Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol
a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr
agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a
rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid
oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd
cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn
ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir
Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod Cyffredin o'r Cyngor
a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2022 yn amodol ar y diwygiadau canlynol: i)
Cofnod
32 "Aelodaeth o Bwyllgorau". Penderfyniad 3 yn cael ei ddiwygio i
ddarllen "Ychwanegu'r Cynghorydd S A Joy". ii)
Cofnod 33 "Cwestiynau i Gynghorwyr – Cwestiwn 7" yn cael ei
ddiwygio ychydig i adlewyrchu bod y Cynghorydd L R Jones wedi gofyn am osod sgipiau pren yng Ngorseinon yn
ogystal â Chlun. Dylai'r cofnod ddarllen: “Gofynnodd
y Cynghorydd L R Jones a ellid gosod sgipiau pren ar
Safle Amwynderau Dinesig Clun a Safle Amwynderau Dinesig Gorseinon cyn mynd â
nhw i safle byrnu Llansamlet. Byddai'r ymagwedd hon yn lleihau'r angen i
gerbydau deithio i Lansamlet ac felly'n lleihau'r
nwyon tŷ gwydr. Dywedodd Aelodau'r Cabinet dros
y Gymuned y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.” 2)
Cyfarfod Seremonïol y cyngor a
gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 2022. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion
ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r
cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: a)
Cydymdeimladau i)
Anna Holland, merch y
Cynghorydd Victoria Holland Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth annisgwyl
ddiweddar Anna Holland, merch y Cynghorydd Victoria Holland. ii)
Yr Henadur Anrhydeddus, y
Cyn-Gynghorydd a'r Cyn-Arglwydd Faer, June Stanton Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol gyda thristwch at
farwolaeth ddiweddar yr Henadur Anrhydeddus, y Cyn-Arglwydd Faer a'r
Cyn-Gynghorydd June Stanton. Bu June yn cynrychioli Ward Sgeti am tua 29 o
flynyddoedd gan wasanaethu: Ø Cyngor Dinas Abertawe - 5 Mai 1988 i 31
Mawrth 1996. Ø Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg – 4 Mai
1989 – 31 Mawrth 1996. Ø Dinas a Sir Abertawe - 4 Mai 1995 i 4
Mai 2017. Roedd June yn Arglwydd Faer o 2013 i 2014 a daeth yn Henadur Anrhydeddus ar
24 Awst 2017. iii)
Y Cyn-gynghorydd Ron Thomas Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at
farwolaeth ddiweddar y Cyn-Gynghorydd Ron Thomas. Bu Ron yn cynrychioli Ward
Tre-gŵyr am oddeutu 13 o flynyddoedd gan wasanaethu: Ø Dinas a Sir Abertawe - 4 Mai 1995 i 1
Mai 2008. iv)
Cyn-Brif Weithredwr Cyngor Dinas
Abertawe, Andrew Boatswain Cyfeiriodd y Llywydd gyda thristwch at farwolaeth
ddiweddar Cyn-Brif Weithredwr Cyngor Dinas Abertawe, Andrew Boatswain. Safodd pawb a oedd
yn bresennol mewn distawrwydd fel arwydd o gydymdeimlad a pharch. b)
Gwobrau Cymunedol y Faner
Werdd Dywedodd yr Aelod
Llywyddol fod Cyfeillion Llyn Golchi a Gardd Fwyd Gymunedol Mayhill
wedi derbyn Gwobr Gymunedol y Faner Werdd unwaith eto. Dyma'r bedwaredd
flwyddyn yn olynol iddynt ei hennill. Talodd deyrnged
hefyd a diolchodd i'r holl wirfoddolwyr sy'n ymwneud â'r 14 o barciau/gerddi
cymunedol gwyrdd a mannau gwyrdd llai yn Abertawe. Dyma'r ardaloedd hynny: i)
Gwarchodfa Natur Leol Rhos
Cadle. ii)
Gardd Gymunedol Clydach. iii)
Parc Coed Bach, Pontarddulais. iv)
Coetir Cymunedol y Crwys. v)
GRAFT: Maes Llafur y Pridd. vi)
Llys Nini. vii)
Llyn Golchi a Gardd Fwyd
Gymunedol Mayhill. viii)
Gardd Lles Cymdeithas Gerddi
Pennard. ix)
Parc Polly. x)
Parc Chwarel Rosehill. xi)
Canolfan Madog Sant. xii)
Camlas Tawe. xiii)
Fferm Gymunedol Abertawe. xiv)
Gwarchodfa Natur Bro Tawe. Mae gwaith y gwirfoddolwyr hyn yn amhrisiadwy i Abertawe
a'i dinasyddion. c)
Cywiriadau/Diwygiadau i Wŷs y Cyngor. i)
Cofnod 47 "Hysbysiad o Gynnig – Fformiwlâu
Ariannu" Dywedodd yr Aelod Llywyddol y dylid ychwanegu'r Cynghorwyr J P Curtice, M B
Lewis, W G Lewis, N L Matthews, K M Roberts ac L V Walton at y rhestr o'r sawl
sy'n cyflwyno'r Hysbysiad o Gynnig. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: a)
Portffolios y Cabinet –
Mân Ddiwygiadau Dywedodd Arweinydd y
Cyngor ei fod wedi gwneud rhai mân ddiwygiadau i Bortffolios y Cabinet er mwyn
egluro rhai cyfrifoldebau. Gofynnodd i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
ddiweddaru Cyfansoddiad y Cyngor ac anfon dolen at yr holl Gynghorwyr. b)
Cyrraedd y rhestr fer ar
gyfer Cyngor y Flwyddyn yng Ngwobrau Gwasanaeth Blynyddol y Gymdeithas
Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus
(APSE) 2022 Dywedodd Arweinydd y
Cyngor fod Cyngor Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer Cyngor y Flwyddyn yng
Ngwobrau Gwasanaeth Blynyddol APSE 2022. Mae'r Wobr yn cydnabod yr Awdurdod
Lleol gorau a mwyaf arloesol yn y DU. Dywed APSE, gan ganolbwyntio ar ddarparu
gwasanaethau rheng flaen, fod y Wobr yn ceisio dathlu'r cynghorau hynny sy'n
cyflawni canlyniadau rhagorol mewn ystod eang o wahanol feysydd gwasanaeth. Roedd y Cyngor hefyd
wedi cyrraedd rhestr fer gwobrau yn y meysydd canlynol: Ø Menter y Gweithlu Gorau. Ø Y Fenter Tai, Adfywio neu Adeiladau Newydd Gorau. Ø Y Fenter Fasnacheiddio ac Entrepreneuriaeth Orau. ·
Cyngor Abertawe - Mae
sbwriel un person yn drysor i berson arall. ·
Cyngor Abertawe - Marchnad
Abertawe: Yn greiddiol i ganol y ddinas a'r economi leol. Ø Y Tîm Gwasanaethau Gorau: Tai, Adeiladu a'r Gwasanaeth Adeiladau. Ø Y Tîm Gwasanaethau Gorau: Y Gwasanaeth Glanhau Strydoedd a'r Strydlun
(Mannau Cyhoeddus). Ø Y Tîm Gwasanaethau Gorau: Y Gwasanaeth Mynwentydd a'r Amlosgfa. Cynhelir y gwobrau yn
Arena Abertawe lle caiff enillydd Gwobr Gyffredinol Cyngor y Flwyddyn 2022 ei
gyhoeddi mewn Cinio Elusennol nos Iau 15 Medi 2022. c)
Cyrraedd y rhestr fer ar gyfer
Dinas y Flwyddyn yng ngwobrau'r Estates Gazette (EG) 2022 Dywedodd Arweinydd y
Cyngor fod Cyngor Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer Dinas y Flwyddyn yng
Ngwobrau'r Estates Gazette 2022. Nod y Wobr yw dathlu dinasoedd y DU a'r gwaith
y maen nhw'n ei wneud i greu lleoedd anheddol a llwyddiannus. Bydd y seremoni
wobrwyo'n cael ei chynnal ar 2 Tachwedd 2022. d)
Digwyddiad Cyfres Para
Treiathlon y Byd Volvo 2022 – 6 Awst 2022 ac Ironman 70.3 Abertawe – 7 Awst
2022 Dywedodd Arweinydd y
Cyngor fod digwyddiad Cyfres Para Treiathlon y Byd Volvo 2022 ac Ironman 70.3
Abertawe a gynhaliwyd yn ddiweddar wedi denu miloedd o athletwyr a gwylwyr.
Rhoddodd y digwyddiadau hwb sylweddol i'r economi leol. Llongyfarchodd bawb a
gymerodd ran a diolchodd iddynt. e)
Morlyn Llanw Ynys Ynni'r
Ddraig Rhoddwyd diweddariad ar
hyn gan Arweinydd y Cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r
Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn
cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n
uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod
yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn
cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraeth ac Archwilio 2021/22. PDF 357 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd yr
adroddiad ei ohirio i Gyfarfod Cyffredin nesaf y cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiadau Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd 2021-2022. PDF 221 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd Adroddiad Blynyddol Pwyllgor y
Gwasanaethau Democrataidd 2021-2022 er gwybodaeth. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Blynyddol Craffu 2021-22. PDF 228 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Cadeirydd
Pwyllgor y Rhaglen Graffu Adroddiad Blynyddol Craffu 2021-2022 er gwybodaeth. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 587 KB Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau
Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd deuddeng (12) 'Cwestiwn Atodol' Rhan
A. Ymatebodd Aelod(au)
perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs
y Cyngor. Dangosir y cwestiynau atodol hynny yr oedd angen
ymateb ysgrifenedig arnynt isod. Cwestiwn 1 Dywedodd y Cynghorydd J W Jones fod ymgynghoriad
annibynnol ar lendid wedi cael ei gynnal yn flaenorol. Gofynnodd a ellir
ailddechrau ymgynghoriadau o'r fath. Dywedodd Aelodau'r Cabinet dros y Gymuned y byddai
ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. 2) ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan
B Cyflwynwyd un ar ddeg (11) ‘cwestiwn Rhan B nad
oedd angen cwestiynau atodol ar eu cyfer’. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Hysbysiad o Gynnig - Fformiwlâu Cyllido. PDF 221 KB Cofnodion: Fe'i cynigiwyd gan y Cynghorydd R C Stewart a'i eilio gan y Cynghorydd A S
Lewis. "Mae'r cyngor hwn yn gresynu wrth y datganiad gan y cyn-ganghellor
Rishi Sunak ei fod wedi
newid fformiwlâu ariannu yn fwriadol i dynnu cyllid o ardaloedd trefol
difreintiedig fel Abertawe a'u dargyfeirio i etholaethau deiliog a ddelir gan y
Torïaid fel Tunbridge Wells. Dylid condemnio'i gyfaddefiad cyhoeddus ei fod wedi
ailgyfeirio cyllid i ffwrdd o gymunedau difreintiedig. Rydym eisoes yn ymwybodol bod newidiadau i'r fformiwlâu
ariannu eisoes wedi'u gwneud i gyllid a ddaeth yn flaenorol drwy'r UE ac sydd
bellach yn dod drwy'r gronfa ffyniant gyffredin. Mae'r fformiwla wedi cael ei newid, er gwaethaf
gwrthwynebiad gan gyngor Abertawe a CLlLC i eithrio
'angen' o'r cyfrifiad. Mae'r fformiwla newydd wedi arwain at ostyngiad o £35 y
pen i bob person yn rhanbarth De-orllewin Cymru. Mae'r arian wedi'i ddargyfeirio
i gymunedau yng nghanolbarth Cymru. Bydd hyn yn golygu y bydd cymunedau yn Abertawe a
rhanbarth De-orllewin Cymru yn colli £4.2m eleni a £21m dros y 5 mlynedd nesaf. Credwn fod hyn yn annheg, yn anfoesol ac yn groes i'r
ymrwymiadau codi'r gwastad a wnaed gan lywodraeth y DU. Mae hefyd yn golygu y
bydd cymunedau lleol yn Ne-orllewin Cymru ar eu colled o ganlyniad i drefniadau
cyllido yn dilyn Brexit er gwaethaf sawl sicrhad i'r gwrthwyneb. Galwn ar yr Arweinydd i ysgrifennu at y Prif Weinidog
newydd i ofyn iddi wyrdroi'r newidiadau fformiwla, a chomisiynu ymchwiliad
annibynnol i'r honiadau a wnaed gan Mr Sunak." Yn unol â Rheol 30 Gweithdrefn y Cyngor sef
"Pleidlais", gofynnwyd am bleidlais gofnodedig. Cofnodwyd y bleidlais
ar y newid fel a ganlyn:
Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod. |