Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

113.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

 

Y Cynghorydd 

 

1)Y Cynghorydd  S Bennett, J P Curtice, R Francis-Davies, J A Hale, T J Hennegan, L R Jones, A S Lewis, M B Lewis, N L Matthews, S Pritchard, S J Rice & M S Tribe   gysylltiad personol â Chofnod Rhif 119 “Datganiad o Gyfrifon 2022/23.”.

 

 

2)Y Cynghorydd  T J Hennegan, R A Fogarty, L S Gibbard, B Hopkins, W G  Lewis, N L Matthews,  C L Philpott & S J Rice   gysylltiad personol â Chofnod Rhif 120Trefniadau Derbyn Ysgolion 2025-2026”.

 

3) Y Cynghorydd  S J Rice gysylltiad personol â Chofnod Rhif 120 “Cynllun

Gweithredu Adran 6 y Ddyletswydd Bioamrywiaeth”.

 

4) Y Cynghorydd C Anderson, J P Curtice, M Durke, C A Holley, A S Lewis, R

D Lewis, F D O’Brien, C L Philpott & M S Tribe  gysylltiad personol â Chofnod

Rhif 123Datganiad Polisi Tâl 2024/25.”.

 

4) Y Cynghorydd K Griffiths C L Philpott & M S Tribe gysylltiad personol â Chofnod Rhif 126““Enwebu'r Darpar Arglwydd Faer a'r Darpar Ddirprwy Arglwydd Faer ar gyfer 2024-2025”.

 

5)Y Cynghorydd E W Fitzgerald and P R Hood-Williams  gysylltiad personol â rhagfarnol a Chofnod Rhif  126 “Enwebu'r Darpar Arglwydd Faer a'r Darpar Ddirprwy Arglwydd Faer ar gyfer 2024-2025 gadawodd y cyfarfod cyn

 i'r eitem gael ei hystyried.

 

 

6)Y Cynghorydd  B Hopkins, D H Hopkins & N L Matthews gysylltiad personol â rhagfarnol a Chofnod Rhif  127 “Cynigion Enwi.”

gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried

 

7)Y CynghoryddA S Stevens gysylltiad personol â rhagfarnol a Chofnod

Rhif  128Cwestiynau gan y Cynghorwyr.”

 

 

Swyddogion

 

1)G Borsden, C Colliwe, R Davies H Evans, M Nicholls, B Smith gysylltiad personol â rhagfarnol a Chofnod Rhif 123 Datganiad Polisi Tâl 2024/25.” gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried

 

 

2)B Smith “Cynllun Gwerthuso  gysylltiad personol â rhagfarnol a Chofnod

Rhif 125 “Swyddi'r Prif Swyddog”gadawodd y cyfarfod cyn i'r 

eitem gael ei hystyried.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib a all fod gan gynghorwyr a/neu swyddogion ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)             Datganodd y Cynghorwyr S Bennett, J P Curtice, R Francis-Davies, J A Hale, T J Hennegan, L R Jones, A S Lewis, M B Lewis, N L Matthews, S Pritchard, S J Rice, M S Tribe ac L V Walton gysylltiad personol â chofnod rhif 119 "Datganiad Cyfrifon 2022/2023".

 

2)             Datganodd y Cynghorwyr T J Hennegan, R A Fogarty, L S Gibbard, B Hopkins, L James, W G Lewis, N L Matthews, C L Philpott ac S J Rice gysylltiad personol â chofnod rhif 120 "Trefniadau Derbyn Ysgolion 2025-2026".

 

3)             Datganodd y Cynghorwyr S J Rice gysylltiad personol â chofnod rhif 121 "Cynllun Gweithredu Dyletswydd Bioamrywiaeth Adran 6 ar gyfer Abertawe".

 

4)             Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, J P Curtice, M Durke, C A Holley, O G James, M Jones, S E Keeton, A S Lewis, R D Lewis, F D O’Brien, C L Philpott ac M S Tribe gysylltiad personol â chofnod rhif 123 "Datganiad Polisi Tâl 2024/2025".

 

5)             Datganodd y Cynghorwyr K Griffiths, C L Philpott ac M S Tribe gysylltiad personol â chofnod rhif 126 "Enwebiad yr Arglwydd Faer a Dirprwy Arglwydd Faer Etholedig 2024-2025".

 

6)             Datganodd y Cynghorwyr E W Fitzgerald a P R Hood-Williams gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 126 "Enwebu Arglwydd Faer a Dirprwy Arglwydd Faer Etholedig 2024-2025" a gadawsant y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried.

 

7)             Datganodd y Cynghorwyr B Hopkins, D H Hopkins a N L Matthews gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 127 "Polisi Enwi" a gadawsant y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried.

 

8)             Datganodd y Cynghorydd A S Stevens gysylltiad personol â chofnod rhif 128 "Cwestiynau Cynghorwyr".

 

Swyddogion

 

1)             Datganodd G Borsden, C Collier, R Davies, H Evans, H Morgan-Rees, M Nicholls, a B Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod rhif 123 "Datganiad Polisi Tâl 2024/25" a gadawsant y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried.

 

Sylwer: Ni adawodd R Davies a H Evans y cyfarfod gan eu bod am aros i ateb unrhyw gwestiynau technegol am yr adroddiad, cynnal y bleidlais, a chofnodi'r penderfyniad.

 

2)             Datganodd B Smith a D Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod rhif 125 "Cynllun Gwerthuso Swydd y Prif Swyddog" a gadawsant y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried.

114.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

a)             Cynrychiolwyr Merched Ysgol Abertawe dan 13 oed

Croesawodd yr Aelod Llywyddol gynrychiolwyr Merched Ysgol Abertawe dan 13 oed i'r Cyngor. Dywedodd fod y Tîm wedi cyrraedd rownd derfynol Cwpan Pencampwyr Cymdeithas Bêl-droed Ysgolion Lloegr. Mae eu taith i'r rownd derfynol wedi cynnwys buddugoliaeth oddi cartref 8-1 yn erbyn Slough, buddugoliaeth gartref 2-1 yn erbyn Brighton, buddugoliaeth oddi cartref 5-2 yn erbyn West Kent, yna cyfle i chwarae yn y rownd gynderfynol ynghyd â Lerpwl. Yn y rownd gyn-derfynol, enillwyd yn erbyn East Riding 5-2. Nawr, fyddant yn mynd ymlaen i'r rownd derfynol a fyddant yn chwarae ar faes Dinas Stoke. Nid yw'r dyddiad wedi'i gyhoeddi eto.

 

Enillodd y tîm gynghrair Gorllewin Cymru hefyd ac maent wedi cyrraedd Rownd Gynderfynol Cymru. Mae'r tîm yn rhoi enw Abertawe ar y map. Ar ran y Cyngor, dymunwyd pob lwc iddynt yn y rownd derfynol.

 

b)             Data Tir - Gwobrau Pridiannau Tir Lleol 2024

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol Dîm Pridiannau Tir y Cyngor o fewn y Gwasanaethau Cynllunio am ennill Gwobr Boddhad Cwsmeriaid yn ddiweddar - y Gorau mewn Cynghorau Unedol. Nhw yw'r cyntaf yng Nghymru i ennill y wobr. Mae'r Tîm Pridiannau Tir yn rheoli chwiliadau trawsgludo sy'n rhan hanfodol o symud adref ar gyfer ein preswylwyr. Mae trawsgludwyr a chyfreithwyr yn pleidleisio dros y wobr a gofynnir iddynt ystyried ansawdd, effeithlonrwydd, dibynadwyedd a gwerth am arian.

 

c)             Diwygiadau/cywiriadau i Wŷs y Cyngor

 

i)               Eitem 9 - Cynllun Cydraddoldeb Strategol a Hawliau Dynol 2024-2028.

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod gwall yn y Paragraff sy'n ymwneud â "Hil" ar dudalen 105 o Wŷs y Cyngor yn Atodiad A, Adran 3 "Amdanom Ni", mae penawdau allweddol o Gyfrifiad 2021 yn dweud wrthym am elfen o'r adroddiad. Dylai'r paragraff ddarllen:

 

“Hil

Mae gan Abertawe gyfran uwch o bobl mewn grwpiau ethnig heb fod yn wyn (8.6%) na chyfartaledd Cymru. Y grŵp ethnig heb fod yn wyn mwyaf yn Abertawe yn 2021 oedd 'Bangladeshaidd' (tua 2,900 o bobl neu 1.2%).

 

ii)             Eitem 15- Cwestiynau Cynghorwyr - Cwestiwn 2

Mae yna wall teipograffyddol yn yr ymateb. Dylai'r ffigur ddarllen £231,387.50. Roedd yr ymateb yn cynnwys coma yn hytrach nag atalnod llawn.

 

iii)           Adroddiad Archwilio Cymru. Archwilio Cyfrifon - Dinas a Sir Abertawe a Datganiad o Gyfrifon 2022/2023.

Mae'r Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a'r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd wedi cytuno i ychwanegu'r adroddiadau hyn at Wŷs y Cyngor gan roi'r rhybudd statudol o 3 diwrnod gwaith clir i ganiatáu i'r Datganiad o Gyfrifon gael ei ystyried yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu hystyried ar ôl Eitem 6 "Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2022-2023".

115.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

a)             Digwyddiad Cwrdd â'r Fargen Ddinesig

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi cael y pleser o fod yn bresennol ar gyfer Digwyddiad Cwrdd â'r Fargen Ddinesig yn Arena Abertawe yn ddiweddar. Roedd y digwyddiad ar ben-blwydd llofnodi Bargen Ddinesig Bae Abertawe gwerth £1.3B.

116.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu.

Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser.

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

 

Cofnodion:

Gofynnodd Elinor Field gwestiwn ynghylch Cofnod 120 "Trefniadau Derbyn Ysgolion 2025-2026".

 

Ymatebodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu gan ddweud y byddai'n codi'r mater gyda'r Fforwm Derbyn.

117.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2022-2023. pdf eicon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Mike Lewis, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau adroddiad gwybodaeth yn nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2022/2023.

118.

Adroddiad Archwilio Cymru - Adroddiad Archwilio Cyfrifon Dinas a Sir Abertawe. pdf eicon PDF 742 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Derwyn Owen a Leanne Malough, Archwilio Cymru "Adroddiad Archwilio Cymru, Archwilio Cyfrifon 2022-2023 ar gyfer Dinas a Sir Abertawe".

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cymeradwyo a llofnodi'r Llythyr Sylwadau Terfynol.

119.

Datganiad o Gyfrifon 2022/23. pdf eicon PDF 116 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog 151 adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Datganiad o Gyfrifon 2022/2023 ar 31 Gorffennaf 2023 neu cyn hynny.

 

Esboniodd Swyddog Adran 151 y rhesymau dros yr oedi a'r materion ehangach sydd wedi'u dogfennu'n sy'n effeithio ar archwiliad allanol gyfan llywodraeth leol o gyfrifon yn y DU.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Datganiad o Gyfrifon 2022/2023 fel y'i nodir yn Atodiad A yr adroddiad.

120.

Trefniadau Derbyn Ysgolion 2025-2026. pdf eicon PDF 205 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn gofyn am benderfyniad ar y trefniadau derbyn ar gyfer ysgolion a gynhelir ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025-2026.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cymeradwyo'r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2025-2026 ar gyfer dosbarthiadau meithrin fel a nodir yn Atodiad A yr adroddiad.

 

2)       Cymeradwyo'r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2025-2026 ar gyfer dosbarthiadau derbyn fel a nodir yn Atodiad B yr adroddiad.

 

3)       Cymeradwyo'r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2025-2026 ar gyfer Blwyddyn 7 fel a nodir yn Atodiad C yr adroddiad.

 

4)       Cymeradwyo'r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2025-2026 ar gyfer trosglwyddiadau yn ystod y flwyddyn fel a nodir yn Atodiad Ch yr adroddiad.

 

5)       Cymeradwyo'r trefniadau derbyn/meini prawf derbyn arfaethedig ar gyfer 2025-2026 ar gyfer dosbarthiadau'r chweched yn Atodiad D yr adroddiad.

 

6)       Cymeradwyo'r Amserlen Ddigwyddiadau ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd fel a nodir yn Atodiad Dd yr adroddiad.

 

7)       Nodi'r niferoedd derbyn ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, fel a nodir yn Atodiad E yr adroddiad.

121.

Cynllun Gweithredu Adran 6 y Ddyletswydd Bioamrywiaeth. pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

122.

Cynllun Hawliau Dynol a Chydraddoldeb Strategol 2024/28. pdf eicon PDF 169 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

123.

Datganiad Polisi Tâl 2024/25. pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Datganiad Polisi Cyflog Dinas a Sir Abertawe ar gyfer 2024-2025.

 

Penderfynwyd cymeradwyo a chyhoeddi Datganiad Polisi Cyflog 2024-2025 fel a atodwyd yn Atodiad A yr adroddiad.

124.

Adolygiad Blynyddol o Amcanion Lles. pdf eicon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn argymell newidiadau i Amcanion Llesiant y Cyngor o ganlyniad i adolygiad blynyddol sy'n ofynnol gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus asesu a yw eu Hamcanion Llesiant yn parhau i fod yn briodol ai peidio.

 

Penderfynwyd bod Amcanion Llesiant y Cyngor yn parhau heb newid ar gyfer 2024-2028.

125.

Cynllun Gwerthuso Swyddi'r Prif Swyddog. pdf eicon PDF 157 KB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad er gwybodaeth a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Cynllun Gwerthuso Swyddi newydd ar gyfer Prif Swyddogion a'r camau nesaf i'w cymryd.

126.

Enwebu'r Darpar Arglwydd Faer a'r Darpar Ddirprwy Arglwydd Faer ar gyfer 2024-2025. pdf eicon PDF 185 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn gofyn am enwebiadau ar gyfer yr Arglwydd Faer Etholedig a'r Dirprwy Arglwydd Faer Etholedig er mwyn caniatáu i drefniadau ar gyfer digwyddiad Urddo'r Arglwydd Faer a'r Dirprwy Arglwydd Faer fynd yn eu blaenau.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Enwebwyd y Cynghorydd Paxton Hood-Williams Thomas yn Arglwydd Faer Etholedig 2024-2025.

 

2)             Enwebwyd y Cynghorydd Wendy Fitzgerald yn Ddirprwy Arglwydd Faer Etholedig 2024-2025.

127.

Cynigion Enwi. pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn ceisio ystyried cynnig i ail-enwi Ystafell Gaerloyw.

 

Penderfynwyd ail-enwi Ystafell Gaerloyw yn Ystafell Lilian Hopkin.

128.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 143 KB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

1)       ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd chwe (6) 'Chwestiwn Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiynau atodol hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arnynt isod.

 

Cwestiwn 3

Gofynnodd y Cynghorydd B J Rowlands am gopi o ymateb ymgynghoriad y Cyngor i Gynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

2)       ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd un (1) 'cwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' Rhan B.