Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a
rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a
swyddogion ag eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog
fuddiannau i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw
beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw
fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr C
Anderson, J P Curtice, H J Gwilliam, C A Holley, J W Jones, M H Jones, A S
Lewis, M B Lewis, J E Pritchard ac S Pritchard gysylltiad personol â Chofnod 11,
"Polisi Lwfansau TGCh Cynghorwyr - mis Mai a thu
hwnt." 2)
Datganodd y Cynghorydd F D
O'Brien gysylltiad personol â Chofnod 18, "Cwestiynau gan y
Cynghorwyr" - Cwestiwn 4. 3)
Datganodd y Cynghorwyr S
Bennet, P M Black, C M J Evans a J D McGettrick gysylltiad personol â Chofnod
18, "Cwestiynau gan y Cynghorwyr" - Cwestiwn 8. 4)
Datganodd y Cynghorydd C R
Doyle gysylltiad personol â Chofnod 18 "Cwestiynau gan y Cynghorwyr"
- Cwestiwn 16. Swyddogion 1)
Datganodd Martin Nicholls
gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 14,
"Cynigion ar gyfer Recriwtio i rôl y Prif Weithredwr", a gadawodd y
cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried. 2)
Datganodd Helen Morgan-Rees,
Martin Nicholls a Ben Smith gysylltiad personol â Chofnod 15, "Cynigion ar
gyfer Recriwtio i rôl Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol." |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod Seremonïol y cyngor a
gynhaliwyd ar 20 Mai 2022. 2)
Cyfarfod blynyddol y cyngor a
gynhaliwyd ar 24 Mai 2022. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion
ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r
cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: a)
Rhestr
Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2022 Llongyfarchodd
y Llywydd Ddinasyddion Abertawe a dderbyniodd wobrau yn Anrhydeddau Pen-blwydd
y Frenhines. a)
Cadlywydd Urdd yr
Ymerodraeth Brydeinig (CBE) i)
Yr Athro Uzomaka Linda Iwobi. Gwasanaethau
i gydraddoldeb hiliol a hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiad. b)
Aelod Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) i)
Rocio Cifuentes - Prif
Weithredwr, Tîm Cymorth Ieuenctid Cymru. Gwasanaethau i'r gymuned yng Nghymru. ii)
Dr Umakant Ramchandra Dave. Meddyg
Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Gwasanaethau i'r GIG. iii)
Emma Jayne
Lewis. Cadeirydd, Sefydliad Roots Cymru. Gwasanaethau
gwirfoddol i bobl ifanc yn Abertawe. iv)
Lynette
Margaret Sanders. Prif Weithredwr, Cymorth i Fenywod Abertawe. Gwasanaethau i
ddioddefwyr cam-drin domestig yn Abertawe. v)
Gaynor
Sullivan (Bonnie Tyler). Gwasanaeth i gerddoriaeth. c)
Medal yr Ymerodraeth
Brydeinig (BEM) i)
Gerald Gabb. Gwasanaethau
i ymchwil hanesyddol yn Abertawe. b)
Gwobr Adeiladu
Arbenigrwydd yng Nghymru ar gyfer Integreiddio a Chydweithio Nododd yr Aelod
Lywyddol fod prosiect YGG Tan-y-lan wedi ennill y wobr Adeiladu Arbenigrwydd
yng Nghymru ar gyfer Integreiddio a Chydweithio yn ddiweddar. Llongyfarchiadau
i'r rheini a fu’n rhan o'r prosiect, yn enwedig Claire Lewis (Addysg), Alex
Harries a Jeff Pope (Gwasanaethau Adeiladau), yr ysgol, Kier a Stride Treglown. Y canlyniad yw
adeilad gwch i ddisgyblion a staff. c)
Adam Hill, Cyfarwyddwr
Adnoddau / Dirprwy Brif Weithredwr - Ymddiswyddiad Atgoffodd yr Aelod
Llywyddol gyfarfod y cyngor am ymddiswyddiad Adam Hill, Cyfarwyddwr Adnoddau /
Dirprwy Brif Weithredwr. Ei ddiwrnod olaf gyda'r awdurdod fydd 18 Gorffennaf
2022. Galwodd ar Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol i arwain y deyrnged a’r
diolchiadau am ei wasanaeth. Arweiniwyd y deyrnged i
Adam Hill gan bedwar arweinydd y Grwpiau Gwleidyddol, a ddiolchwyd iddo am ei
ymroddiad a'i wasanaeth yn y rôl. ch) Cywiriadau/Diwygiadau i
Wŷs y Cyngor. a)
Eitem 14 - Cyflwyno Teitl Henadur Anrhydeddus Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod y Cyn-Arglwydd Faer a'r Cyn-gynghorydd,
Lawrence D Bailey, yn falch iawn o fwriad y cyngor i gyflwyno Teitl Henadur
Anrhydeddus iddo; fodd bynnag, mae'n gwrthod y teitl ar hyn o bryd. Caiff yr adroddiad
ei ddiwygio felly er mwyn dileu enwebiad y Cyn-Arglwydd Faer a'r
Cyn-gynghorydd, Lawrence D Bailey, o'r argymhelliad. b)
Eitem 18 -
Aelodaeth Pwyllgorau Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Grŵp Gwleidyddol Uplands
wedi gofyn am ragor o ddiwygiadau i'r adroddiad. i)
Pwyllgor y
Gwasanaethau Democrataidd Tynnu enw'r Cynghorydd Sandra Joy. Ychwanegu enw'r Cynghorydd Peter May. ii)
Pwyllgor
Cyflawni Corfforaethol Trawsnewid Sefydliadau Tynnu enw'r Cynghorydd Peter May. Ychwanegu enw'r Cynghorydd Sandra Joy. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Mae’n rhaid
i gwestiynau gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd democratiaeth@abertawe.gov.uk erbyn ganol dydd fan bellaf ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau ar
yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Maniffesto Llais y Disgybl Abertawe. Cofnodion: Rhoddodd 32 o gynrychiolwyr disgyblion o ysgolion uwchradd ar draws
Abertawe gyflwyniad a oedd yn amlinellu "Maniffesto Llais y Disgybl
Abertawe 2022 - Yr Hyn Sy'n Bwysig i Ni!" Gwnaethant amlinellu amrywiaeth o syniadau blaengar a chadarnhaol y dylai
Cyngor Abertawe eu hystyried fel ffordd o helpu i wella cymunedau Abertawe.
Roedd y syniadau hyn yn ffurfio’u "Maniffesto Llais y Disgybl." Roedd
y maniffesto'n cwmpasu’r meysydd canlynol: Diogelwch a Theimlo'n Ddiogel yn ein Cymuned. Gwelliannau o ran chwaraeon, cydraddoldeb a chyfleusterau. Iechyd meddwl. Newid yn yr Hinsawdd ac Ymwybyddiaeth Amgylcheddol. Du, Asiaidd, Lleiafrif, Ethnig - Cydraddoldeb. LHDTC+ Camddefnyddio Sylweddau a defnyddio e-sigaréts Ymwybyddiaeth o anableddau gweladwy a rhai nad ydynt yn weladwy, a
chydraddoldeb. Diolchodd Aelodau'r Grwpiau Gwleidyddol ac Aelodau'r Cabinet y disgyblion
am eu cyflwyniad. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2021-2022. PDF 225 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Jill Burgess, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Adroddiad Blynyddol y
Pwyllgor Safonau 2021-2022 er gwybodaeth. Amlinellodd y gwaith a wnaed gan y
pwyllgor dros y cyfnod. Diolchodd Arweinydd y Cyngor ac Arweinydd yr Wrthblaid Fwyaf i Jill Burgess
am yr adroddiad a hefyd am ei gwaith ar y Pwyllgor yn ystod y 10 mlynedd
diwethaf, gan nodi y byddai ei chyfnod yn y swydd yn dod i ben ym mis Hydref
2022. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad Ymrwymiadau Polisi. PDF 240 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn amlinellu Ymrwymiadau
Polisi'r cyngor ar gyfer y 5 mlynedd nesaf. Byddai'r Ymrwymiadau yn helpu i
gyflawni gweledigaeth gyffredinol y cyngor a'r blaenoriaethau allweddol yn ei
Gynllun Corfforaethol. Penderfynwyd mabwysiadu'r Datganiad Ymrwymiadau Polisi a nodwyd
yn Atodiad A yr adroddiad. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynllun Corfforaethol 2022/23. PDF 305 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad
a oedd yn gofyn am gyhoeddi Cynllun Corfforaethol adnewyddedig ar gyfer 2022-23
yn dilyn yr adolygiad blynyddol, fel a nodir yn Neddf Cenedlaethau’r Dyfodol
(Cymru) 2015 ac arweiniad statudol mewn perthynas â chyrff cyhoeddus. Penderfynwyd cymeradwyo a mabwysiadu Cynllun Corfforaethol
2022-23. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Polisi Lwfansau TGCh Cynghorwyr - Mai 2022 a thu hwnt. PDF 398 KB Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Phennaeth y Gwasanaethau
Digidol a Chwsmeriaid adroddiad ar y cyd a oedd yn gofyn am ddiwygio'r polisi
mewn perthynas â'r Lwfans Ffôn Symudol a'r Lwfans Data a Ffonau. Penderfynwyd: 1)
Dileu paragraff 4.5 o Bolisi Lwfansau TGCh
Cynghorwyr - mis Mai 2022 a thu hwnt, fel a amlinellwyd yn Atodiad A yr
adroddiad:
2)
Penderfynwyd diwygio Paragraff 5.3 o Bolisi Lwfans TGCh Cynghorwyr - Mai 2022 a Thu Hwnt fel a amlinellir
isod: "5.3 3)
Dylid ailrifo'r polisi'n unol â
hynny. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad gwybodaeth a oedd
yn hyrwyddo penderfyniad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn
perthynas â chyfrannu tuag at gostau gofal a chymorth personol, ac yn annog pobl
i fanteisio ar y cyfraniad. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhoddi teitl Henadur Anrhydeddus/Henadures Anrhydeddus. PDF 360 KB Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad diwygiedig a oedd
yn gofyn am gytuno mewn egwyddor i gyflwyno'r teitl "Henadur
Anrhydeddus" i'r Cyn-gynghorwyr a nodir isod, yn unol â meini prawf y
cyngor. Penderfynwyd: 1)
Bod y cyngor yn cytuno mewn egwyddor i gyflwyno teitl
'Henadur Anrhydeddus' i'r Cyn-gynghorwyr Jane E Burtonshaw, Mark C Child, D
Gareth Sullivan a Des W W Thomas, i gydnabod eu gwasanaeth blaenllaw i Ddinas a
Sir Abertawe a'i hawdurdod blaenorol. Trefnir Cyfarfod Seremonïol y Cyngor i gyflwyno'r teitlau i'r Cynghorwyr hynny a enwir uchod. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynigion i Recriwtio Prif Weithredwr. PDF 139 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad
adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y cynnig i benodi rhywun i
rôl y Prif Weithredwr. Penderfynwyd dechrau ar y broses o recriwtio Prif Weithredwr
parhaol a fydd yn derbyn cydnabyddiaeth ar ffurf tâl ar y raddfa bresennol
erbyn mis Medi 2022. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynigion i Recriwtio Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol. PDF 185 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad
adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer y cynnig i benodi rhywun i
rôl Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol. Penderfynwyd: 1)
Ystyried yr opsiynau a gynhwysir ym Mharagraff 2 yr
adroddiad mewn perthynas â'r Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y
Gwasanaethau Corfforaethol. 2)
Cymeradwyo opsiwn 2, fel y’i hamlinellir yn yr adroddiad,
i ddileu swydd y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau
Corfforaethol a chreu swydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol gyda
Phroffil y Rôl yn Atodiad A yr adroddiad a chyda graddfa gyflog o £107,257 i
£121,756. 3)
Penodi Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol dros dro
drwy gontract ar gyfer gwasanaethau, wrth i’r ymarfer recriwtio gael ei gynnal,
yn unol â pharagraff 2 yr adroddiad. 4)
Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Prif Weithredwr Dros Dro
a'r Prif Swyddog Cyfreithiol gymryd unrhyw gamau gweithredu pellach er mwyn
rhoi cynnwys yr adroddiad ar waith. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Newidiadau i'r Cyfansoddiad. PDF 225 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad gwybodaeth a
oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio o fewn Cyfansoddiad y Cyngor, yn dilyn newid deddfwriaethol. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Aelodaeth Pwyllgorau. PDF 114 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau
Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a
oedd yn gofyn am gymeradwyo'r enwebiadau/diwygiadau i wahanol Gyrff y Cyngor. Roedd yr adroddiad hefyd yn rhestri newid i'r Cyrff
a wnaed gan Arweinydd y Cyngor. Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe Tynnu enw'r Cynghorydd P Downing. Ychwanegu enw'r Cynghorydd V A Holland. Penderfynwyd diwygio
aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn: 1)
Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol Newid yn yr
Hinsawdd Tynnu enw'r Cynghorydd
L V Walton. Ychwanegu enw'r
Cynghorydd O G James. 2)
Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd Tynnu enw'r Cynghorydd S A Joy. Ychwanegu enw'r Cynghorydd P N May. 3)
Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol
Trawsnewid Sefydliadau Tynnu enw'r Cynghorydd P N May. Tynnu enw'r Cynghorydd S A Joy. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 420 KB Cofnodion: 1)
‘Cwestiynau Atodol’
Rhan A Cyflwynwyd naw (9) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au)
perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs
y Cyngor. Dangosir y cwestiynau atodol hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arnynt
isod. Cwestiwn 1 Gofynnodd y Cynghorydd P M Black am gylch gorchwyl y Tîm Prosiectau a oedd
newydd gael ei ffurfio, ynghyd â chanllawiau ynghylch sut y gallai'r Cynghorwyr
ofyn iddynt wneud gwaith. Nododd
Aelodau'r Cabinet dros y Gymuned y byddai'r wybodaeth yn cael ei hanfon ymlaen
at yr holl Gynghorwyr maes o law. Cwestiwn 3 a)
Dywedodd y Cynghorydd P N
May ei fod yn deall bod ffrwd fyw’n gweithredu ar golofnau goleuadau stryd yn
ystod oriau’r tywyllwch yn unig. Gofynnodd nifer o gwestiynau ynghylch hyn: i)
A yw hyn yn digwydd ar
draws y ddinas gyfan? ii)
Beth yw canran y colofnau
goleuadau stryd sy'n derbyn ffrwd fyw yn ystod oriau’r tywyllwch yn unig? iii)
A fydd hyn yn atal
colofnau goleuadau stryd rhag cael eu defnyddio fel pwyntiau gwefru? iv)
Pa gamau gweithredu bydd y
cyngor yn eu cymryd i liniaru'r broblem bosib hon? b)
Gofynnodd y Cynghorydd S J
Rice am gylch gwaith ac amserlen yr ymgynghorwyr, a'u cost. Nododd
Arweinydd y Cyngor y byddai Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau yn
darparu ymateb ysgrifenedig. Dywedodd
Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd y byddai ymateb
ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. Cwestiwn 7 Gofynnodd y Cynghorydd L R Jones a oes modd gosod sgip pren ar safle
amwynderau dinesig Clun ac yna’i symud i safle
amwynderau dinesig Gorseinon cyn mynd ag ef i'r safle byrnu yn Llansamlet.
Byddai'r ymagwedd hon yn lleihau'r angen i gerbydau deithio i Lansamlet ac felly'n lleihau'r nwyon tŷ gwydr. Dywedodd Aelodau'r Cabinet dros y Gymuned y byddai ymateb ysgrifenedig yn
cael ei ddarparu. 2) ‘Cwestiynau
nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B Cyflwynwyd saith (7) 'cwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' ar eu
cyfer Rhan B. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Hysbysiad o Gynnig - Polisi Allgludo i Rwanda. PDF 212 KB Cofnodion: Cynigiwyd gan y Cynghorydd A Pugh a'i eilio gan y Cynghorydd R C Stewart. "Mae'r cyngor hwn yn gresynu wrth bolisi anfoesol ac anegwyddorol Llywodraeth Torïaidd y DU i allgludo dynion, menywod a phlant a all fod yn ffoi rhag
gwrthdaro neu erledigaeth, i Rwanda. Gwelwyd o’r blaen bod polisïau tebyg yn anymarferol ac yn aneffeithiol pan
gawsant eu gweithredu gan Lywodraethau Israel a Denmarc. Mae'n rhaid i'r DU anrhydeddu’i rhwymedigaethau o dan y gyfraith ryngwladol
a chefnogi ffoaduriaid a'r rheini sy'n ceisio lloches. Yn ogystal ag anfoesoldeb allgludo ffoaduriaid a cheiswyr lloches, rydym yn ystyried
bod y penderfyniad i ddewis Rwanda, gwlad â chanddi hanes gwael o ran hawliau
dynol, ac sy'n cadw polisïau llym a didostur ynghylch hawliau menywod a hawl
menywod i ddewis, a hawliau pobl hoyw, yn gwbl annerbyniol a gresynus. Nid yw
hon yn wlad lle mae llawer o ddeddfwriaethau modern a blaengar y DU a'r EU yn
berthnasol, a bydd yn rhoi llawer o unigolion mewn perygl sylweddol. Mae'r awgrym a wnaed gan Uwch-weinidogion Llywodraeth y DU y gallai'r DU
dynnu'n ôl o Lys Hawliau Dynol Ewrop (LlHDE), a
sefydlwyd yn dilyn erchyllterau'r Ail Ryfel Byd, yn enghraifft arall sy'n peri
pryder o ddiystyriaeth y Llywodraeth hon o reolau cyfraith ryngwladol, ac mae'n
edrych fel ymgais i danseilio egwyddorion rhyddid a chydraddoldeb. Felly, rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i roi ·
pen ar y polisi anfoesol ac anegwyddorol hwn ar unwaith ac archwilio ffyrdd effeithiol
o atal masnachu pobl. ·
Ymgysylltu â phartneriaid
Ewropeaidd a sefydliadau atal troseddu rhyngwladol i weithio ar y cyd a
thorri'r rhwydweithiau masnachu pobl ac ecsbloetio. ·
Gweithio gydag awdurdodau
lleol a chymunedau, gan gynnwys pobl â phrofiad bywyd, i adeiladu system
lloches decach a mwy effeithiol. ·
Buddsoddi mewn gwasanaethau
mewnfudo ac ariannu'r system fewnfudo’n iawn. ·
Ailddatgan ymrwymiad y DU i
aros yn aelod o Siarter Hawliau Dynol Ewrop. ·
Gofyn i'r Arweinydd (ac
Arweinwyr y Grwpiau cefnogol) ysgrifennu at y Prif Weinidog a'r Ysgrifennydd
Cartref i amlinellu’n barn mewn perthynas â'r polisi hwn, a gofyn iddo gael ei
atal ar unwaith." Yn unol â Rheol 30 Gweithdrefn y Cyngor sef "Pleidlais",
gofynnwyd am bleidlais gofnodedig. Cofnodwyd y bleidlais ar y newid fel a
ganlyn:
Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod. |