Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â darpariaethau'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
cyngor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au)
f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol
o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A
o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas â'r eitemau
busnes a nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y
cyngor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol
fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au)
f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Penodi Prif Weithredwr. Cofnodion: Dywedodd yr Aelod
Llywyddol mai dim ond un ymgeisydd oedd wedi'i argymell i'r cyngor gan y
Pwyllgor Penodiadau ar gyfer swydd y Prif Weithredwr. Darparodd yr Ymgynghorydd Proffesiynol (Chris Llewellyn - CLlLC) adborth ar y broses
benodi a pherfformiad yr ymgeisydd. Gwahoddwyd Martin
Nicholls i mewn i'r cyfarfod. Rhoddodd yr
ymgeisydd, Martin Nicholls, gyflwyniad 10 munud ac atebodd tri chwestiwn a
ofynnwyd gan yr Aelod Llywyddol. Gadawodd Martin
Nicholls y cyfarfod. Darparodd yr
Ymgynghorydd Proffesiynol (Chris Llewellyn - CLlLC)
adborth ar y cyflwyniad ac atebion yr ymgeisydd. Penderfynwyd: 1)
Rhoi
Rheol 44 Gweithdrefn y Cyngor "Atal Rheolau Gweithdrefnau" ar waith
er mwyn hepgor y gofyniad i gynnal pleidlais ysgrifenedig. 2)
Penodi
Martin Nicholls yn Brif Weithredwr Dinas a Sir Abertawe. Sylwer: Yn dilyn y penderfyniad hwn, gwahoddwyd
Martin Nicholls yn ôl i'r cyfarfod a chynigiwyd y
swydd iddo. Derbyniodd Martin
Nicholls y swydd. |