Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

35.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion mewn eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog fuddiannau i'w ddatgan Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

36.

Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Gangen Abertawe o Gymdeithas y Llynges Fasnachol.

Cofnodion:

Croesawodd yr Arglwydd Faer yr Arglwydd Raglaw, yr Uchel Siryf, arweinwyr dinesig, gwesteion arbennig, aelodau'r cyngor a Changen Abertawe o Gymdeithas y Llynges Fasnachol i gyfarfod seremonïol y cyngor.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at gyfarfod y cyngor a gynhaliwyd ar 10 Medi 2020 lle penderfynodd y cyngor roddi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Gangen Abertawe o Gymdeithas y Llynges Fasnachol.

 

Siaradodd Arweinydd yr Wrthblaid Fwyaf, Arweinydd y Grŵp Ceidwadol a'r Cynghorydd Hyrwyddo ar gyfer y Lluoedd Arfog dros blaid y cynnig.

 

Penderfynwyd rhoddi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Gangen Abertawe o Gymdeithas y Llynges Fasnachol.

 

Yna cyflwynodd yr Arglwydd Faer y Sgrôl Rhyddid er Anrhydedd i Gangen Abertawe o Gymdeithas y Llynges Fasnachol, gan roi Rhyddid Dinas a Sir Abertawe iddi.

 

Ymatebodd Capten Roy Griffiths o Gangen Abertawe o Gymdeithas y Llynges Fasnachol drwy ddiolch i'r cyngor am yr anrhydedd.