Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

68.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib a allai fod gan gynghorwyr a/neu swyddogion ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd taflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

69.

Cyflwyno Teitl yr Henadur Anrhydeddus. pdf eicon PDF 108 KB

Cofnodion:

Dywedodd yr Arglwydd Faer fod y cyngor yn ei gyfarfod ar 7 Gorffennaf 2022 wedi penderfynu cyflwyno'r teitl Henadur Anrhydeddus i'r cyn-Gynghorwyr canlynol, June E Burtonshaw, Mark C Child, D Gareth Sullivan a Des W W Thomas, i gydnabod eu gwasanaeth hir a nodedig i Ddinas a Sir Abertawe a'i awdurdodau rhagflaenol. Cyflwynwyd y teitlau hynny mewn Cyfarfod Seremonïol y cyngor.

 

Daw'r teitl o'r hen deitl Seisnig “Ealdorman”, sy'n golygu "dyn hŷn" yn llythrennol ac felly ‘henadur’, ac fe'i defnyddiwyd gan y Prif Foneddigion a oedd yn llywyddu'r siroedd. Nid yw teitl Henadur Anrhydeddus yn wleidyddol.

 

Defnyddir y teitl yn Ninas a Sir Abertawe fel gwobr i unigolion er mwyn cydnabod eu gwasanaethau hir ac amlwg i'r cyngor, ar yr amod bod y meini prawf wedi'u cyflawni.

 

June E Burtonshaw

 

Bu’r cyn-Gynghorydd a'r cyn-Arglwydd Faer, June E Burtonshaw, yn gwasanaethu cymuned Penderi. Roedd yn Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe o 2002 i 2003. Roedd ei chyfnodau o wasanaethu'n cynnwys:

 

Ø    Cyngor Dinas Abertawe. 5 Mai 1983 i 31 Mawrth 1996.

Ø    Dinas a Sir Abertawe. 4 Mai 1995 i 9 Mai 2022.

 

Mark C Child

 

Bu’r cyn-Gynghorydd a'r cyn-Arglwydd Faer, Mark C Child, yn gwasanaethu cymuned West Cross. Roedd yn Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe yn 2020/2021. Roedd ei gyfnodau o wasanaeth yn cynnwys:

 

Ø    Dinas a Sir Abertawe. 6 Mai 1999 i 9 Mai 2022.

 

D Gareth Sullivan

 

Bu’r cyn-Gynghorydd a'r cyn-Arglwydd Faer, D Gareth Sullivan, yn gwasanaethu cymuned Llangyfelach. Roedd yn Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe o 2008 i 2009. Roedd ei gyfnodau o wasanaethu'n cynnwys:

 

Ø    Cyngor Bwrdeistref Dyffryn Lliw. 7 Mai 1987 i 31 Mawrth 1996.

Ø    Dinas a Sir Abertawe. 4 Mai 1995 i 9 Mai 2022.

 

Des W W Thomas

 

Bu’r cyn-Gynghorydd a'r cyn-Arglwydd Faer, Des W W Thomas, yn gwasanaethu cymuned West Cross. Roedd yn Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe o 1996 i 1997. Roedd ei gyfnodau o wasanaethu'n cynnwys:

 

Ø    Cyngor Bwrdeistref Abertawe. 4 Mai 1972 i 31 Mawrth 1974.

Ø    Cyngor Dinas Abertawe. 1 Ebrill, 1974 tan 5 Mai 1976.

Ø    Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg. 1 Tachwedd 1979 i 31 Mawrth 1996.

Ø    Dinas a Sir Abertawe. 4 Mai 1995 i 9 Mai 2022.

 

Talodd Arweinydd y Cyngor ac Arweinydd yr Wrthblaid Fwyaf deyrnged i wasanaeth hir a nodedig y cyn-Gynghorwyr hyn. Ymatebodd y pedwar Henadur Anrhydeddus.