Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ethol Aelod Llywyddol ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2022-20223. Cofnodion: Gofynnodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd am enwebiadau. Cynigiwyd
enwebiad ar gyfer y Cynghorydd J P Curtice, ac fe’i heiliwyd. Penderfynwyd ethol y Cynghorydd J P Curtice yn Aelod
Llywyddol ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2022-2023. Y Cynghorydd J P Curtice
(Aelod Llywyddol) fu'n llywyddu |
|||||||||||||||||||||||
Ethol Dirprwy Aelod Llywyddol ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2022-2023. Cofnodion: Gofynnodd yr
Aelod Llywyddol am enwebiadau. Cynigiwyd ac
eiliwyd enwebiad ar gyfer y Cynghorydd C R Evans. Penderfynwyd ethol y Cynghorydd C R Evans yn Ddirprwy
Aelod Llywyddol ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2022-2023. |
|||||||||||||||||||||||
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor
ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr
a swyddogion ag eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a
rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid
oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd
cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn
ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau
canlynol: 1) Datganodd y Cynghorwyr C Anderson,
M Bailey, S Bennett, P N Bentu, P M Black,
J P Curtice, A Davis, A M Day, P Downing,
C R Doyle, M Durke, C M J Evans, V M Evans,
C R Evans, E W Fitzgerald, R A Fogarty,
R Francis-Davies, N Furlong, L S Gibbard,
F M Gordon, K M Griffiths, H J Gwilliam,
J A Hale, T J Hennegan, V A Holland,
C A Holley, P R Hood-Williams, B Hopkins,
D H Hopkins, O G James, L James,
Y V Jardine, A J Jeffery, D Jenkins, M H Jones,
M Jones, S M Jones, L R Jones, J W Jones,
S A Joy, S E Keeton, E J King, E T Kirchner,
H Lawson, A S Lewis, M B Lewis, R D Lewis,
W G Lewis, P Lloyd, M W Locke, P M Matthews,
N L Matthews, P N May, J D McGettrick,
H M Morris, F D O'Brien, A J O'Connor, D Phillips,
C L Philpott, J E Pritchard, S Pritchard, A Pugh, S
J Rice, K M Roberts, B J Rowlands,
R V Smith, A H Stevens, R C Stewart,
L G Thomas, W G Thomas, M S Tribe,
G D Walker, L V Walton, T M White and R
A Williams gysylltiad personol â Chofnod 8 "Materion Cyfansoddiadol 2022-2023 |
|||||||||||||||||||||||
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. PDF 214 KB Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo'r
cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod
Cyffredin y Cyngor a gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2022 am 5pm. 2)
Cyfarfodydd
Arbennig y Cyngor a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2022 am 4pm a 13 Ebrill, 2022 |
|||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: a) Phil Roberts, Prif Weithredwr - Ymddeoliad Amlinellodd y Llywydd mai hwn
fyddai cyfarfod y cyngor olaf Phil Roberts, y Prif Weithredwr, cyn iddo
ymddeol. Roedd Phil wedi bod yn
ddisgybl yn Ysgol Gyfun yr Olchfa ac yna graddiodd gydag anrhydedd mewn Economeg
ym Mhrifysgol Caerfaddon ac yna enillodd radd ôl-raddedig yn Ysgol Economeg
Llundain. Mae wedi gweithio ar lefel
uwch mewn amrywiaeth o swyddi ar gyfer sefydliadau yn y sector cyhoeddus a'r
sector preifat ac fel darlithydd ôl-raddedig ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd. Mae
hefyd wedi ymgymryd â gwaith recriwtio ar gyfer Gweithrediaeth Tai Gogledd
Iwerddon. Dechreuodd Phil ei yrfa fel Gweithiwr Tai gyda Chymorth
Tai Cymru (06/1984-06/1985), cyn dod yn Hyfforddai Tai gyda Bwrdeistref Brent
yn Llundain (06/1985-10/1985). Yn dilyn ei gyfnod byr fel alltud yn Llundain,
gwelodd y goleuni a dychwelodd i Abertawe. Ymunodd â Chyngor Dinas Abertawe ym mis Awst 1986 fel
Hyfforddai Tai cyn cael ei ddyrchafu i fod yn Rheolwr Gwasanaeth ym mis Hydref
1992. Blaen-y-maes a Phen-lan oedd y Swyddfeydd Tai Rhanbarthol cyntaf yn
Abertawe, a bu Phil yn rheoli Swyddfa Dai Ardal Blaen-y-maes (DHO). Wrth i Phil weithio fel Rheolwr Gweithrediadau Tai
concrit rhag-gastiedig wedi'i atgyfnerthu (PRC), roedd yn gwneud llawer o waith
i ffurfio'r Gymdeithas Tenantiaid gyntaf yn Abertawe. Yn dilyn ad-drefnu Llywodraeth Leol ym mis Ebrill 1996,
penodwyd Phil yn Gyfarwyddwr Tai Cynorthwyol gyda Dinas a Sir Abertawe. Ym mis
Awst 2003 fe'i penodwyd yn Bennaeth Tai. Mae wedi gweithredu fel Cyfarwyddwr
Dros Dro’r Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyfarwyddwr Adfywio Dros Dro cyn cael
ei benodi'n Gyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Thai ym mis Tachwedd 2006 ac yn
Gyfarwyddwr Corfforaethol (Lleoedd) ym mis Ebrill 2013. Ym mis
Ionawr 2016, roedd wedi dangos hanes profedig yn Abertawe ac fe'i penodwyd yn
Brif Weithredwr Dinas a Sir Abertawe (Cyngor Abertawe). Mae gan Phil dri mab a chwech
wyres, y mae pob un ohonynt yn byw yn Abertawe. Mae'n gerddor brwd ac yn
treulio'r rhan fwyaf o'i amser sbâr yn cerdded ac yn heicio. Talodd y Cynghorwyr Rob
Stewart, Chris Holley, Lyndon Jones a Peter May deyrnged ar ran eu grwpiau
gwleidyddol a phobl Abertawe i wasanaeth Phil a'i ymroddiad i'w rolau amrywiol
dros y blynyddoedd, gan ddymuno’r gorau iddo ar gyfer ymddeoliad hir ac iach. Diolchodd Phil Roberts i'r
aelodau am eu sylwadau. b)
Cynghorwyr a etholwyd yn
ddiweddar a'r Cynghorwyr hynny nad ydynt yn ceisio cael eu hailethol neu heb eu
hailethol ar 5 Mai 2022 Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol y Cynghorwyr hynny
a etholwyd yn ddiweddar yn dilyn yr Etholiadau Llywodraeth Leol ar 5 Mai 2022.
Diolchodd hefyd i'r cyn-Gynghorwyr hynny a ddewisodd naill ai beidio â cheisio
cael eu hailethol neu na chawsant eu hailethol yn yr Etholiad Llywodraeth Leol
ar 5 Mai 2022. Diolchodd yr Aelod Llywyddol iddynt am wasanaethu eu cymunedau a
phreswylwyr Abertawe yn ystod cyfnod eu swyddi fel Cynghorwyr. c)
Gŵyl Genedlaethol
Cymdeithas Bêl-droed Ysgolion Cymru Roedd tîm pêl-droed
merched Ysgol Gynradd Glyncollen yn cynrychioli Abertawe yn ddiweddar yng
Ngŵyl Genedlaethol Cymdeithas Bêl-droed Ysgolion Cymru. Llwyddon nhw i
ennill pob gêm a nhw yw Pencampwyr Cymru yn y gystadleuaeth 5-pob-ochr
genedlaethol i blant dan 11 oed. Fe'u
llongyfarchwyd ar ran y cyngor gan yr Aelod Llywyddol ar y cyflawniad hwn. d)
Caderman – Her Ewropeaidd
2022 Mae Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn dechrau yfory
ar y Caderman – Her Ewropeaidd 2022. Gan ddechrau yn Lappeenranta, y Ffindir,
ger ffin Rwsia, bydd ef a'i ffrindiau’n beicio tua 720 milltir ar draws y
Ffindir a Sweden ac yn gorffen yn Trondheim ar arfordir gorllewinol Norwy. Bydd yr antur yn mynd â
nhw drwy dref o'r enw Hell yn Norwy, felly byddant yn llythrennol ar y
Briffordd i Hell. Mae'n her hunan-gynhaliol sy'n golygu y byddant yn cario
popeth y mae ei angen arnynt ar gyfer yr antur gan gynnwys adenydd olwynion,
cadwynau, tiwbiau mewnol, dillad a dillad thermol sbâr. Maen nhw wedi codi dros
£46,000 hyd yma ar gyfer elusennau canser dros y 13 mlynedd diwethaf. Eleni
maen nhw'n codi arian ar gyfer Blood Cancer UK. Mae croeso i chi gyfrannu drwy eu tudalen Just Giving. e)
Cywiriadau/Diwygiadau i
Wŷs y Cyngor i)
Eitem 9 "Materion
Cyfansoddiadol 2022-2023” Dileu pob cyfeiriad yn
yr adroddiad at "Bwyllgor Cyflawni Corfforaethol Adnoddau Naturiol a
Bioamrywiaeth" a rhoi "Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol Newid yn yr
Hinsawdd" yn eu lle. |
|||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Cynigiwyd ac eiliwyd enwebiad ar gyfer y Cynghorydd R C Stewart. Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Rob Stewart yn Arweinydd y Cyngor. |
|||||||||||||||||||||||
Enwau cynghorwyr y mae arweinydd y Cyngor wedi'u dewis i fod aelodau o'r Cabinet. (er gwybodaeth) Cofnodion: Amlinellodd Arweinydd y Cyngor enwau'r cynghorwyr sydd wedi'u dewis i fod yn
Aelodau Cabinet y Cyngor. Amlinellodd
hefyd bortffolios y Cabinet:
|
|||||||||||||||||||||||
Materion Cyfansoddiadol 2022-2023. PDF 697 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad ar y cyd gan y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau
Democrataidd a oedd yn hysbysu'r cyngor o faterion cyfansoddiadol angenrheidiol
sydd angen eu trafod yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor. Byddai materion o'r
fath yn galluogi'r cyngor i weithredu'n effeithlon ac yn gyfreithlon. Penderfynwyd: 1)
Nodi
penderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn perthynas
â Chyflogau Sylfaenol, Dinesig ac Uwch Gyflogau, Ffïoedd Aelodau Cyfetholedig a
Chyfraniad tuag at Gostau Gofal a Chymorth Personol fel y nodir yn Atodiad A. 2) Talu
Cyflog Uwch i'r canlynol: Ø
Arweinydd
y Cyngor. Ø
Dirprwy
Arweinydd y Cyngor. Ø
Aelodau'r
Cabinet x 8. Ø
Cadeirydd
y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol. Ø
Cadeirydd
y Pwyllgor Cynllunio. Ø
Cadeirydd
Pwyllgor y Rhaglen Graffu. Ø
Cadeirydd
Pwyllgor Datblygu Corfforaethol yr Economi ac Isadeiledd. Ø
Cadeirydd
y Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol Addysg a Sgiliau. Ø
Cadeirydd
y Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol Newid yn yr Hinsawdd. Ø
Cadeirydd
y Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol Trawsnewid Sefydliadol. Ø
Cadeirydd
y Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol Diogelu Pobl a Threchu Tlodi. 3)
Penderfyniad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW),
sef bod yn rhaid talu Cyflog Uwch, Band 4 (yn amodol ar y rheol 10%), i
Arweinydd yr wrthblaid fwyaf. 4)
Talu Cyflog Dinesig i'r canlynol (ar yr amod nad ydynt eisoes yn cael
Cyflog Uwch): Ø
Arglwydd
Faer (Pennaeth Dinesig). Ø
y
Dirprwy Arglwydd Faer (Dirprwy Bennaeth Dinesig). 5)
Ailsefydlu swyddi'r Aelod Llywyddol a'r Dirprwy Aelwyd Llywyddol a'u bod
yn Cadeirio Cyfarfodydd y Cyngor. Ni fydd y swyddi hyn yn derbyn Cyflog Uwch. 6)
Telir cyflog sy'n cyfateb i gyflog Uwch-gyflog "Cadeirydd
Pwyllgor" Band 3 i Gadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn fel y'i diffinnir
gan IRPW; fodd bynnag, y Gronfa Bensiwn fydd yn talu'r taliad ychwanegol sy'n
ychwanegol at y Cyflog Sylfaenol. 7)
Penodi Cyrff y Cyngor a Nifer y Seddi a Neilltuwyd fel y'u rhestrir yn
Atodiad C. Caiff Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol ei fabwysiadu
a'i ychwanegu at Gyfansoddiad y Cyngor. 8)
Caiff y Pwyllgorau a restrir yn Atodiad D eu heithrio gan y cyngor o
Reoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 8 er mwyn caniatáu
rhagor o gynrychiolaeth ar y Pwyllgorau hyn gan Grwpiau Gwleidyddol yr
Wrthblaid. 9)
Caiff Cynghorwyr eu neilltuo i wasanaethu ar Gyrff y Cyngor yn unol â'r
enwebiadau a dderbyniwyd gan Grwpiau Gwleidyddol. Nodi'r rhestr o Ardaloedd Aelodau
Hyrwyddo a'r Cynghorwyr sy'n gyfrifol, fel yr amlinellwyd yn Atodiad E. 10)
Bydd Cyfansoddiad y Cyngor (www.swansea.gov.uk/constitution) yn cael ei ailddatgan a'i fabwysiadu gan
gynnwys unrhyw ddiwygiadau a wnaed yn y cyfarfod hwn. 11)
Ethol Cynghorydd yn Gadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd.
Ailddatgan Llawlyfr y Cynghorwyr (www.swansea.gov.uk/CllrsHandbook) 12)
Nodi penderfyniad Arweinydd y Cyngor i benodi Cynghorwyr i wasanaethu ar
Gyrff Allanol, fel a amlinellwyd yn Atodiad F y cofnodion. 13) Caiff y pellteroedd rhwng cartrefi'r
Cynghorwyr a Neuadd y Ddinas eu hanfon drwy e-bost at Gynghorwyr ac Aelodau
Cyfetholedig Statudol a'r rhain yw'r pellteroedd y cytunwyd arnynt at ddibenion
hawlio. 14)
Cadarnhau a mabwysiadu Dyddiadur Cyrff y Cyngor fel y'i rhestrir yn
Atodiad G. 15)
Cynnal unrhyw ddiwygiadau canlyniadol i Gyfansoddiad y Cyngor a'r/neu'r
Cynghorwyr o ganlyniad i'r adroddiad hwn. |
|||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
adroddiad ar y cyd a oedd yn rhoi gwybod i'r cyngor o'r diwygiadau er mwyn
symleiddio, gwella a/neu ychwanegu at Gyfansoddiad y Cyngor. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r Polisi Cyfarfodydd Aml-leoliad sydd ynghlwm
yn Atodiad A. 2)
Cymeradwyo'r Cynllun Deisebau sydd wedi'i atodi yn
Atodiad B. 3)
Cymeradwyo Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Safonau yn Atodiad
C. |
|||||||||||||||||||||||
Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor. PDF 240 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cyflwyno'r newidiadau
angenrheidiol a wnaed i'r Cyfansoddiad yn dilyn cychwyn rhai adrannau o Ddeddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. |
|||||||||||||||||||||||
Protocol Datrys Anghydfodau Cynghorwyr. PDF 237 KB Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth i ail-fabwysiadu'r Dull Datrys Anghydfodau Lleol i Gynghorwyr. Penderfynwyd: 1)
Ail-fabwysiadu'r
Dull Datrys Anghydfodau Lleol i Gynghorwyr fel yr amlinellwyd yn Atodiad A. |
|||||||||||||||||||||||
Diogelwch Personol i Gynghorwyr. PDF 424 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn rhoi arweiniad i
Gynghorwyr ar faterion diogelwch personol a gweithio ar eich pen eich hun. Penderfynwyd: 1)
Y dylid
nodi'r Arweiniad a'u hanfon drwy e-bost at bob Cynghorydd. |
|||||||||||||||||||||||
Recriwtio Cynghorydd Cymuned / Tref i'r Pwyllgor Safonau. PDF 227 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn amlinellu'r cynigion
ar gyfer recriwtio Cynghorydd Cymuned/Tref i'r Pwyllgor Safonau. Penderfynwyd: 1)
Y
bydd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn cysylltu â phob un o'r 24 Cyngor
Cymuned/Tref yn Abertawe i ofyn am ddatganiadau o ddiddordeb a cheisiadau. 2)
Rhoi awdurdod i'r Pwyllgor Safonau lunio rhestr fer a chyfweld â
Chynghorwyr Cymuned/Tref sydd wedi gwneud cais i fod yn aelodau o'r Pwyllgor
Safonau ac i wneud argymhelliad i'r cyngor ynghylch penodiad. |
|||||||||||||||||||||||
Penodi Aelod/Aelodau Annibynnol i'r Pwyllgor Safonau. PDF 232 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad oedd yn gofyn am ystyriaeth ar
gyfer argymhelliad Panel Swyddi Gwag y Pwyllgor
Safonau ar 14 Ebrill 2022 a phenodi dau Aelod Annibynnol (Cyfetholedig
Statudol) (Lleyg) i'r Pwyllgor Safonau. Penderfynwyd: 1)
Penodi
Janet Pardue-Wood yn Aelod Annibynnol (Cyf[1]etholedig Statudol) (Lleyg) y Pwyllgor
Safonau am gyfnod o 6 blynedd yn dechrau ar 24 Mai 2022. Bydd ei chyfnod yn y
swydd yn dod i ben ar 23 Mai 2028. 2)
Penodi
Mark Rees yn Aelod Annibynnol (Cyfetholedig Statudol) (Lleyg) o'r Pwyllgor
Safonau am gyfnod o 6 blynedd gan ddechrau ar 19 Hydref 2022. Bydd ei gyfnod yn
y swydd yn dod i ben ar 18 Hydref 2028. |
|||||||||||||||||||||||
Sêl Gyffredin. Cofnodion: Penderfynwyd gosod y Sêl
Gyffredin ar unrhyw ddogfen angenrheidiol i weithredu unrhyw benderfyniad a
gymeradwywyd neu a gadarnhawyd mewn cyfarfodydd yn ystod y flwyddyn ddinesig
flaenorol. |