Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

98.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib a allai fod gan gynghorwyr a/neu swyddogion ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd taflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

99.

Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Kevin Johns MBE.

Cofnodion:

Croesawodd y Dirprwy Arglwydd Faer, Arglwydd Raglaw, Uchel Siryf, arweinwyr dinesig, gwesteion nodedig, aelodau'r cyngor a Kevin Johns i gyfarfod seremonïol o'r cyngor.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y cyngor at gyfarfod y cyngor a gynhaliwyd ar 3 Tachwedd 2022 (cyfeirir ato yng Nghofnod 79) lle penderfynodd y cyngor roi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Kevin Johns.

 

Siaradodd Arweinydd y Cyngor, arweinydd yr wrthblaid fwyaf ac arweinwyr y grwpiau gwleidyddol eraill o blaid y cynnig.

 

Ganed Kevin Johns ym Mhlas-marl, Abertawe ac mae'n wyneb adnabyddus ym myd adloniant. Mae wedi ymroi ei fywyd i adloniant ac i waith elusen. Mae Kevin Johns wedi cael ei alw’n "Mr Abertawe" ac yn y blynyddoedd diweddar bu ar frig pleidlais Eiconau Abertawe.

 

Penderfynwyd rhoi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Kevin Johns.

 

Cyflwynodd yr Arglwydd Faer y Sgrôl Rhyddid er Anrhydedd i Kevin Johns gan roi Rhyddid Dinas a Sir Abertawe iddo.

 

Ymatebodd Kevin Johns drwy ddiolch i'r cyngor am yr anrhydedd.