Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

148.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch cysylltiadau personol a rhagfarnol posib cynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o gysylltiadau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan yn unig. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd Cynghorwyr a Swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw gysylltiad ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)        Datganodd y Cynghorydd C A Holley gysylltiad personol â Chofnod 149 "Ethol Arglwydd Faer ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2022-2023" a Chofnod 150 "Ethol Dirprwy Arglwydd Faer ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2022-2023".

149.

Ethol Arglwydd Faer ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2022-2023.

Cofnodion:

Penderfynwyd ar gynnig y Cynghorydd C L Philpott, wedi'i eilio gan y Cynghorydd C A Holley, y dylid ethol y Cynghorydd A Mike Day yn Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2022-2023.

 

Yna llofnododd yr Arglwydd Faer ddatganiad yn derbyn y swydd.

 

Bu'r Cynghorydd A M Day (Arglwydd Faer) yn llywyddu

150.

Ethol Dirprwy Arglwydd Faer ar gyfer y Flwyddyn Dinesig 2022-2023.

Cofnodion:

Penderfynwyd ar gynnig y Cynghorydd C A Holley, wedi'i eilio gan y Cynghorydd P M Black, y dylid ethol y Cynghorydd L Graham Thomas yn Ddirprwy Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2022-2023.

 

Yna llofnododd y Dirprwy Arglwydd Faer ddatganiad yn derbyn y swydd.