Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

95.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gall fod gan gynghorwyr a swyddogion ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorwyr S Bennett, R Francis-Davies, T J Hennegan, M B Lewis, P Lloyd, S J Rice a T M White gysylltiad personol â Chofnod 102 "Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2025/26 - 2027/28".

 

2)              Datganodd y Cynghorwyr S Bennett, P N Bentu, J P Curtice, R Francis-Davies, T J Hennegan, M B Lewis, P Lloyd, S J Rice a T M White gysylltiad personol â Chofnod 103 "Cyllideb Refeniw 2024/25".

 

3)                Datganodd y Cynghorwyr M Baker a T J Hennegan gysylltiad personol â Chofnod 105 "Cyllideb Refeniw'r Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2024/25”.

 

4)              Datganodd y Cynghorwyr P M Black, S Bennett, A Davies, A M Day, P Downing, K M Griffiths, H J Gwilliam, C A Holley, J W Jones, M H Jones, S M Jones, P Lloyd, D Phillips, M S Tribe a T M White gysylltiad personol â Chofnod 106 "Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2023/24- 2028/29".

 

5)              Datganodd y Cynghorydd J A Hale gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 106 "Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2023/24- 2028/29" a Chofnod 112 "Cwestiynau Cynghorwyr (C1)" a gadawodd y cyfarfod cyn trafod yr eitemau.

 

6)                Datganodd y Cynghorwyr M Baker a T J Hennegan gysylltiad personol â Chofnod 107 "Cyfrif Refeniw Tai - Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2023/24-2027/28”.

 

7)              Datganodd y Cynghorwyr K M Griffiths, S M Jones ac M S Tribe gysylltiad personol â Chofnod 108 "Penderfyniad Statudol - Penderfyniadau i'w Gwneud yn Unol â Rheoliadau Pennu Treth y Cyngor 2022/25".

 

8)              Datganodd y Cynghorwyr H J Gwilliam, B J Rowlands ac A H Stevens gysylltiad personol â Chofnod 112 "Cwestiynau Cynghorwyr".

96.

Cofnodion. pdf eicon PDF 443 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)             Cyfarfod cyffredin y Cyngor a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2024.

97.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 205 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng nghyfarfod cyffredin diwethaf y Cyngor.

98.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

a)             Cydymdeimladau

 

i)               Beverley Smith, Tad y Cynghorydd Robert V Smith

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth Beverley Smith, tad y Cynghorydd R V Smith. Diolchodd y Cynghorydd Smith a'i deulu i'r Cynghorwyr o bob ochr i'r Siambr ac i'r Swyddogion am eu dymuniadau caredig.

 

Safodd pawb a oedd yn bresennol mewn distawrwydd fel arwydd o gydymdeimlad a pharch.

99.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

a)             Diwrnod Rhyngwladol y Merched - 8 Mawrth 2024

Diolchodd Arweinydd y Cyngor i'r Cynghorwyr hynny a oedd yn gwisgo dillad porffor i gefnogi Diwrnod Rhyngwladol y Merched a gynhelir ar 8 Mawrth 2024.

 

b)             Cwtch Mawr, Abertawe – Banc Pob Dim Cyntaf Cymru

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi bod i agoriad Banc Pob Dim cyntaf Cymru yn gynharach y diwrnod hwnnw ochr yn ochr â Gordon Brown (cyn Brif Weinidog) a Mark Drakeford (Prif Weinidog Cymru).

 

Dywedodd fod banc dillad, banc dillad gwely, banc babanod, banc hylendid a banc celfi mewn un lle. Mae'r syniad yn un syml: mae gan gwmnïau'r nwyddau dros ben sydd eu hangen ar bobl ac mae elusennau lleol yn adnabod y bobl sydd eu hangen. Mae'r fenter Banc Pob Dim yn cysylltu'r ddau i leihau effeithiau tlodi a gwastraff amgylcheddol.

 

c)             Abertawe - Dinas â digon o ddiffibrilwyr gyntaf y DU

Croesawodd Arweinydd y Cyngor Henry Gilbert, Simon Tucker a Peter Harris o Heartbeat Trust UK. Dywedodd fod gan Abertawe dros 450 o ddiffibrilwyr sy'n hygyrch i'r cyhoedd a thros 200 o ddiffibrilwyr a oedd ar gael mewn lleoliadau eraill.

 

Dywedodd fod Abertawe wedi cael ei chydnabod yn ddiweddar fel 'Dinas â digon o diffibrilwyr gyntaf y DU'. Roedd nifer o fywydau eisoes wedi’u hachub oherwydd y diffibrilwyr yn Abertawe.

100.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu.

Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser.

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Gofynnodd tri aelod o'r cyhoedd gwestiynau. Roedd y cwestiynau'n ymwneud â Chofnod 103 "Cyllideb Refeniw 2024/25" a Chofnod 112 "Cwestiynau Cynghorwyr - Cwestiwn 1".

 

Ymatebodd Arweinydd y Cyngor. Dywedodd y byddai Ben Houghton yn derbyn ymatebion ysgrifenedig oni bai fod sensitifrwydd masnachol yn atal hynny mewn perthynas â'i gwestiynau ynghylch Skyline.

101.

Adroddiadau Cyllideb - Trosolwg o'r Cyflwyniad.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Adran 151 adroddiad technegol bras mewn perthynas â'r adroddiadau am y gyllideb. Gofynnodd y Cynghorwyr gwestiynau technegol cyffredinol.

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor adroddiad bras am y gyllideb.

 

Dywedodd yr aelod llywyddol y dylid gofyn cwestiynau penodol ynghylch adroddiadau unigol a'u trafod pan fyddai’r adroddiad hwnnw'n cael ei drafod.

102.

Cynllunio Ariannol Tymor Canolig 2025/26 - 2027/28. pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn nodi rhesymeg a diben y Cynllun Ariannol Tymor Canolig, gan fanylu ar y prif dybiaethau ariannu ar gyfer y cyfnod ac yn cynnig strategaeth i gynnal cyllideb gytbwys.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2025/26 i 2027/28 fel sail am gynllunio ariannol ar gyfer gwasanaethau'r dyfodol.

103.

Cyllideb Refeniw 2024/25. pdf eicon PDF 1 MB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Nododd yr Aelod Llywyddol y broses a fyddai'n cael ei dilyn ar gyfer yr eitem hon.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 yr adroddiad a oedd yn cynnwys diweddariad bach ynghylch ffigur setliad terfynol y grant llywodraeth leol. Gofynnodd y Cynghorwyr gwestiynau technegol i'r Swyddog Adran 151. Ymatebodd Swyddog Adran 151.

 

Cynigiwyd yr adroddiad gwreiddiol gan y Cynghorydd R C Stewart. Eiliwyd gan y Cynghorydd A S Lewis.

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod dau ddiwygiad i'r gyllideb wedi dod i law. Un gan Grŵp Uplands ac un gan y Grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol/Grŵp Annibynnol y Gwrthbleidiau.

 

Diwygiad Grŵp Uplands

Cynigiwyd gan y Cynghorydd S J Rice. Eiliwyd gan y Cynghorydd P N May.

 

Dyma'r diwygiad a gynigiwyd:

 

Tynnu'r £0.7m ychwanegol a ddyrannwyd i'r Gronfa Wrth Gefn TGCh Addysg ac yn lle hynny dyrannu £0.7m ychwanegol i'r tîm Priffyrdd PATCH blaenorol.

 

Yn dilyn dadl a phleidlais, ni chafodd y diwygiad ei gefnogi.

 

Diwygiad y Democratiaid Rhyddfrydol/Grŵp Annibynnol y Gwrthbleidiau

Cynigiwyd gan y Cynghorydd P M Black. Eiliwyd gan y Cynghorydd E W Fitzgerald.

 

Dyma'r diwygiad a gynigiwyd:

 

Lleihau dros dro'r dreth y cyngor arfaethedig unwaith o 5.99% i 4.99%. Bydd cost y gostyngiad yn nhreth y cyngor yn costio tua £1.169 miliwn net o CTRS (Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor) a bydd yn cael ei ariannu drwy dynnu arian o'r Gronfa Cyfartaliad Cyfalaf unwaith. Mae'r swyddog A151 yn cynghori y byddai angen adfer y gostyngiad yn llawn a'i dalu yn nôl erbyn y flwyddyn ganlynol, gyda phopeth yn gyfartal, er gan gydnabod y bydd cyllideb y flwyddyn ganlynol yn destun trafodaeth a dadl bellach ar wahân.

 

Cyflwyno parcio am ddim ar feysydd parcio awyr agored wedi'u targedu yng nghanol y ddinas rhwng 10.00am a 3.00pm o ddydd Llun i ddydd Iau (h.y. cael gwared ar ffïoedd mewn 3 maes parcio presennol yng nghanol y ddinas - Stryd Rhydychen, Pell Street a Northampton Lane). Amcangyfrifir mai tua £0.058 miliwn fydd cost y newidiadau i'r trefniadau parcio, gan gynnwys mân addasiadau a ragwelir i ddefnydd ac arferion parcio mewn mannau eraill. Telir y gost drwy dynnu arian o'r Gronfa Cyfartaliad Cyfalaf. Byddai'r ffïoedd parcio ceir hynny wedyn yn dychwelyd y flwyddyn ganlynol.

 

Yn dilyn dadl a phleidlais, ni chafodd y diwygiad ei gefnogi.

 

Cynnig annibynnol

Cynhaliwyd trafodaeth ar y cynnig annibynnol.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cymeradwyo'r Gyllideb Refeniw ar gyfer 2024/25 fel y'i diwygiwyd ac y manylwyd arni yn Atodiad A yr adroddiad.

 

2)             Cymeradwyo Gofyniad y Gyllideb ac ardoll Treth y Cyngor ar gyfer 2/2024 fel y nodwyd yn Adran 9 yr adroddiad.

104.

Rheol 4 Gweithdrefn y Cyngor "Ysmygu/Lluniaeth/Ffonau Symudol/Egwyl.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Yn unol â Rheol 4 Gweithdrefn y Cyngor gohiriodd yr Aelod Llywyddol y cyfarfod er mwyn hwyluso egwyl tŷ bach o 10 munud.

105.

Cyfrif Refeniw Tai (CRT) - cyllideb refeniw 2024/25. pdf eicon PDF 428 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig Cyllideb Refeniw ar gyfer 2024/25 ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Penderfynwyd cymeradwy'r cynigion ar gyfer y Gyllideb Refeniw fel y nodwyd yn Adran 4 yr adroddiad.

106.

Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2023/24 - 2028/29. pdf eicon PDF 301 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Nododd yr Aelod Llywyddol y broses a fyddai'n cael ei dilyn ar gyfer yr eitem hon.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig cyllideb gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2023/24 a chyllideb gyfalaf ar gyfer 2024/25 - 2028/29.

 

Cynigiwyd yr adroddiad gwreiddiol gan y Cynghorydd R C Stewart. Eiliwyd gan y Cynghorydd A S Lewis.

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod dau ddiwygiad i'r gyllideb wedi dod i law. Un o'r Grŵp Llafur ac un o Grŵp Uplands.

 

Diwygiad y Grŵp Llafur

Cynigiwyd gan y Cynghorydd R C Stewart. Eiliwyd gan y Cynghorydd A S Lewis.

 

Dyma'r diwygiad a gynigiwyd:

 

Tynnu taliad untro gwerth £1m o'r gronfa cyfartaliad cyfalaf a defnyddio'r £2m presennol a ddyrannwyd o'r gronfa Yswiriant i ddarparu cyfanswm o £3m yn ychwanegol ar gyfer gwaith cysylltiedig â phriffyrdd ychwanegol eleni.

 

Tynnu £1m o'r gronfa cyfartaliad cyfalaf i gefnogi'r gwaith o gyflawni blaenoriaethau cymunedol ychwanegol. Byddai'r cynllun yn darparu adnoddau ychwanegol i gynghorwyr er mwyn cefnogi blaenoriaethau cymunedol yn eu wardiau.

 

Tynnu £1m o'r gronfa cyfartaliad cyfalaf i ddechrau'r broses o uwchraddio cyfleusterau ystafelloedd newid ar draws y sir, er mwyn sicrhau y gall merched yn ogystal â bechgyn eu defnyddio.

 

Yn dilyn dadl a phleidlais, cefnogwyd y diwygiad. Daeth y diwygiad yn gynnig annibynnol.

 

Diwygiad Grŵp Uplands

Cynigiwyd gan y Cynghorydd S J Rice. Eiliwyd gan y Cynghorydd P N May.

 

Dyma'r diwygiad a gynigiwyd:

 

Cael gwared ar yr holl wariant ar Skyline ar gyfer y dyfodol (£4.1m).

Cael gwared ar gyfleuster maes parcio Bro Tawe (£3.1m).

 

Ail-fuddsoddi'r £7.2m a arbedwyd er mwyn:

·                rhoi £5m yn ychwanegol i ailwynebu cerbytffyrdd.

·                ychwanegu at Gronfa Effeithlonrwydd Ynni ac Ansawdd Aer Ysgolion - £2.2m.

 

Yn dilyn dadl a phleidlais, ni chafodd y diwygiad ei gefnogi.

 

Cynnig annibynnol

Cynhaliwyd trafodaeth ar y cynnig annibynnol.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r gyllideb gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2023/24 a’r cyllideb gyfalaf ar gyfer 2024/2025 – 2028/29 fel y'i diwygiwyd ac fel y nodir yn Atodiadau A, B C, CH, D, Dd ac E yr adroddiad.

107.

Cyfrif Refeniw Tai - Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2023/24 - 2027/28. pdf eicon PDF 803 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Nododd yr Aelod Llywyddol y broses a fyddai'n cael ei dilyn ar gyfer yr eitem hon.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig cyllideb gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2023/24 a chyllideb gyfalaf ar gyfer 2024/25 - 2027-28 ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Cynigiwyd yr adroddiad gwreiddiol gan y Cynghorydd A S Lewis. Eiliwyd gan y Cynghorydd R C Stewart.

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod diwygiad cyllidebol wedi'i dderbyn gan Grŵp Uplands.

 

Diwygiad Grŵp Uplands

Cynigiwyd gan y Cynghorydd S J Rice. Eiliwyd gan y Cynghorydd P N May.

 

Dyma'r diwygiad a gynigiwyd:

 

Rhagor o Gartrefi - Caffaeliadau - Dwyn gwariant rhagamcanol ar gyfer 25/26 a 26/27 ymlaen i 24/25 h.y. cynyddu gwariant rhagamcanol o £3m i £6m yn 24/25.

 

Yn dilyn dadl a phleidlais, ni chafodd y diwygiad ei gefnogi.

 

Cynnig annibynnol

Cynhaliwyd trafodaeth ar y cynnig annibynnol.

 

Penderfynwyd:

 

1)         Cymeradwyo'r trosglwyddiadau rhwng cynlluniau a'r cyllidebau diwygiedig ar gyfer cynlluniau yn 2023/24.

 

2)       Cymeradwyo cynigion cyllidebol 2024/25 – 2027/28.

 

3)       Cymeradwyo'r cynlluniau unigol fel y'u dangosir yn Atodiad B yr adroddiad sydd wedi'u rhaglennu dros y cyfnod 4 blynedd fel yr amlinellir yn yr adroddiad, a chymeradwyo'r goblygiadau ariannol ar gyfer ariannu dros y 4 blynedd.

 

4)         Cymeradwyo'r ymagwedd blaenoriaethu at osod y rhaglen waith sy'n cael ei nodi yn yr adroddiad.

108.

Penderfyniad statudol - dylid gwneud penderfyniadau yn unol â'r rheoliadau wrth bennu Treth y Cyngor ar gyfer 2024/25. pdf eicon PDF 362 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn amlinellu sawl penderfyniad statudol i'w gwneud yn unol â'r Rheoliadau o ran gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2024-2025.

 

O ganlyniad i'r diwygiadau a wnaed i Gyllideb Refeniw 2024-2025 a hefyd y newid i'r setliad gan Lywodraeth Cymru, newidiwyd y ffigurau yn y penderfyniad statudol.

 

Penderfynwyd:

 

1) Nodi a mabwysiadu'r penderfyniadau statudol fel y'u hamlinellwyd.

 

2)       Nodi bod y cyngor, yn ei gyfarfod ar 7 Rhagfyr 2023, wedi cyfrifo'r symiau canlynol ar gyfer y flwyddyn 2024/2025 yn unol â Rheoliadau a wnaed o dan Adran 33(5) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (fel y'i diwygiwyd):

 

a)             93,803 oedd y swm a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol â Rheoliad 3 Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) (Cymru) 1995, fel y'i diwygiwyd, fel ei sylfaen Treth y Cyngor am y flwyddyn.

 

b)             Rhannau o ardal y cyngor:

 

Llandeilo Ferwallt

2,014

Clydach

2,655

Gorseinon

3,322

Tre-gŵyr

2,015

Pengelli a Waungron

451

Llanilltud Gŵyr

347

Cilâ

2,173

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

519

Llangyfelach

969

Llanrhidian Uchaf

1,599

Llanrhidian Isaf

343

Llwchwr

3,497

Mawr

762

Y Mwmbwls

10,072

Penlle'r-gaer

1,538

Pennard

1,544

Pen-rhys

484

Pontarddulais

2,365

Pont-lliw a Thir-coed

1,037

Porth Einon

470

Reynoldston

312

Rhosili

196

Y Crwys

709

Cilâ Uchaf

593

 

dyma'r symiau a gyfrifwyd gan y cyngor, yn unol â Rheoliad 6 y Rheoliadau fel symiau ei sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o'i ardal y mae eitemau arbennig yn berthnasol iddynt.

 

3)       Caiff y symiau canlynol eu cyfrifo gan y cyngor ar gyfer y flwyddyn 2024/2025 yn unol ag Adrannau 32 i 36 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992:

 

(a)      £917,266,676 yw cyfanswm y symiau y mae'r cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adrannau 32(2)(a) i (d) o'r Ddeddf.

 

(b)      £326,437,690 yw cyfanswm y symiau y mae'r cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adrannau 32(3)(a), 32(3)(c) a 32(3a) o'r Ddeddf.

 

(c)      £590,828,986 yw'r gwahaniaeth rhwng y cyfanswm yn (3)(a) uchod a'r cyfanswm yn 3(b) uchod, ac mae'n swm a gyfrifwyd gan y cyngor yn unol ag Adran 32(4) o'r Ddeddf fel ei ofyniad cyllidebol ar gyfer y flwyddyn.

 

(ch)    £434,602,822 yw cyfanswm y symiau y mae'r cyngor yn amcangyfrif y byddant yn daladwy i Gronfa'r Cyngor ar gyfer y flwyddyn mewn perthynas â chyfraddau annomestig wedi'u hailddosbarthu, a'r Grant Cynnal Refeniw heb gymorth ardrethi annomestig dewisol.

 

(d)      £1,665.47 yw'r swm yn (3)(c) heb y swm yn (3)(d) uchod, wedi'i rannu gan y swm yn (2)(a) uchod, a gyfrifwyd gan y cyngor yn unol ag Adran 33(1) y Ddeddf, fel swm sylfaenol ei Dreth y Cyngor am y flwyddyn.

 

(dd)    £2,205,986 yw cyfanswm yr holl eitemau arbennig y cyfeiriwyd atynt yn Adran 34(1) o'r Ddeddf.

 

(e)      £1,641.95 yw'r swm yn (3)(e) heb y canlyniad a roddir drwy rannu'r swm yn (3)(f) uchod â'r swm yn (2)(a) uchod, a gyfrifwyd gan y cyngor yn unol ag Adran 34(2) o'r Ddeddf, fel swm sylfaenol Treth y Cyngor am y flwyddyn ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o'i ardal nad oes unrhyw eitemau arbennig yn berthnasol iddynt.

 

(f)       Rhannau o Ardal y cyngor:

 

Llandeilo Ferwallt

1,693.59

Clydach

1,706.23

Gorseinon

1,686.95

Tre-gŵyr

1,659.17

Pengelli a Waungron

1,683.90

Llanilltud Gŵyr

1,663.79

Cilâ

1,652.30

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

1,657.17

Llangyfelach

1,672.91

Llanrhidian Uchaf

1,754.80

Llanrhidian Isaf

1,662.36

Llwchwr

1,684.72

Mawr

1,785.14

Y Mwmbwls

1,723.32

Penlle'r-gaer

1,651.05

Pennard

1,704.13

Pen-rhys

1,668.29

Pontarddulais

1,707.75

Pont-lliw a Thir-coed

1,680.57

Porth Einon

1,658.97

Reynoldston

1,682.01

Rhosili

1,675.11

Y Crwys

1,684.37

Cilâ Uchaf

1,673.99

 

dyma'r symiau a roddwyd drwy adio'r swm yn (3)(e) uchod a symiau'r eitemau arbennig sy'n ymwneud ag anheddau yn y rhannau hynny o ardal y cyngor a grybwyllwyd uchod, sydd wedi'u rhannu ym mhob achos gan y swm yn (2)(b) uchod, a'u cyfrifo gan y cyngor yn unol ag Adran 34(3) y Ddeddf, fel symiau sylfaenol Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn i anheddau yn rhannau hynny o'i ardal y mae un neu fwy o eitemau arbennig yn berthnasol iddynt.

 

(i)       Rhannau o ardal y cyngor:

 

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

A

B

C

D

E

F

G

H

I

£

£

£

£

£

£

£

£

£

Llandeilo Ferwallt

1,129.06

1,317.23

1,505.41

1,693.59

2,069.95

2,446.30

2,822.65

3,387.18

3,951.71

Clydach

1,137.48

1,327.07

1,516.65

1,706.23

2,085.39

2,464.56

2,843.71

3,412.46

3,981.21

Gorseinon

1,124.63

1,312.07

1,499.51

1,686.95

2,061.83

2,436.71

2,811.58

3,373.90

3,936.22

Tre-gŵyr

1,106.11

1,290.46

1,474.82

1,659.17

2,027.88

2,396.58

2,765.28

3,318.34

3,871.40

Pengelli a Waungron

1,122.60

1,309.70

1,496.80

1,683.90

2,058.10

2,432.30

2,806.50

3,367.80

3,929.10

Llanilltud Gŵyr

1,109.19

1,294.06

1,478.92

1,663.79

2,033.52

2,403.26

2,772.98

3,327.58

3,882.18

Cilâ

1,101.53

1,285.12

1,468.71

1,652.30

2,019.48

2,386.66

2,753.83

3,304.60

3,855.37

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

1,104.78

1,288.91

1,473.04

1,657.17

2,025.43

2,393.69

2,761.95

3,314.34

3,866.73

Llangyfelach

1,115.27

1,301.15

1,487.03

1,672.91

2,044.67

2,416.43

2,788.18

3,345.82

3,903.46

Llanrhidian Uchaf

1,169.86

1,364.84

1,559.82

1,754.80

2,144.76

2,534.72

2,924.66

3,509.60

4,094.54

Llanrhidian Isaf

1,108.24

1,292.94

1,477.65

1,662.36

2,031.78

2,401.19

2,770.60

3,324.72

3,878.84

Llwchwr

1,123.14

1,310.34

1,497.53

1,684.72

2,059.10

2,433.49

2,807.86

3,369.44

3,931.02

Mawr

1,190.09

1,388.44

1,586.79

1,785.14

2,181.84

2,578.54

2,975.23

3,570.28

4,165.33

Y Mwmbwls

1,148.88

1,340.36

1,531.84

1,723.32

2,106.28

2,489.24

2,872.20

3,446.64

4,021.08

Penlle'r-gaer

1,100.70

1,284.15

1,467.60

1,651.05

2,017.95

2,384.85

2,751.75

3,302.10

3,852.45

Pennard

1,136.08

1,325.43

1,514.78

1,704.13

2,082.83

2,461.53

2,840.21

3,408.26

3,976.31

Pen-rhys

1,112.19

1,297.56

1,482.92

1,668.29

2,039.02

2,409.76

2,780.48

3,336.58

3,892.68

Pontarddulais

1,138.50

1,328.25

1,518.00

1,707.75

2,087.25

2,466.75

2,846.25

3,415.50

3,984.75

Pont-lliw a Thir-coed

1,120.38

1,307.11

1,493.84

1,680.57

2,054.03

2,427.49

2,800.95

3,361.14

3,921.33

Porth Einon

1,105.98

1,290.31

1,474.64

1,658.97

2,027.63

2,396.29

2,764.95

3,317.94

3,870.93

Reynoldston

1,121.34

1,308.23

1,495.12

1,682.01

2,055.79

2,429.57

2,803.35

3,364.02

3,924.69

Rhosili

1,116.74

1,302.86

1,488.99

1,675.11

2,047.36

2,419.61

2,791.85

3,350.22

3,908.59

Y Crwys

1,122.91

1,310.06

1,497.22

1,684.37

2,058.68

2,432.98

2,807.28

3,368.74

3,930.20

Cilâ Uchaf

1,115.99

1,301.99

1,487.99

1,673.99

2,045.99

2,417.99

2,789.98

3,347.98

3,905.98

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Holl rannau eraill ardal y Cyngor

1,094.63

1,277.07

1,459.51

1,641.95

2,006.83

2,371.71

2,736.58

3,283.90

3,831.22

 

dyma'r symiau a gyfrifwyd drwy luosi'r symiau yn (3)(g) a (3)(h) uchod â'r nifer sydd, yn ôl cyfanswm y boblogaeth a nodwyd yn Adran 5 (1) Y Ddeddf, yn gymwys i anheddau a restrir mewn band prisio penodol, wedi'u rhannu â'r nifer sydd, yn y gyfran honno, yn gymwys i anheddau a restrir ym mand D a gyfrifir gan y cyngor yn unol ag Adran 36(1) y Ddeddf, fel y symiau i'w hystyried ar gyfer y flwyddyn mewn perthynas â chategorïau'r anheddau a restrir yn y bandiau prisio gwahanol;

 

4)       Dylid nodi bod Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru wedi nodi'r symiau canlynol ar gyfer y flwyddyn 2024/2025 mewn praeseptau a gyflwynwyd i'r cyngor yn unol ag Adran 40 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ar gyfer pob un o'r categorïau o anheddau a ddangosir isod:

 

 

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

 

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

£

£

£

£

£

£

£

£

£

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru

235.11

274.30

313.48

352.67

431.04

509.41

587.78

705.34

822.90

 

5)       Ar ôl cyfrifo'r cyfanswm ym mhob achos o'r symiau yn (3)(I) a (4) uchod, mae'r cyngor, yn unol ag Adran 30(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth leol 1992, yn gosod, trwy hyn, y symiau canlynol fel y symiau Treth y Cyngor ar gyfer 2024/25 ar gyfer pob un o'r categorïau anheddau a ddangosir isod:

 

 

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

 

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

£

£

£

£

£

£

£

£

£

Llandeilo Ferwallt

1,364.17

1,591.53

1,818.89

2,046.26

2,500.99

2,955.71

3,410.43

4,092.52

4,774.61

Clydach

1,372.59

1,601.37

1,830.13

2,058.90

2,516.43

2,973.97

3,431.49

4,117.80

4,804.11

Gorseinon

1,359.74

1,586.37

1,812.99

2,039.62

2,492.87

2,946.12

3,399.36

4,079.24

4,759.12

Tre-gŵyr

1,341.22

1,564.76

1,788.30

2,011.84

2,458.92

2,905.99

3,353.06

4,023.68

4,694.30

Pengelli a Waungron

1,357.71

1,584.00

1,810.28

2,036.57

2,489.14

2,941.71

3,394.28

4,073.14

4,752.00

Llanilltud Gŵyr

1,344.30

1,568.36

1,792.40

2,016.46

2,464.56

2,912.67

3,360.76

4,032.92

4,705.08

Cilâ

1,336.64

1,559.42

1,782.19

2,004.97

2,450.52

2,896.07

3,341.61

4,009.94

4,678.27

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

1,339.89

1,563.21

1,786.52

2,009.84

2,456.47

2,903.10

3,349.73

4,019.68

4,689.63

Llangyfelach

1,350.38

1,575.45

1,800.51

2,025.58

2,475.71

2,925.84

3,375.96

4,051.16

4,726.36

Llanrhidian Uchaf

1,404.97

1,639.14

1,873.30

2,107.47

2,575.80

3,044.13

3,512.44

4,214.94

4,917.44

Llanrhidian Isaf

1,343.35

1,567.24

1,791.13

2,015.03

2,462.82

2,910.60

3,358.38

4,030.06

4,701.74

Llwchwr

1,358.25

1,584.64

1,811.01

2,037.39

2,490.14

2,942.90

3,395.64

4,074.78

4,753.92

Mawr

1,425.20

1,662.74

1,900.27

2,137.81

2,612.88

3,087.95

3,563.01

4,275.62

4,988.23

Y Mwmbwls

1,383.99

1,614.66

1,845.32

2,075.99

2,537.32

2,998.65

3,459.98

4,151.98

4,843.98

Penlle'r-gaer

1,335.81

1,558.45

1,781.08

2,003.72

2,448.99

2,894.26

3,339.53

4,007.44

4,675.35

Pennard

1,371.19

1,599.73

1,828.26

2,056.80

2,513.87

2,970.94

3,427.99

4,113.60

4,799.21

Pen-rhys

1,347.30

1,571.86

1,796.40

2,020.96

2,470.06

2,919.17

3,368.26

4,041.92

4,715.58

Pontarddulais

1,373.61

1,602.55

1,831.48

2,060.42

2,518.29

2,976.16

3,434.03

4,120.84

4,807.65

Pont-lliw a Thir-coed

1,355.49

1,581.41

1,807.32

2,033.24

2,485.07

2,936.90

3,388.73

4,066.48

4,744.23

Porth Einon

1,341.09

1,564.61

1,788.12

2,011.64

2,458.67

2,905.70

3,352.73

4,023.28

4,693.83

Reynoldston

1,356.45

1,582.53

1,808.60

2,034.68

2,486.83

2,938.98

3,391.13

4,069.36

4,747.59

Rhosili

1,351.85

1,577.16

1,802.47

2,027.78

2,478.40

2,929.02

3,379.63

4,055.56

4,731.49

Y Crwys

1,358.02

1,584.36

1,810.70

2,037.04

2,489.72

2,942.39

3,395.06

4,074.08

4,753.10

Cilâ Uchaf

1,351.10

1,576.29

1,801.47

2,026.66

2,477.03

2,927.40

3,377.76

4,053.32

4,728.88

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Holl rannau eraill ardal y Cyngor

1,329.74

1,551.37

1,772.99

1,994.62

2,437.87

2,881.12

3,324.36

3,989.24

4,654.12

 

109.

Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, Dangosyddion Darbodus/Y Trysorlys, Strategaeth Buddsoddi a Datganiad Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw 2024/25, Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2023/24 ac Adroddiad Blynyddol 2022/23. pdf eicon PDF 1 MB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, y Dangosyddion Darbodus, y Strategaeth Buddsoddi a'r Datganiad Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw ar gyfer 2024/25 a nodi Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2023/24.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a'r Dangosyddion Darbodus (Adrannau 2-7 yr adroddiad).

 

2)       Cymeradwyo'r Strategaeth Buddsoddi (Adran 8 yr adroddiad).

 

3)       Cymeradwyo'r Datganiad Darpariaeth Isafswm Refeniw (Adran 9 yr adroddiad).

 

4)       Nodi Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2023/24 (Atodiad H yr adroddiad).

 

5)       Nodi Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2022/23 (Atodiad I yr adroddiad).

110.

Strategaeth Gyfalaf 2024/25- 2028/29. pdf eicon PDF 806 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer y Strategaeth Gyfalaf sy'n cyfeirio ac yn llywio'r rhaglen gyfalaf chwe blynedd.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Strategaeth Gyfalaf 2023/24 - 2028/29.

111.

Cynigion enwi. pdf eicon PDF 245 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn ceisio enwi'r parc arfordirol newydd ger Arena Abertawe yn ffurfiol fel Parc Amy Dillwyn.

 

Roedd Amy Dillwyn (1845-1935) yn eicon poblogaidd o fywyd Abertawe, a oedd yn enwog am ei dull anghonfensiynol, ei rhyddfrydiaeth gadarn a'i ffeministiaeth ddidwyll. Ysgrifennodd chwe nofel; roedd ei themâu'n cynnwys ffeministiaeth a diwygiad cymdeithasol. Ymunodd ag Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau'r Bleidlais i Ferched ac ymgyrchodd dros bleidleisiau i fenywod.

 

Penderfynwyd enwi'r parc arfordirol ger Arena Abertawe fel Parc Amy Dillwyn.

112.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 475 KB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

1)       ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd dau ar bymtheg (17) o 'Gwestiynau Atodol' ar gyfer Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiynau atodol hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arnynt isod.

 

Cwestiwn 1

Gofynnodd y Cynghorydd S J Rice “Pwy sydd wedi bod yn gwario’r arian a glustnodwyd ar gyfer prosiect Skyline. A yw'n cael ei wario gan y Cyngor neu a yw'n cael ei drosglwyddo i Skyline iddynt ei wario mewn rhyw ffordd?"

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

Cwestiwn 3

Gofynnodd y Cynghorydd S J Rice “Ar ôl edrych ar y Rhaglen Gyfalaf Addysg a gwahaniaeth o fewn y rhaglen, wrth gymharu adroddiadau am y gyllideb y llynedd ag eleni, mae'n ymddangos bod gwahaniaeth sylweddol wedi bod yn y Rhaglen Gyfalaf Addysg. Pam mae Bryn Tawe, Tre-gŵyr, Casllwchwr a Phontybrenin yn wynebu oedi o tua 2 flynedd o ran eu hadeiladu?”

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

Cwestiwn 9

Gofynnodd y Cynghorydd P N May “A oes modd cael copi o’r hyn sydd wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r cynnig Teithio Llesol ar gyfer Gower Road, Sketty Road, Uplands Crescent a Walter Road gan gynnwys llwybr beicio dwy ffordd?”

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

2)       ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd tri (3) 'chwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' ar eu cyfer Rhan B.