Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

139.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim

 

 

Cofnodion:

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

 

 

140.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 237 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r cyngor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas â'r eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y cyngor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

 

141.

Cadarnhad o Benodiad ar gyfer Swydd y Cyfarwyddwr Lle. pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mark Wade wedi ei benodi

 

Cofnodion:

Dywedodd yr Aelod Llywyddol mai dim ond un ymgeisydd oedd wedi'i argymell i'r cyngor gan y Pwyllgor Penodiadau ar gyfer swydd y Cyfarwyddwr Lleoedd.

 

Cynigiodd y dylid rhoi Rheol 44 Gweithdrefn y cyngor "Atal Rheolau Gweithdrefnau" ar waith er mwyn hepgor y gofyniad:

1)  I'r ymgeisydd gael ei gyfweld gan y cyngor.

2) I’r cyngor gynnal pleidlais ysgrifenedig.

 

Penderfynwyd:

1) Rhoi Rheol 44 Gweithdrefn y Cyngor "Atal Rheolau Gweithdrefnau" ar waith er mwyn hepgor y gofyniad:

 

1)  I'r ymgeisydd gael ei gyfweld gan y cyngor.

2) I’r cyngor gynnal pleidlais ysgrifenedig.

 

Yna rhoddodd y Prif Weithredwr, Martin Nicholls, adborth o'r broses benodi a oedd yn ymwneud â phenodi Cyfarwyddwr Lleoedd a rhoddodd yr ymgeisydd gyflwyniad i'r cyngor.

 

Penderfynwyd :

2) Nodi'r diweddariad llafar ar y broses asesu.

 

3) Y byddai Mark Wade yn cael ei benodi'n Gyfarwyddwr Lleoedd.

 

Sylwer: Yn dilyn y penderfyniad hwn, gwahoddwyd Mark Wade i'r cyfarfod a chynigiwyd y swydd iddo.

 

Derbyniodd Mark Wade y swydd.