Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

85.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib a all fod gan gynghorwyr a/neu swyddogion ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd taflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorwyr M Bailey, S Bennett, P N Bentu, P M Black, J P Curtice, A Davis, A M Day, P Downing, P Downing, C R Doyle, M Durke, C R Evans, C M J Evans, V M Evans, E W Fitzgerald, R A Fogarty, R Francis-Davies, L S Gibbard, F M Gordon, K M Griffiths, H J Gwilliam, J A Hale, T J Hennegan, V A Holland, C A Holley, B Hopkins, D H Hopkins, L James, O G James, Y V Jardine, A J Jeffery, D H Jenkins, J W Jones, L R Jones, M Jones, S M Jones, S A Joy, S E Keeton, E J King, E T Kirchner, H Lawson, A S Lewis, M B Lewis, W G Lewis, P Lloyd, M W Locke, N L Matthews, P M Matthews, P N May, J D McGettrick, F D O'Brien, A J O'Connor, D Phillips, C L Philpott, J E Pritchard, S Pritchard, A Pugh, S J Rice, K M Roberts, B J Rowlands, R V Smith, A H Stevens, R C Stewart, M S Tribe, G D Walker, L V Walton, T M White ac R A Williams gysylltiad personol â Chofnod 95, "Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2023-2024 - Ymgynghoriad"

 

2)              Datganodd y Cynghorydd J D McGettrick gysylltiad personol â Chofnod 97 "Cwestiynau'r Cynghorwyr" - Cwestiwn 12.

86.

Cofnodion. pdf eicon PDF 228 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod Seremonïol y cyngor a gynhaliwyd ar 28 Hydref 2022.

 

2)              Cyfarfod Cyffredin y Cyngor a gynhaliwyd ar 3 Tachwedd 2022 yn amodol ar ychwanegu'r Cynghorydd David Phillips at y rhestr o ymddiheuriadau am absenoldeb.

87.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 202 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

88.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

a)              Cydymdeimladau

 

i)                Y Cyn-Gynghorydd Huw Rees

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y Cyn-gynghorydd Huw Rees. Bu Huw yn cynrychioli Ward Sgeti yn Ninas a Sir Abertawe rhwng 6 Mai 1999 a 4 Mai 2017. Gwasanaethodd Huw hefyd fel Swyddog Llywyddu (Cadeirydd y Cyngor).

 

Safodd pawb i ddangos cydymdeimlad a pharch.

 

b)              Gwobrau'r Gymdeithas Rendro a Chladin wedi'u hinswleiddio (INCA) 2022

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod INCA ar flaen y gad o ran trawsnewid effeithlonrwydd ynni cartrefi a busnesau yn y DU. Eu nod yw cynrychioli'r diwydiant Inswleiddio Waliau Allanol drwy ragoriaeth dechnegol a chydweithio effeithiol.

 

Yn ddiweddar, cyrhaeddodd Cyngor Abertawe'r rhestr fer mewn dau gategori yng Ngwobrau INCA 2022. Y categorïau yw:

 

i)                Rhagoriaeth Inswleiddio Waliau Allanol (IWA) - Rhagoriaeth Bensaernïol neu Effaith Amgylcheddol.

ii)               Rendro yn unig – wedi'i inswleiddio mewn man arall. (Rhagor o gartrefi – Colliers Way, Pen-lan).

 

Dywedodd fod Cyngor Abertawe wedi ennill y wobr Rhagoriaeth Insiwleiddio Waliau Allanol (IWA) - Rhagoriaeth Bensaernïol neu Effaith Amgylcheddol yn y seremoni wobrwyo ar 17 Tachwedd 2022. Roedd y wobr mewn perthynas â gwaith Dat-garboneiddio/IWA yn Jones Terrace, Evans Terrace a Wilks Row.

 

c)              Her Ysgolion Cynaliadwy Llywodraeth Cymru

 

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol Dîm Cyfalaf yr adran Addysg am gyrraedd y rhestr fer am eu cais arloesol a chydweithredol ar gyfer Her Ysgolion Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

 

Mae cynllun y Tîm i ddatblygu a chyflwyno adeilad ysgol gynradd garbon sero-net a all wneud cyfraniad cadarnhaol at yr amgylchedd a'r dirwedd o'i gwmpas wedi cyrraedd y rhestr fer. Os fydd y cydweithio'n llwyddiannus yn y cam nesaf, bydd yn cynnwys dysgwyr, staff, rhieni, y cymuned a chadwyni cyflenwi drwy bob cam o'r gwaith dylunio, adeiladu, a bywyd gweithredol ysgol wirioneddol gynaliadwy yn Abertawe.

 

Bydd yr Her yn defnyddio agweddau cynaliadwyedd y cwricwlwm newydd a sut mae ein dysgwyr ifanc yn defnyddio hyn ar gyfer eu 'cymuned gynaliadwy ar gyfer dysgu' eu hunain.

 

d)              Gwobrau Tai Cymru 2022

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Cyngor Abertawe wedi ennill Gwobr y Stori Dai Orau yng Ngwobrau Tai Cymru 2022. Mae'r Gwobrau’n dathlu rhagoriaeth o fewn sector Tai Cymru. Rhoddwyd y wobr i dîm “Rhagor o Gartrefi" Cyngor Abertawe ar gyfer cynllun Tŷ Bryn.

 

Cyflwynwyd y prosiect yn ystod y pandemig, i ddarparu llety parhaol a dros dro ychwanegol. Roedd yn cynnwys prynu hen ganolfan addysg, adnewyddu'r prif adeilad i ddarparu 4 fflat 1 ystafell wely, a phrynu 4 pod 1 ystafell wely a wnaed mewn ffatri ac yna eu gosod ar y safle gyda chraen.

89.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

a)              Cymorth a roddwyd gan Gyngor Abertawe yn ystod yr argyfwng costau byw

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ers dechrau'r flwyddyn, mae'r cyngor wedi talu bron £20m mewn grantiau i deuluoedd ac unigolion sy'n ei chael hi'n anodd, gan gynnwys mwy na 76,000 o daliadau costau byw, 40,000 yn rhagor o daliadau cymorth costau byw disgresiynol, 20,000 o daliadau tanwydd a 4,500 o daliadau i ofalwyr di-dâl.

 

Mae degau o filoedd o deuluoedd ledled Abertawe wedi elwa o filiynau o bunnoedd mewn grantiau a thaliadau eraill i'w helpu drwy'r argyfwng costau byw. Ond mae miloedd mwy sy'n gymwys am daliad cymorth tanwydd o £200 neu grant costau byw yn cael eu hannog i gyflwyno'u ceisiadau.

 

Cynhelir y cynllun taliadau tanwydd tan 5.00pm ar 28 Chwefror 2023 y flwyddyn nesaf ac mae'r cynllun cymorth costau byw disgresiynol yn cau ar ddiwedd mis Mawrth 2023. Dylai unrhyw un sy'n meddwl y gall fod yn gymwys ond sydd heb wneud cais gyflwyno cais cyn bo hir.

 

Mae'r cymorth a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn ychwanegol at unrhyw daliadau tanwydd y gaeaf a wneir gan Lywodraeth y DU i bensiynwyr drwy'r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae mwy o fanylion am y cynllun, y ffurflen gais ar-lein a Chwestiynau Cyffredin ar wefan y Cyngor www.abertawe.gov.uk/cymorthtanwydd

 

b)              Y Diweddaraf am y Gyllideb

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Cyllideb y DU wedi ei chyhoeddi ers cyfarfod diwethaf y cyngor. Methodd Canghellor y Trysorlys â chyhoeddi unrhyw gymorth ynni ar gyfer y sector cyhoeddus. Dewiswyd yn benodol i eithrio cymorth ynni ar gyfer Ysgolion, Cartrefi Gofal, a Chymuned. Dewis gwleidyddol gan y Llywodraeth Geidwadol oedd hwn. Dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai'r Llywodraeth yn newid ei meddwl ar y mater hwn.

 

c)              His Dark Materials

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai'r Cynghorydd E J King yn agor yr Arddangosfa "His Dark Materials" yn Oriel Gelf Glynn Vivian yn ddiweddarach y noson honno. Mae'r arddangosfa'n rhad ac am ddim ac ar agor i bawb.

 

d)              Gorymdaith y Nadolig

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor i Dîm Digwyddiadau Arbennig y Cyngor am gynnal Gorymdaith Nadolig ardderchog yn ddiweddar. Roedd yr Orymdaith yn cynnwys dros 70 o atyniadau a fflotiau.

 

e)              Gyda'n gilydd dros y Nadolig

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y bydd Cyngor Abertawe, mewn partneriaeth â JR Events & Catering, yn rhedeg menter Gyda'n Gilydd dros y Nadolig unwaith eto eleni. Nod y digwyddiad yw darparu cinio Nadolig am ddim i'r rheini sy'n ddigartref, yn unig neu mewn angen. Caiff ei gynnal rhwng 12pm a 3.00pm ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr 2022 yn Neuadd Brangwyn. Anogir cynghorwyr ac eraill i wirfoddoli drwy e-bostio events@jr-eventsandcatrering.co.uk

 

f)                Prosiectau Mawr - Eden Las a Skyline

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor yr wybodaeth ddiweddaraf am ddau brosiect mawr o fewn Abertawe, sef Eden Las a Skyline.

 

g)              Martin Nicholls – Prif Weithredwr

 

Llongyfarchodd Arweinydd y Cyngor Martin Nicholls a’i groesawu i'w gyfarfod cyntaf o'r cyngor ers cael ei benodi'n Brif Weithredwr Dinas a Sir Abertawe.

90.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu.

Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser.

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd cwestiynau cyhoeddus mewn perthynas â Chofnod 92 "Ymrwymiadau Polisi - Y 100 Niwrnod Cyntaf" a "Chofnod 97 "Cwestiynau Cynghorwyr" - Cwestiwn 13.

91.

Datganiad Cyllideb Canol Blwyddyn 2022/23.(Llafar)

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Adran 151 ddiweddariad llafar ar Ddatganiad Cyllideb Canol Tymor 2022-2023.

92.

Ymrwymiadau polisi - Y 100 Niwrnod Cyntaf. pdf eicon PDF 304 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cynghorydd adroddiad gwybodaeth a oedd yn tynnu sylw at gyflawniadau a llwyddiannau Cyngor Abertawe yn ystod y "100 niwrnod cyntaf", yn unol â'r Datganiad Ymrwymiadau Polisi y cytunwyd arno yn ystod cyfarfod y cyngor ar 7 Gorffennaf 2022.

93.

Council Procedure Rule 4 "Smoking / Refreshments / Mobile Phones / Comfort Break

Cofnodion:

Yn unol â Rheol 4 Gweithdrefn y Cyngor gohiriodd yr Aelod Llywyddol y cyfarfod er mwyn hwyluso egwyl o 10 munud.

94.

Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor - 2023/2024. pdf eicon PDF 290 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn manylu ar gyfrifo sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer Dinas a Sir Abertawe, ei Gynghorau Cymuned/Tref ac Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe ar gyfer 2023/2024. Mae'n ofynnol i'r cyngor bennu Sylfeini Treth y Cyngor erbyn 31 Rhagfyr 2022.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r Sylfeini Treth y Cyngor ar gyfer 2023/2024.

 

2)              Yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) (Cymru) 1995, fel y'u diwygiwyd, dyma fydd cyfrifiad Dinas a Sir Abertawe ar gyfer y flwyddyn 2023/2024:

 

 

Ar gyfer yr ardal gyfan

91,454

 

 

 

Ar gyfer ardaloedd Cynghorau Cymuned/Tref:

 

 

Llandeilo Ferwallt

2,006

 

Clydach

2,561

 

Gorseinon

3,232

 

Tre-gŵyr

1,966

 

Pengelli a Waungron

447

 

Llanilltud Gŵyr

343

 

Cilâ

2,131

 

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

517

 

Llangyfelach

943

 

Llanrhidian Uchaf

1,559

 

Llanrhidian Isaf

339

 

Casllwchwr

3,411

 

Mawr

755

 

y Mwmbwls

9,909

 

Penllergaer

1,418

 

Pennard

1,539

 

Pen-rhys

483

 

Pontarddulais

2,299

 

Pontlliw a Thircoed

1,006

 

Porth Einon

467

 

Reynoldston

317

 

Rhosili

207

 

Y Crwys

698

 

Cilâ Uchaf

598

 

 

Ar gyfer ardal Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe

63,651

 

95.

Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (PACGA) 2023-2024 - Ymgynghoriad. pdf eicon PDF 372 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn hysbysu'r cyngor o Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) 2023-2024 ac yn amlinellu'r penderfyniadau a gynigiwyd gan yr IRPW. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys ymateb drafft argymelledig Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd i'r ymgynghoriad, a gyflwynwyd ar 7 Tachwedd 2022.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Y dylid nodi Adroddiad Blynyddol drafft yr IRPW ar gyfer 2023-2024.

 

2)              Mabwysiadwyd Adran 3 ac Atodiad A yr adroddiad fel ateb yr Awdurdod i'r IRPW.

96.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 112 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad  adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyo'r enwebiadau/diwygiadau i wahanol Gyrff y Cyngor.

 

Penderfynwyd diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn:

 

1)              Pwyllgor Datblygu Corfforedig Trawsnewid Sefydliadol

Tynnu enw'r Cynghorydd M Jones.

Ychwanegu lle Llafur gwag.

97.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 591 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

1)       ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd dau ar bymtheg (17) o 'Gwestiynau Atodol' ar gyfer Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiynau atodol hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arnynt isod.

 

Cwestiwn 6

Gofynnodd y Cynghorydd J W Jones am ddiweddariad ynghylch y porthladdoedd gwefru trydan ar gyfer cerbydau trydanol sydd wedi'u cynllunio ar gyfer Cilâ.

 

Cwestiwn 7

Gofynnodd y Cynghorydd S J Rice, “Nawr bod cais Castell-nedd Port Talbot/Sir Benfro wedi’i gefnogi, a fyddai busnesau lleol yn Abertawe’n gallu cael mynediad at arian neu fudd-daliadau o hyd os bydd y cais Porthladd Rhydd yn llwyddiannus?”

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

2)       ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd un (1) 'cwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' Rhan B.