Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

70.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)           Datganodd y Cynghorydd P N Bentu, P Downing, M Durke, C M J Evans, Y V Jardine, L James, J W Jones, M H Jones, S J Rice, K M Roberts, G D Walker, T M White gysylltiad personol â Chofnod 77 “Gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.”;

 

2)           Datganodd y Cynghorydd N L Matthews gysylltiad personol â rhagfarnol a Chofnod 79 “ Rhyddid Anrhydeddus Dinas a Sir Abertawe - Kevin Johns MBE” a gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried

 

3)           Datganodd y Cynghorydd C M J Evans gysylltiad personol â Chofnod 80 “ Cwestiynau gan y Cynghorwyr– c5”;

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib a allai fod gan gynghorwyr a/neu swyddogion ar yr agenda.

 

Atgoffodd Gynghorwyr a Swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd taflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw gysylltiad ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

1)            Datganodd y Cynghorwyr P N Bentu, P Downing, M Durke, C M J Evans, Y V Jardine, L James, J W Jones, M H Jones, S J Rice, K M Roberts, G D Walker, T M White gysylltiad personol â Chofnod 77 "Gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016."

2)            Datganodd y Cynghorydd N L Matthews bod iddo Fudd Personol a Rhagfarnol o Gofnod 79 "Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe - Kevin Johns MBE" a gadawodd cyn i'r eitem gael ei hystyried.

3)            Datganodd y Cynghorydd C M J Evans gysylltiad personol â Chofnod 80 "Cwestiynau i Gynghorwyr – C5".

71.

Cofnodion. pdf eicon PDF 334 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

1)            Cyfarfod Cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2022.

2)            Cyfarfod Arbennig y Cyngor a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2022.

 

72.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 205 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng nghyfarfod cyffredinol diwethaf y cyngor.

 

Nododd y Cynghorydd C A Holley ei fod hefyd wedi chwilio am wybodaeth am drosglwyddo adeiladau mewn perthynas ag ymateb 3.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

73.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

a)            Cydymdeimladau

 

i)             Iris Richard, cyn-Arglwydd Faeres

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar Iris Richard, cyn-Arglwydd Faeres. Roedd Iris yn wraig i'r cyn-Arglwydd Faer a'r Cyn-gynghorydd, yr Henadur Anrhydeddus Ioan M Richard.

 

ii)            Y Cyn-gynghorydd Miles Thomas  

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y Cyn-gynghorydd Miles Thomas. Bu Miles yn cynrychioli Ward Newton yn Ninas a Sir Abertawe rhwng 21 Hydref 2010 a 4 Mai 2017.

 

iii)          Y Cyn-gynghorydd Sonya Morris

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y Cyn-gynghorydd Sonya Morris. Bu Sonya yn cynrychioli Ward yr Uplands yng Nghyngor Dinas Abertawe o 1992 i 1996.

 

Safodd pawb a oedd yn bresennol mewn distawrwydd fel arwydd o gydymdeimlad a pharch.

 

b)           Gwobrau Cronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol (CPALl) 2022

 

Cyhoeddodd yr Aelod Llywyddol fod Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer mewn sawl categori yng Ngwobrau CPALl 2022.  Mae'r Gwobrau'n cydnabod rhagoriaeth ym maes buddsoddiadau cronfeydd pensiwn. Cyhoeddir yr enillwyr ar 15 Rhagfyr 2022. Y categorïau ar y rhestr fer yw:

 

i)          Cronfa CPLlL y Flwyddyn (Asedau dan £2.5 biliwn ar 31 Mawrth 2022).

ii)         Strategaeth Buddsoddi CPLlL y Flwyddyn.

iii)       Y Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd Orau.

 

c)            Gwobrau Estates Gazette 2022

 

Cyhoeddodd yr Aelod Llywydd fod Dinas a Sir Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Dinas y Flwyddyn Gwobrau Estates Gazette 2022. Nod y Wobr yw dathlu dinasoedd y DU a'r gwaith y maen nhw'n ei wneud i greu lleoedd anheddol a llwyddiannus. Cyhoeddir yr enillwyr ar 2 Tachwedd 2022.

 

 

 

 

ch)            Y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Tai Cymru 2022

 

Cyhoeddodd yr Aelod Llywyddol fod Cyngor Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer mewn sawl categori ar gyfer Gwobrau Tai Cymru 2022. Mae'r Gwobrau’n dathlu rhagoriaeth o fewn sector Tai Cymru. Cyhoeddir yr enillwyr ar 18 Tachwedd 2022. Y categorïau ar y rhestr fer yw:

 

i)             Categori: Darparu Cartrefi o Ansawdd Uchel.

Prosiect ar y rhestr fer: Adeiladu Cartrefi Gwell. Hillview.

Sefydliad: Cyngor Abertawe

 

ii)            Categori: Tîm Tai y Flwyddyn.

Prosiect ar y rhestr fer: Tîm Rhenti Tai.

Sefydliad: Cyngor Abertawe.

 

iii)          Categori: Gweithio mewn Partneriaeth.

Prosiect ar y rhestr fer: Safon Abertawe – Darparu Tai Carbon Isel Fforddiadwy ar gyfer y Dyfodol.  Cyflwynwyd gan Ysgol Pensaernïaeth Cymru (YPC).

Sefydliad: Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel (LCBE), Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd a Chyngor Abertawe.

 

iv)          Categori: Cynaliadwyedd mewn Tai.

Prosiect ar y rhestr fer: Ôl-osod Tŷ Cyfan i’w wneud yn fwy Ynni Effeithlon mewn 6 byngalo teras yn Abertawe er mwyn cyrraedd targedau carbon sero. Cyflwynwyd gan Ysgol Pensaernïaeth Cymru (YPC).

Sefydliad: Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel (LCBE), Ysgol Pensaernïaeth Cymru a Chyngor Abertawe.

 

             d)       26 Ionawr Cyfarfod y Cyngor

                        Cyhoeddodd yr Aelod Llywyddol, yn dilyn ymgynghoriad                       rhyngddi hi ac arweinwyr y grŵp gwleidyddol, ac                                 oherwydd ansicrwydd ynglŷn â  chyhoeddiadau'r gyllideb,                     y byddai'r cyfarfod yn cael ei symud yn ôl wythnos i 2                                Chwefror 2022.

                       

                        Byddai angen trefnu cyfarfod ychwanegol o'r cyngor                                    hefyd ym mis Ionawr, a byddai'r wybodaeth ddiweddaraf                  am y ddau gyfarfod yn cael ei hanfon at Aelodau gan y                Gwasanaethau Democrataidd maes o law.

 

            dd) Blancedi Cynnes ar gyfer Wcráin

                        Cyhoeddodd yr Aelod Llywyddol fod amryw o                                                 archfarchnadoedd lleol yn parhau i gasglu eitemau, a                                     gwerthfawrogir unrhyw roddion.

 

74.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

a) Y Diweddaraf am y Gyllideb

 

Amlinellodd yr Arweinydd fod y sefyllfa bresennol yn hynod bryderus o ran cyllid i Lywodraeth Leol yng Nghymru. Mae CLlC wedi amcangyfrif y gallai'r twll du ariannol ar draws Cymru fod yn £750 miliwn.

 

Mae hyn yn cael ei yrru i raddau helaeth gan ddau ffactor sef y bydd llawer o'r cytundebau ynni presennol sydd gan wahanol gynghorau a chyrff cyhoeddus ar hyn o bryd yn dod i ben yn gynnar y flwyddyn nesaf, sef yr un pryd ag y mae'r cap presennol sy'n cael ei ddarparu gan y DU hefyd yn dod i ben.

 

Dywedodd y byddai gwybodaeth ac eglurder pellach yn cael eu darparu ar 17 Tachwedd, gobeithio.

 

Os nad yw'r cap presennol yn cael ei estyn gallai bil ynni'r cyngor godi o £5m i £20m.

 

Yn ychwanegol at hynny mae dyfarniadau cyflog i staff hefyd yn agos at gael eu cytuno. Mae'r arian ar gyfer y dyfarniadau cyflog hyn fel arfer yn cael ei ariannu gan Lywodraethau'r DU a Chymru ond ar hyn o bryd nid oes ymrwymiad ar y cyllid ychwanegol hwn a allai roi £10m o bwysau ychwanegol ar gyllideb yr awdurdod hwn.

 

Ar ben hynny mae pob cyngor, busnes ac unigolyn yn wynebu pwysau ar hyn o bryd o ran chwyddiant.

 

b) Cronfa Adferiad Economaidd

 

Oherwydd y pwysau cyllidebol a amlinellir uchod, dywedodd ei fod wedi cytuno ar y cyd â'r Prif Swyddog Cyllid y byddai ceisiadau i'r gronfa uchod yn cael eu hatal.

 

Caiff ceisiadau sydd wedi'u cyflwyno eu harchwilio a'u trafod yn unol â'r gwahanol opsiynau cyllido sydd ar gael, a bydd yr Aelodau’n cael gwybod a fyddant yn mynd ymlaen neu'n cael eu hatal am y tro.

 

c) Gwobrau Estates Gazette

 

Amlinellodd ei fod wedi mynd i’r gwobrau neithiwr lle’r enwebwyd Abertawe ar gyfer rownd derfynol y wobr 'Dinas y Flwyddyn'. Yn anffodus nid oedd Abertawe'n llwyddiannus, a Birmingham, a oedd wedi cynnal gemau'r Gymanwlad yn gynharach yn y flwyddyn, enillodd y wobr.

 

Dyma'r tro cyntaf i Abertawe gael ei henwebu am wobr mor fawreddog a diolchodd i'r Swyddogion am y gwaith yr oedent wedi'i wneud i gyflawni'r prosiectau amrywiol ledled y ddinas.

 

ch) Gyda'n Gilydd dros y Nadolig

 

Amlinellodd yr Arweinydd y bydd Cyngor Abertawe, mewn partneriaeth â JR Events & Catering, yn rhedeg menter Gyda'n Gilydd dros y Nadolig unwaith eto eleni. Nod y digwyddiad yw darparu cinio Nadolig am ddim i'r rheini sy'n ddigartref, yn unig neu mewn angen. Caiff gynnal rhwng 12pm a 3.00pm ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr 2022 yn Neuadd Brangwyn. Anogir cynghorwyr ac eraill i wirfoddoli drwy e-bostio events@jr-eventsandcatrering.co.uk

 

d) Tywydd Garw Diweddar

 

Talodd deyrnged i'r gwaith a wnaed gan staff y cyngor yn gyffredinol yn ystod y tywydd garw diweddar gan amlinellu'r galw enfawr am wasanaethau oherwydd y swm eithafol o law a ddisgynnodd mewn cyfnod mor fyr, gan arwain at lifogydd mewn rhai ardaloedd. Cafwyd rhai problemau o ran y gallu i ymateb i'r nifer enfawr o alwadau/e-byst a dderbyniwyd mewn cyfnod mor fyr, a bydd hyn yn cael ei adolygu.

 

Yn anffodus, oherwydd rhagolygon tywydd garw ar gyfer y penwythnos, dywedodd na fydd modd cynnal y Digwyddiad Tân Gwyllt ar 5 Tachwedd ym Mae Abertawe ond bydd y Tîm Digwyddiadau Arbennig yn canolbwyntio nawr ar gynnal Gorymdaith y Nadolig nos Sul 20 Tachwedd.

 

 

75.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

76.

Deilliannau Arolwg Estyn ar gyfer Llywodraeth Leol Gwasanaethau Addysg yn Abertawe. pdf eicon PDF 239 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

 

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Sgiliau adroddiad a oedd yn amlinellu’r canlyniadau sy'n deillio o Arolygiad Estyn 2022 ar gyfer Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol yn Abertawe, ac yn manylu arnynt.

 

Penderfynwyd nodi canfyddiadau Arolygiad Estyn 2022.

 

77.

Gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. pdf eicon PDF 293 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Approved

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn ceisio cynyddu ymwybyddiaeth o'r Ddeddf a'i goblygiadau ac i ystyried yr argymhelliad i roi terfyn ar y defnydd o denantiaethau rhagarweiniol.

 

Penderfynwyd

 

1) Nodi goblygiadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.

 

2) Bod y cyngor yn cytuno i roi terfyn ar y defnydd o Denantiaethau Rhagarweiniol ac yn caniatáu

i'r holl Denantiaid Rhagarweiniol presennol dderbyn contractau Meddiannaeth Diogel

 ar ôl rhoi'r Ddeddf Rhentu Cartrefi ar waith.

 

3) Rhoi Contractau Meddiannaeth Diogel i bob tenant newydd Cyngor Abertawe o 1 Rhagfyr 2022.

 

#Sylwer: Cytunodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau i gynnal Seminar Aelodau i edrych ar y materion ymddygiad gwrthgymdeithasol a godwyd yn ystod y drafodaeth ar yr eitem hon.

 

78.

Polisi Trwyddedu HMO. pdf eicon PDF 236 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn cyflwyno'r gofyniad i gynnwys adendwm ym Mholisi Trwyddedu HMO 2020 o ran Ward y Glannau.

 

Penderfynwyd rhoi cymeradwyaeth i gynnwys adendwm yn y Polisi Trwyddedu HMO presennol i newid enwau'r ward yn y polisi i Uplands, Castell, St Thomas a'r Glannau fel a nodir yn Atodiadau B, C, D ac E i'r adroddiad ac ychwanegu'r atodiadau hyn at y Polisi Trwyddedu HMO.

 

79.

Rhyddid Anrhydeddus Dinas a Sir Abertawe - Kevin Johns MBE. pdf eicon PDF 239 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad a oedd yn gofyn i’r aelodau ystyried rhoddi’r teitl Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Kevin Johns MBE.

 

Penderfynwyd

 

1) Rhoddi'r teitl Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i

Kevin Johns MBE.

 

2) Cynnal cyfarfod seremonïol o'r cyngor ar 8 Rhagfyr 2022 am 2.00pm

i roddi'r teitl Rhyddid er Anrhydedd.

 

80.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 361 KB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

1)         ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A’

 

Cyflwynwyd un deg pedwar (14) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. 

 

Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiynau atodol hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arnynt isod.

 

Cwestiwn 7

            Gofynnodd y Cynghorydd Stuart Rice gwestiwn mewn perthynas â'r        dadansoddiad o fuddsoddiadau sy'n ymwneud â'r gwahanol brosiectau y    mae'r cyngor yn eu hariannu neu sy'n dod o'r sector preifat neu gyhoeddus.

 

            Dywedodd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

            Cwestiwn 10

            Gofynnodd y Cynghorydd Angela O'Connor gwestiwn mewn perthynas â     chyflogi'r swyddog cyswllt cymunedol a pha gam o'r broses ydyn ni wedi'i gyrraedd gyda'r penodiad ar hyn o bryd.

 

            Dywedodd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

2)         ‘Cwestiynau Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'

 

Cyflwynwyd tri (3) 'chwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' ar eu cyfer Rhan B.

 

 

 

 

81.

Hysbysiad o Gynnig - Mabwysiadu Diffiniad o Islamoffobia. pdf eicon PDF 223 KB

Penderfyniad:

Approved

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd L S Gibbard a'i eilio gan y Cynghorydd R C Stewart.

 

Mae Abertawe’n falch o'i hamrywiaeth ac mae ganddi hanes cryf o hyrwyddo cydlyniant a chroesawu pobl o bob cwr o'r byd. Mae ei phreswylwyr bob amser wedi dod ynghyd a chefnogi’i gilydd yn y frwydr yn erbyn hiliaeth a gwahaniaethu o bob math.

Mae'r cyngor hwn felly’n croesawu, yn cymeradwyo ac yn mabwysiadu diffiniad APPG (Grŵp Hollbleidiol Seneddol) o Islamoffobia[1], gan gynnwys ei holl enghreifftiau a ddyfynnir yn llawn fel a ganlyn:

"MAE GWRAIDD ISLAMOFFOBIA MEWN HILIAETH AC MAE'N FATH O HILIAETH SY'N TARGEDU MYNEGIADAU O FWSLEMIAETH NEU'R HYN SY'N CAEL EI AMGYFFRED FEL MWSLEMIAETH.

Gallai enghreifftiau cyfoes o Islamoffobia mewn bywyd cyhoeddus, y cyfryngau, ysgolion, y gweithle, ac mewn cyfarfyddiadau rhwng crefyddau a'r rheini nad ydynt yn grefyddau yn y maes cyhoeddus, gan ystyried y cyd-destun cyffredinol, gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

·         Alw am, cynorthwyo, annog neu gyfiawnhau lladd neu niweidio Mwslimiaid yn enw ideoleg hiliol/ffasgaidd, neu farn eithafol ar grefydd.

·         Gwneud honiadau celwyddog, diraddiol neu ystrydebol am Fwslimiaid fel y cyfryw, neu am Fwslimiaid fel grŵp cyfunol megis, yn enwedig ond heb fod yn gyfyngedig i, gynllwynion am ymdreiddiad Mwslimaidd mewn gwleidyddiaeth, llywodraeth neu sefydliadau cymdeithasol eraill; y myth fod gan hunaniaeth Fwslimaidd dueddiad unigryw ar gyfer terfysgaeth a honiadau o 'fygythiad' demograffig a achosir gan Fwslimiaid, neu o Fwslimiaid yn 'cymryd drosodd'.

·         Cyhuddo Mwslimiaid fel grŵp o fod yn gyfrifol am ddrygioni go iawn neu ddychmygol a gyflawnwyd gan un person Mwslimaidd neu grŵp o unigolion Mwslimaidd, neu hyd yn oed am weithredoedd a gyflawnwyd gan bobl nad ydynt yn Fwslimiaid.

·         Cyhuddo Mwslimiaid fel grŵp, neu wladwriaethau sy'n bennaf Fwslimaidd, o ddyfeisio neu or-ddweud Islamoffobia, glanhau ethnig neu hil-laddiad yn erbyn Mwslimiaid.

·         Cyhuddo dinasyddion Mwslimaidd o fod yn fwy ffyddlon i'r 'Ummah' (cymuned Fwslimaidd drawswladol) neu i wledydd eu genedigaeth neu i flaenoriaethau honedig Mwslimiaid ledled y byd, nag i fuddiannau eu cenhedloedd eu hunain.

·         Gwrthod yr hawl i hunanbenderfyniad i boblogaethau Mwslimaidd e.e., drwy honni mai ymgais terfysgol yw bodolaeth Palesteina neu Kashmir annibynnol.

·         Defnyddio safonau dwbl drwy ddisgwyl i Fwslimiaid ymddwyn mewn ffordd nad yw'n ddisgwyliedig nac yn cael ei mynnu gan unrhyw grwpiau eraill mewn cymdeithas, e.e. profion ffyddlondeb.

·         Defnyddio'r symbolau a'r delweddau sy'n gysylltiedig ag Islamoffobia clasurol.

·         Dal Mwslimiaid i gyfrif ar y cyd am weithredoedd unrhyw wladwriaeth fwyafrifol Fwslimaidd, boed yn seciwlar neu'n gyfansoddiadol Islamaidd.

Felly, galwn ar:

 

1.    Arweinydd y Cyngor i ysgrifennu at lywodraeth y DU yn gofyn iddynt wrando ar gymunedau Mwslimaidd a'r grŵp trawsbleidiol o ASau ac arglwyddi.

2.     Y Cyngor i fabwysiadu'r diffiniad hwn o Islamoffobia yn ffurfiol, sy'n dynodi gwahaniaethu yn erbyn Mwslimiaid fel math o hiliaeth.

Yn unol â Rheol 30 Gweithdrefn y Cyngor sef "Pleidlais", gofynnwyd am bleidlais gofnodedig. Cofnodwyd y pleidleisio fel a ganlyn:  

 

O blaid (59 o gynghorwyr)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

C Anderson

C A Holley

P M Matthews

S Bennett

P R Hood-Williams

J D McGettrick

P N Bentu

B Hopkins

H M Morris

P M Black

D H Hopkins

F D O’Brien

J P Curtice

L James

A J O’Connor

P Downing

Y V Jardine

C L Philpott

C R Doyle

A J Jeffery

J E Pritchard

M Durke

D H Jenkins

S Pritchard

C R Evans

J W Jones

S J Rice

C M J Evans

L R Jones

K M Roberts

V M Evans

M H Jones

B J Rowlands

E W Fitzgerald

S M Jones

R V Smith

R A Fogarty

S A Joy

A H Stevens

N Furlong

H Lawson

R C Stewart

L S Gibbard

A S Lewis

L G Thomas

F M Gordon

M B Lewis

M S Tribe

K M Griffiths

W G Lewis

G D Walker

H J Gwilliam

P Lloyd

L V Walton

J A Hale

M W Locke

T M White

V A Holland

N L Matthews

 

Yn erbyn (0 Cynghorydd)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

-

-

-

 

Ymwrthod (0 Cynghorydd)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

-

-

-

 

Wedi gadael y cyfarfod oherwydd datganiad o fudd (0 Cynghorydd)

Cynghorydd  

Cynghorydd

Cynghorydd

-

-

-

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod.