Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

108.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib a all fod gan gynghorwyr a/neu swyddogion ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen

"Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Cynghorwyr

 

1)   Datganodd y Cynghorydd S M Jones Gysylltiad Personol a Rhagfarnol â Chofnod 114 "Deiseb - Meysydd Chwarae Waunarlwydd" a gadawodd y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried.

 

2)  Datganodd y Cynghorwyr C A Holley, D H Jenkins, E J King, A Pugh ac M T             Tribe Gysylltiad Personol â Chofnod 115 "Datganiad Polisi Cyflog 2023/24"

 

3)    Datganodd y Cynghorydd P N May Gysylltiad Personol a Rhagfarnol â Chofnod 119 "Hysbysiad o Gynnig – Bil Gwasanaeth Gofynnol" a gadawodd y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried.

 

Swyddogion

 

4)    Datganodd G Borsden, A Chard, C Davies, H G Evans, T Meredith, M Nicholls, a B Smith Gysylltiad Personol a Rhagfarnol â Chofnod 115 "Datganiad Polisi Cyflog 2023/24" a gadawsant y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried.

 

Sylwer: Ni adawodd A Chard a H G Evans gan fod angen iddynt aros i gyflwyno'r adroddiad, cynnal y bleidlais a chofnodi'r penderfyniad.

 

109.

Cofnodion. pdf eicon PDF 268 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)           Cyfarfod cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2022.

2)           Cyfarfod Seremonïol y cyngor a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2022.

3)           Cyfarfod Arbennig y cyngor a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2023.

 

110.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

 

111.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

a) Cydymdeimladau

 

i) Tad y Cynghorydd Fiona Gordon

 

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar tad y Cynghorydd Fiona Gordon. 

 

ii) Clare Drakeford, gwraig Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford

 

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar Clare Drakeford, gwraig Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

 

Safodd pawb a oedd yn bresennol mewn distawrwydd fel arwydd o gydymdeimlad a pharch.

 

b) Darllediad Byw

 

Atgoffodd yr Aelod Llywyddol bob aelod o'r cyhoedd fod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu'n fyw. Nododd fod yn rhaid bod yn ofalus i osgoi unrhyw sylwadau sarhaus neu ddifrïol yn erbyn Swyddogion, Cynghorwyr neu aelodau eraill o'r cyhoedd

112.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

a)    Cynghorydd Hyrwyddo Beicio

 

Mae'r Cynghorydd Joe A Hale wedi cael ei benodi'n Gynghorydd Hyrwyddo Beicio. Gellir gweld rhestr o Gynghorwyr Hyrwyddo yn www.abertawe.gov.uk/CynghorwyrHyrwyddo

 

b)     Llwyddiant Cais Codi'r Gwastad

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Llywodraeth y DU wedi cymeradwyo cais codi'r gwastad gan Gyngor Abertawe ar gyfer y prosiect, sy'n bwriadu adfywio Cwm Tawe Isaf.

 

Mae'r prosiect mawr newydd a fydd yn diogelu treftadaeth ddiwydiannol Abertawe yn rhoi bywyd newydd i goridor afon Tawe ac yn creu swyddi a buddsoddiad wedi cael hwb ariannol o £20 miliwn.

 

113.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu.

Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser.

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Penderfyniad:

Nodwyd

Cofnodion:

Gofynnodd David Davies Gwestiwn Cyhoeddus mewn perthynas â Chofnod 118 "Hysbysiad o Gynnig - Bil Gwasanaeth Gofynnol".

 

Ymatebodd Arweinydd y Cyngor.

 

114.

Deiseb - Caeau Chwarae Waunarlwydd. pdf eicon PDF 306 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Nodwyd y ddeiseb - ni chymerwyd unrhyw gamau

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a'r Swyddog Monitro adroddiad a oedd yn amlinellu manylion cefndir Deiseb Meysydd Chwarae Waunarlwydd a oedd yn cynnwys dros 500 o lofnodion.

 

Anerchodd Suzanne Jeffreys (Prif Ddeisebydd) y cyngor ac amlinellodd y sail a'r cefndir ar gyfer ei chyflwyno.

 

Ymatebodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth.

 

Bu'r cyngor yn trafod y Ddeiseb.

 

Penderfynwyd nodi'r Ddeiseb, ac ni chymerir unrhyw gamau.

 

115.

Datganiad Polisi Tâl 2023/24. pdf eicon PDF 220 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer Polisi Cyflog Dinas a Sir Abertawe ar gyfer 2023/24.

 

Penderfynwyd cymeradwyo a chyhoeddi Datganiad Polisi Cyflog 2023-2024 fel a atodwyd yn Atodiad A yr adroddiad.

 

116.

Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus. pdf eicon PDF 311 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn ceisio mabwysiadu Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus.

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus fel yr amlinellir yn yr adroddiad a'i hychwanegu at Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Sylwer: Gofynnodd y Cynghorwyr L V Walton ac R C Stewart i ystyriaeth gael ei rhoi, yn ystod adolygiad nesaf y Strategaeth, i ychwanegu paragraff yn amlinellu pwysigrwydd y Pwyllgorau Datblygu Corfforaethol.

 

117.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 542 KB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

 

Cofnodion:

 

1)         ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd chwe (6) 'Chwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiynau atodol hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arnynt isod.

 

Cwestiwn 2

Amlinellodd y Cynghorydd S Bennett bryderon yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y Parc Arfordirol. Mae'n debygol bod natur anghyflawn y Parc Arfordirol yn achosi llawer o'r ymddygiadau gwrthgymdeithasol hyn. A all yr Aelod Cabinet ddarparu llinell amser clir ar gyfer cwblhau'r Parc Arfordirol?

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

2)         ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd dau (2) 'gwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol ar eu cyfer' Rhan B.

 

 

118.

Hysbysiad o Gynnig - Bil Isafswm Gwasanaeth. pdf eicon PDF 220 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

 

Cofnodion:

Fe'i cynigiwyd gan y Cynghorydd R C Stewart a'i eilio gan y Cynghorydd M Jones.

 

"Mae'r cyngor hwn wedi'i frawychu gan ddeddfwriaeth ddrafft Llywodraeth y DU sy'n cynnig cyfyngu ar allu gweithwyr iechyd i arfer eu hawl i streicio.

 

Bydd y ddeddfwriaeth wael a diangen hon yn atal llawer o alwedigaethau, gan gynnwys meddygon, nyrsys, a gweithwyr iechyd eraill rhag streicio, neu'n eu rhoi mewn sefyllfa lle maent yn wynebu cael eu diswyddo.

 

Mae safonau gwasanaeth gofynnol eisoes yn cael eu cynnal o fewn y gwasanaeth iechyd yn ystod gweithredu diwydiannol, felly mae'r ddeddfwriaeth hon yn gwbl ddiangen, ac yn edrych fel ymosodiad ideolegol ar hawliau gweithwyr, ar adeg pan taw'r prif fygythiad i ddiogelwch cleifion yw'r anallu i recriwtio staff oherwydd tâl annigonol ac amodau gwaith gwael.

 

Mae'r cyngor yn nodi bod y ddeddfwriaeth hon yn dod o'r un Llywodraeth Dorïaidd a oedd, yn ystod pandemig COVID, yn ein hannog ni i gyd i glapio ar gyfer y meddygon a'r nyrsys hyn a oedd yn peryglu eu bywydau ddydd ar ôl dydd, tra roedd gweinidogion y Llywodraeth Dorïaidd, a'r prif weinidog ei hun ar y pryd, yn cynnal partïon ac yn torri'r rheolau roedden nhw'n disgwyl i'r wlad gyfan eu dilyn.

 

Mae'r cyngor hwn yn condemnio camau Llywodraeth y DU wrth gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon ac yn galw ar y prif weinidog a'i weinidogion i dynnu'r cynigion dybryd hyn yn ôl. Rydym hefyd yn galw ar Arweinydd y Cyngor i ysgrifennu at y prif weinidog yn y telerau cryfaf posib i amlinellu ein pryderon."

 

Yn unol â Rheol 30 Gweithdrefn y Cyngor sef "Pleidleisio", gofynnwyd am bleidlais gofnodedig. Cofnodwyd y pleidleisio fel a ganlyn:

 

O blaid (59 o gynghorwyr)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

C Anderson

V A Holland

M W Locke

S Bennett

C A Holley

N L Matthews

P N Bentu

B Hopkins

J D McGettrick

P M Black

D H Hopkins

D Phillips

J P Curtice

O G James

C L Philpott

A Davis

Y V Jardine

J E Pritchard

P Downing

A J Jeffery

S Pritchard

C R Doyle

D H Jenkins

A Pugh

M Durke

J W Jones

S J Rice

C R Evans

M H Jones

K M Roberts

C M J Evans

M Jones

R V Smith

V M Evans

S M Jones

A H Stevens

R A Fogarty

S A Joy

R C Stewart

R Francis-Davies

S E Keeton

L G Thomas

N Furlong

E J King

M S Tribe

L S Gibbard

E T Kirchner

G D Walker

K M Griffiths

A S Lewis

L V Walton

H J Gwilliam

M B Lewis

T M White

J A Hale

W G Lewis

R A Williams

T J Hennegan

P Lloyd

-

 

Yn erbyn (1 cynghorydd)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

R D Lewis

-

-

 

Ymwrthod (7 cynghorydd)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

M Bailey

F D O’Brien

B J Rowlands

P R Hood-Williams

A J O’Connor

W G Thomas

L R Jones

-

-

 

Wedi gadael y cyfarfod oherwydd datganiad o fudd ( cynghorydd)

Cynghorydd

Cynghorydd

Cynghorydd

P N May

-

-

 

 

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod.