arweinydd y Cyngor Cwtch Mawr gan fod chwe mis wedi mynd
heibio ers ei sefydlu. Mae Cwtch Mawr yn
aml-fanc, sy'n darparu nwyddau hanfodol i'r rhai mewn angen. Maent wedi'u
partneru â sawl elusen a grŵp ledled Abertawe, sy'n cyfeirio unigolion a
theuluoedd at Cwtch Mawr er mwyn iddynt gael eitemau hanfodol. c)
Adfywio Canol Dinas Abertawe Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi ymweld â Neuadd Albert sydd newydd
ei hadnewyddu. Roedd y prosiect adfywio hwn, ynghyd â'r gwaith yn Theatr y
Palace a 70-71 Ffordd y Brenin, yn hanfodol ar gyfer ailddatblygiad canol y
ddinas. Bydd y tri phrosiect hyn yn dod â dros 1,000 o swyddi newydd i ganol y
ddinas. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Gellir
cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod.
Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a
gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser.
Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda
ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraeth ac Archwilio 2023/24. PDF 197 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd
Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio 2023-2024, er gwybodaeth. Roedd yr Adroddiad Blynyddol
yn disgrifio gwaith y Pwyllgor dros y cyfnod. Diolchodd
Arweinydd y Cyngor i'r Cadeirydd a'r Pwyllgor am eu gwaith. |
|
Adroddiadau Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd 2023-2024. PDF 129 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd Adroddiad Blynyddol Pwyllgor y
Gwasanaethau Democrataidd 2023-2024 er gwybodaeth. Roedd yr Adroddiad Blynyddol
yn disgrifio gwaith y Pwyllgor dros y cyfnod. Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Gadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethu Democrataidd. Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd Adroddiad Blynyddol Pwyllgor y
Gwasanaethau Democrataidd 2023-2024 er gwybodaeth. Roedd yr Adroddiad Blynyddol
yn disgrifio gwaith y Pwyllgor dros y cyfnod. Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Gadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethu Democrataidd. Diolchodd
Arweinydd y Cyngor i'r Cadeirydd a'r Pwyllgor am ei waith. |
|
Recriwtio Cynghorydd Cymuned / Tref i'r Pwyllgor Safonau. PDF 121 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn ceisio ystyriaeth
ar gyfer argymhelliad y Pwyllgor Safonau i benodi'r Cynghorydd Cymuned Mark
Parkinson o Gyngor Cymuned Pennard yn gynrychiolydd y Cynghorwyr Cymuned/Tref
ar y Pwyllgor Safonau. Penderfynwyd: 1)
Penodi'r Cynghorydd Cymuned Mark Parkinson o Gyngor
Cymuned Pennard yn gynrychiolydd y Cynghorwyr Cymuned/Tref ar y Pwyllgor
Safonau. 2) Bydd ei gyfnod yn y swydd yn dod i ben yn yr Etholiad
Llywodraeth Leol nesaf a drefnwyd ar gyfer mis Mai 2027. |
|
Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor - Erthygl 4 a Fframwaith Polisi'r Gyllideb. PDF 153 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Llywyddol, y Dirprwy Swyddog Monitro a Phennaeth
y Gwasanaethau Democrataidd ar y cyd a oedd yn hysbysu'r Cyngor o ddiwygiadau i
symleiddio, gwella a/neu ychwanegu at Gyfansoddiad y Cyngor. Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro fod Erthygl 4 Cyfansoddiad y Cyngor yn
manylu ar rôl a swyddogaethau cyfarfod llawn y Cyngor. Mae'n disgrifio'r
swyddogaethau y mae'n rhaid i'r Cyngor ymgymryd â hwy fel y'u rhagnodir gan
ddeddfwriaeth; gwahanol fathau o gyfarfodydd y Cyngor; cyfrifoldeb y Cyngor i
fabwysiadu a chymeradwyo'r Gyllideb a mabwysiadu a chymeradwyo'r Fframwaith
Polisi. Amlinellodd sawl gwelliant i'r adroddiad y gofynnwyd i'r Cyngor eu
mabwysiadu. Penderfynwyd: 1)
Mabwysiadu’r diwygiadau i Erthygl 4 fel y'u nodir ym
Mharagraff 3.1 yr adroddiad, yn amodol ar y diwygiadau canlynol i'r adroddiad
ar Dudalennau 48 a 49 yr adroddiad, o dan y pennawd "Strategaethau,
Polisïau a Chynlluniau'r Gwasanaeth": i)
Dileu "Strategaeth Trais yn
erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Abertawe (VAWDASV) (Cymru)
Deddf 2015)". Ychwanegu
"Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
(VAWDASV) (Disgresiwn Lleol)". ii)
Dileu "Cynllun Gweithredu
Ansawdd Aer (Deddf yr Amgylchedd 1995, Rhan IV)". Ychwanegu
"Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer (Disgresiwn Lleol)". iii)
Ychwanegu "Cynllun Cyfiawnder
Ieuenctid (Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998)". 2)
Mabwysiadu'r diwygiadau i Bolisi a Fframwaith y Gyllideb
a nodir ym Mharagraff 4 yr adroddiad. 3)
Gwneud y diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor. |
|
Aelodaeth Pwyllgorau. PDF 98 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad
adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer enwebiadau/diwygiadau i
wahanol Gyrff y Cyngor. Penderfynwyd diwygio aelodaeth cyrff y Cyngor a restrir isod
fel a ganlyn: Pwyllgor Disgyblu Prif
Swyddogion Dileu’r Cynghorydd P R
Hood-Williams. Ychwanegu swydd wag. Fforwm Cynghorau
Cymuned/Tref Dileu swydd wag. Ychwanegu'r Cynghorydd M
H Jones. Pwyllgor
Trawsnewid Strategol Gofal Cymdeithasol a Threchu Tlodi Dileu'r Cynghorydd J E
Pritchard. Ychwanegu'r Cynghorydd L
V Walton. |
|
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 190 KB Penderfyniad: For Information Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd naw (9)
'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf
atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig
ar y cwestiynau atodol. 2) ‘Cwestiynau nad oes angen
Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B Cyflwynwyd pum (5)
'Cwestiwn Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'. |
|
Hysbysiad o Gynnig - Datganoli Ystad y Goron i Gymru. PDF 78 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cynigiwyd gan y
Cynghorydd C M J Evans a’i eilio gan y Cynghorydd R C Stewart. "Rydym yn cadarnhau bod Cyngor Abertawe yn cefnogi'r
ymgyrch i ddatganoli rheolaeth Ystâd y Goron a'i hasedau yng Nghymru i
Lywodraeth Cymru a bod yr arian a godir yn cael ei ddefnyddio i gefnogi
anghenion cymdeithasol pobl Cymru. Gofynnwn i'r Arweinydd ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i amlinellu ein
cefnogaeth i helpu i ddwyn perswâd ar San Steffan i ddatganoli Ystâd y Goron
fel mater o frys." Penderfynwyd mabwysiadu'r
Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod. |
|
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cynigiwyd gan y
Cynghorydd A S Lewis a'i eilio gan y Cynghorydd R C Stewart. "Mae cylchynau
hedegog yn gynnyrch rhad sydd wedi deillio o'r 'frisbee' disg solet. Cânt eu
gwerthu gan lawer o fanwerthwyr am bris mor isel â £1 yr un ac yn aml cânt eu
colli neu eu gadael ar draethau. Mae morloi (yn
enwedig rhai iau) yn anifeiliaid hynod chwilfrydig ac os ydyn nhw'n rhoi eu
pennau yn y cylchyn, gallant gael eu dal yn gyflym, ac mae bron bob amser yn
amhosib i'r morlo ddianc neu ryddhau ei hun. Dros amser, bydd y cylchyn yn
dechrau torri i mewn i gnawd yr anifail gan achosi poen a dioddefaint
anfesuradwy, haint a marwolaeth. Morlo llwyd gogledd yr Iwerydd yw'r brif rywogaeth o
forlo a welir ar arfordir Gŵyr. Mae gan y DU tua 38 y cant o'r boblogaeth
fyd-eang ac mae canran fach o'r nifer hwnnw i'w chael yng Ngŵyr . Mae
aflonyddwch dynol yn broblem arbennig i'r morloi sy'n ymweld â Gŵyr ac
felly mae'r bygythiad a geir o gylchynau hedegog yn straen cynyddol ychwanegol
i forloi yng Ngŵyr a thu hwnt (gall y cylchynau hyn deithio pellteroedd
mawr yn y cefnfor). Cysylltodd
Grŵp Morloi Gŵyr â Chydlynwyr Partneriaeth Natur Leol Abertawe i weld
a fyddai Cyngor Abertawe yn gweithredu gwaharddiad ar gylchynau hedegog ar eu
traethau. Nid oes unrhyw awdurdod arall yng Nghymru wedi rhoi gwaharddiad ar
waith, felly gallai Abertawe fod y cyntaf i weithredu i annog pobl i beidio â
defnyddio cylchynau hedegog. Byddai'r cam
gweithredu arfaethedig yn cefnogi'r gwaith cynyddu ymwybyddiaeth ac ymgyrchu y
mae Grŵp Morloi Gŵyr wedi'i wneud ar y mater hwn yn lleol ac yn
genedlaethol. Trwy ymdrechion eu gwirfoddolwyr brwd maent wedi glanhau
traethau, casglu cylchynau hedegog a adawyd ar draethau ac ymgysylltu â'r
gymuned a manwerthwyr i addysgu pobl a busnesau am y peryglon sy'n deillio o
gylchynau hedegog plastig. Mae busnesau lleol sydd wedi rhoi'r gorau i
werthu'r eitemau hyn yn cynnwys Parc Carafannau a Gwersylla Kennexstone yn
Llangynydd a Pharc Carafannau a Gwersylla Pitton Cross. Mae'r broblem
cylchynau hedegog hefyd wedi cael sylw'n genedlaethol. Fe’i hamlygwyd ar raglen
Coast and Country, ITV Wales ac mae'n ganolbwynt ymgyrch yn y DU dan arweiniad
y UK Seal Alliance (y mae Grŵp Morloi Gŵyr yn aelod ohoni) a fydd yn
cynnwys deiseb a gyhoeddir gan Lywodraeth y DU. Mae Tesco, Pets at Home, CVS
Vets a siopau Asda sydd ger yr arfordir wedi gwahardd eu gwerthiant ar ôl gweld
eu canlyniadau dinistriol i fywyd gwyllt diarwybod y môr. Yn ogystal,
mae cynghorau eraill yn y DU wedi gwahardd y defnydd o gylchynau hedegog ar eu
traethau, gan gynnwys Kings Lynn, Gorllewin Norfolk a Gogledd Norfolk. Yn ogystal â
helpu i ddiogelu poblogaethau morloi, byddai'r weithred wirfoddol hon i geisio
annog pobl i beidio â defnyddio cylchynau hedegog ar draethau sy'n eiddo i
Gyngor Abertawe yn helpu'r Cyngor i gyflawni ei ddyletswydd Adran 6
Bioamrywiaeth a'i ymrwymiadau i adfer natur o dan Gynllun Adfer Natur Lleol
Abertawe, ynghyd â Chynllun Lles Lleol Abertawe a Chynllun Corfforaethol Cyngor
Abertawe. Rydym yn
cynnig bod y Cyngor yn: Cefnogi
gweithredu gwirfoddol ar annog pobl i beidio â defnyddio cylchynau hedegog ar draethau
sy'n eiddo i'r Cyngor. Byddai hyn yn cynnwys y canlynol: ·
Bae
Abertawe ·
Bae
Bracelet ·
Bae
Limeslade ·
Bae
Rotherslade ·
Bae
Langland ·
Bae
Caswell ·
Traeth
Porth Einon Cefnogi'r
Ymgyrch Genedlaethol i gyflwyno gwaharddiad ledled y DU. Gofyn i'r
Arweinydd ysgrifennu at lywodraethau Cymru a'r DU i gefnogi gwaharddiad o'r
fath. Rydym yn
cynnig ymhellach y dylai'r Cyngor: Hyrwyddo
cyfathrebiadau drwy sianelau cyfryngau'r Cyngor i annog y cyhoedd ac ymwelwyr
â'n harfordir i gefnogi'r cam gweithredu hwn ar draws Abertawe." Penderfynwyd mabwysiadu'r
Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod. |
|
Hysbysiad o Gynnig - Terfyn Dau Blentyn ar Fudd-daliadau. PDF 85 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd y cynnig diwygiedig Cofnodion: Cynigiwyd gan y Cynghorydd P M Black a'i eilio gan y Cynghorydd S Bennett. "Mae'r Cyngor yn nodi'r ymchwil ddiweddar a gynhaliwyd gan y Glymblaid Dileu Tlodi
Plant sydd wedi canfod bod: · 1.5 miliwn o
blant yn y DU yn byw mewn aelwydydd y mae'r terfyn dau blentyn ar daliadau
budd-dal yn berthnasol iddynt. Mae hynny'n cyfateb yn
fras i oddeutu un o bob deg plentyn yn y DU. ·
Yn 2023/24 roedd y terfyn dau blentyn yn costio hyd
at £3,235 y plentyn i deuluoedd bob blwyddyn. · Mae
cydberthynas gref rhwng teuluoedd yr effeithir arnynt gan y terfyn dau blentyn
a'r rheini sy'n byw mewn tlodi. · Byddai cael
gwared ar y terfyn dau blentyn yn codi 250,000 o blant allan o dlodi dros nos,
ac yn lleihau'n sylweddol lefel y tlodi y mae 850,000 yn rhagor o blant yn byw
ynddo. · Byddai dileu'r
terfyn dau blentyn yn costio £3.4 biliwn, fodd bynnag, amcangyfrifir bod tlodi
plant yn costio £39 biliwn i'r economi bob blwyddyn. Yn Abertawe, effeithir ar 4,866 o blant mewn 1,390 o
aelwydydd ar hyn o bryd gan y terfyn dau blentyn ar daliadau budd-dal. Mae
hynny'n 10% o'r holl blant yn ardal yr awdurdod. Ar yr un pryd mae 12,794 o
blant lleol yn byw mewn tlodi. Mae'r Cyngor yn credu'n gryf fod y terfyn dau blentyn ar
daliadau budd-dal yn bolisi creulon a niweidiol y dylid ei ddileu. Mae ymchwil gan Brifysgol
Efrog wedi dangos nad
yw cyflwyno'r terfyn wedi cael unrhyw effeithiau cadarnhaol ar gyflogaeth ac
enillion. Yn hytrach, mae wedi llusgo miloedd o deuluoedd lleol i dlodi. Mae'r Cyngor yn nodi bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi
gwrthwynebu'n gyson y terfyn dau blentyn ar daliadau budd-dal ers iddo gael ei
gyflwyno - gan alw am gael gwared arno yn eu maniffestos yn 2017 a 2019 ac
ailddatgan eu hymrwymiad i'w ddileu yn eu Cynhadledd Hydref ffederal yn 2023. Mae'r Cyngor yn nodi gyda phryder y cyfweliad diweddar
gyda Changhellor y Trysorlys newydd y Blaid Lafur lle'r oedd hi'n mynnu y
byddai'n cadw'r cap budd-dal dau blentyn a'r bleidlais ar ddiwygiad i araith y
Frenhines lle gosododd y llywodraeth chwip tair llinell i gadw'r cap. Mae'r Cyngor wedi penderfynu: 1.
Cyfarwyddo'r Prif Weithredwr i ysgrifennu at
Ganghellor y Trysorlys a'r Prif Weinidog, gan nodi cred gref y Cyngor y dylid
dileu'r terfyn dau blentyn ar daliadau budd-dal - a fyddai'n helpu 4,866 o
blant sy'n byw yn Abertawe. 2.
Cyfarwyddo'r Prif Weithredwr ymhellach i ysgrifennu
at yr holl Aelodau Seneddol sy'n cynrychioli ardaloedd yn Abertawe, gan ofyn
iddynt ymrwymo eu cefnogaeth gyhoeddus i'r ymgyrch i ddod â'r terfyn dau
blentyn creulon ar daliadau budd-dal i ben." Cyflwynodd y Grŵp Llafur gynnig diwygiedig. Fe'i cynigiwyd gan y
Cynghorydd R C Stewart a'i eilio gan y Cynghorydd A S Lewis. Diwygiad Llafur: "Mae'r Cyngor yn nodi'r ymchwil
ddiweddar a gynhaliwyd gan y Clymblaid Dileu Tlodi Plant sydd wedi
canfod bod: ·
1.5 miliwn o blant yn y DU yn byw mewn cartrefi y
mae'r terfyn dau blentyn ar daliadau budd-dal yn berthnasol iddynt. Mae hynny'n cyfateb i oddeutu un o bob deg o blant yn y Deyrnas Unedig. ·
Yn 2023/24 roedd y terfyn dau blentyn yn costio hyd
at £3,235 y plentyn i deuluoedd bob blwyddyn. ·
Mae cydberthynas gref rhwng teuluoedd yr effeithir
arnynt gan y terfyn dau blentyn a'r rheini sy'n byw mewn tlodi. ·
Byddai cael gwared ar y terfyn dau blentyn yn codi
250,000 o blant allan o dlodi dros nos, ac yn lleihau'n sylweddol lefel y tlodi
y mae 850,000 o blant eraill yn byw ynddo. ·
Byddai cael gwared ar y terfyn dau blentyn yn
costio £3.4 biliwn, fodd bynnag, amcangyfrifir bod tlodi plant yn costio £39
biliwn i'r economi bob blwyddyn. Yn Abertawe, effeithir ar 4,866 o blant mewn 1,390 o
aelwydydd ar hyn o bryd gan y terfyn dau blentyn ar daliadau budd-dal. Mae
hynny'n 10% o'r holl blant yn ardal yr awdurdod. Ar yr un pryd mae 12,794 o
blant lleol yn byw mewn tlodi. Mae'r Cyngor yn credu'n gryf fod y terfyn dau blentyn ar
daliadau budd-dal, polisi a gyflwynwyd gan lywodraeth flaenorol y DU, yn bolisi
y dylid ei ddileu cyn gynted ag y gall y cyllid cyhoeddus ddarparu ar gyfer y
newid hwn. Rydym yn nodi'r sefyllfa
ariannol heriol a wynebir gan y llywodraeth newydd gan gynnwys y twll du
sylweddol o £22bn a adawyd gan y llywodraeth flaenorol. Mae
ymchwil gan Brifysgol Efrog wedi
dangos nad yw cyflwyno'r terfyn hwn wedi cael unrhyw effeithiau cadarnhaol ar
gyflogaeth ac enillion. Yn hytrach, mae wedi llusgo miloedd o deuluoedd lleol i
dlodi. Mae'r Cyngor yn nodi bod aelodau o bob un o'r prif
wrthbleidiau wedi gwrthwynebu'r terfyn dau blentyn i daliadau budd-dal pan
gafodd ei gyflwyno. Mae'r Cyngor wedi penderfynu: 1. Cyfarwyddo Arweinydd y Cyngor i
ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys a'r Prif Weinidog, gan nodi cred gref y
Cyngor y dylid dileu'r terfyn dau blentyn ar daliadau budd-dal cyn gynted ag y
bydd cyllid cyhoeddus yn caniatáu - a fyddai'n helpu 4,866 o blant sy'n byw yn
Abertawe. 2. Cyfarwyddo Arweinydd y Cyngor i
ysgrifennu at bob Aelod Seneddol sy'n ymwneud ag ardal Abertawe, gan ofyn
iddynt ymrwymo eu cefnogaeth gyhoeddus i ddileu'r terfyn dau blentyn cyn gynted
ag y bydd cyllid cyhoeddus yn caniatáu." Yn dilyn pleidlais, daeth y gwelliant Llafur yn gynnig annibynnol. Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o
Gynnig a amlinellir uchod. |
|
Hysbysiad o Gynnig - Taliad Tanwydd y Gaeaf ar gyfer nifer o bensiynwyr Abertawe. PDF 69 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd y cynnig diwygiedig Cofnodion: Cynigiwyd gan y
Cynghorydd L R Jones a'i eilio gan y Cynghorydd F D O'Brien. "Bydd penderfyniad Llywodraeth y DU i gael gwared ar lwfans tanwydd y gaeaf yn
gadael 26,000 o bensiynwyr Abertawe yn pendroni ynghylch a ddylid gwresogi eu
cartrefi y gaeaf hwn neu roi bwyd ar eu bwrdd. Mae'r toriad
hwn yn golygu bod cyfanswm o £8 miliwn yn cael ei dynnu o'u pocedi. Mae'r Cyngor
hwn yn annog Llywodraeth y DU i adfer taliad tanwydd y gaeaf yn llawn i gefnogi
pensiynwyr Abertawe." Cyflwynodd y
Grŵp Llafur gynnig diwygiedig. Cynigiwyd y diwygiad gan y Cynghorydd R C
Stewart a'i eilio gan y Cynghorydd D H Hopkins. Diwygiad
Llafur: "Mae'r Cyngor hwn yn nodi
gyda phryder y twll du gwerth £22 biliwn yng nghyllid cyhoeddus y DU. Mae'n
amlwg bod hyn wedi'i greu gan gamreolaeth y llywodraeth geidwadol flaenorol o'r
economi a phenderfyniadau polisi trychinebus. Mae'r Cyngor yn nodi'r camau
byrbwyll a gymerwyd gan lywodraethau Torïaidd olynol, ond yn benodol,
lywodraethau Truss a Johnson a ansefydlogodd economi'r DU ac a gyfrannodd at y
twll du ariannol a'r argyfwng costau byw presennol. Mae'r Cyngor hwn yn nodi'r
datganiad damniol a gyhoeddwyd gan y Swyddfa dros Gyfrifoldeb Cyllidebol sef
'Nid oedd wedi cael ei hysbysu ynghylch maint y gorwariant a'i bod bellach yn
cynnal ymchwiliad'. Mae'r Cyngor hwn yn croesawu'r
cyhoeddiad gan Lywodraeth Lafur newydd y DU o'r gronfa cymorth tai gwerth £421m
a fydd yn creu arian canlyniadol uniongyrchol i Gymru. Mae'r Cyngor hefyd yn croesawu
ymrwymiad y Llywodraeth newydd i glo triphlyg pensiwn y wladwriaeth a fydd yn
debygol iawn o gynyddu pensiynau o leiaf £1,000 dros y 5 mlynedd nesaf. Rydym hefyd yn croesawu
ymrwymiad y Llywodraeth newydd i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar gredyd
pensiwn. Mae hyn yn rhywbeth y mae'r Cyngor wedi'i wneud ers blynyddoedd lawer. Mae'r Cyngor hwn yn nodi mai
ychydig iawn a wnaeth llywodraethau Torïaidd blaenorol i annog yr 880,000 o
bensiynwyr cymwys ar draws y DU i hawlio credyd pensiwn gwerth £3,900 ar
gyfartaledd. Rydym hefyd yn nodi'r
penderfyniadau gan y llywodraeth flaenorol i rewi trothwyon treth yn barhaus,
gan olygu y talwyd mwy o dreth gan bawb gan gynnwys pensiynwyr, gan nad oedd
trothwyon yn cadw'n wastad â chwyddiant. Rydym yn cydnabod bod y
sefyllfa ariannol drychinebus a etifeddwyd gan Lywodraeth Lafur newydd y DU, wedi
gorfodi llywodraeth newydd y DU i weithredu ar unwaith, gan gynnwys canslo
cynlluniau cyfalaf, a newid taliad tanwydd y gaeaf o daliad cyffredinol i
daliad wedi'i dargedu. Mae'r newid yn golygu na fydd llawer o bensiynwyr yn
derbyn taliadau tanwydd y gaeaf y gaeaf hwn. Mae'r Cyngor hwn yn annog
Llywodraeth newydd y DU i adfer taliadau tanwydd y gaeaf yn llawn i gefnogi
pensiynwyr Abertawe neu gymryd camau eraill fel y rhai a restrir uchod i
gefnogi pensiynwyr unwaith y bydd sefyllfa ariannol y DU yn caniatáu hynny." Yn dilyn
pleidlais, daeth y gwelliant Llafur yn gynnig annibynnol. Penderfynwyd mabwysiadu'r
Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod. |