Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a
rhagfarnol posib a allai fod gan gynghorwyr a/neu
swyddogion ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog
gysylltiad i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd taflenni os nad oes unrhyw beth
i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd
ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr P Lloyd
ac A Pugh gysylltiad personol â Chofnod Rhif 104, "Mabwysiadu Cynllun
Gostyngiadau Treth y Cyngor". 2)
Datganodd y Cynghorwyr P R
Hood-Williams, L James, S E Keeton, P Lloyd, N L Matthews ac A H Stevens
gysylltiad personol â Chofnod Rhif 105, "Grŵp Cynghori AoHNE Gŵyr - Diwygiadau i'r Cylch Gorchwyl". 3)
Datganodd y Cynghorydd A
Davis, P Downing, A S Lewis a T M White gysylltiad personol â Chofnod Rhif 107,
"Gosod Rhenti'r Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2023/24". 4)
Datganodd y Cynghorydd T J
Hennegan gysylltiad personol â rhagfarnol â Chofnod
Rhif 107, "Gosod Rhenti'r Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2023/24" a
gadawodd y cyfarfod wrth i hyn gael ei ystyried. |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: a)
Lillian Lloyd, cyn-Faeres a chyn-Arglwydd Faeres Adroddodd yr Aelod
Llywydd gyda thristwch am farwolaeth ddiweddar Lillian
Lloyd, y cyn Faeres a'r cyn-Arglwyddes Faeres. Roedd Lillian
Lloyd yn wraig i'r Henadur Anrhydeddus, y cyn-Gynghorydd a'r cyn-Faer a'r
cyn-Arglwydd Faer, Alan Lloyd ac yn fam i'r cyn-Gynghorydd Clive Lloyd. b)
Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd Cyfeiriodd
yr Aelod Llywyddol at Ddinasyddion Abertawe a oedd wedi derbyn dyfarniadau yn
Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd. a)
Cadlywydd Urdd yr
Ymerodraeth Brydeinig (OBE) i)
Simon Phillip Tse. Prif Weithredwr, Gwasanaeth Masnachol y Goron. Am
wasanaethau i'r Sector Cyhoeddus ac i Gydraddoldeb Hiliol. b)
Aelod Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) i)
Dr Mohammed Qasim. Darlithydd a Swyddog Lles, Coleg Gŵyr,
Abertawe. Am wasanaethau i Ymchwil Academaidd ac i Bobl Ifanc c)
Gwobrau Buddsoddiadau
Cronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol (CPALl) 2022 Dywedodd yr Aelod
Llywyddol fod Tîm Cronfa Bensiwn y cyngor wedi ennill Gwobr y Strategaeth Newid
Hinsawdd Orau yng Ngwobrau Buddsoddiadau Cronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol (CPALl) 2022. Roedd y Wobr ar gyfer y camau breision sy'n
cael eu gwneud tuag at gyflawni portffolio buddsoddiadau sero net erbyn 2037.
Mae Tîm y Gronfa Bensiwn yn gofalu am bensiynau 48,000 o aelodau gyda chynllun
gwerth £2.9bn. Roedd Tîm y Gronfa Bensiwn hefyd ar restr fer CPALl ar gyfer Cronfa Bensiwn y Flwyddyn a'r Strategaeth
Fuddsoddi Orau. ch) Yvonne Lewis, Enillydd Gwobr Jeremy Allen 2022 am Ragoriaeth
mewn Trwyddedu. Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Yvonne Lewis (Trwyddedu, Cyngor Abertawe)
wedi ennill Gwobr Jeremy Allen 2022 am Ragoriaeth mewn Trwyddedu. Mae'r wobr
gan y Sefydliad Trwyddedu a Poppleston Allen Solicitors yn agored i unrhyw un sy'n gweithio yn y maes
trwyddedu a meysydd cysylltiedig ac mae'n ceisio cydnabod ymarferwyr
eithriadol. d)
Eitem Frys - Gosod Rhenti'r Cyfrif Refeniw Tai (CRT)
2023/24 Dywedodd yr aelod llywyddol y derbyniwyd eitem frys ac y
byddai'n cael ei hystyried yn hwyrach yn y cyfarfod. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: a)
Ymgynghoriad ar y Gyllideb Dywedodd Arweinydd y
Cyngor fod yr Ymgynghoriad ar y Gyllideb wedi cychwyn. Byddai'r cynnig
ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn cynorthwyo gyda'r pwysau ychwanegol ond
roedd y sefyllfa'n parhau i fod yn heriol. Trefnwyd y penderfyniad terfynol ar
gyfer y gyllideb ar gyfer Mawrth 2023. b)
Ardoll y Gwasanaeth Tân Dywedodd Arweinydd y
Cyngor ei fod yn gefnogol o'r Gwasanaeth Tân a Gwasanaethau Brys eraill. Roedd
o'r farn y dylai mwy o arian fod ar ddod oddi wrth Lywodraeth y DU i ariannu'r
gwasanaethau hyn yn ddigonol. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a
Gorllewin Cymru yn ystyried gosod ardoll o 18% ar Gyngor Abertawe, byddai hyn
yn ychwanegu 2.2% at fil Treth y Cyngor ym mhob cartref. c)
Ceisiadau Codi'r Gwastad Dywedodd Arweinydd y
Cyngor fod Cyngor Abertawe yn aros am benderfyniad Llywodraeth y DU ynghylch y
cais Codi'r Gwastad. Disgwylid y penderfyniad ar ddiwedd Ionawr 2023. Dywedodd
eu bod yn geisiadau gwych a'i fod yn obeithiol o gael canlyniad cadarnhaol. d)
Buddsoddiad Chwaraeon a
Lles Rhoddodd Arweinydd y Cyngor
ddiweddariad ar Fuddsoddiad Chwaraeon a Lles y cyngor. Dywedodd fod y cyngor
wedi ymrwymo i barhau i fuddsoddi mewn parciau, ardaloedd chwarae a
chyfleusterau sglefrio. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r
Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn
cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n
uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod
yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn
cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Mabwysiadu'r Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor. PDF 279 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn amlinellu'r gofyniad i
ystyried yn flynyddol a ddylid diwygio neu ddisodli Cynllun Gostyngiadau Treth
y Cyngor presennol y cyngor a'r gofyniad naill ai i fabwysiadu cynllun newydd
neu ailfabwysiadu'r cynllun presennol erbyn 31 Ionawr
2023. Roedd yr adroddiad hefyd yn gofyn am ailfabwysiadu'r
cynllun presennol fel y nodir yn Adran 3 yr adroddiad ar gyfer y cyfnod
2023/24. Penderfynwyd: 1)
Nodi Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a
Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 ("y Rheoliadau Gofynion
Rhagnodedig") gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (Senedd Cymru erbyn hyn) ar
26 Tachwedd 2013, fel y'u diwygiwyd. 2)
Nodi'r diwygiadau i'r "Rheoliadau Gofynion
Rhagnodedig" a gynhwysir yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth
Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2023, i'w
hystyried gan Senedd Cymru ar 17 Ionawr 2023. 3)
Nodi canlyniad yr ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd gan y
cyngor ym mis Tachwedd 2018 ar feysydd dewisol y cynllun presennol. 4)
Y bydd meysydd dewisol y cynllun presennol (2022/23) (fel
y'u nodir yn adran 3 o'r adroddiad hwn) yn aros yr un fath ar gyfer y cyfnod
2023/24. 5)
Y bydd y cyngor yn mabwysiadu'r cynllun fel y'i nodir yn
adran 3 o'r adroddiad hwn, i gynnwys unrhyw ddiwygiadau gorfodol all fod yn
angenrheidiol o ganlyniad i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor
(Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2023, yn amodol ar
y rheoliadau hynny'n cael eu cymeradwyo gan Senedd Cymru ac yn dod i rym. |
|
Grwp Cynghorol AoHNE Gwyr - diwygiadau i Gylch Gorchwyl. PDF 250 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaeth a Pherfformiad Corfforaethol
adroddiad a oedd yn amlinellu rôl Partneriaeth AoHNE Gŵyr gan ei fod yn
cynghori ac yn cefnogi'r cyngor yn ei reolaeth o AoHNE Gŵyr. Roedd yr
adroddiad yn gofyn am ddiwygio’r cylch gorchwyl a’r gweithdrefnau sy’n nodi sut
mae’r bartneriaeth yn gweithredu, yn bennaf y broses benodi ar gyfer aelodau
o'r grŵp cynghori ffurfiol sy'n rhanddeiliaid. Penderfynwyd mabwysiadu'r diwygiadau arfaethedig i Gylch
Gorchwyl Partneriaeth AoHNE Gŵyr fel y'u nodir yn yr adroddiad. |
|
Eitem Frys Cofnodion: Dywedodd yr Aelod Llywyddol, yn unol â pharagraff 100B (4)(b) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972, ei bod yn meddwl y dylid trafod adroddiad "Gosod
Rhenti’r Cyfrif Refeniw Tai 2023/24” yn y cyfarfod fel mater o frys. |
|
Housing Revenue Account (HRA) Rent Setting 2023/24 Cofnodion: Rheswm dros y mater brys: Cafodd Rheoliadau Deddf
Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 9A) 2022 ei rhoi ar waith ar 1
Rhagfyr 2022. Cyflwynodd y Ddeddf gyfnod hysbysiad statudol newydd o 2 fis.
Rhaid cymeradwyo'r adroddiad cyn diwedd mis Ionawr er mwyn sicrhau bod y cyngor
yn bodloni'r gofynion statudol am hysbysiad yn y Ddeddf. Cyflwynodd y Pennaeth Tai ac Iechyd y Cyhoedd adroddiad a oedd yn cynnig
cynnydd mewn rhenti a ffïoedd a thaliadau ar gyfer
eiddo yn y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer 2023/24. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r cynnydd arfaethedig mewn rhenti a ffïoedd a thaliadau ar gyfer tai'r cyngor: i)
Cynyddu rhenti'n unol â pholisi Llywodraeth Cymru fel y
nodwyd yn Adran 3.1 yr adroddiad. ii) Cymeradwyo ffïoedd, taliadau a lwfansau fel y'u hamlinellir yn Adran 3.2 yr adroddiad. |